Canllawiau

Carchar Hewell

Mae Hewell yn garchar i ddynion ym mhentref Tardebigge, ger Redditch yn Swydd Gaerwrangon.

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Helpwch ni i wella’r dudalen hon. Rhowch eich adborth i ni yn yr arolwg 2 funud hwn.

Bwcio a chynllunio eich ymweliad â Hewell

I ymweld â rhywun yn Hewell, rhaid i chi:

  • bod ar restr ymwelwyr y person hwnnw
  • archebu eich ymweliad ymlaen llaw
  • bod â’r ID gofynnol gyda chi pan fyddwch yn mynd

Rhaid i o leiaf un ymwelydd fod yn 18 oed neu’n hŷn ar bob ymweliad.

Mae cyfyngiadau ar nifer yr ymweliadau y gall person eu cael, sydd yn amrywio o un carcharor i’r llall. Gallwch wirio hyn gyda Hewell.

Cysylltwch â Hewell os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ymweld.

Help gyda chost eich ymweliad

Os ydych yn cael budd-daliadau penodol neu os oes gennych dystysgrif iechyd y GIG, efallai y gallwch gael cymorth gyda chostau eich ymweliad, gan gynnwys:

  • teithio i Hewell
  • rhywle i aros dros nos
  • prydau bwyd

Sut i drefnu ymweliadau teulu a ffrindiau

Gallwch:

  • drefnu eich ymweliad ar-lein
  • ddefnyddio’r llinell trefnu ymweliadau dros y ffôn: 0300 060 6503 (Dydd Llun i ddydd Gwener, 10am tan 3pm)

Gwybodaeth am gostau galwadau

Os ydych yn cael anawsterau cael mynediad i’r gwasanaeth hwn gallwch anfon e-bost at: familyservices.management@justice.gov.uk

Amseroedd ymweliadau:

  • Dydd Llun i ddydd Iau, 2pm i 4:15pm
  • Dydd Gwener, ynghau
  • Dydd Sadwrn, 9:30am i 11:30am a 2pm i 4pm
  • Dydd Sul, 9:30am i 11:30am a 2pm i 4pm

Gallwch anfon e-bost gydag unrhyw gwestiynau cyffredinol am ymweliadau i Visits.HMPHewell@justice.gov.uk ond ni allwn drefnu ymweliadau drwy’r blwch post hwn.

Sut i drefnu ymweliadau cyfreithiol a phroffesiynol

I drefnu ymweliad, anfonwch e-bost at: «hmppsvisitbooking@justice.gov.uk> neu gallwch archebu dros y ffôn.

Llinell archebu: 0300 060 6503
Mae’r llinell archebu ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 6pm.

Gwybodaeth am gost galwadau

Amseroedd ymweld

  • Dydd Llun i ddydd Lau, 8:45pm i 11:30am a 2pm i 4:45pm
  • Dydd Gwener, 8:45am i 10:45am a 2pm i 4pm

I drefnu cyswllt fideo â’r carchar, rhaid i chi ffonio.

Ffôn: 01527 785 091 Dydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8:30am a 4:30pm
Gwybodaeth am gost galwadau

Mae amseroedd apwyntiadau cyswllt fideo ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8:30am a 12:30pm a rhwng 2pm a 4:30pm.

Mynd i Hewell

Mae Hewell tua 3 milltir o orsaf Redditch, lle gallwch ddal bws lleol i Tardebigge. Mae’r bws yn eich gollwng tua milltir o’r carchar. Fel arall, gallwch chi gymryd tacsi.

I gynllunio eich taith ar drafnidiaeth gyhoeddus:

  • »å±ð´Ú²Ô²â»å»å¾±·É³¦³óÌý
  • defnyddiwch

Os ydych chi’n dod mewn car, defnyddiwch y cod post B97 6QQ ar gyfer llywio â lloeren.

Mae llefydd parcio ar gael y tu allan i’r carchar, gan gynnwys llefydd parcio ar gyfer deiliaid Bathodyn Glas.

Cyrraedd Hewell

Rhaid i bob ymwelydd, sy’n 16 oed neu’n hŷn, brofi pwy ydyw cyn mynd i’r carchar. Darllenwch y rhestr o fathau derbyniol o ID wrth ymweld â charchar.

Bydd angen i bob ymwelydd gael chwiliad ‘patio i lawr’, gan gynnwys plant. Efallai y cewch eich arogli gan gŵn diogelwch hefyd.

