Canllawiau

Cofrestru fel is-gontractwr sy’n unig fasnachwr gyda thaliad o dan ddidyniad drwy’r post

Defnyddiwch ffurflen bost CIS301 i gofrestru fel is-gontractwr o dan Gynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS) gyda thaliad o dan ddidyniad.

Cyn i chi ddechrau

Y ffordd gyflymaf o gofrestru fel is-gontractwr CIS (yn agor tudalen Saesneg) yw drwy gofrestru ar-lein. Mae’n bosibl y byddwch hefyd yn gallu gwneud cais i gael statws taliadau gros (yn agor tudalen Saesneg) os nad ydych am i gontractwyr gymryd didyniadau ymlaen llaw.

Cofrestru fel is-gontractwr sy’n unig fasnachwr

Argraffu’r ffurflen CIS301, a’i lenwi.

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch different.format@hmrc.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Anfonwch e-bost at CThEF er mwyn gofyn am y ffurflen yn Gymraeg.

Ble y dylech chi anfon y ffurflen?

Gweithrediadau Treth Bersonol 
Gwasanaeth Cwsmeriaid
Cymraeg CThEF
Ѹ
BX9 1ST

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 27 Awst 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 19 Rhagfyr 2024 show all updates
  1. The page attachment 'Register as a sole trader with payment under deduction' has been replaced with a new version.

  2. First published.

Argraffu'r dudalen hon