Newid eich enw trwy weithred newid enw

Printable version

1. Sut i newid eich enw

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Mae gweithred newid enw yn ddogfen gyfreithiol sy’n profi newid enw.

Gallwch newid unrhyw ran o’ch enw, ychwanegu neu ddileu enwau neu gysylltnodau, neu newid y sillafiad.

Rhaid i chi:

  • allu ynganu eich enw newydd
  • ni ddylai eich enw newydd gynnwys symbolau, rhifau neu atalnodau (oni bai ei fod yn enw gyda chysylltnod neu’n enw sefydledig fel O’Hara)
  • ni ddylai eich enw newydd fod yn sarhaus neu’n erbyn budd y cyhoedd (er enghraifft, ychwanegu Cyf ar ddiwedd yr enw)

Ni allwch ddefnyddio gweithred newid enw i:

  • newid pa lythrennau yn eich enw sy’n briflythrennau
  • newid teitlau, er enghraifft, Mr, Mrs, Syr, Y Fonesig neu Doctor

Mae yna wahanol reolau ar gyfer .

Dewis gweithred newid enw

Os ydych chi’n 16 oed neu drosodd, gallwch wneud gweithred newid enw eich hun a dechrau defnyddio enw newydd (a elwir yn ‘gweithred newid enw anghofrestredig’). Os ydych chi’n 18 oed neu drosodd, gallwch wneud cais i roi eich newid enw ar gofnod cyhoeddus trwy’r Uchel Lys (a elwir yn ‘gweithred newid enw cofrestredig’). 

Mae gweithred newid enw cofrestredig yn costio £50.32.

Efallai y bydd rhai sefydliadau (fel rhai banciau, cwmnïau ffonau symudol neu ddarparwyr ynni) ond yn derbyn gweithred newid enw cofrestredig i newid eich enw ar eu cofnodion. Cysylltwch â’r sefydliad i ddeall y math o weithred newid enw y byddant yn derbyn fel prawf o’ch enw newydd.

Dewiswch rhwng gwneud:

Os ydych chi’n breswylydd parhaol dramor, ni allwch newid eich enw trwy weithred newid enw.

Priodas a phartneriaeth sifil

Nid ydych angen gweithred newid enw i allu defnyddio cyfenw eich priod neu bartner sifil. Anfonwch gopi o’ch tystysgrif priodas neu dystysgrif partneriaeth sifil i ddalwyr cofnodion.

Os byddwch yn cael ysgariad neu’n dod â’ch partneriaeth sifil i ben

Efallai y gallwch fynd yn ôl i ddefnyddio’ch enw gwreiddiol drwy ddangos un o’r canlynol i ddalwyr cofnodion:

  • tystysgrif priodas a dyfarniad absoliwt
  • tystysgrif partneriaeth sifil a gorchymyn terfynol

Ni fydd rhai sefydliadau’n newid eich enw’n ôl heb weithred newid enw.

Os ydych chi’n droseddwr cofrestredig

Mae’n rhaid i chi ddweud wrth yr heddlu eich bod chi wedi newid eich enw o fewn 3 diwrnod os ydych wedi’ch cofrestru yn:

  • droseddwr rhyw
  • troseddwr treisgar
  • troseddwr terfysgol

Rhaid i chi fynd i’ch gorsaf heddlu leol i wneud hyn. Fe ddywedir wrthych ble yw hyn pan gewch eich rhyddhau.

Mae’n drosedd i beidio â dweud wrth yr heddlu eich bod chi wedi newid eich enw.

2. Gwneud eich gweithred newid enw anghofrestredig eich hun

Mae’n rhaid i chi fod yn 16 oed neu drosodd i wneud gweithred newid enw ‘anghofrestredig’.

Efallai na fydd rhai sefydliadau’n derbyn gweithred newid enw rydych wedi gwneud eich hun fel prawf o’ch enw newydd. Gofynnwch i’r sefydliad rydych yn delio â nhw (er enghraifft eich banc) os ydych angen gweithred newid enw ‘cofrestredig’ yn lle hyn.

