Canllawiau

Sut i sefydlu elusen (CC21a)

Beth mae'n ei olygu i fod yn elusen a beth i'w wneud os mai sefydlu elusen yw'r dewis gorau i chi.

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Sut i sefydlu elusen (CC21a)

Cam 1: penderfynu ai elusen ywr dewis iawn

Mae elusennaun bodoli i roi budd ir cyhoedd. Oherwydd hyn, mae elusennau yn:

  • talu llai o drethi busnes
  • cael
  • cael rhai mathau o grantiau a chyllid

Ond mae elusennau wediu cyfyngu o ran yr hyn y gallant ei wneud a sut y maen nhwn gweithio. Er enghraifft, maen rhaid i elusennau:

  • ddilyn y gyfraith elusennau, syn cynnwys dweud wrth y Comisiwn Elusennau ar cyhoedd am eu gwaith
  • gwneud pethau syn elusennol yn 担l y gyfraith yn unig
  • cael eu rhedeg gan ymddiriedolwyr nad ydynt yn cael budd personol fel arfer or elusen
  • bod yn annibynnol - gall elusennau weithio gyda sefydliadau eraill ond maen rhaid iddynt wneud penderfyniadau annibynnol syn dangos sut y maent yn cyflawni eu dibenion elusennol

Gofyniad cyfreithiol

Yn 担l y gyfraith, os ydych chin sefydlu elusen maen rhaid i chi wneud cais iw chofrestru gydar Comisiwn Elusennau os ywn sefydliad corfforedig elusennol (SCE) neu os yw ei hincwm blynyddol yn fwy na 贈5,000 oni bai ei bod yn fath penodol o elusen nad oes rhaid iddi gofrestru. Bydd y comisiwn yn gweithredu i sicrhau cydymffurfiaeth os ywn canfod elusen sydd heb gofrestru ond a ddylai fod wedi cofrestru.

Os nad ywch elusen yn SCE ac maech incwm o dan 贈5,000 nid oes rhaid i chi gofrestru gydar comisiwn. Ond gallwch chi wneud cais i Gyllid a Thollau E M i gydnabod eich sefydliad fel un elusennol er mwyn i chi allu hawlio treth yn 担l ar bethau fel cyfraniadau Cymorth Rhodd.

Gwnewch yn si典r y gall eich math chi o sefydliad fod yn elusen. Mae ystod eang o sefydliadau dielw a mentrau cymdeithasol: nid yw pob un or rhain yn elusennau.

Er enghraifft, ni all cwmni buddiannau cymunedol neu sefydliad sydd wedi cofrestru 但 Chyllid a Thollau EM fel clwb chwaraeon amatur cymunedol fod yn elusen.

Gwnewch yn si典r na fydd bod yn elusen yn eich rhwystro rhag gwneud yr hyn rydych chi am ei wneud. Er enghraifft:

Dewisiadau eraill i sefydlu elusen newydd

Mae dros 160,000 o elusennau cofrestredig yng Nghymru a Lloegr a llawer mwy o elusennau anghofrestredig. Maen cymryd llawer o waith i sefydlu a rhedeg elusen. Fel dewis arall, gallech chi wneud y canlynol:

Gweithio gydag elusen sydd eisoes yn bodoli

Gallech chi gysylltu ag elusen syn bodoli i weld a fyddai modd i chi gydweithio.

Defnyddiwch y gwasanaethau hyn i gael hyd i gyfleoedd i fod yn ymddiriedolwr a chyfleoedd i wirfoddoli yn eich ardal chi:

Sefydlu cronfa a enwir yn lle elusen

Bydd rhai elusennau yn caniat叩u i chi sefydlu cronfa a enwir os ydych chi am godi arian ar gyfer digwyddiad un-tro megis trychineb.

Mae hyn yn arbed yr amser ar ymdrech o sefydlu a rhedeg elusen ac yna ei chau ar 担l iddi fodlonir angen gwreiddiol. Yn dibynnu ar yr elusen, gallwch ddweud i ble rydych chi am ir arian fynd.