Mae gan Hewell bolisi cod gwisg ystyriol o deuluoedd sy’n golygu y dylai ymwelwyr wisgo’n briodol. Gallech gael eich troi i ffwrdd os ydych yn gwisgo:

  • hetiau, sgarffiau neu orchuddion pen nad ydynt yn cael eu gwisgo am resymau crefyddol
  • hwdis neu fenig
  • dillad sydd wedi’u difrodi mewn ffordd amhriodol
  • tlysau gwallt metel
  • esgidiau/bŵts gyda chapiau dur neu esgidiau/bŵts beic modur. Bŵts uwch na chroth y goes
  • sbectol heb fod ar bresgripsiwn, er enghraifft: sbectol haul
  • dillad tryloyw / dillad sy’n dangos llawer o’r corff. Mae hyn yn cynnwys dillad mynd i’r gampfa, gwisg corff i gyd mewn un a thopiau isel neu fyr
  • jîns wedi rhwygo
  • eitemau o ddillad sy’n dangos geiriau neu arwyddion sarhaus, tramgwyddol, ymosodol neu a all achosi tramgwydd i eraill - mae hyn yn cynnwys crysau pêl-droed.
  • sgertiau/ffrogiau byr neu fyr iawn (byrrach na canol y clun wrth eistedd) oni bai y gwisgir gyda legings
  • siorts sy’n fyrrach na chanol y clun
  • ni ddylai dillad isaf fod yn weladwy nac yn y golwg a rhaid eu gwisgo
  • watshis clyfar

Caniateir jacedi neu gotiau ond rhaid eu cadw mewn loceri cyn mynd i mewn i’r brif ystafell ymweliadau (mae angen blaendal o £1 a ad-delir ar gyfer loceri).

Caniateir i bob ymwelydd fynd ag uchafswm o £30 mewn darnau arian, ble bo’n bosibl (ni chaniateir arian papur mwy na £10).

Bydd swyddog yn dweud wrthych beth yw’r rheolau ar ddechrau eich ymweliad. Os byddwch yn torri’r rheolau, gallai eich ymweliad gael ei ganslo a gallech gael eich gwahardd rhag ymweld eto.

Cyfleusterau ymweld

. Gall teulu a ffrindiau ymlacio, prynu lluniaeth a chael cyngor a chefnogaeth gan y staff.

Mae’r ganolfan yn cynnwys ardal chwarae i blant heb ei goruchwylio.

Gallwch brynu byrbrydau a lluniaeth yn y ganolfan ymwelwyr, ond ni allwch fynd â nhw i mewn i’r carchar. Gallwch hefyd brynu byrbrydau a lluniaeth y tu mewn i’r neuadd ymweliadau yn ystod eich ymweliad.

Mae’r ganolfan yn agored:

  • Dydd Llun i ddydd Iau, 8:15am i 12pm a 12:30pm i 4:45pm
  • Dydd Sadwrn a dydd Sul, 8:30am i 12pm a 12:30pm i 4:30pm

Diwrnodau teulu

Does dim diwrnodau teulu ar gael ar hyn o bryd.

Cadw mewn cysylltiad â rhywun yn Hewell

Mae sawl ffordd y gallwch gadw mewn cysylltiad â rhywun yn ystod eu hamser yn Hewell.

Galwadau fideo diogel

I gael galwad fideo ddiogel gyda rhywun yn y carchar hwn, mae angen i chi wneud y canlynol:

  • Lawrlwytho ap Prison Video
  • Creu cyfrif
  • Cofrestru pob ymwelydd
  • Ychwanegu’r carcharor at eich rhestr cysylltiadau.

Sut i drefnu galwad fideo ddiogel

Dim ond carcharorion all wneud cais am alwadau fideo diogel yn y carchar hwn.

Byddwch yn cael hysbysiad os bydd carcharor wedi gofyn am alwad fideo gyda chi.

Rhagor o wybodaeth am sut mae’n gweithio

Galwadau ffôn

Nid oes gan garcharorion ffonau yn eu hystafelloedd, felly bydd yn rhaid iddynt eich ffonio chi bob amser. Rhaid iddynt brynu credydau ffôn i wneud hyn.

Gallant ffonio unrhyw un a enwir ar eu rhestr o ffrindiau a theulu. Caiff y rhestr hon ei gwirio gan y staff diogelwch pan fyddant yn cyrraedd am y tro cyntaf, felly gall gymryd ychydig ddyddiau cyn y gallant ffonio.

Gallwch hefyd gyfnewid negeseuon llais gan ddefnyddio .

