Canllawiau

Amgylchiadau cyflogeion sy’n effeithio ar dalu Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol

Dysgwch sut y gall gwahanol amgylchiadau effeithio ar sut rydych yn cyfrifo hawl eich cyflogai a’r hyn rydych yn ei dalu iddo.

Yn berthnasol i Loegr, yr Alban a Chymru

Enillion yr effeithir arnynt gan godiad cyflog sydd wedi’i ôl-ddyddio

Os oes gan eich cyflogai hawl i Dâl Gofal Newyddenedigol Statudol, a bod y cyflogai hwnnw’n cael codiad cyflog sydd wedi’i ôl-ddyddio sy’n cynyddu swm yr enillion gros a dalwyd eisoes yn y cyfnod perthnasol, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:

  • defnyddio’r enillion gros newydd i gyfrifo ei enillion cyfartalog wythnosol newydd
  • talu unrhyw Dâl Gofal Newyddenedigol Statudol ychwanegol sydd arnoch

Os nad oedd gan eich cyflogai hawl i Dâl Gofal Newyddenedigol Statudol, ac os nad oedd gan eich cyflogai hawl i godiad cyflog sydd wedi’i ôl-ddyddio yn y cyfnod perthnasol, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:

Tandaliadau neu ordaliadau enillion

Os yw tandaliadau neu ordaliadau enillion yn effeithio ar enillion wythnosol cyfartalog eich cyflogai presennol, byddant hefyd yn effeithio ar hawl y cyflogai i Dâl Gofal Newyddenedigol Statudol.

Os yw’r canlynol yn wir:

  • mae’ch cyflogai wedi cael ei ordalu, mae’n bosibl ei fod wedi cael gormod o Dâl Gofal Newyddenedigol Statudol (a byddai’n rhaid iddo dalu hwn yn ôl drwy’r gyflogres)
  • mae’ch cyflogai wedi cael ei dandalu, nid yw wedi cael y Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol cywir

Os yw’ch cyflogai’n newydd, ac mae tandaliadau neu ordaliadau enillion sy’n effeithio ar ei hawl i Dâl Gofal Newyddenedigol Statudol:

  1. Gwiriwch a oes ganddo dystiolaeth ddogfennol sy’n cytuno â’r swm o Dâl Gofal Newyddenedigol Statudol y dylid bod wedi’i dalu i’r cyflogai, yn seiliedig ar ei enillion cyfartalog wythnosol.
  2. Yna, defnyddiwch y swm y cytunwyd arno i gyfrifo enillion cyfartalog wythnosol y cyflogai ar gyfer Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol.

Os nad oes tystiolaeth ddogfennol, defnyddiwch ei enillion gros i gyfrifo ei enillion cyfartalog wythnosol ar gyfer Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol.

Gall y cyflogai gael cyngor gan Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.

Cytundebau Setliad TWE

Os nad oedd eich cyflogai’n gymwys i gael Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol oherwydd bod ei enillion wythnosol cyfartalog yn llai na’r terfyn enillion is ar ddiwedd yr wythnos berthnasol, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:

  1. Adio unrhyw dreuliau neu fuddiannau sydd wedi’u cynnwys yn y Cytundeb Setliad TWE a ddaeth i law yn y cyfnod perthnasol.
  2. Cynnwys cyfanswm unrhyw dreuliau neu fuddiannau yn enillion gros y cyflogai.
  3. Yna, defnyddiwch ei enillion gros i gyfrifo ei enillion cyfartalog wythnosol yn y cyfnod perthnasol.

Aberthu cyflog

Os oes gan eich cyflogai drefniant aberthu cyflog gyda chi, defnyddiwch swm gwirioneddol yr enillion gros a dalwyd iddo yn ystod y cyfnod perthnasol i gyfrifo ei enillion cyfartalog wythnosol.

Ni ellir aberthu Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol ac mae’n rhaid ei dalu’n llawn.

Dysgwch ragor am aberthu cyflog i gyflogwyr (yn agor tudalen Saesneg).

Buddiant nad yw ar ffurf arian parod

Mae’n bosibl y byddwch yn talu rhywfaint o enillion eich cyflogai gyda buddiant nad yw ar ffurf arian parod, fel bwyd a llety, nwyddau neu wasanaethau.

Ni ellir tynnu gwerth ariannol y buddiant a roddir i’ch cyflogai yn ystod y cyfnod Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol o’u hawl i dâl.