Sefydlu menter gymdeithasol anelusennol

Mae menter gymdeithasol yn fusnes sydd ag amcanion cymdeithasol, amgylcheddol neu gymunedol a gall gael dibenion anelusennol.

Cam 2: penderfynu ar ddiben eich elusen

Os ydych chin dewis sefydlu elusen, dechreuwch drwy benderfynu beth fydd ei diben. Diben eich elusen ywr hyn y cafodd yr elusen ei sefydlu iw gyflawni - y rheswm pam y maen bodoli.

Gall eich elusen gael mwy nag un diben ond ni all gael unrhyw ddibenion sydd heb fod yn elusennol.

Mae dibenion eich elusen yn bwysig oherwydd:

  • maen nhwn helpur Comisiwn Elusennau i benderfynu a ywch sefydliad yn elusen Cyllid a Thollau EM i benderfynu a ywn gymwys i gael rhyddhad treth
  • maen nhwn esbonio ir bobl syn rhedeg, cefnogi neun cael budd och elusen beth maer elusen yn ei wneud a phwy y maen ei helpu
  • gall eich elusen wneud pethau syn cyflawni ei dibenion yn unig

Gofyniad cyfreithiol

Maen rhaid i chi redeg eich elusen mewn ffordd syn gyson 但i dibenion ac syn cefnogi ei dibenion.

Dibenion elusennol: y gyfraith

I fod yn elusen yng Nghymru a Lloegr, maen rhaid i bopeth y mae wedii sefydlu iw gyflawni fod yn elusennol. Mae hyn yn golygu bod rhaid i bob un oi dibenion:

Dylech fod yn ymwybodol nad yw popeth syn rhoi budd ir gymuned neu syn achos da yn elusennol.

Rhoi diben eich elusen mewn geiriau

Dylai diben eich elusen ddweud:

  • beth fydd canlyniadau ei gwaith
  • ble fydd y canlyniadau hyn yn digwydd
  • sut y bydd yn cyflawnir canlyniadau hyn
  • pwy fydd yn cael budd or canlyniadau hyn

Er enghraifft:

Er budd y cyhoedd, lleddfu effeithiau a chynorthwyo pobl mewn angen (beth) mewn unrhyw ran or byd (ble) syn dioddef rhyfel neu drychineb naturiol neu anffawd (pwy) yn arbennig drwy roi cymorth meddygol iddynt (sut)

Rhestrwch y pethau y gall ymddiriedolwyr eu gwneud i helpur elusen i gyflawni ei dibenion (pwerau) ar wah但n - casgliadau codi arian, er enghraifft.

I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch Sut i ysgrifennu dibenion elusennol.

Cam 3: dewis strwythur elusen

Pan fyddwch wedi penderfynu ar ddiben eich elusen, maen rhaid i chi benderfynu beth fydd strwythur sefydliadol eich elusen.

Mae pedwar prif fath o strwythur elusen:

  • sefydliad corfforedig elusennol (SCE)
  • cwmni cyfyngedig drwy warant
  • cymdeithas anghorfforedig
  • ymddiriedolaeth

Maen bwysig eich bod yn dewis y strwythur iawn ar gyfer eich elusen syn cyd-fynd 但r ffordd y bydd eich elusen yn gweithredu. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch Mathau o elusennau: sut i ddewis strwythur (CC22a).

Cam 4: ysgrifennu dogfen lywodraethol

Dogfen lywodraethol eich elusen ywr ddogfen gyfreithiol syn creur elusen ac maen dweud sut y dylid ei rhedeg drwy nodi:

  • ei henw
  • ei dibenion elusennol (amcanion)
  • beth y gall ei wneud i gyflawni ei dibenion (pwerau), megis benthyca arian
  • pwy syn ei rhedeg (ymddiriedolwyr) a phwy all fod yn aelod ohoni (os ywn briodol)
  • sut y caiff cyfarfodydd eu cynnal
  • faint o ymddiriedolwyr iw penodi a sut
  • unrhyw reolau ynghylch talu ymddiriedolwyr, buddsoddiadau a dal tir
  • a all yr ymddiriedolwyr newid y ddogfen lywodraethol, gan gynnwys ei hamcanion elusennol (darpariaethau diwygio)
  • sut i gaur elusen (darpariaethau diddymu)

I gael rhagor o wybodaeth am ysgrifennu, defnyddio a newid dogfennau llywodraethol, darllenwch: Sut i ysgrifennu eich dogfen lywodraethol (CC22b).

