Cael help ariannol gyda thâl statudol
Yr hyn y gallwch ei adennill
Fel cyflogwr, fel arfer gallwch adennill 92% o’r Tâl Mamolaeth Statudol (SMP), Tâl Tadolaeth Statudol (SPP), Tâl Mabwysiadu Statudol (SAP), Tâl Statudol Rhieni Mewn Profedigaeth, Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol a Thâl Statudol ar y Cyd i Rieni mae eich cyflogeion yn ei gael.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Gallwch adennill 108.5% os yw’ch busnes yn gymwys i gael Rhyddhad Cyflogwyr Bach. Cewch hyn os gwnaethoch dalu £45,000 neu lai mewn Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 (gan anwybyddu unrhyw ostyngiadau fel Lwfans Cyflogaeth (yn agor tudalen Saesneg)) yn y flwyddyn dreth gyflawn ddiwethaf cyn:Â
-
yr ‘wythnos gymhwysol’ – y 15fed wythnos (dydd Sul i ddydd Sadwrn) cyn wythnos y dyddiad disgwyl
-
yr ‘wythnos baru’ – yr wythnos (dydd Sul i ddydd Sadwrn) yr hysbyswyd eich cyflogai ei fod wedi cael ei baru â phlentyn gan yr asiantaeth fabwysiaduÂ
-
y dyddiad ar yr hysbysiad swyddogol os yw’ch cyflogai yn mabwysiadu plentyn o wlad arallÂ
-
yr ‘wythnos gymhwysol’ – yr wythnos (dydd Sul i ddydd Sadwrn) cyn marwolaeth neu farw-enedigaeth y plentyn, ar gyfer Tâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth
-
yr ‘wythnos berthnasol’ – yr wythnos (dydd Sul i ddydd Sadwrn) cyn i’r plentyn ddechrau cael gofal newyddenedigol, oni bai bod eich cyflogai yn gymwys i gael SMP, SPP neu SAP - mewn achos o’r fath, defnyddiwch yr wythnos berthnasol neu gymhwysol ar gyfer y tâl statudol hwnnw yn lle
Sut i adennill
Cyfrifwch faint y byddwch yn ei gael yn ôl gan ddefnyddio’ch meddalwedd gyflogres. I adennill y taliadau, dylech eu cynnwys mewn Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr (yn agor tudalen Saesneg) (EPS) i Gyllid a Thollau EF (CThEF).
Gallwch ysgrifennu i’r Swyddfa Cyflogwyr TWE i ofyn am ad-daliad os na allwch osod y taliadau yn erbyn rhwymedigaethau’r flwyddyn bresennol. Ni allwch wneud hyn tan ddechrau’r flwyddyn dreth nesaf.
Swyddfa Cyfraniadau Yswiriant Gwladol a Chyflogwyr
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST