Gwirio rhif EORI
Mae angen rhif EORI dilys ar fusnes i symud nwyddau rhwng Prydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban) a gwledydd eraill. Mae hefyd angen un er mwyn symud nwyddau o Ogledd Iwerddon i wledydd nad ydynt yn rhan o’r UE.
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wirio a yw rhif EORI sy’n dechrau gyda GB (a roddir gan y DU) yn ddilys.
Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Gallwch hefyd weld enw a chyfeiriad y busnes y mae’r rhif EORI wedi’i gofrestru iddo, os yw wedi cytuno i rannu’r wybodaeth hon.
Beth mae angen i chi wybod
Mae’r gwasanaeth hwn yn gwirio rhifau EORI sy’n dechrau gyda GB yn unig.
Os yw’r rhif EORI sydd gennych yn dechrau gydag XI, neu unrhyw lythyrau eraill, .