Carchar Lerpwl
Mae Carchar Lerpwl yn garchar i ddynion yn ardal Walton yn Lerpwl.
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Helpwch ni i wella’r dudalen hon. .
Bwcio a chynllunio eich ymweliad â charchar Lerpwl
I ymweld â rhywun yng Ngharchar Lerpwl, rhaid i chi:
- bod ar restr ymwelwyr y person hwnnw
- bwcio eich ymweliad o leiaf 48 awr ymlaen llaw
- bod â’r ID gofynnol gyda chi pan fyddwch yn mynd
Rhaid i o leiaf un ymwelydd fod yn 18 oed neu’n hŷn ar bob ymweliad.
Efallai y bydd cyfyngiadau ar nifer yr ymweliadau y gall person eu cael. Gallwch wirio hyn gyda Charchar Lerpwl.
Cysylltwch â Charchar Lerpwl os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ymweld.
Help gyda chost eich ymweliad
Os ydych yn cael budd-daliadau penodol neu os oes gennych dystysgrif iechyd y GIG, efallai y gallwch gael cymorth gyda chostau eich ymweliad, gan gynnwys:
- teithio i Garchar Lerpwl
- rhywle i aros dros nos
- prydau bwyd
Sut i drefnu ymweliadau teulu a ffrindiau
Gallwch drefnu eich ymweliad ar-lein neu dros y ffôn.
Llinell archebu dros y ffôn: 0151 530 4050
Dydd Llun i Ddydd Gwener 8:30am i 4:30pm
Amseroedd ymweld:
- Dydd Llun i ddydd Gwener: 2pm a 3:35pm
- Dydd Sadwrn a ddydd Sul: 9am, 10:30am, 2pm a 3:30pm
Bydd ymweliadau’n cael eu canslo ar gyfer pobl sy’n cyrraedd yn hwyr. Cyrhaeddwch 30 munud cyn eich slot amser ymweld er mwyn rhoi amser i fynd i mewn i’r carchar. Byddwch chi’n cael awr gyfan o’r amser y byddwch chi’n mynd i mewn i’r neuadd ymweliadau.
Sut i drefnu ymweliadau cyfreithiol a phroffesiynol
Gallwch chi drefnu ymweliad cyfreithiol drwy anfon e-bost at LegalVisits.Liverpool@justice.gov.uk.
Amseroedd ymweliadau cyfreithiol:
- Dydd Llun i ddydd Iau: 8:50am, 10:35am 2:05pm a 3:35pm
- Dydd Gwener: 8:50am a 10:35am
Mae pob slot yn 1 awr o hyd.
Sut i drefnu ymweliadau cyswllt fideo
Gallwch chi drefnu ymweliadau cyswllt fideo drwy anfon e-bost at videolinkliverpool@justice.gov.uk.
Amseroedd ymweliadau cyswllt fideo:
- O ddydd Llun i ddydd Gwener: 9am i 10am, 10am i 11am, 11am i 12pm, 2pm i 3pm a 3pm i 4pm.
Ar gyfer unrhyw ymholiadau ar ddiwrnod eich ymweliad yn unig, gallwch chi ffonio 0151 530 4249.
Cyrraedd Carchar Lerpwl
Y gorsafoedd rheilffordd agosaf yw Walton a Rice Lane. Mae Carchar Lerpwl tua 5 munud ar droed o’r naill orsaf neu’r llall. Gallwch chi hefyd deithio ar fws o ganol dinas Lerpwl.
I gynllunio eich taith ar drafnidiaeth gyhoeddus:
- »å±ð´Ú²Ô²â»å»å¾±·É³¦³óÌý
- »å±ð´Ú²Ô²â»å»å¾±·É³¦³óÌý
Bws: O ganol dinas Lerpwl, cymerwch y bws 68 sy’n eich gollwng yn uniongyrchol y tu allan i’r carchar. Dyma’r unig fws sy’n teithio ar hyd Hornby Road.
