Cofrestru
Gwiriwch a allwch chi neu’ch cleient gofrestru’n gynnar, sut i ddewis y feddalwedd gywir ac awdurdodi asiant treth a meddalwedd.
Cyn cofrestru ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, bydd angen i chi ddewis meddalwedd sy’n gweithio gyda Throi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Os oes gennych asiant, bydd angen i’ch asiant hefyd sefydlu’r awdurdodiadau cywir fel y gallant weithredu ar eich rhan.
Gall asiantau gofrestru eu cleientiaid unwaith y byddant yn cael eu caniatâd a’u hawdurdodiad gan ddefnyddio eu cyfrif gwasanaethau asiant. Mae hwn yn wahanol i’r cyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF ar gyfer asiantau.
Gall unig fasnachwyr a landlordiaid ddefnyddio asiant (fel llyfrifwr neu gyfrifydd) i helpu gyda Throi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Ar ôl ei awdurdodi, gall asiant helpu gyda phob tasg neu rai tasgau, gan gynnwys:
-
cofrestru busnes eu cleient
-
defnyddio meddalwedd i greu a chadw cofnodion digidol ar gyfer eu cleientiaid
-
anfon diweddariadau chwarterol
-
cyflwyno ffurflen dreth i CThEF ar ôl diwedd y flwyddyn dreth
Ar gyfer unig fasnachwyr a landlordiaid
Os ydych eisoes wedi awdurdodi’ch asiant ar gyfer Hunanasesiad, nid oes angen i chi eu hawdurdodi eto ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Dylech wneud y canlynol:
-
trafod opsiynau Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm a meddalwedd gyda’ch asiant
-
cytuno pwy fydd yn rheoli pob rhan o’r broses a thasgau penodol
-
gwneud yn siŵr bod gan eich asiant y manylion cywir am eich busnesau neu eiddo, gan gynnwys am ffynonellau incwm
Dewis mwy nag un asiantÂ
Fel rhan o Droi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, gallwch ddewis cael un asiant neu fwy i’ch helpu. Gall hyn fod naill ai yn brif asiant neu’n asiant ategol. Gall pob math o asiant fwrw golwg dros wahanol rannau o gofnodion cleient a gwneud tasgau gwahanol.Â
Er enghraifft, gallai’ch llyfrifwr gwblhau ac anfon diweddariadau chwarterol at CThEF. Yn yr enghraifft hon, dyma’r asiant ategol. Mae’n bosibl bod gennych gyfrifydd i gwblhau’ch sefyllfa dreth gyffredinol yn derfynol ac i gyflwyno’ch Ffurflen Dreth derfynol. Yn yr enghraifft hon, dyma’r prif asiant.
Ar gyfer asiantau
I weithredu ar ran eich cleientiaid, bydd angen i chi wneud y canlynol:
-
creu cyfrif gwasanaethau asiant, os nad oes gennych un eisoes
-
cael awdurdodiad gan eich cleient
-
copïo unrhyw awdurdodiadau Hunanasesiad presennol i’ch cyfrif gwasanaethau asiant
Dysgwch ragor am y canlynol:
-
sut i ychwanegu eich awdurdodiadau gan gleientiaid ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
-
sut i weithredu fel prif asiant neu asiant atodol ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
Ar ôl cael eich awdurdodi, gallwch gyflwyno Ffurflenni Treth Hunanasesiad ar ran eich cleient. Dylai’ch cleient wirio bod yr wybodaeth ar eu Ffurflen Dreth yn gywir cyn ei gyflwyno.
Er mwyn cofrestru, bydd angen meddalwedd sy’n cydweddu â Throi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm arnoch chi, neu’ch asiant. Gallwch gael meddalwedd sy’n gwneud y naill neu’r llall o’r canlynol:Â
-
creu cofnodion digidolÂ
-
cysylltu â’ch cofnodion presennol (meddalwedd pontio)
Gwiriwch â’ch darparwr meddalwedd y bod ei gynnyrch yn bodloni’ch anghenion penodol. Bydd angen i’r cynnyrch neu gynhyrchion meddalwedd rydych yn eu dewis wneud y canlynol:Â
-
cynorthwyo’ch ffynonellau incwm a gwmpesir gan Droi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm (hunangyflogaeth, eiddo yn y DU, eiddo dramor)Â
-
eich galluogi i anfon eich diweddariadau chwarterol a chyflwyno’ch Ffurflen Dreth i CThEFÂ
-
gweithio gyda’ch cyfnod cyfrifyddu
Os ydych am gofrestru ar gyfer blwyddyn dreth 2025 i 2026, gwiriwch gyda’ch darparwr y bydd y feddalwedd yn gweithio gyda Throi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn ystod y cyfnod hwn.
Dod o hyd i feddalwedd sy’n cydweddu â Throi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Ar ôl i chi ddewis meddalwedd, gallwch nawr:
Ar ôl i chi gofrestru, mae angen cysylltu’ch meddalwedd sy’n cydweddu â CThEF ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm. I awdurdodi’ch meddalwedd, gwnewch y canlynol:
-
Nodwch eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth i mewn i’ch meddalwedd.
-
Dilynwch gyfarwyddiadau’r feddalwedd i gwblhau cofrestru.
Mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r ID Defnyddiwr ar gyfer Porth y Llywodraeth a defnyddiwyd gennych pan wnaethoch gofrestru ar gyfer y naill neu’r llall o’r canlynol:
-
Hunanasesiad
-
cyfrif gwasanaethau asiant, os ydych yn asiant
Bydd pob cynnyrch yn gweithio’n wahanol yn dibynnu ar faint mae’r darparwr meddalwedd wedi ei ddatblygu.
Bydd angen i chi adnewyddu’r cysylltiad hwn bob 18 mis. Dylai’ch meddalwedd eich atgoffa pryd mae’n bryd ailgysylltu.
Dysgwch sut i reoli’ch cyfrif treth ar-lein newydd ar ôl i chi gofrestru.