Gwiriwch yr hysbysydd patentau
Gwiriwch am newidiadau i batentau yn y DU, gan gynnwys ceisiadau newydd neu newidiadau i geisiadau yn y gwasanaeth ‘Chwilio’r Hysbysydd Eiddo Deallusol’.
Gallwch hefyd ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i wirio am newidiadau i dystysgrifau diogelu atodol (SPC).
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i weld:
- ceisiadau patent yn y DU
- patentau Ewropeaidd sy’n gymwys yn y DU
- achosion cyfreithiol patentau eraill
²Ñ²¹±ð’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i ddod o hyd i fanylion patent neu SPC. Defnyddiwch y gwasanaeth chwilio am batent yn lle.
Os ffeiliwyd y cais ar neu cyn 21 Ionawr 2025
Ni allwch weld na lawrlwytho hysbysyddion a gyhoeddwyd ar neu cyn 21 Ionawr 2025 gyda’r gwasanaeth hwn.
Os cyhoeddwyd yr hysbysydd rhwng 26 Mawrth 2008 a 22 Ionawr 2025, gallwch mewn fformat PDF neu XML.
Os cyhoeddwyd yr hysbysydd rhwng 12 Awst 1998 a 26 Mawrth 2008, gallwch yn yr Archif Genedlaethol.
Chwilio’r hysbysyddion patentau yn Guernsey
²Ñ²¹±ð’r yn cynnwys manylion ceisiadau patent newydd yn Guernsey.