Trên: O orsaf Lerpwl Canolog gallwch chi deithio i orsafoedd trên Walton neu Rice Lane, mae’r ddau ar Hornby Road.
Car: Cyffordd 6 M62 ar yr M57. Gadewch wrth gyffordd 6. Ar y gylchfan, cymerwch yr allanfa gyntaf i’r A506. Trowch i’r chwith ar yr A59, wrth y goleuadau traffig trowch i’r dde ar yr A5098 i gyrraedd Hornby Road.
Tacsis lleol: Delta 0151 924 7373
Maes Parcio: Mae maes parcio ar gael ar y ffordd sy’n wynebu’r carchar am uchafswm o
Mynd i mewn i Garchar Lerpwl
Rhaid i bob ymwelydd, sy’n 16 oed neu’n hŷn, brofi pwy ydyw cyn mynd i’r carchar. Darllenwch y rhestr o fathau derbyniol o ID wrth ymweld â charchar.
- Efallai y cewch eich arogli gan gŵn diogelwch hefyd.
- Rhaid i ymwelwyr gadw at god gwisg y carchar sy’n berthnasol, a gellir gofyn am ragor o fanylion ar eich ymweliad cyntaf.
- Mae rheolaethau llym ar yr hyn y gallwch ddod i mewn i Lerpwl. Bydd yn rhaid i chi adael y rhan fwyaf o’r pethau sydd gennych mewn locer yn y ganolfan ymwelwyr neu yn eich car - mae hyn yn cynnwys pramiau a seddi car
- Ffoniwch POPS ar 0151 5304 158 os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ymweld
Cyfleusterau ymweld
Mae canolfan ymwelwyr sy’n cael ei rhedeg gan .
Mae ar agor bob dydd rhwng 8:30am a 5pm.
Ffôn: 0151 530 4158
Gwybodaeth am gost galwadau
Mae man chwarae meddal ar gyfer plant yn y neuadd ymweld. Mae Lerpwl hefyd yn darparu pecynnau gweithgareddau.
Diwrnodau teulu
Mae POPS yn cynnal 6 diwrnod teulu bob blwyddyn.
Cadw mewn cysylltiad â rhywun yng Ngharchar Lerpwl
Mae sawl ffordd y gallwch gadw mewn cysylltiad â rhywun yn ystod eu hamser yng Ngharchar Lerpwl.
Galwadau fideo diogel
I gael galwad fideo ddiogel gyda rhywun yn y carchar hwn, mae angen i chi wneud y canlynol:
- Lawrlwytho
- Creu cyfrif
- Cofrestru pob ymwelydd
- Ychwanegu’r carcharor at eich rhestr cysylltiadau.
Sut i drefnu galwad fideo ddiogel
Gallwch ofyn am alwad fideo ddiogel gyda rhywun yn y carchar hwn drwy ap Prison Video.
Byddwch yn cael hysbysiad pan fydd eich cais wedi cael ei dderbyn.
Rhagor o wybodaeth am sut mae’n gweithio
Galwadau ffôn
Mae gan garcharorion ffonau yn eu celloedd ac maent yn gallu gwneud galwadau bob dydd rhwng 6:30am a 11pm.
Nid yw ffonau’n derbyn galwadau sy’n dod i mewn, felly bydd yn rhaid iddynt eich ffonio chi bob amser. Rhaid iddynt brynu credydau ffôn i wneud hyn.
Gallant ffonio unrhyw un a enwir ar eu rhestr o ffrindiau a theulu. Caiff y rhestr hon ei gwirio gan y staff diogelwch pan fyddant yn cyrraedd am y tro cyntaf, felly gall gymryd ychydig ddyddiau cyn y gallant ffonio.
Gallwch hefyd gyfnewid negeseuon llais gan ddefnyddio .
Gall swyddogion wrando ar alwadau ffôn fel ffordd o atal troseddu a helpu i gadw pobl yn ddiogel.
