Canllawiau

Sut i hawlio ad-daliad o TAW a thollau mewnforio os ydych wedi gordalu

Gwiriwch y terfynau amser a sut i hawlio yn ôl eich amgylchiadau chi fel mewnforiwr, asiant neu gwmni cludo brys. Defnyddio’r Gwasanaeth Datganiadau Tollau neu ffurflen C285 fel unigolyn.

Gallwch hawlio ad-daliad os ydych wedi gordalu toll fewnforio.  Mewn rhai achosion, efallai y byddwch hefyd yn gallu hawlio ad-daliad os ydych wedi gordalu TAW mewnforio neu doll ecséis.

Mae yna ffordd wahanol o hawlio am fewnforion sydd wedi’u gwrthod (yn agor tudalen Saesneg).

Pwy all wneud cais

Gallwch hawlio os ydych yn un o’r canlynol:

  • mewnforiwr neu ei gynrychiolydd
  • asiant tollau
  • trefnydd anfon nwyddau neu gwmni cludo brys — oedd wedi’i alw’n gwmni cludo parseli’n gyflym o’r blaen — sy’n gweithredu ar ran y mewnforiwr
  • unigolyn preifat sy’n mewnforio nwyddau at eich defnydd personol eich hun

Pryd i wneud cais

Mae’r terfyn amser ar gyfer cyflwyno hawliad am ad-daliad o dollau a TAW sydd wedi’i gordalu fel a ganlyn:

  • 3 blynedd am ordaliadau

  • 1 flwyddyn am fewnforion sydd wedi’u gwrthod

  • 90 diwrnod am dynnu cofnod tollau yn ôl

Darllenwch ‘Gwirio’r rheoliadau am eithriadau’ yn y canllaw hwn am eithriadau i’r terfynau amser hyn.

Sut i wneud cais

Mae’n rhaid i chi wneud cais gan ddefnyddio’r dull priodol yn ôl eich amgylchiadau penodol chi. Efallai y bydd angen i chi hawlio TAW a tholl fewnforio ar wahân.

Mae’n rhaid i chi hawlio’r canlynol: 

Mae’n rhaid i chi hawlio gan ddefnyddio ffurflen ar-lein C285:

  • os nad oes gennych rif EORI wedi’i gofrestru yn eich enw chi
  • os ydych yn unigolyn preifat
  • ar gyfer TAW mewnforio os nad ydych wedi’ch cofrestru ar gyfer TAW ac nid oes gennych rif EORI
  • ar gyfer ad-daliadau neu i gywiro datganiadau a wnaed o dan y Cynllun Ildio Toll Dramor
  • mewn perthynas â symud nwyddau ‘mewn perygl’ i mewn i Ogledd Iwerddon

Hawlio TAW mewnforio sydd wedi’i gordalu yn eich Ffurflen TAW os ydych wedi’ch cofrestru ar gyfer TAW

Os ydych wedi’ch cofrestru ar gyfer TAW, ni allwch adhawlio TAW mewnforio sydd wedi’i gordalu gan ddefnyddio ffurflen C285, y Gwasanaeth Datganiadau Tollau neu CHIEF.

Mae’n rhaid i chi wneud addasiadau yn eich Ffurflen TAW drwy wneud y canlynol:

  • defnyddio’ch Ffurflen TAW i ostwng swm y dreth allbwn sy’n ddyledus ym Mlwch 1

  • cadw cofnodion i ategu’ch hawliad

Ni allwch ei hadennill fel treth fewnbwn — nid yw TAW mewnforio sydd wedi’i gordalu’n ddyledus i CThEF.

Os ydych yn mewnforio nwyddau ‘mewn perygl’ nwyddau i Ogledd Iwerddon

Ar gyfer nwyddau ‘mewn perygl’, dilynwch ganllaw ‘Gwneud cais i hawlio ad-daliad neu ddileu tollau mewnforio ar nwyddau ‘mewn perygl’ a ddaw i mewn i Ogledd Iwerddon’.

Gwirio’r rheoliadau am eithriadau

Ar gyfer nwyddau rydych yn mewnforio i’r canlynol:

  • Prydain Fawr (Cymru, Lloegr neu’r Alban) — dylech wneud cais o dan Reoliadau Tollau (Toll Mewnforio) (Ymadael â’r UE) 2018

  • Gogledd Iwerddon — dylech wneud cais o dan Reoliadau Cod Tollau’r Undeb 952/2013

Beth sydd ei angen arnoch — Gwasanaeth Datganiadau Tollau 

Ar gyfer pob hawliad 

Bydd angen y canlynol arnoch: 

  • rhif EORI  

  • Cyfeirnod Symud (MRN) 

  • eich manylion cyswllt a’ch cyfeiriad  

  • manylion banc y person sy’n cael yr ad-daliad

Ar gyfer hawliadau am ordaliad 

Bydd angen y canlynol arnoch: 

  • anfoneb fasnachol sy’n dangos gwerth y nwyddau a fewnforiwyd  

  • y swm y dylid bod wedi’i dalu i CThEF  

Mae’r canlynol yn ddewisol: 

  • rhestr bacio  
  • y dogfennau cludiant — y bil teithrestr awyr neu’r bil llwytho

Ar gyfer hawliadau am fewnforion sydd wedi’u gwrthod  

Bydd angen unrhyw ddogfennau ategol arnoch, fel:  

  • copi o’r anfoneb mewnforio  

  • tystiolaeth ddogfennol o hawl  

  • taflen waith cyfrifo os ydych yn hawlio cyfran o’r costau taledig  

Dysgwch sut i uwchlwytho dogfennau i’r Gwasanaeth Datganiadau Tollau (yn agor tudalen Saesneg).