Gall asiantaeth arbenigol neu gyfreithiwr wneud y weithred newid enw ar eich rhan - efallai y byddant yn codi ffi arnoch.

Sut i wneud gweithred newid enw eich hun

Byddwch angen i 2 dyst lofnodi eich gweithred newid enw. Rhaid iddynt fod yn 18 oed neu’n hŷn.

Ni fydd rhai sefydliadau’n derbyn gweithred newid enw os yw tyst yn byw yn yr un cyfeiriad â’r unigolyn sy’n gwneud y cais neu os yw’n berthynas agos.

Defnyddiwch y geiriad canlynol. Rhowch y manylion perthnasol yn y cromfachau sgwâr.

Gweithred newid enw

“Rwyf i [hen enw] o [eich cyfeiriad] wedi rhoi fyny fy enw [hen enw] ac wedi mabwysiadu er pob pwrpas yr enw [enw newydd].

“Lle bo hynny’n berthnasol, rwyf wedi hysbysu’r heddlu fy mod wedi rhoi fyny fy enw [hen enw] ac wedi mabwysiadu’r enw [enw newydd] ac rwy’n deall bod methu â gwneud hynny’n drosedd.

“Rwyf hefyd yn deall pan fyddaf yn gwneud cais am ddogfennau swyddogol yn fy enw newydd, megis Pasbort Prydeinig, efallai y bydd yr awdurdodau perthnasol yn gwirio hanes a dilysrwydd fy hen enw [hen enw] ac enw newydd [enw newydd]. Efallai y byddant hefyd yn gwirio’r wybodaeth mewn unrhyw ddogfennau ategol eraill y maent wedi gofyn amdanynt.

“Llofnodwyd fel gweithred ar [dyddiad] fel [hen enw] ac [enw newydd] ym mhresenoldeb [enw tyst 1] o [cyfeiriad tyst 1], ac [enw tyst 2] o [cyfeiriad tyst 2].

“[eich llofnod newydd], [eich hen lofnod]

“[llofnod tyst 1], [llofnod tyst 2]â€

Ar ôl i chi wneud eich gweithred newid enw eich hun

Gallwch ddefnyddio eich gweithred newid enw wedi’i llofnodi yn syth fel prawf o’ch enw newydd.

Mae’n drosedd os ydych chi’n droseddwr cofrestredig ac nid ydych chi’n dweud wrth yr heddlu eich bod wedi newid eich enw.

3. Cofrestru gweithred newid enw gyda’r llysoedd

Gallwch roi eich enw newydd ar gofnod cyhoeddus drwy ei ‘gofrestru’ gyda’r Uchel Lys.

Gallwch gofrestru gweithred newid enw ar-lein neu drwy’r post. Mae’n costio £50.32.

Bydd cofnod cyhoeddus o’ch newid enw a’ch cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi yn . Os oes gennych reswm cryf pam na ddylid cyhoeddi eich manylion, eglurwch pam yn eich cais. Efallai y bydd y barnwr yn cytuno i gyhoeddi eich enw cyntaf neu gyfenw’n unig.

Fe anfonir copi o’ch hysbysiad Gazette atoch drwy e-bost neu drwy’r post.

Cyn i chi wneud cais

Bydd angen i chi ddarparu copi o un o’r canlynol:

  • tystysgrif geni
  • pasbort dilys
  • tystysgrif frodori

Efallai y gofynnir i chi hefyd ddarparu dogfennau ategol megis:

  • dogfennau mabwysiadu (os cawsoch eich mabwysiadu)
  • copi o’ch tystysgrif priodas neu dystysgrif partneriaeth sifil (os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil)
  • cydsyniad ysgrifenedig eich gŵr, gwraig neu bartner (os ydych wedi priodi neu mewn partneriaeth sifil)
  • llythyr cydsynio (os na all yr unigolyn sy’n gwneud cais lenwi’r ffurflen ei hun oherwydd rhesymau meddygol)

Os nad yw eich dogfennau’n Gymraeg neu’n Saesneg, bydd angen i chi hefyd ddarparu cyfieithiad ardystiedig ohonynt.