E-bost
Gallwch anfon negeseuon e-bost at rywun yng Ngharchar Lerpwl drwy ddefnyddio’r .
Efallai y byddwch hefyd yn gallu atodi lluniau a derbyn ymatebion gan y carcharor, yn dibynnu ar y rheolau yng Ngharchar Lerpwl.
Llythyrau
Gallwch ysgrifennu ar unrhyw adeg.
Dylech gynnwys enw a rhif y carcharor ar yr amlen.
Os nad ydych chi’n gwybod eu rhif carcharor, cysylltwch â Charchar Lerpwl.
Bydd pob llythyr yn y post, ar wahân i lythyrau cyfreithiol, yn cael eu hagor a’i gwirio gan swyddogion.
Radio Cenedlaethol y Carchardai - Sioe i Deulu a Ffrindiau Ddewis y Caneuon
Mae Radio Cenedlaethol y Carchardai yn darlledu i holl gelloedd y carchardai ledled Cymru a Lloegr, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.Â
Gall teulu a ffrindiau gadw mewn cysylltiad gyda’u hanwyliaid yn y carchardai trwy anfon ceisiadau am ganeuon, negeseuon ysgrifenedig neu recordiadau llais. Yna bydd y rhain yn cael eu darllen allan ar y radio neu’n cael eu chwarae yn ystod y sioe wythnosol.
Gallwch anfon neges atom, a gwrando ar y sioe yn 
Anfon arian a rhoddion
Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein cyflym ac am ddim i anfon arian at rywun yn y carchar.
Ni allwch bellach anfon arian drwy drosglwyddiad banc, siec, archeb bost nac anfon arian parod drwy’r post.
Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein, efallai y gallwch - er enghraifft:
- os nad ydych yn gallu defnyddio cyfrifiadur, ffôn clyfar na’r rhyngrwyd
- os nad oes gennych chi gerdyn debyd
Bydd hyn yn caniatáu i chi anfon arian drwy’r post.
Rhoddion a pharseli
Mae gan bobl yng Ngharchar Lerpwl restr o eitemau cymeradwy y gall teulu a ffrindiau eu rhoi iddyn nhw yn ystod eu 28 diwrnod cyntaf yn y carchar.
Gellir anfon eitemau drwy’r post neu eu cyflwyno cyn ymweliadau o ddydd Mawrth i ddydd Gwener.
Rhaid i chi fod wedi trefnu ymweliad ar gyfer rhoi unrhyw beth i mewn, neu fel arall ni fydd yn cael ei dderbyn.
Caniateir i ffrindiau a theuluoedd carcharorion anfon llyfrau’n uniongyrchol at eu hanwyliaid, neu gallant archebu llyfrau gan fanwerthwyr cymeradwy, sy’n gallu dod o hyd i’r llyfrau a’u hanfon ymlaen at garcharorion.  I weld y rhestr lawn o fanwerthwyr cymeradwy, gallwch ddarllen Polisi Cymhellion Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF, Atodiad F.
Cofiwch gynnwys enw a rhif y carcharor ac enw a chyfeiriad yr anfonwr ar y parsel. Bydd pob eitem yn cael ei hagor a’i gwirio gan swyddogion.
Fel arfer, nid yw eitemau a pharseli yn cael eu derbyn ar ôl y 28 diwrnod cyntaf. Gallwch anfon arian at garcharorion yn lle hynny y gallant ei ddefnyddio i brynu eitemau drwy system gatalog.
Cysylltwch â Charchar Lerpwl os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.
Bywyd yng Ngharchar Lerpwl
Mae Carchar Lerpwl wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd diogel ac addysgol lle gall carcharorion ddysgu sgiliau newydd i’w helpu ar ôl cael eu rhyddhau.
Diogelwch a diogelu
Mae gan bob carcharor yng Ngharchar Lerpwl hawl i deimlo’n ddiogel. Mae’r staff yn gyfrifol am eu diogelwch a’u lles bob amser.