Cam 5: dewis enw

Mae enw eich elusen yn bwysig. Dymach brand, yr hyn y bydd pobl yn ei gofio pan fyddant yn penderfynu gwneud rhodd neun ystyried gwirfoddoli.

Fel ymddiriedolwyr, rydych chin gyfrifol am ddewis enw eich elusen chi. Os ydych chin cofrestruch elusen gydag enw syn gamarweiniol neu enw sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio gan elusen arall, gall y Comisiwn Elusennau eich gorfodi iw newid. Bydd eich elusen yn gyfrifol am unrhyw gostau syn codi.

I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch: Sut i ddewis enw elusen.

Cam 6: cael hyd i ymddiriedolwyr

Ymddiriedolwyr elusen ywr bobl syn gwasanaethu ar gorff llywodraethu elusen. Gallant gael eu galwn ymddiriedolwyr, cyfarwyddwyr, aelodau bwrdd, llywodraethwyr neun aelodau pwyllgor.

Eich ymddiriedolwyr elusen ywr bobl fydd yn gwneud penderfyniadau ynghylch sut i redeg yr elusen pan gaiff ei sefydlu. Maen nhwn gyfrifol am reoli gweinyddiad yr elusen yn gyffredinol.

Fel ymddiriedolwr, maen rhaid i chi redeg eich elusen gyda chymaint o ofal ag y byddech yn ei ddefnyddio i reoli eich busnes eich hun. Mae hynnyn golygu sicrhau ei bod yn ddiddyled, yn cael ei rhedeg yn dda ac yn bodlonir anghenion y cafodd ei sefydlu iw bodloni.

Dylech recriwtio digon o ymddiriedolwyr i gael y sgiliau ar profiad sydd eu hangen arnoch. Dylai dogfen lywodraethol eich elusen ddweud faint o ymddiriedolwyr iw penodi. Maer Comisiwn Elusennau yn argymell fod gennych o leiaf dri ymddiriedolwr heb gysylltiad na pherthynas 但i gilydd gydag amrywiaeth dda o sgiliau.

Er enghraifft, pobl sydd:

  • 但 sgiliau arbenigol megis codi arian neu gyllid
  • 但 chysylltiadau cymunedol a allai helpu i ddenu gwirfoddolwyr
  • yn deall neun adlewyrchu anghenion y bobl y maech elusen yn eu helpu

I gael rhagor o wybodaeth am recriwtio ymddiriedolwyr, darllenwch Ymddiriedolwyr, staff a gwirfoddolwyr.

Cam 7: cyllido gwaith eich elusen

Dechreuwch godi arian ar gyfer eich elusen pan fydd wedii sefydlu.

Maen rhaid ir arian rydych yn ei godi ich elusen gael ei ddal yn ddiogel a chael ei gyfrif amdano yn briodol.

Oni bai bod eich elusen yn fath penodol o elusen nad oes rhaid iddi gofrestru, maen rhaid i chi wneud cais i gofrestru eich elusen gydar Comisiwn Elusennau pan fydd ganddi incwm o fwy na 贈5,000. Os ywch elusen yn sefydliad corfforedig elusennol (SCE) maen rhaid i chi wneud cais iw chofrestru beth bynnag foi hincwm.

Canllawiau ar sut i godi arian ar gyfer eich elusen.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 20 Mai 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 4 Tachwedd 2014 show all updates
  1. Added translation

  2. First published.

Argraffu'r dudalen hon