Os ydych wedi ysgaru neu’n weddw 

Bydd angen i chi hefyd ddarparu naill ai:

  • llungopi o’ch dyfarniad absoliwt neu orchymyn terfynol
  • tystysgrif marwolaeth eich gŵr, gwraig neu bartner

Gwneud cais ar-lein

Byddwch angen cerdyn debyd neu gerdyn credyd i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn. Fe ddywedir wrthych sut i dalu ar ôl i chi gyflwyno eich cais.

Unwaith y byddwch wedi dechrau eich cais ar-lein, bydd gennych opsiwn i’w gadw a dychwelyd ato yn hwyrach ymlaen. Mae’n rhaid i chi gyflwyno eich cais o fewn 28 diwrnod neu bydd rhaid i chi ddechrau eto.

Os ydych o dan 18 oed, dilynwch y broses ar gyfer newid enw plentyn.

Beth fydd yn digwydd nesaf

Bydd Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (GLlTEF) yn adolygu eich cais ac yn anfon 3 ffurflen atoch drwy e-bost: LOC020, LOC021 a LOC027. Bydd angen i chi argraffu a llenwi pob ffurflen. 

Mae angen llofnodi ffurflen LOC020 ym mhresenoldeb 2 dyst, a bydd angen iddyn nhw hefyd lofnodi’r ffurflen. 

Postiwch eich ffurflenni wedi’u llenwi i’r Swyddfa Gweithred Newid Enw.

Swyddfa Gweithred Newid Enw
Adran Mainc y Brenin
Ystafell E15
Y Llysoedd Barn Brenhinol
Strand
Llundain
WC2A 2LL

Unwaith y bydd eich cais wedi’i gwblhau a’i gymeradwyo, bydd y Swyddfa Gweithred Newid Enw yn selio eich gweithred ac yn ei hanfon yn ôl atoch drwy’r post. Dyma eich prawf eich bod wedi newid eich enw.

Gwneud cais drwy’r post

Lawrlwythwch a llenwch y ffurflenni canlynol:

Llofnodwch ffurflen LOC020 ym mhresenoldeb 2 dyst. Bydd angen i’ch tystion hefyd ei llofnodi.

Postiwch eich ffurflenni i’r Swyddfa Gweithred Newid Enw.

Swyddfa Gweithred Newid Enw
Adran Mainc y Brenin
Ystafell E15
Y Llysoedd Barn Brenhinol
Strand
Llundain
WC2A 2LL

Gwiriwch eich bod wedi llenwi’r ffurflenni’n gywir cyn i chi eu cyflwyno. Os bydd yna gamgymeriadau yn y ffurflenni byddant yn cael eu dychwelyd i chi.

Talu’r ffi

I dalu gyda cherdyn credyd neu ddebyd ffoniwch Swyddfa Ffioedd yr Uchel Lys.

Swyddfa Ffioedd yr Uchel Lys
Rhif ffôn: 020 3936 8957 (dewiswch opsiwn 1)
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Gwybodaeth am gost galwadau

Gallwch hefyd dalu gydag archeb bost neu siec (yn daladwy i ‘Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF’).

Fe roddir cyfeirnod ffi i chi ar ôl i chi dalu.

Beth fydd yn digwydd nesaf

Unwaith y bydd eich cais wedi’i gwblhau a’i gymeradwyo, bydd y Swyddfa Gweithred Newid Enw yn selio eich gweithred ac yn ei hanfon yn ôl atoch drwy’r post. Dyma eich prawf eich bod wedi newid eich enw.

Os bydd angen help neu gymorth arnoch 

Cysylltwch â’r Swyddfa Gweithred Newid Enw.

Swyddfa Gweithred Newid Enw
kbdeedspoll@justice.gov.uk
Rhif ffôn: 020 3936 8957 (dewiswch opsiwn 6)
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Gwybodaeth am gost galwadau

Mae’n drosedd os ydych chi’n droseddwr cofrestredig ac nid ydych chi’n dweud wrth yr heddlu eich bod wedi newid eich enw.