Mae’n rhaid i chi dalu unrhyw Dâl Gofal Newyddenedigol Statudol yn llawn.

Genedigaethau lluosog o’r un beichiogrwydd

Bydd gan eich cyflogai hawl i Absenoldeb a Thâl Gofal Newyddenedigol Statudol (os yw’n gymwys) am uchafswm o 12 wythnos, hyd yn oed os oes angen gofal newyddenedigol ar fwy nag un baban:

  • ar yr un pryd
  • ar adegau ar wahân

Os oes angen gofal newyddenedigol ar fwy nag un baban ar yr un pryd, gall eich cyflogai adeiladu (‘cronni’) ei hawl i Absenoldeb a Thâl Gofal Newyddenedigol Statudol ar gyfer un baban yn unig.

Os oes angen gofal newyddenedigol ar adegau ar wahân, gall eich cyflogai adeiladu ei hawl ar gyfer Absenoldeb a Thâl Gofal Newyddenedigol Statudol ar gyfer pob un o’r babanod, cyn belled â bod pob un ohonynt yn cael o leiaf 7 diwrnod llawn di-dor o ofal newyddenedigol.

Bydd gan eich cyflogai hyd at 68 wythnos o enedigaeth y babanod, neu o enedigaeth y baban cyntaf (os oes gan y babanod ddyddiadau geni gwahanol) i ddefnyddio’i hawl.

Gorchmynion rhiant a threfniadau mam fenthyg

Os taw eich cyflogai yw’r rhiant bwriadedig mewn trefniant mam fenthyg, dylai wneud cais am orchymyn rhiant i ddod yn rhiant cyfreithiol y baban cyn pen 6 mis ar ôl enedigaeth y baban.

Os nad yw’n gwneud cais am orchymyn rhiant, neu os nad yw’r cais wedi’i gymeradwyo, mae ganddo’r hawl i Dâl Gofal Newyddenedigol Statudol os yw’r canlynol yn wir:

  • mae’r baban yn dechrau cael gofal newyddenedigol cyn pen 28 diwrnod ar ôl cael ei eni, ac yn cael o leiaf 7 diwrnod  llawn di-dor o ofal newyddenedigol
  • mae’ch cyflogai eisoes wedi ‘cronni’ ei hawliau i Dâl Gofal Newyddenedigol Statudol

Mae’n rhaid iddo gymryd ei hawl cyn pen 68 wythnos ar ôl dyddiad geni’r baban.

Dysgwch am drefniadau mamau benthyg a hawliau cyfreithiol rhieni (yn agor tudalen Saesneg).

Tarfiad ar fabwysiadu

Os mai’ch cyflogai yw’r rhiant mabwysiadol, ac mae’r mabwysiadu’n cael ei darfu, mae ganddo’r hawl i Dâl Gofal Newyddenedigol Statudol os yw’r canlynol yn wir:

  • mae’r baban yn dechrau cael gofal newyddenedigol cyn pen 28 diwrnod ar ôl cael ei eni, ac wedi cael o leiaf 7 diwrnod llawn di-dor o ofal newyddenedigol
  • mae’r cyflogai eisoes wedi ‘cronni’ ei hawl i Dâl Gofal Newyddenedigol Statudol

Mae’n rhaid iddo gymryd ei hawl cyn pen 68 wythnos ar ôl dyddiad geni’r baban.

Gall mabwysiadu gael ei darfu os, er enghraifft, bydd y baban yn dychwelyd i ofal awdurdod lleol neu wedi’i fabwysiadu o dramor, ond yn stopio byw gyda’r rhiant mabwysiadol.

Os bydd y babi’n marw

Mae gan eich cyflogai hawl i Dâl Gofal Newyddenedigol Statudol os yw’r canlynol yn wir:

  • mae’r baban yn dechrau cael gofal newyddenedigol cyn pen 28 diwrnod ar ôl cael ei eni, ac wedi cael 7 diwrnod llawn di-dor o ofal newyddenedigol
  • mae’r cyflogai eisoes wedi ‘cronni’ ei hawl i Dâl Gofal Newyddenedigol Statudol

Mae’n rhaid iddo gymryd ei hawl cyn pen 68 wythnos ar ol dyddiad geni’r baban.

Mae’n bosibl y bydd y cyflogai hefyd yn gymwys i gael Absenoldeb a Thâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth.

