Cael llyfr log cerbyd (V5CW)
Printable version
1. Cael llyfr log (V5CW) dyblyg
Mae angen ichi gael llyfr log (V5CW) os yw’r un wreiddiol ar goll, wedi’i ddwyn, ei ddifetha neu ei ddinistrio gennych chi neu’ch cwmni yswiriant.
Gallwch gael V5CW ddyblyg ar-lein neu dros y ffôn os gall y manylion yn y V5CW aros yr un fath. Bydd y V5CW yn cael ei phostio i’r cyfeiriad sydd gan y DVLA ar gofnod y cerbyd.
Gallwch drethu eich cerbyd ar-lein ar ôl gwneud cais am V5CW ddyblyg.
Mae ffyrdd eraill o gael V5CW os oes angen newid unrhyw beth yn y V5CW. Er enghraifft, os:
- yw’ch enw neu’ch cyfeiriad wedi newid
- yw manylion y cerbyd wedi newid
- rydych wedi prynu, gwerthu neu drosglwyddo cerbyd
- na chawsoch V5CW gyda’ch cerbyd newydd
Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Gwneud cais ar-lein am V5CW ddyblyg
Rhaid ichi fod y ceidwad cofrestredig ar y V5CW i wneud cais ar-lein.
Byddwch yn derbyn eich V5CW o fewn 5 diwrnod gwaith fel arfer.
Cysylltwch â DVLA os nad ydych wedi derbyn eich V5CW ac mae wedi bod yn 2 wythnos ers ichi wneud cais.
Os nad ydych wedi derbyn eich V5CW ar ôl 6 wythnos ac nad ydych wedi rhoi gwybod i DVLA, bydd rhaid ichi dalu £25 i gael un amnewid.
Pan na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn
Ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn os:
- oes angen ichi newid unrhyw un o’ch manylion
- nad yw’r cerbyd yn eich meddiant
- rydych eisoes wedi anfon eich V5CW i DVLA er mwyn iddynt wneud newidiadau
- yw’ch cerbyd wedi’i gofrestru fel rhan o gynllun fflyd DVLA
- yw’ch cerbyd wedi’i gofrestru dramor, gan gynnwys Ynysoedd y Sianel (Jersey a Guernsey), Ynys Manaw neu Iwerddon
Faint yw’r gost
Mae’r gwasanaeth fel arfer yn costio £25. Gallwch dalu drwy gerdyn debyd neu gredyd.
Ni allwch gael ad-daliad ar ôl ichi ddefnyddio’r gwasanaeth (er enghraifft os ydych yn dod o hyd i’ch V5CW yn ddiweddarach).
Gwneud cais ar-lein
Bydd arnoch angen:
- rhif cofrestru’r cerbyd
- rhif adnabod (VIN) y cerbyd neu rif siasi y cerbyd
- yr enw a chod post sydd wedi’u cofrestru ar eich V5CW
Gwneud cais am V5CW ddyblyg dros y ffôn
Gallwch wneud cais dros y ffôn os mai chi yw’r ceidwad cofrestredig ar y V5CW sydd wedi mynd ar goll neu wedi’i difetha.
Ni allwch wneud cais dros y ffôn os bydd unrhyw un o’ch manylion neu fanylion eich cerbyd wedi newid. Ni ddylai’r manylion fod yn wahanol i’r wybodaeth yn y V5CW sydd ar goll neu wedi’i difetha.
Bydd arnoch angen:
- rhif cofrestru’r cerbyd
- rhif adnabod (VIN) y cerbyd neu rif siasi y cerbyd
- yr enw a chod post sydd wedi’u cofrestru ar eich V5CW
Cysylltwch â DVLA dros y ffôn i wneud cais.
Fel arfer byddwch yn derbyn eich V5CW ar ôl 4 wythnos os byddwch yn gwneud cais fel hyn. Cysylltwch â DVLA os nad ydych wedi derbyn eich V5CW ac mae wedi bod yn 4 wythnos ers ichi wneud cais.
Os nad ydych wedi derbyn eich V5CW ar ôl 6 wythnos ac nad ydych wedi rhoi gwybod i DVLA, bydd rhaid ichi dalu £25 i gael un amnewid.
2. Os na allwch gael llyfr log (V5CW) ar-lein
Mae ffyrdd eraill o gael llyfr log (V5CW) newydd os:
Dylech wneud cais drwy’r post os oes angen ichi newid manylion y cerbyd.
Byddwch yn derbyn eich V5CW o fewn 4 wythnos fel arfer os ydych yn gwneud cais drwy’r post.
Cysylltwch â DVLA os nad ydych wedi derbyn eich V5CW ac mae wedi bod yn 4 wythnos ers ichi wneud cais.
Os nad ydych wedi derbyn eich V5CW ar ôl 6 wythnos ac nad ydych wedi rhoi gwybod i DVLA, bydd rhaid ichi dalu £25 i gael un amnewid.
Gwneud cais drwy’r post am V5CW amnewid
-
Lawrlwytho a llenwi cais am V5CW (ffurflen V62W).
-
Anfon i DVLA gyda siec neu archeb bost am £25 yn daladwy i ‘DVLA, Abertawe’.
DVLA
Abertawe
SA99 1DD
Os na chawsoch V5CW am eich cerbyd newydd
-
Lawrlwytho a llenwi cais am V5CW (ffurflen V62W).
-
Anfon i DVLA gyda’r slip ‘ceidwad newydd’ gwyrdd a roddwyd ichi gan y gwerthwr.
Mae angen i’r slip ceidwad newydd fod o’r V5CW ddiweddaraf. Gwiriwch fod y dyddiad ar y slip yn cyfateb i’r dyddiad cyhoeddi V5CW olaf ar y gwasanaeth ymholiad cerbyd os nad ydych yn siŵr.
Os nad ydych yn anfon y slip ceidwad newydd o’r V5CW ddiweddaraf, bydd rhaid ichi dalu £25. Bydd angen cynnwys siec neu archeb bost yn daladwy i ‘DVLA, Abertawe’.
DVLA
Abertawe
SA99 1DD
Os nad oes gennych V5CW ac rydych wedi cymryd eich cerbyd y tu allan i’r DU
Cysylltwch ag awdurdod gyrru’r wlad rydych wedi cymryd y cerbyd iddi. Byddant yn dweud wrthych sut i gofrestru’r cerbyd heb V5CW.
Anfonwch lythyr i DVLA i roi gwybod iddynt eich bod wedi cymryd y cerbyd y tu allan i’r wlad. Bydd angen cynnwys:
- eich enw a chyfeiriad
- y dyddiad roeddech wedi cymryd y cerbyd y tu allan i’r wlad
- ble mae DVLA yn gallu anfon yr ad-daliad treth cerbyd os oes gennych hawl i un
DVLA
Abertawe
SA99 1DD
Os oes angen ichi drethu’ch cerbyd hefyd
Efallai y byddwch yn gallu trethu’ch cerbyd yn Swyddfa’r Post a gwneud cais am V5CW ar yr un pryd.
-
Cwblhau cais am V5CW (ffurflen V62W).
-
Cymryd y ffurflen wedi’i chwblhau a £25 i gangen sy’n delio â threth cerbyd.
cyn ichi deithio.