4. Newid enw plentyn

I newid enw plentyn sydd dan 18 oed gallwch naill ai:

  • wneud gweithred newid enw anghofrestredig drwy ddefnyddio asiantaeth gweithred newid enw arbenigol neu gyfreithiwr
  • cofrestru gweithred newid enw gyda’r Uchel Lys

Os ydych chi’n 16 neu 17 oed gallwch ddewis gwneud eich gweithred newid enw anghofrestredig eich hun.

Efallai y bydd rhai sefydliadau (fel rhai banciau, cwmnïau ffonau symudol neu ddarparwyr ynni) ond yn derbyn gweithred newid enw cofrestredig i newid enw ar eu cofnodion. Cysylltwch â’r sefydliad i ddeall y math o weithred newid enw y byddant yn derbyn fel prawf o’r enw newydd.

Cofrestru gweithred newid enw

Gallwch roi enw newydd eich plentyn ar gofnod cyhoeddus drwy ei ‘gofrestru’ gyda’r Uchel Lys.

Gallwch gofrestru gweithred newid enw ar-lein neu drwy’r post. Mae’n costio £50.32.

Byddwch angen naill ai:

Dylech geisio dod i gytundeb cyn i chi wneud cais am orchymyn llys.

Bydd cofnod cyhoeddus o enw newydd eich plentyn yn cael ei gyhoeddi yn . Os oes gennych reswm cryf pam na ddylid cyhoeddi manylion eich plentyn, eglurwch pam yn eich cais. Efallai y bydd y barnwr yn cytuno i gyhoeddi enw cyntaf neu gyfenw eich plentyn yn unig.

Fe anfonir copi o’r hysbysiad Gazette gydag enw eich plentyn wedi’i newid atoch drwy e-bost neu drwy’r post.

Os ydych yn 16 neu’n 17 oed ac os ydych wedi priodi neu mewn partneriaeth sifil (neu os ydych wedi bod yn y gorffennol), bydd angen i chi gofrestru gweithred newid enw fel oedolyn yn lle hyn.

Cyn i chi wneud cais

Gallwch wneud cais os mai chi yw rhiant neu warcheidwad y plentyn.

Bydd angen i chi ddarparu copi o:

  • dystysgrif geni llawn y plentyn
  • dogfennau mabwysiadu (os cawsant eu mabwysiadu)

Efallai y bydd angen i chi hefyd ddarparu dogfennau am eich statws priodasol neu eich statws perthynas, gan gynnwys:

  • llungopi o’ch dyfarniad absoliwt neu orchymyn terfynol (os ydych wedi ysgaru)
  • tystysgrif marwolaeth eich gŵr, gwraig neu bartner (os ydych yn weddw)
  • copi o’ch tystysgrif priodas neu dystysgrif partneriaeth sifil (os yw eich cyfenw ar dystysgrif geni’r plentyn yn wahanol i’ch cyfenw presennol)
  • llythyr gan eich partner presennol yn dweud eu bod yn cytuno i newid enw’r plentyn (os ydych mewn perthynas neu briodas newydd)

Os nad yw eich dogfennau’n Gymraeg neu’n Saesneg, bydd angen i chi hefyd ddarparu cyfieithiad ardystiedig ohonynt.

Gwneud cais ar-lein

Byddwch angen cerdyn debyd neu gerdyn credyd i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn. Fe ddywedir wrthych sut i dalu ar ôl i chi gyflwyno eich cais.

Os yw eich plentyn yn 16 neu 17 oed, mae’n rhaid i chi gynnwys llythyr ganddynt gyda’r cais sy’n dweud eu bod yn cytuno i’w henw gael ei newid. Rhaid i’r llythyr:

  • gynnwys eu hen enw a’r enw newydd
  • gael ei dystio a’i lofnodi gan rywun sy’n 18 oed neu drosodd ac sydd ddim yn perthyn i’r plentyn

Unwaith y byddwch wedi dechrau eich cais ar-lein, bydd gennych opsiwn i’w gadw a dychwelyd ato yn hwyrach ymlaen. Mae’n rhaid i chi gyflwyno eich cais o fewn 28 diwrnod neu bydd rhaid i chi ddechrau eto.

