Sut i brisio ystâd at ddiben Treth Etifeddiant a rhoi gwybod am ei gwerth
Yr hyn y mae angen i chi ei wneud
I weld a oes Treth Etifeddiant i’w thalu, mae angen i chi brisio arian, eiddo a meddiannau (‘ystâd’) y person a fu farw.
Mae’n rhaid i chi wneud hyn cyn gwneud cais am brofiant (os yw’n berthnasol).
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Bydd angen i chi gwblhau 3 prif dasg pan fyddwch yn prisio’r ystâd.
-
Nodi asedion a dyledion yr ymadawedig megis cynilion, buddsoddiadau, morgeisi a benthyciadau.
-
Amcangyfrif gwerth yr ystâd. Bydd hyn yn effeithio ar sut yr ydych yn rhoi gwybod am y gwerth, a’r dyddiadau cau ar gyfer rhoi gwybod am, a thalu, unrhyw Dreth Etifeddiant. Nid yw’r rhan fwyaf o ystadau’n cael eu trethu.
-
Rhoi gwybod am werth yr ystâd – mae sut rydych yn gwneud hyn yn dibynnu a oes angen i chi anfon manylion llawn am yr ystâd ²¹â€™i gwerth.
Faint o amser y mae’n ei gymryd
Mae prisio ystâd yn gallu cymryd sawl mis, ond mae’n gallu cymryd mwy o amser os yw’n ystâd fawr neu gymhleth (er enghraifft, os yw’n ymwneud ag ymddiriedolaethau neu os oes treth i’w thalu).
Dyddiadau cau
Dim ond os oes ar yr ystâd Dreth Etifeddiant y mae yna ddyddiadau cau.
Os oes ar yr ystâd Dreth Etifeddiant, bydd angen i chi wneud y canlynol:
-
dechrau talu treth erbyn diwedd y chweched mis ar ôl i’r person farw a cyn i chi wneud cais am brofiant – gallwch wneud taliad cyn i chi orffen prisio’r ystâd
-
anfon ffurflenni Treth Etifeddiant cyn pen blwyddyn
Cael help
Gallwch gyflogi rhywun proffesiynol (er enghraifft cyfreithiwr) i helpu gyda rhai neu bob un o’r tasgau sy’n gysylltiedig â phrisio ystâd.
Mae gwefan HelpwrArian yn rhoi arweiniad ynghylch . Mae gwefan Law Donut yn rhoi cyngor ynghylch .