Cosbau ar gyfer y rhai sy’n gwirfoddoli ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
Newidiadau i gosbau ar gyfer y rhai sy’n gwirfoddoli ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Newidiadau i gosbau
Bydd y newidiadau i gosbau am gyflwyno’n hwyr ac am dalu’n hwyr yn berthnasol i chi os ydych yn gwirfoddoli i brofi’r gwasanaeth Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Gallwch ddysgu a oes angen i chi ddechrau defnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm a phryd y dylech wneud hynny, ac yna penderfynu a ydych am wirfoddoli i ddefnyddio’r gwasanaeth cyn y bydd yn rhaid i chi ei ddefnyddio.
Mae pryd y bydd yn rhaid i chi ddechrau defnyddio’r gwasanaeth yn dibynnu ar eich incwm cymhwysol yn ystod blwyddyn dreth. Eich incwm cymhwysol yw cyfanswm eich incwm mewn blwyddyn (cyn didynnu treuliau) o hunangyflogaeth neu eiddo.
Darllenwch ragor ynghylch cofrestru ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm (yn agor tudalen Saesneg).
Bydd y cosbau newydd hyn yn disodli’r cosbau cyfredol unwaith y byddwch wedi cofrestru i brofi a defnyddio’r gwasanaeth.
Ar ôl i chi gytuno i’r cosbau newydd, ni allwch fynd yn ôl at y cosbau blaenorol, hyd yn oed os byddwch yn rhoi’r gorau i wirfoddoli.
Sut i gytuno i’r cosbau newydd
Mae angen i chi gytuno y bydd y cosbau newydd yn berthnasol i chi pan fyddwch yn cofrestru i ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm. Gofynnir hyn i chi pan fyddwch yn cofrestru.
Ni allwch newid eich meddwl ar ôl i chi gytuno bod y cosbau newydd yn berthnasol i chi.
Os ydych yn asiant awdurdodedig, gallwch gytuno i’r cosbau newydd ar ran eich cleient. Dylech drafod hyn gyda’ch cleient cyn ei gofrestru a chytuno i’r cosbau ar ei ran.
Pryd y bydd y cosbau newydd yn berthnasol i chi
Bydd y cosbau newydd yn berthnasol i’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad bersonol. Ni fyddant yn berthnasol ar gyfer unrhyw fath arall o Hunanasesiad, er enghraifft ymddiriedolwr neu bartneriaeth.
Byddwn ond yn cadarnhau bod y cosbau newydd yn berthnasol i chi unwaith y byddwn yn gwirio’r canlynol:
- rydych yn gymwys i gofrestru ar gyfer y gwasanaeth, ac wedi cwblhau’r broses o gofrestru
- ein bod wedi symud eich cofnodion i’n llwyfan TG newydd
Ar ôl i’r holl gamau gael eu cwblhau, byddwn yn anfon llythyr atoch er mwyn cadarnhau bod y cosbau newydd yn berthnasol i chi.
Bydd y cosbau blaenorol yn parhau i fod yn berthnasol ar gyfer y blynyddoedd treth blaenorol.
Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i rai cwsmeriaid roi’r gorau i brofi’r gwasanaeth o ganlyniad i newidiadau penodol yn eu hamgylchiadau. Byddwn yn ysgrifennu atoch i gadarnhau os yw hyn yn berthnasol i chi. Bydd ein llythyr yn egluro’r effaith y caiff hyn ar gosbau.
Dyddiadau dyledus ar gyfer taliadau a chyflwyniadau
Mae’r tabl isod yn dangos y dyddiadau dyledus ar gyfer taliadau a chyflwyniadau yn ystod y cyfnod profi. Bydd y cosbau newydd yn berthnasol i chi os ydych yn methu’r rhain.
Diweddariadau chwarterol | Ffurflen Dreth flynyddol ar-lein i’w chyflwyno | Taliad mantoli yn ddyledus | ||
---|---|---|---|---|
Gwirfoddolwr ar gyfer y gwasanaeth Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm ym mlwyddyn dreth 2024 i 2025 | Nid oes cosb yn berthnasol | 31 Ionawr 2026 | 31 Ionawr 2026 | |
Gwirfoddolwr ar gyfer y gwasanaeth Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm ym mlwyddyn dreth 2025 i 2026 | Nid oes cosb yn berthnasol | 31 Ionawr 2027 | 31 Ionawr 2027 |
Cosbau am gyflwyno’n hwyr
Mae’r cosbau newydd am gyflwyno’n hwyr yn seiliedig ar system bwyntiau. Bob tro y byddwch yn methu dyddiad dyledus, byddwch yn cael pwynt cosb.