Beth fydd yn digwydd nesaf

Bydd Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (GLlTEF) yn adolygu eich cais ac yn anfon 4 ffurflen atoch drwy e-bost: LOC022, LOC023, LOC024 a LOC028. Bydd angen i chi argraffu a llenwi pob ffurflen. 

Mae angen llofnodi ffurflen LOC022 ym mhresenoldeb 2 dyst, a bydd angen iddyn nhw hefyd lofnodi’r ffurflen.

Rhaid i rywun sydd â chyfrifoldeb rhiant lenwi ffurflen LOC023. 

Postiwch eich ffurflenni wedi’u llenwi i’r Swyddfa Gweithred Newid Enw.

Swyddfa Gweithred Newid Enw
Adran Mainc y Brenin
Ystafell E15
Y Llysoedd Barn Brenhinol
Strand
Llundain
WC2A 2LL

Unwaith y bydd eich cais wedi’i gwblhau a’i gymeradwyo, bydd y Swyddfa Gweithred Newid Enw yn selio eich gweithred ac yn ei hanfon yn ôl atoch drwy’r post. Dyma eich prawf eich bod wedi newid eich enw.

Gwneud cais drwy’r post

Lawrlwythwch a llenwch y ffurflenni canlynol:

Bydd angen i chi lofnodi ffurflen LOC022 ym mhresenoldeb 2 dyst. Bydd angen i’ch tystion hefyd lofnodi ffurflen LOC022.

Rhaid i rywun sydd â chyfrifoldeb rhiant lenwi ffurflen LOC023.

Postiwch eich ffurflenni i’r Swyddfa Gweithred Newid Enw.

Swyddfa Gweithred Newid Enw
Adran Mainc y Brenin
Ystafell E15
Y Llysoedd Barn Brenhinol
Strand
Llundain
WC2A 2LL

Gwiriwch eich bod wedi llenwi eich ffurflenni’n gywir cyn i chi eu cyflwyno. Os bydd yna gamgymeriadau yn y ffurflenni byddant yn cael eu dychwelyd i chi.

Os yw eich plentyn yn 16 neu 17 oed, mae’n rhaid i chi gynnwys llythyr ganddynt gyda’r cais sy’n dweud eu bod yn cytuno i’w henw gael ei newid. Rhaid i’r llythyr:

  • gynnwys eu hen enw a’r enw newydd
  • gael ei dystio a’i lofnodi gan rywun sy’n 18 oed neu drosodd ac sydd ddim yn perthyn i’r plentyn

Talu’r ffi

I dalu gyda cherdyn credyd neu ddebyd ffoniwch Swyddfa Ffioedd yr Uchel Lys.

Swyddfa Ffioedd yr Uchel Lys
Rhif ffôn: 020 3936 8957 (dewiswch opsiwn 1)
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Gwybodaeth am gost galwadau

Gallwch hefyd dalu gydag archeb bost neu siec (yn daladwy i ‘Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF’).

Fe roddir cyfeirnod ffi i chi ar ôl i chi dalu.

Beth fydd yn digwydd nesaf

Unwaith y bydd eich cais wedi’i gwblhau a’i gymeradwyo, bydd y Swyddfa Gweithred Newid Enw yn selio eich gweithred ac yn ei hanfon yn ôl atoch drwy’r post. Dyma eich prawf eich bod wedi newid eich enw.

Os bydd angen help neu gymorth arnoch 

Cysylltwch â’r Swyddfa Gweithred Newid Enw.

Swyddfa Gweithred Newid Enw
Rhif ffôn: 020 3936 8957 (dewiswch opsiwn 6)
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Gwybodaeth am gost galwadauÌýÌýÌý

Os ydych angen gorchymyn llys

Darllenwch y cyfarwyddyd ar gwneud cais i’r llys teulu.

³¢±ô±ð²Ô·É³¦³óÌýffurflen C100 ar gyfer ‘gorchymyn mater penodol’.

Anfonwch eich ffurflen i’ch llys agosaf sy’n delio ag achosion plant.

Mae’n costio £255 i wneud cais am orchymyn llys. Efallai y gallwch gael help i dalu ffioedd llys os ydych yn cael budd-daliadau neu ar incwm isel.