I gael rhagor o wybodaeth am beth i’w wneud pan fyddwch chi’n poeni neu’n pryderu am rywun yn y carchar, ewch i wefan .
Mae’r Samariaid hefyd yn hyfforddi carcharorion i fod yn ‘wrandawyr’ i helpu i gefnogi carcharorion sy’n mynd drwy gyfnodau anodd.
Cyrraedd a’r noson gyntaf
Pan fydd rhywun yn cyrraedd Carchar Lerpwl am y tro cyntaf, bydd yn gallu cysylltu ag aelod o’r teulu dros y ffôn. Gallai hyn fod yn eithaf hwyr gyda’r nos, yn dibynnu ar yr amser maen nhw’n cyrraedd.
Byddan nhw’n cael siarad â rhywun a fydd yn gweld sut maen nhw’n teimlo ac yn gofyn am unrhyw anghenion iechyd a llesiant sydd ganddyn nhw bryd hynny.
Cynefino
Bydd pawb sy’n cyrraedd Carchar Lerpwl yn cael sesiwn gynefino sy’n para tua wythnos. Byddant yn cwrdd â gweithwyr proffesiynol a fydd yn eu helpu gyda’r canlynol:
- iechyd a lles, gan gynnwys iechyd meddwl a rhywiol
- unrhyw broblemau camddefnyddio sylweddau, gan gynnwys cyffuriau ac alcohol
- datblygiad personol yn y ddalfa ac ar ôl rhyddhau, gan gynnwys sgiliau, addysg a hyfforddiant
- mathau eraill o gymorth (a elwir weithiau’n ‘ymyriadau’), fel rheoli emosiynau anodd
Mae pawb hefyd yn cael gwybod am y rheolau, diogelwch tân, a sut mae pethau fel galwadau ac ymweliadau yn gweithio.
Llety
Mae tua 750 o garcharorion yn byw yng Ngharchar Lerpwl ar draws 8 adain. Mae cymysgedd o gelloedd sengl a chelloedd sy’n cael eu rhannu.
Mae gan garcharorion fynediad at ystafell pwysau, offer ymarfer corff, neuadd chwaraeon a chaeau awyr agored. Mae’r adran addysg gorfforol yn cynnal rhaglen lawn o weithgareddau tîm a hyfforddiant cylchol.
Addysg a gwaith
Mae addysg yng Ngharchar Lerpwl yn cael ei ddarparu . Gall carcharorion ddysgu sgiliau pwysig, fel Saesneg a Mathemateg, a hyfforddi mewn amrywiaeth o broffesiynau gan gynnwys plastro, peintio ac addurno, arlwyo, adeiladu, glanhau diwydiannol a TG. Mae pynciau’n cael eu dewis i gyfateb i gyfleoedd yn y farchnad swyddi leol. Mae Carchar Lerpwl yn gweithio gydag asiantaethau cyfarwyddyd gyrfaoedd i helpu i arwain carcharorion i gyflogaeth ar ôl iddyn nhw gael eu rhyddhau.
Mae Carchar Lerpwl yn cynnal nifer o weithdai diwydiannol sy’n darparu cyflogaeth i garcharorion. Mae’r rhain yn cynnwys y gweithdy lledr, sy’n cynhyrchu nwyddau lledr ar gyfer carchardai, a’r golchdy, sy’n prosesu contractau glanhau masnachol mewnol ac allanol.
Mae Carchar Lerpwl hefyd yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau datblygiad cymdeithasol a phersonol sy’n canolbwyntio ar adsefydlu a hunanwella.
Cefnogaeth i deulu a ffrindiau
Cael gwybod am gyngor a llinellau cymorth ar gyfer teulu a ffrindiau.
