Canllawiau

Sut i godi pryder

Ynglŷn ag atwrnai, dirprwy neu warcheidwad

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Sut i godi pryder

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch customerservices@publicguardian.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Y ffordd gyflymaf i ni ymateb i’ch pryder yw os byddwch yn llenwi ein ffurflen codi pryderon. Llenwch y ffurflen gyda chymaint o wybodaeth ag sydd gennych, ac yna e-bostiwch y ffurflen atom yn

opg.safeguardingunit@publicguardian.gov.uk

Dylech gynnwys y canlynol:

  • manylion y rhoddwr neu’r cleient (gan gynnwys enw llawn, cyfeiriad a dyddiad geni)
  • y dyddiad y gwnaethoch sylwi ar y pryder am y tro cyntaf
  • unrhyw dystiolaeth sydd gennych i gefnogi’r pryder – er enghraifft, cofnodion ariannol
  • beth rydych chi’n ei wybod am [alluedd meddyliol] y person (/make-decisions-for-someone/assessing-mental-capacity), gan gynnwys copïau o unrhyw adroddiadau galluedd meddyliol neu enwau’r rheini sy’n dal yr adroddiadau hyn
  • eich manylion cyswllt

Yna bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ystyried a oes ganddynt yr awdurdod cyfreithiol i ymchwilio.

Hyd yn oed os nad oes gennych chi’r holl wybodaeth, bydd dal yn bosib i chi roi gwybod inni am bryder sydd gennych.

Fel arall, gallwch anfon e-bost atom, ysgrifennu atom neu ein ffonio.

Anfonwch neges e-bost at Uned Ddiogelu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
opg.safeguardingunit@publicguardian.gov.uk

Ffôn: 0300 456 0300
Ffonio o tu allan i’r DU: +44 (0)203 518 9639
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 0300 123 1300
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9:30am i 5pm
Dydd Mercher, 10am i 5pm

Sylwer, oherwydd diffyg staff sy’n siarad Cymraeg, ni allwn ateb galwadau yn Gymraeg. Gallwch naill ai barhau â’ch galwad yn Saesneg, neu ysgrifennu eich ymholiad mewn e-bost a’i anfon i opgcasework@publicguardian.gov.uk Yna, byddwn yn ymateb i chi yn Gymraeg

Dysgu mwy am gostau galwadau

Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus / Office of the Public Guardian
PO Box 16185
Birmingham
B2 2WH

Ffyrdd eraill o godi pryder

Gallwch hefyd gysylltu â’r canlynol:

Ffoniwch 999 os oes rhywun mewn perygl uniongyrchol neu os ydych chi’n meddwl bod rhywun wedi cyflawni trosedd.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 17 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 26 Gorffennaf 2022 show all updates
  1. Page now links to gov.uk main page Welsh versions of OPG130 added

  2. Added translation

Argraffu'r dudalen hon