Gall swyddogion wrando ar alwadau ffôn fel ffordd o atal troseddu a helpu i gadw pobl yn ddiogel.

E-bost

Gallwch anfon negeseuon e-bost at rywun yn Hewell drwy ddefnyddio’r .

Efallai y byddwch hefyd yn gallu atodi lluniau a derbyn ymatebion, yn dibynnu ar y rheolau yn Hewell.

Llythyrau

Gallwch ysgrifennu ar unrhyw adeg.

Dylech gynnwys enw a rhif y carcharor ar yr amlen.

Os nad ydych chi’n gwybod eu rhif carcharor, cysylltwch â Hewell.

Bydd pob llythyr yn y post, ar wahân i lythyrau cyfreithiol, yn cael eu hagor a’i gwirio gan swyddogion.

Anfon arian a rhoddion

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein cyflym ac am ddim i anfon arian at rywun yn y carchar.

Ni allwch bellach anfon arian drwy drosglwyddiad banc, siec, archeb bost nac anfon arian parod drwy’r post.

Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein, efallai y gallwch - er enghraifft:

  • os nad ydych yn gallu defnyddio cyfrifiadur, ffôn clyfar na’r rhyngrwyd
  • os nad oes gennych chi gerdyn debyd

Bydd hyn yn caniatáu i chi anfon arian drwy’r post.

Rhoddion a pharseli

Gall carcharorion wneud cais i’r llywodraethwr am ganiatâd i gael parsel o ddillad pan fyddant yn cyrraedd Hewell am y tro cyntaf. Fel arall, fel arfer ni chaniateir i eiddo gael ei bostio na’i drosglwyddo. Gallwch anfon arian at garcharorion yn lle hynny y gallant ei ddefnyddio i brynu eitemau drwy system gatalog.

Caniateir i ffrindiau a theuluoedd carcharorion anfon llyfrau’n uniongyrchol at eu hanwyliaid, neu gallant archebu llyfrau gan fanwerthwyr cymeradwy, sy’n gallu dod o hyd i’r llyfrau a’u hanfon ymlaen at garcharorion.

Ar gyfer y rhestr lawn o fanwerthwyr cymeradwy, gallwch ddarllen Gwasanaethau addysg a llyfrgell y Carchar, Atodiad A.

Bywyd yn Hewell

Mae Hewell wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd diogel ac addysgol lle gall dynion ddysgu sgiliau newydd i’w helpu ar ôl cael eu rhyddhau.

Diogelwch a diogelu

Mae gan bob person yn Hewell hawl i deimlo’n ddiogel. Mae’r staff yn gyfrifol am eu diogelwch a’u lles bob amser.

I gael rhagor o wybodaeth am beth i’w wneud pan fyddwch chi’n poeni neu’n pryderu am rywun yn y carchar, ewch i wefan .

Cyrraedd a’r noson gyntaf

Pan fydd rhywun yn cyrraedd Hewell am y tro cyntaf, bydd yn gallu cysylltu ag aelod o’r teulu dros y ffôn. Gallai hyn fod yn eithaf hwyr gyda’r nos, yn dibynnu ar yr amser maen nhw’n cyrraedd.

Byddan nhw’n cael siarad â rhywun a fydd yn gweld sut maen nhw’n teimlo ac yn gofyn am unrhyw anghenion iechyd a llesiant sydd ganddyn nhw bryd hynny.

Cynefino

Bydd pawb sy’n cyrraedd Hewell yn cael sesiwn gynefino sy’n para tua wythnos. Byddant yn cwrdd â gweithwyr proffesiynol a fydd yn eu helpu gyda’r canlynol:

  • iechyd a lles, gan gynnwys iechyd meddwl a rhywiol
  • unrhyw broblemau camddefnyddio sylweddau, gan gynnwys cyffuriau ac alcohol
  • datblygiad personol yn y ddalfa ac ar ôl rhyddhau, gan gynnwys sgiliau, addysg a hyfforddiant
  • mathau eraill o gymorth (a elwir weithiau’n ‘ymyriadau’), fel rheoli emosiynau anodd

Mae pawb hefyd yn cael gwybod am y rheolau, diogelwch tân, a sut mae pethau fel galwadau ac ymweliadau yn gweithio.

Llety

Mae dros 1000 o ddynion yn byw yn Hewell ar draws 6 bloc tai.

Mae’r cyfleusterau’n cynnwys llyfrgell a champfa.

Mae gan Hewell dîm caplaniaeth aml-ffydd amrywiol sy’n darparu cymorth i garcharorion.