I gysylltu â’n pennaeth darpariaeth i deuluoedd yng Ngharchar Lerpwl, anfonwch e-bost at: familiesandSo.HMPLiverpool@justice.gov.uk
Cefnogaeth yng Ngharchar Lerpwl
Gall Partneriaid Carcharorion (POPS) a’r gaplaniaeth ddarparu cymorth unigol i deuluoedd a ffrindiau carcharorion gydag amrywiaeth eang o broblemau.
I siarad â POPS, ffoniwch 0151 530 4158.
I siarad â’r gaplaniaeth, ffoniwch brif rif ffôn Carchar Lerpwl.
Pryderon, problemau a chwynion
Mewn argyfwng
Ffoniwch 0151 530 4000 os ydych chi’n meddwl bod carcharor mewn perygl uniongyrchol o niwed. Gofynnwch am y Swyddog Trefniadol ac eglurwch fod eich pryder yn argyfwng.
Categori cyswllt | Rhif ffôn | Gwybodaeth ychwanegol |
---|---|---|
Dim brys | 0800 528 0970 | Ffoniwch y rhif hwn os oes gennych chi bryderon difrifol am ddiogelwch neu lesiant carcharor ond nad yw’r pryderon yn peryglu bywyd, neu  ar y wefan Llinell Gymorth Teuluoedd Carcharorion. |
Llinell Gymorth Gonestrwydd Staff | 0800 917 6877 (peiriant ateb 24 awr) |
Gallwch ffonio’r rhif hwn yn ddienw. Os ydych chi’n poeni bod carcharor yn cael ei fwlio gan aelod o staff, gallwch ddefnyddio’r rhif hwn. Gan fod y llinell hon yn cael ei rheoli ar wahân i’r carchar, gallwch ffonio’r rhif hwn yn ddienw. |
Llinell Gymorth Teuluoedd Carcharorion | 0808 808 2003 | Gall y  ddarparu cymorth, cyngor ac arweiniad cyfrinachol. |
Cyswllt Digroeso gan Garcharor | 0300 060 6699 | Os yw carcharor yn cysylltu â chi a’ch bod am iddo roi’r gorau i wneud hyn, gallwch ddefnyddio’r Gwasanaeth Cyswllt Digroeso gan Garcharor. Gallwch lenwi’r , anfon e-bost at unwantedprisonercontact@justice.gov.uk neu gysylltu dros y ffôn. |
Problemau a chwynion
Os oes gennych chi broblem arall cysylltwch â Charchar Lerpwl.
Adroddiadau arolygu
Mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF yn cyhoeddi cynlluniau gweithredu ar gyfer Carchar Lerpwl mewn ymateb i arolygiadau annibynnol.
Cysylltu â Charchar Lerpwl
Llywodraethwr: Rob Luxford
·¡-²ú´Ç²õ³Ù:Ìýbsuliverpool@justice.gov.uk
Ffôn (24 awr): 0151 530 4000
Ffacs: 0151 530 4001
Gwybodaeth am gost galwadau
Cyfeiriad
HMP Liverpool
68 Hornby Road
Liverpool
L9 3DF
Helpwch ni i wella’r dudalen hon. .
Updates to this page
-
Updated visiting time slots for family and friends and for legal visits.
-
Details added for National Prison Radio's Family and Friends request show.
-
Updated legal visits booking and video link booking information.
-
Updated visiting guidance based on 1 April COVID rule changes
-
Added link to new safer custody information under Security and safeguarding.
-
Updated visiting information: Testing for visitors aged 12 and over.
-
Updated physical contact guidance
-
New visiting times and booking information added.
-
Updated visit info
-
Updated prison visits
-
Updated instructions for sending money to prisoners via non-digital methods.
-
Updated visiting information in line with new national restrictions in England.
-
Updated visiting information in line with coronavirus restrictions.
-
Updated vsiting times for family and friends.
-
Added visiting times in line with coronavirus restrictions.
-
Updated: HMP Liverpool visiting times and visiting procedure changes in line with coronavirus restrictions.
-
Added confirmation of secure video calls made available at Liverpool prison.
-
update survey link
-
Prison visits update.
-
First published.