Sut i herio

Ar gyfer eiddo yng Nghymru a Lloegr, defnyddiwch y gwasanaeth ar-lein i wneud her. Gallwch ddefnyddio hwn p’un a oes gennych hawl gyfreithiol i herio ai peidio.

Efallai y bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth i gefnogi eich achos.

Rhaid i chi barhau i dalu y Dreth Gyngor tra bod eich her yn cael ei hadolygu.

Gallwch hefyd benodi rhywun arall i herio ar eich rhan.

Gwiriwch .

Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein

I ofyn i eiddo gael ei dynnu oddi ar restr y Dreth Gyngor, bydd angen i chi lenwi ffurflen her y Dreth Gyngor yn lle hynny.

I herio band Treth Gyngor, gallwch hefyd ffonio neu e-bostio Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA). Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth pan fyddwch yn cysylltu â nhw.

Asiantaeth y Swyddfa Brisio
ctinbox@voa.gov.uk
Ffôn (Lloegr): 03000 501 501
Ffôn (Cymru): 03000 505 505
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9:00am i 4:30pm
Gwybodaeth am gostau galwadau