Gwneud cais ar-lein — Gwasanaeth Datganiadau Tollau į 

Gwnewch gais os oes gennych rif EORI a dyma le gwnaed y datganiad.  

Cyn i chi gychwyn, gwnewch yn siŵr bod yr holl ddogfennau a ffeiliau angenrheidiol yn barod gennych i’w huwchlwytho.  

Bydd angen i chi wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:  

  • mewngofnodi gan ddefnyddio’r Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth a ddefnyddiwyd gennych i danysgrifio i’r Gwasanaeth Datganiadau Tollau — bydd yr ID hwn yn gysylltiedig â’ch rhif EORI į 

  • defnyddio’ch cyfeiriad e-bost i gael cod cadarnhau y gallwch ei ddefnyddio i fewngofnodi

Os nad oes gennych ID Defnyddiwr, gallwch greu un pan fyddwch yn mewngofnodi am y tro cyntaf.  

Gall gwasanaethau ar-lein fod yn araf yn ystod adegau prysur. Gwiriwch a oes unrhyw broblemau gyda’r gwasanaeth hwn (yn agor tudalen Saesneg).

Yr hyn y bydd ei angen arnoch — ffurflen C285

Er mwyn hawlio ad-daliad o doll mewnforio a TAW sydd wedi’i gordalu, bydd angen y canlynol arnoch:

  • y cyfeirnod symud (MRN)

  • rhif EORI os ydych yn gwneud hawliad o dan y Cynllun Ildio Toll Dramor — Pwy sydd angen EORI

  • eich manylion cyswllt a’ch cyfeiriad

  • manylion banc y person sy’n cael y taliad

  • TAW sydd wedi’i thalu i CThEF os ydych yn hawlio ad-daliad o TAW

Efallai y bydd angen tystiolaeth ategol arnoch, fel:

  • anfoneb fasnachol neu dderbynneb sy’n cadarnhau gwerth y nwyddau

  • rhestr bacio

  • y dogfennau cludiant — y bil teithrestr awyr neu’r bil llwytho

Gwneud cais ar-lein — ffurflen C285

Bydd modd i chi gadw’ch atebion wrth i chi fynd ac argraffu neu gadw copi o’ch atebion.

Er mwyn gwneud cais, bydd angen i chi wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • mewngofnodi gan ddefnyddio’ch Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth (os nad oes gennych ID Defnyddiwr, gallwch greu un pan fyddwch yn ceisio mewngofnodi am y tro cyntaf)

  • defnyddio’ch cyfeiriad e-bost i gael cod cadarnhau y gallwch ei ddefnyddio i fewngofnodi

Ar ôl i chi wneud cais 

Bydd CThEF yn anelu at wneud penderfyniad ar eich hawliad cyn pen 30 diwrnod. Efallai y byddwn yn cysylltu â chi os oes angen rhagor o wybodaeth am eich cais. 

Os caiff eich hawliad ei gymeradwyo, byddwn yn anfon manylion atoch ynghylch pryd i ddisgwyl yr ad-daliad. 

Y Gwasanaeth Datganiadau Tollau 

Byddwch yn cael e-bost yn cadarnhau cyfeirnod eich hawliad.   Er mwyn , mewngofnodwch gan ddefnyddio’ch ID Porth y Llywodraeth i gael mynediad i’ch dangosfwrdd hawliadau. 

Ffurflen C285 

Os ydych wedi gwneud cais drwy ddefnyddio ffurflen C285, cewch e-bost oddi wrth CThEF yn cadarnhau’ch cyfeirnod cyflwyno.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 31 Hydref 2019
Diweddarwyd ddiwethaf ar 17 Mehefin 2025 show all updates
  1. Welsh translation added.

  2. We have clarified how to apply for your circumstances and what to do if you're VAT registered.

  3. You can no longer claim by post for declarations made on the Customs Declaration Service.

  4. Customs duty waiver repayments online form has been added.

  5. We have clarified how to reclaim a repayment of VAT if you're VAT registered.

  6. A new online service for overpayment claims for declarations made in the Customs Declaration Service has been added.

  7. Information about what to do if you think you may be entitled to a repayment of customs duty following a review by the Trade Remedies Authority has been added.

  8. This guide has been updated to confirm that VAT-registered importers cannot use form C285 to reclaim overpayments of import VAT and the section on overpaid Customs Duty on imports from Cambodia and Myanmar has been removed.

  9. Added information on 'Overpaid Customs Duty on imports from Cambodia and Myanmar'.

  10. First published.

Argraffu'r dudalen hon