Canllawiau

Dysgu am yr hyn i’w wneud os ydych mewn dyled ariannol i CThEF

Defnyddiwch yr offeryn ar-lein hwn er mwyn eich helpu i ddod o hyd i’r cymorth a’r arweiniad cywir os ydych mewn dyled ariannol i CThEF o ganlyniad i dreth neu gosbau.

Dewch o hyd i arweiniad, cymorth a gwybodaeth am sut i wneud y canlynol:

  • gwirio a yw llythyr rydych wedi’i gael gan CThEF yn ddilys
  • cael cymorth ychwanegol ar sail eich iechyd neu eich amgylchiadau personol
  • gwneud taliad
  • anghytuno â phenderfyniad treth neu gosb
  • cael help wrth fewngofnodi i wasanaethau ar-lein CThEF
  • pa gymorth sydd ar gael os na allwch dalu eich treth mewn pryd
  • yr hyn fydd yn digwydd os na fyddwch yn talu’ch bil treth

Os ydych am siarad â rhywun am eich dyledion, gallwch gael cyngor annibynnol, cyfrinachol sydd yn rhad ac am ddim gan ymgynghorydd dyledion (yn agor tudalen Saesneg).

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 18 Awst 2025

Argraffu'r dudalen hon