Helpu rhywun i ddefnyddio 51²è¹Ý One Login
Beth y gallwch ac na allwch ei wneud pan fyddwch yn helpu rhywun rydych yn eu hadnabod greu 51²è¹Ý One Login a phrofi eu hunaniaeth.
Gallwch helpu rhywun rydych yn eu hadnabod i greu 51²è¹Ý One Login a phrofi eu hunaniaeth i gael mynediad at wasanaethau’r llywodraeth. Efallai eu bod yn ffrind, aelod o’r teulu, neu’n rhywun rydych yn ei gefnogi fel rhan o’ch swydd.
Mae’r canllawiau hyn yn dweud wrthych beth allwch chi ac na allwch eu helpu i wneud. Gallwch rannu hyn gyda’r person rydych yn eu helpu fel eu bod nhw’n gwybod beth i’w ddisgwyl pan maent yn defnyddio 51²è¹Ý One Login.
Beth allwch chi helpu gyda
Dylech adael i’r person rydych yn eu helpu gwblhau cymaint o’r camau ag y gallant ar eu pennau eu hunain, ond mae yna ychydig o bethau y gallwch chi helpu gyda.
Gadael i rywun fenthyg eich ffôn neu gyfrifiadur
Gallwch adael i’r person rydych yn eu helpu i fenthyg eich ffôn neu’ch cyfrifiadur os nad oes ganddynt eu ffôn eu hunain.
Ni fydd eu gwybodaeth bersonol yn cael ei storio ar eich dyfais. Os oes gan eich ffôn neu gyfrifiadur reolwr cyfrinair, gwnewch yn siŵr nad yw’r person rydych yn eu helpu yn ei ddefnyddio i arbed eu manylion 51²è¹Ý One Login.
Atgoffwch nhw i fewngofnodi o 51²è¹Ý One Login ar ôl iddynt orffen.
Bydd rhywfaint o wybodaeth dechnegol am eich dyfais yn cael ei chasglu gan 51²è¹Ý One Login pan fydd y person rydych yn eu helpu yn ei ddefnyddio. Darllenwch yr hysbysiad preifatrwydd i ddarganfod pa fath o wybodaeth fydd yn cael ei chasglu.
Helpu rhywun i lawrlwytho a defnyddio’r ap 51²è¹Ý ID Check
Os oes gan y person rydych yn eu helpu ID gyda llun, y ffordd gyflymaf o brofi eu hunaniaeth yw trwy ddefnyddio’r ap 51²è¹Ý ID Check neu’r ap 51²è¹Ý One Login ap. Byddant yn cael eu tywys i’r ap maent ei angen pan fydd yn amser i’w ddefnyddio.
Gallwch helpu’r person i lawrlwytho’r ap ar eu ffôn eu hunain. Byddant yn cael cyfarwyddiadau ar sut i wneud hyn, ond gallwch helpu i ddangos iddynt beth i’w wneud.
Efallai y bydd angen iddynt sganio cod QR i ddefnyddio’r ap. Gallwch eu helpu gyda hyn os ydynt yn cael problem.
Bydd angen iddynt hefyd sganio eu ID gyda llun wrth ddefnyddio’r ap. Gallwch wneud hyn drostynt os ydynt yn cael trafferth dal y ffôn neu eu ID gyda llun yn llonydd.
Os oes gan eu ID gyda llun sglodyn ynddo, fel pasbort y DU, gofynnir iddynt hefyd ei sganio mewn ffordd wahanol. Bydd angen iddynt roi’r ffôn ar ben y ddogfen. Gallwch eu helpu i wneud hyn - mae’n broses debyg i dalu am rywbeth gyda cherdyn digyffwrdd.
Gadael i rywun ddefnyddio’r ap 51²è¹Ý ID Check ar eich ffôn
Gallwch adael i’r person rydych yn eu helpu fenthyg eich ffôn i lawrlwytho’r ap 51²è¹Ý ID Check. Efallai y bydd angen i chi ddweud wrthynt beth yw model neu system weithredu eich ffôn i’w helpu i wneud hyn.