Nid yw’r cyflogai’n dychwelyd i’r gwaith

Os yw’ch cyflogai’n dweud wrthych na fydd yn dychwelyd i’r gwaith ar ôl iddo gymryd ei Dâl Gofal Newyddenedigol Statudol, mae’n rhaid i chi barhau i dalu’r Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol y mae ganddo hawl iddo.

Ni allwch ofyn i’r cyflogai dalu unrhyw beth yn ôl.

Mae cyflogai’n gadael cyn cymryd Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol

Ni fydd gan eich cyflogai hawl i Dâl Gofal Newyddenedigol Statudol, os yw’r ddau amod canlynol yn berthnasol:

  • mae’r cyflogai’n gadael eich cyflogaeth yn ystod yr wythnos cyn y cyfnod Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol, neu’n gynharach
  • nid oedd eich cyflogai wedi’i gyflogi’n barhaus gennych o ddiwedd yr wythnos berthnasol

Mae cyflogai’n dychwelyd i’r gwaith ar ôl iddo wasanaethu yn y lluoedd arfog (milwr wrth gefn)

Os bydd eich cyflogai’n dychwelyd i’r gwaith cyn pen 6 mis ar ôl gwasanaethu yn y lluoedd arfog, mae’n bosibl y bydd y cyflogai’n gallu cael Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol o dan , hyd yn oed os nad oedd yn gweithio i chi yn ystod y cyfnod cyflogaeth parhaus.

I gyfrifo cyfnod cyflogaeth parhaus y cyflogai, adiwch y canlynol at ei gilydd:

  • pa mor hir y gweithiodd eich cyflogai i chi cyn iddo wasanaethu
  • pa mor hir y mae’ch cyflogai’n gweithio i chi ar ôl iddo wasanaethu

Peidiwch â chynnwys pa mor hir y gwasanaethodd eich cyflogai yn y lluoedd arfog.

Mae cyflogai’n cael ei adfer ar ôl ei ddiswyddo

Os byddai’ch cyflogai wedi bodloni’r meini prawf cymhwystra ar gyfer Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol, ond y gwnaethoch ei ddiswyddo yn ystod y cyfnod cyflogaeth parhaus, mae’n rhaid i chi dalu’r hyn y mae ganddo’r hawl iddo, os byddwch yn ei adfer am un o’r rhesymau canlynol:

  • oherwydd bod tribiwnlys cyflogaeth wedi penderfynu ei fod wedi’i ddiswyddo’n annheg
  • ar ôl penderfynu ar ganlyniad gweithdrefn gwyno ffurfiol

Seibiannau mewn cyflogaeth

Os yw’ch cyflogai’n gymwys, mae’n rhaid i chi dalu Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol iddo os oes ganddo gontract gwasanaeth parhaus, ac mae saib yn y cyfnod cyflogaeth parhaus am y rhesymau canlynol:

  • mae’ch cyflogai’n sâl neu wedi’i anafu — ond dim ond os yw cyfanswm y cyfnod yn 26 wythnos neu lai
  • mae’ch cyflogai ar absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, rhiant, mabwysiadu neu brofedigaeth rhieni, ac wedi gweithio i chi cyn ac ar ôl y cyfnod hwnnw
  • mae’n ŵyl gyhoeddus
  • nid oedd gennych unrhyw waith i’w roi iddo os ydyw ar gontract achlysurol neu dymor byr, neu ei fod yn weithiwr asiantaeth

Dysgwch am y gwahanol reolau mewn perthynas â hawl ar gyfer rhai mathau o gyflogaeth.

Mae’r cyflogai’n sâl

Os yw’ch cyflogai’n sâl am fwy na 7 diwrnod yn ystod y cyfnod Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol, mae’n rhaid i chi wirio a ddylai gael Tâl Salwch Statudol yn hytrach na Thâl Gofal Newyddenedigol Statudol.

Os yw’ch cyflogai yn cael Tâl Salwch Statudol, mae’n rhaid i chi roi gwybod i’ch cyflogai nad yw’n gymwys i gael Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol.

Pan fydd cyfnod Tâl Salwch Statudol y cyflogai’n dod i ben, gallwch ddechrau talu Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol iddo eto.

Bydd eich cyflogai’n colli ei hawl i Dâl Gofal Newyddenedigol Statudol am y cyfnod y mae’n cael Tâl Salwch Statudol; ni fydd yn gallu ei gario drosodd.