Golyga hyn na fyddwch yn cael cosb ariannol os byddwch yn gwneud camgymeriad unwaith drwy gyflwyno diweddariad neu Ffurflen Dreth yn hwyr. Bydd cosbau ariannol dim ond yn berthnasol os byddwch yn methu dyddiadau dyledus dro ar ôl tro.
Pan fyddwch yn cyrraedd y trothwy ar gyfer pwyntiau cosb, byddwch yn cael cosb ariannol.
Os ydych wedi cofrestru ar gyfer TAW, mae’ch pwyntiau cosb ar gyfer Treth Incwm Hunanasesiad ar wahân i’ch pwyntiau cosb ar gyfer TAW.
Sut mae cosbau am gyflwyno’n hwyr yn gweithio ar gyfer gwirfoddolwyr
Pan ydych yn gwirfoddoli, am bob Ffurflen Dreth flynyddol y byddwch yn ei chyflwyno’n hwyr byddwch yn cael pwynt cosb hyd at y trothwy pwyntiau cosb, sef 2 bwynt cosb.
Pan fyddwch yn cyrraedd y trothwy, byddwch yn cael cosb o £200. Byddwch hefyd yn cael cosb arall o £200 os byddwch yn methu dyddiad cau unrhyw Ffurflen Dreth flynyddol arall tra’ch bod wedi cyrraedd y trothwy pwyntiau cosb.
Dileu pwyntiau cosb
Os nad ydych wedi cyrraedd y trothwy ar gyfer pwyntiau cosb, ar ôl 24 mis byddwn yn dileu’ch pwynt cosb unigol yn awtomatig.
Os ydych wedi cyrraedd y trothwy ar gyfer pwyntiau cosb am gyflwyno’n hwyr, bydd angen i chi gymryd camau i’w hailosod i sero. Gallwch wneud hyn drwy gwblhau cyfnod o gydymffurfio.
Os ydych yn gwirfoddoli ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, bydd angen i chi gydymffurfio am gyfnod o 24 mis. Golyga hyn bod angen i chi gyflwyno’ch 2 Ffurflen Dreth flynyddol nesaf mewn pryd. Ni fydd eich diweddariadau chwarterol yn cael eu hystyried yn rhan o’r cyfnod cydymffurfio.
Cosbau i wirfoddolwyr mewn perthynas â diweddariadau chwarterol
Nid oes cosbau am fethu’r dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno diweddariadau chwarterol tra byddwch yn gwirfoddoli i ddefnyddio’r gwasanaeth Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Os byddwch yn rhoi’r gorau i wirfoddoli
Os oes rhaid i chi ddefnyddio Troi Treth yn y Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn y dyfodol:
- bydd cosbau am gyflwyno’n hwyr yn berthnasol os ydych yn methu dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno diweddariadau chwarterol
- bydd eich trothwy pwyntiau cosb yn cynyddu o 2 bwynt i 4 pwynt
Er enghraifft, mae’n bosibl y byddwch yn gwirfoddoli ar gyfer blwyddyn dreth 2025 i 2026, ond yna bod disgwyl i chi ddefnyddio’r gwasanaeth Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm o 6 Ebrill 2026. O 6 Ebrill 2026 ymlaen, byddwch yn cael pwynt cosb am gyflwyno diweddariad chwarterol yn hwyr, a bydd eich trothwy pwyntiau cosb yn codi i 4 pwynt.
Cosbau am dalu’n hwyr
Os yw’ch taliad yn fwy na 15 diwrnod yn hwyr, byddwn yn codi cosbau am dalu’n hwyr arnoch.
Mae’r cosbau newydd am dalu’n hwyr yn cael eu cyfrifo ar sail pa mor hir y mae’n ei gymryd i chi dalu’r hyn sydd arnoch. Golyga hyn po fwyaf yr amser y cymerir i chi dalu, y mwyaf yw’r gosb y bydd angen i chi ei thalu. Nid yw’r cosbau hyn yn seiliedig ar system bwyntiau.
Gall cosbau am dalu’n hwyr fod yn berthnasol i unrhyw daliadau Treth Incwm Hunanasesiad sydd heb eu talu’n llawn erbyn y dyddiad dyledus perthnasol. Gall hyn gynnwys:
- taliadau mantoli
- symiau dyledus yn dilyn diwygiad neu asesiad
Nid yw cosbau am dalu’n hwyr yn berthnasol ar gyfer unrhyw daliadau ar gyfrif y gallai fod angen i chi eu gwneud.
