Canllawiau

Bwrdd ymddiriedolwyr: pobl a sgiliau

Gwiriwch pwy sy'n gymwys i fod yn ymddiriedolwr a pha sgiliau sydd eu hangen arnynt

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Gwiriwch pwy sy’n gymwys i fod yn ymddiriedolwr

Dywed y gyfraith na all rhai pobl fod yn ymddiriedolwr elusen.

Rhaid i chi beidio â phenodi person na chaniateir iddo yn ôl y gyfraith fod yn ymddiriedolwr.

Defnyddiwch ganllaw ar ddod o hyd i ymddiriedolwyr a’u penodi. Mae hwn yn nodi’r gwiriadau y mae’n rhaid i chi eu gwneud cyn i chi benodi ymddiriedolwyr newydd. Mae’n cynnwys canllawiau ar wirio:

  • os yw person yn bodloni’r gofyniad oedran lleiaf ar gyfer ymddiriedolwyr
  • nad yw person wedi’i anghymhwyso rhag bod yn ymddiriedolwr
  • os oes angen gwiriad DBS perthnasol ar gyfer swydd ymddiriedolwr

Recriwtio ymddiriedolwyr newydd

Efallai bod eich elusen yn recriwtio ymddiriedolwyr newydd am y tro cyntaf.

Defnyddiwch canllaw ar ddod o hyd i ymddiriedolwyr a’u penodi i’ch helpu i:

  • nodi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch ar eich bwrdd ymddiriedolwyr i symud eich elusen ymlaen
  • annog pobl i wneud cais i fod yn ymddiriedolwyr eich elusen
  • hysbysu ymddiriedolwyr newydd am eu cyfrifoldebau cyfreithiol
  • croesawu, hyfforddi a chefnogi ymddiriedolwyr newydd

Wrth recriwtio eich bwrdd ymddiriedolwyr cyntaf:

  • ceisiwch amrywio hyd yr apwyntiadau cyntaf, fel na fydd eich ymddiriedolwyr i gyd yn newid ar unwaith
  • ystyriwch osod disgrifiadau rôl clir ar gyfer ymddiriedolwyr, gan gynnwys ar gyfer deiliaid swyddi penodol fel eich cadeirydd a’ch trysorydd

Rheolau dogfen lywodraethol ynghylch penodi ymddiriedolwyr

Pan fyddwch yn creu dogfen lywodraethol eich elusen, bydd yn cynnwys rheolau ynghylch penodi ymddiriedolwyr. Er enghraifft, gall ddweud:

  • beth yw’r nifer lleiaf o ymddiriedolwyr y mae’n rhaid i’ch elusen eu cael, ac a oes terfyn uchaf
  • am ba hyd y gall ymddiriedolwyr fod yn eu swyddi
  • os gall sefydliadau eraill benodi ymddiriedolwyr eich elusen
  • os oes rhaid i aelodau eich elusen ethol rhai neu bob un o’ch ymddiriedolwyr
  • y broses y mae’n rhaid i chi ei dilyn i benodi ymddiriedolwyr newydd
  • pwy all fod yn ymddiriedolwr eich elusen. Er enghraifft, gall ddweud bod yn rhaid i rai neu bob un o’ch ymddiriedolwyr fyw mewn lle penodol

Rhaid i chi ddilyn yr hyn y mae eich dogfen lywodraethol yn ei ddweud.

Ymddiriedolwyr sy’n byw y tu allan i’r DU

Gallwch benodi rhywun sy’n byw y tu allan i’r DU yn ymddiriedolwr. Mae hyn yn cynnwys:

  • dinasyddion nad ydynt yn Brydeinig
  • pobl yn y DU ar fisâu dros dro neu sy’n ceisio lloches
  • dinasyddion Prydeinig sy’n byw dramor

Gwiriwch fod y person yn gymwys i fod yn ymddiriedolwr, a bod y penodiad:

  • yn un a ganiateir gan ddogfen lywodraethol eich elusen (gwiriwch am unrhyw gyfyngiadau preswyl neu gyfyngiadau tebyg)
  • er lles gorau eich elusen, fel bod buddion y penodiad yn drech nag unrhyw faterion neu broblemau

Ystyriwch sut y byddwch yn:

  • cynnal cyfarfodydd os yw un neu fwy o ymddiriedolwyr yn byw dramor
  • sicrhau cyfranogiad rheolaidd a gweithredol gan yr ymddiriedolwyr hyn

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 9 Mai 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 14 Mai 2025 show all updates
  1. Updated guidance to reflect good practice on trustee recruitment

  2. Added links to organisations that can help with trustee training and recruitment

  3. First published.

Argraffu'r dudalen hon