Mae cyflogai’n mynd dramor

Os yw’ch cyflogai yn gadael Prydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban) yn ystod y cyfnod Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol, mae’n rhaid i chi gadw talu unrhyw Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol sy’n ddyledus, cyn belled â bod y baban y mae’n gofalu amdano yn mynd gydag ef.

Mae’r cyflogai’n gweithio i gyflogwr arall

Dylai’ch cyflogai roi gwybod i chi os yw’n gweithio i gyflogwr arall.

Mae’n rhaid i chi wirio a oedd eich cyflogai wedi’i gyflogi gan y cyflogwr arall:

  • yn ystod wythnos lle mae’n hawlio Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol
  • cyn neu ar ôl yr wythnos berthnasol

Os yw’ch cyflogai yn gweithio i gyflogwr arall ar ôl yr wythnos berthnasol, ac nad yw’n agored i dalu Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol i’ch cyflogai, mae’n rhaid i chi roi’r gorau i dalu Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol o ddechrau’r wythnos y mae’n gweithio i’r cyflogwr newydd.

Os yw’ch cyflogai yn gweithio i gyflogwr arall ar ôl yr wythnos berthnasol, rhoi’r gorau i dalu Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol i’ch cyflogai, mae’ch rhwymedigaeth i dalu yn dod i ben o ddechrau’r wythnos y mae’n gweithio i’r cyflogwr arall.

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i’ch cyflogai nad yw’n gymwys i gael Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol.

Os yw’ch cyflogai’n marw

Os yw’ch cyflogai’n marw yn ystod y cyfnod Gofal Newyddenedigol Statudol, dylech dalu Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol am yr wythnos y mae’n marw, ond nid am unrhyw wythnos ar ôl hynny.

Gweithredu diwydiannol

Nid yw gweithredu diwydiannol yn torri’r cyfnod cyflogaeth parhaus.

Os yw’ch cyflogai ar streic oherwydd gweithredu diwydiannol, nid yw’r wythnosau neu’r wythnosau rhannol yr oedd fod i weithio i chi, ond na wnaeth hynny, yn cyfrif tuag at y cyfnod cyflogaeth 26 wythnos hyd at ddiwedd yr wythnos berthnasol.

Mae’r cyflogai wedi’i arestio neu yn y carchar

Mae’n rhaid i’ch cyflogai rhoi gwybod i chi os yw’n cael ei harestio (yn y ddalfa) neu yn y carchar.

Peidiwch â thalu Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol am unrhyw adeg y mae’ch cyflogai’n cael ei arestio neu yn y carchar.

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i’ch cyflogai nad yw’n gymwys i gael Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol.

Mae’n rhaid i chi dalu Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol i’ch cyflogai os yw’r canlynol yn wir:

  • mae’ch cyflogai’n helpu’r heddlu yn wirfoddol gyda’u hymchwiliadau
  • mae’ch cyflogai’n cael ei ryddhau o’r ddalfa heb gael ei gyhuddo
  • mae’ch cyflogai allan ar fechnïaeth, a heb gael ei gyhuddo
  • mae dedfryd carchar eich cyflogai wedi’i hatal
  • mae’ch cyflogai’n cael ei ganfod yn ddieuog o drosedd a’i ryddhau
  • mae’ch cyflogai’n cael ei gael yn euog o drosedd, ond nid yw’n cael dedfryd o garchar (nid yw’n mynd i’r carchar)

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 6 Ebrill 2025
Diweddarwyd ddiwethaf ar 7 Gorffennaf 2025 show all updates
  1. References to 'child' removed and replaced with 'baby'. The 'Surrogacy arrangements' section has been updated and renamed, as it now includes what to do if a parental order is not approved and that the employee has 68 weeks to take their entitlement. The 'Adoption disruption' section has been updated to clarify the employee's entitlement if the adoption is disrupted and that the employee has 68 weeks to take their entitlement. The 'If the baby dies' section has been updated to make it clear that the employee will be entitled to Statutory Neonatal Care Pay if they have already built up their entitlement to it and that the employee has 68 weeks to take their entitlement. The 'Employee goes abroad' section has been updated to clarify that the employee must be caring for the baby that they're claiming for when they go abroad to get their entitlement of Statutory Neonatal Care Pay. The 'Employee works for another employer' section has been updated to clarify that you'll stop paying Statutory Neonatal Care Pay from the beginning of the week your employee starts working for the new employer.

  2. Added translation.

  3. First published.

Argraffu'r dudalen hon