Gadael i rywun ddefnyddio’r ap 51²è¹Ý One Login ar eich ffôn
Os oes gennych ap 51²è¹Ý One Login eisoes ac wedi mewngofnodi iddo gyda’ch manylion, bydd angen i chi ddileu’r ap a’i lawrlwytho eto cyn i chi adael i rywun fenthyg eich ffôn i’w ddefnyddio.
Mae’r ap yn cofio pa fanylion mewngofnodi a ddefnyddiwyd y tro diwethaf i chi fewngofnodi iddo. Mae hyn er mwyn cadw eich gwybodaeth yn ddiogel. Bydd dileu’r ap yn dileu’r holl wybodaeth a arbedwyd yn eich ap, a fydd yn caniatáu i’r person rydych yn eu helpu i fewngofnodi gan ddefnyddio eu manylion eu hunain.
Ar ôl iddynt orffen profi eu hunaniaeth, gwnewch yn siŵr eu bod yn allgofnodi o’r ap. Yna dylech ddileu’r ap o’ch ffôn eto, fel y gallwch ei lawrlwytho a mewngofnodi gyda’ch manylion eich hun pan fyddwch ei angen.
Beth na allwch helpu gyda
Dylech bob amser osgoi rhoi gwybodaeth i mewn ar ran y person rydych yn eu helpu.
Creu a mewngofnodi i’w 51²è¹Ý One Login
Dim ond y person rydych yn eu helpu ddylai allu mewngofnodi i’w 51²è¹Ý One Login.
Pan fyddant yn creu eu 51²è¹Ý One Login, dylech ddweud wrthynt am ddefnyddio cyfeiriad e-bost a rhif ffôn sydd naill ai’n perthyn iddynt neu bod ganddynt fynediad hawdd iddo. Os nad oes ganddynt eu cyfeiriad e-bost eu hunain, gallwch eu helpu i sefydlu un.
Bydd angen iddynt roi cod diogelwch sy’n cael ei anfon i’r rhif ffôn y maent yn ei ddefnyddio bob tro y byddant yn mewngofnodi. Bydd hyn yn helpu i gadw eu 51²è¹Ý One Login yn ddiogel.
Peidiwch â dewis cyfrinair ar eu rhan - er y dylech eu hannog i ddewis cyfrinair nad ydynt yn ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw beth arall.
Dylai eu cyfrinair fod yn rhywbeth mae dim ond hwy sy’n ei wybod. Os ydych yn eu helpu i greu 51²è¹Ý One Login yn bersonol, dylech edrych i ffwrdd pan fyddant yn dewis eu cyfrinair.Â
Peidiwch byth â rhoi eu cyfrinair nac unrhyw godau diogelwch ar eu cyfer pan fyddant yn mewngofnodi.
Profi eu hunaniaeth
Bydd angen i’r person rydych yn eu helpu sganio eu wyneb pan fyddant yn profi eu hunaniaeth gyda’r ap 51²è¹Ý ID Check.
Os ydych yn eu helpu yn bersonol, ceisiwch osgoi edrych dros eu hysgwydd pan fyddant yn gwneud hyn. Ni fydd y sgan wyneb yn gweithio os yw’n adnabod mwy nag un person.
Gallant brofi eu hunaniaeth drwy roi eu manylion ac ateb cwestiynau diogelwch os na allant ddefnyddio’r ap. Dim ond y person rydych yn eu helpu ddylai allu ateb y cwestiynau diogelwch hyn. Ni ddylech geisio gwneud hyn ar eu rhan.
Dylech edrych i ffwrdd pan fyddant yn ateb y cwestiynau diogelwch os ydych yn eu helpu yn bersonol.
os ydych angen mwy o help.