Po gynted y byddwch yn talu’r gosb am dalu’n hwyr, y lleiaf fydd swm y gosb.
Byddwn yn codi llog am dalu’n hwyr (yn agor tudalen Saesneg) o’r diwrnod cyntaf y mae’ch taliad yn hwyr, hyd nes y byddwch wedi talu’n llawn.
Mae’r tablau canlynol yn dangos sut mae cosbau am dalu’n hwyr yn berthnasol, yn dibynnu ar ba flwyddyn dreth y mae’r taliad yn berthnasol iddi.
Cosbau am dalu’n hwyr ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025
Cosb gyntaf am dalu’n hwyr | Ail gosb am dalu’n hwyr | |
---|---|---|
Taliad sydd hyd at 15 diwrnod yn hwyr | Dim | Dim |
Taliad sydd rhwng 16 a 30 diwrnod yn hwyr | 2% o’r dreth sydd arnoch ar ddiwrnod 15 | Dim |
Taliad sydd 31 diwrnod neu fwy yn hwyr | 2% o’r hyn a oedd yn ddyledus ar ddiwrnod 15, ynghyd â 2% o’r hyn sy’n ddyledus ar ddiwrnod 30 | Cyfradd flynyddol o 4% y flwyddyn ar y balans sydd heb ei dalu Caiff ei godi’n ddyddiol o ddiwrnod 31, hyd nes y bydd y balans sydd heb ei dalu yn cael ei dalu’n llawn |
Cosbau am dalu’n hwyr ar gyfer blwyddyn dreth 2025 i 2026 ymlaen
Cosb gyntaf am dalu’n hwyr | Ail gosb am dalu’n hwyr | |
---|---|---|
Taliad sydd hyd at 15 diwrnod yn hwyr | Dim | Dim |
Taliad sydd rhwng 16 a 30 diwrnod yn hwyr | 3% o’r dreth sydd arnoch ar ddiwrnod 15 | Dim |
Taliad sydd 31 diwrnod neu fwy yn hwyr | 3% o’r hyn a oedd yn ddyledus ar ddiwrnod 15, ynghyd â 3% o’r hyn sy’n ddyledus ar ddiwrnod 30 | Cyfradd flynyddol o 10% y flwyddyn ar y balans dyledus Caiff ei godi’n ddyddiol o ddiwrnod 31, hyd nes y bydd y balans sydd heb ei dalu yn cael ei dalu’n llawn |
Os na allwch dalu mewn pryd
Cysylltwch â CThEF cyn gynted â phosibl os ydych yn cael trafferth i dalu eich Treth Incwm erbyn y dyddiad dyledus.
Er mwyn osgoi cosbau uwch, dylech wneud naill neu’r llall o’r canlynol:
- talu’r hyn sy’n ddyledus gennych yn llawn, ar neu cyn y dyddiad dyledus
- cysylltu gyda ni er mwyn gwneud cais i sefydlu Trefniant Amser i Dalu
Gall sefydlu Trefniant Amser i Dalu stopio eich cosbau am dalu’n hwyr rhag codi.
Gwneud apêl
Byddwn yn anfon llythyr o benderfyniad ynghylch cosb atoch os byddwch yn cael un o’r canlynol:
- cosb am dalu’n hwyr
- pwynt cosb am gyflwyno’n hwyr
- cosb ariannol £200 am gyflwyno’n hwyr
Mae angen dilyn yr un broses wrth apelio yn erbyn penderfyniad ynghylch Hunanasesiad ag y byddech yn ei defnyddio wrth apelio yn erbyn penderfyniad ynghylch Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm. Os nad ydych yn cytuno gyda’n penderfyniad, gwiriwch sut a phryd i wneud apêl yn erbyn y penderfyniad hwnnw.
Updates to this page
-
Information has been updated to confirm that you must agree to the new penalties when you sign up and you will be asked in the service if you agree. Information about late submission penalties has been updated to clarify that it is a points-based system and that when you reach a penalty points threshold, you’ll get a financial penalty. Section 'How late submission penalties work' has been updated to confirm the information is for volunteers. A new section about what happens when you stop volunteering has been added. Information about payment penalties for the 2025 to 2026 tax year onwards has been added. Section 'If you cannot pay on time' has been updated to confirm that the appeals process for Making Tax Digital for Income Tax is the same as Self Assessment.
-
First published.