Addysg a gwaith

Mae gan garcharorion fynediad at raglen eang o ddosbarthiadau, hyfforddiant a gwaith.

Darperir yr addysg a’r hyfforddiant gan Cynigir amrywiaeth eang o gyrsiau achrededig, gan gynnwys Saesneg, mathemateg, peintio ac addurno a theilsio.

Mae’r cyfleoedd gwaith yn cynnwys y gweithdy beiciau, gwydro dwbl, cegin, golchi dillad, ailgylchu, casglu sbwriel, glanhawyr, peintwyr a swyddogion dydd mewn gwahanol leoliadau.

Cefnogaeth i deulu a ffrindiau

Cael gwybod am gyngor a llinellau cymorth ar gyfer teulu a ffrindiau.

Cefnogaeth yn Hewell

Darperir gwasanaethau teulu yn Hewell gan .

Pryderon, problemau a chwynion

Mewn argyfwng

Ffoniwch 01527 785 000 os ydych chi’n meddwl bod carcharor mewn perygl uniongyrchol o niwed. Gofynnwch am y Swyddog Dydd ac egluro bod eich pryder yn un brys.

Categori cyswllt Rhif ffôn Gwybodaeth ychwanegol
Dim brys 01527 785150 Ffoniwch y rhif hwn os oes gennych chi bryderon difrifol am ddiogelwch neu lesiant carcharor ond nad yw’r pryderon yn peryglu bywyd, neu gallwch lenwi ar wefan Llinell Gymorth Teuluoedd Carcharorion.
Llinell Gymorth Gonestrwydd Staff 0800 917 6877
(peiriant ateb 24 awr)
Gallwch ffonio’r rhif hwn yn ddienw. Os ydych chi’n poeni bod carcharor yn cael ei fwlio gan aelod o staff, gallwch ddefnyddio’r rhif hwn. Gan fod y llinell hon yn cael ei rheoli ar wahân i’r carchar, gallwch ffonio’r rhif hwn yn ddienw.
Llinell Gymorth Teuluoedd Carcharorion 0808 808 2003 Gall y ddarparu cymorth, cyngor ac arweiniad cyfrinachol.
Cyswllt Digroeso gan Garcharor 0300 060 6699 Os yw carcharor yn cysylltu â chi a’ch bod am iddo roi’r gorau i wneud hyn, gallwch ddefnyddio’r Gwasanaeth Cyswllt Digroeso gan Garcharor.

Gallwch lenwi’r , anfon e-bost at unwantedprisonercontact@justice.gov.uk neu gysylltu dros y ffôn.

Problemau a chwynion

Os oes gennych chi broblem arall, cysylltwch â Hewell.

Adroddiadau arolygu

Mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF yn cyhoeddi cynlluniau gweithredu ar gyfer Hewell mewn ymateb i arolygiadau annibynnol.

Cysylltu â Hewell

Llywodraethwr: Rebecca Hayward

Ffôn (24 awr): 01527 785 000
Ffacs: 01527 785 001
Gwybodaeth am gost galwadau

Cyfeiriad

HMP Hewell
Hewell Lane
Redditch
Worcestershire
B97 6QS

Helpwch ni i wella’r dudalen hon. Rhowch eich adborth i ni yn yr arolwg 2 funud hwn.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 21 Ebrill 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 17 Mehefin 2025 show all updates
  1. Visits booking and getting to Hewell information updated.

  2. Updates to the dress code and availability of refreshments. And new prison governor.

  3. Updated visiting times for friends and family, new booking information for video link visits and added new acting Governor, Darren Hudson.

  4. Updated booking line opening times for family and friends visits, now Monday to Friday, 10am to 3pm.

  5. Updated information on visit times, dress code, visiting facilities.

  6. Opening hours updated for visits booking telephone line.

  7. Updated visiting guidance based on 1 April COVID rule changes

  8. Added link to new safer custody information under Security and safeguarding.

  9. Updated visiting information: Testing for visitors aged 12 and over.

  10. Updated physical contact guidance

  11. New visiting times and booking information added.

  12. Prison moved into National Stage 3 framework and is now preparing to open visits for family, friends and significant others. We will update this page with specific visiting information as soon as possible.

  13. Updated visiting information in line with new local restriction tiers.

  14. Updated visiting information in line with new local restriction tiers.

  15. Updated visiting information in line with new national restrictions in England.

  16. Updated visiting information in line with coronavirus restrictions.

  17. Added confirmation of secure video calls being made available at this prison.

  18. Updated governor name

  19. added survey link

  20. First published.

Argraffu'r dudalen hon