Gwiriadau cydymffurfio treth

Efallai y bydd eich materion treth yn cael eu gwirio i sicrhau eich bod yn talu’r swm cywir. Gall hyn ddigwydd os ydych yn drethdalwr unigol neu os ydych yn rhedeg busnes.

Mae’r arweiniad hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Beth all CThEF ei wirio

Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn ysgrifennu neu’n ffonio i ddweud beth mae am ei wirio. Er enghraifft:

  • unrhyw drethi rydych yn eu talu

  • cyfrifon a chyfrifiadau treth

  • eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad

  • eich Ffurflen Dreth y Cwmni

  • cofnodion a Ffurflenni Treth TWE, os ydych yn cyflogi pobl

Os ydych yn defnyddio cyfrifydd, bydd CThEF yn cysylltu ag ef yn lle.

I awdurdodi rhywun heblaw asiant treth, ysgrifennwch i CThEF. Rhowch wybod iddo pwy rydych am ei ddefnyddio ac ar gyfer pa dreth.

Beth sy’n digwydd yn ystod gwiriad

Efallai y bydd CThEF yn gofyn am ymweld â’ch cartref, busnes neu swyddfa ymgynghorydd, neu ofyn i chi ymweld â CThEF. Gallwch gael cyfrifydd neu ymgynghorydd cyfreithiol gyda chi yn ystod ymweliad.

Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cosb os bydd CThEF yn anfon hysbysiad archwilio neu hysbysiad gwybodaeth atoch ac nad ydych yn anfon gwybodaeth neu’n gwrthod ymweliad. Ni fydd yn rhaid i chi dalu cosb os oes gennych esgus rhesymol, er enghraifft:

  • os ydych yn ddifrifol wael

  • mae rhywun agos atoch wedi marw

Os credwch y dylai CThEF atal y gwiriad, ysgrifennwch i’r swyddfa a anfonodd y llythyr atoch, gan roi eich rhesymau pam.

Gallwch wneud cais am Ddull Amgen o Ddatrys Anghydfod (ADR) ar unrhyw adeg os nad ydych yn cytuno gyda phenderfyniad CThEF neu’r hyn mae’n ei wirio.

Gallwch gael help os yw CThEF wedi cysylltu â chi ynglŷn â gwiriad cydymffurfio.

Ar ôl y gwiriad

Bydd CThEF yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi ganlyniadau’r gwiriad.

Byddwn yn:

  • eich ad-dalu os ydych wedi talu gormod o dreth - efallai y byddwch hefyd yn cael llog ar y swm sydd arnoch 

  • gofyn i chi dalu treth ychwanegol cyn pen 30 diwrnod os oes arnoch fwy - fel rheol bydd yn rhaid i chi dalu llog o’r dyddiad yr oedd y dreth yn ddyledus

Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cosb hefyd. Bydd CThEF yn edrych ar y canlynol:

  • y rhesymau pam y gwnaethoch dandalu neu or-hawlio’r dreth

  • a wnaethoch roi gwybod i CThEF cyn gynted ag y bu modd

  • faint o gymorth rydych wedi ei roi yn ystod y gwiriad

Os oes gennych broblemau talu, dylech roi gwybod i’r swyddog sy’n delio â’r gwiriad.

Gallwch apelio penderfyniad treth os ydych yn anghytuno ag ef.