Rheoli cyllid ac eiddo unigolyn sydd ar goll
Printable version
1. Trosolwg
Gallwch wneud cais i fod yn warcheidwad a rheoli cyllid neu eiddo rhywun sydd:
- ar goll
- mewn carchar dramor a ddim yn gallu cyfathrebu
- wedi cael eu dal yn wystl neu eu herwgipio
Rhaid i’r unigolyn fod ar goll o’u cartref a’u gweithgareddau arferol.
Rhaid i un o’r canlynol fod yn berthnasol hefyd:
- nid ydych yn gwybod ble mae’r unigolyn
- ni all yr unigolyn gysylltu â chi i roi gwybod beth yw eu penderfyniadau
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English)
Rhaid i chi wneud cais i’r Uchel Lys am orchymyn gwarcheidiaeth.
Cewch gyflwyno cais pan fydd yr unigolyn wedi bod ar goll am y 90 diwrnod blaenorol. Cewch wneud cais yn gynharach os yw’n fater brys, er enghraifft, os yw tŷ yr unigolyn yn cael ei adfeddiannu.
Bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn eich goruchwylio tra byddwch yn gweithredu fel gwarcheidwad. Bydd angen i chi gadw cofnodion o’r gweithgareddau a wnewch a’r penderfyniadau a wnewch.
Rhaid i chi anfon adroddiadau at Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus pan fyddant yn gofyn amdanynt. Byddant yn rhoi gwybod i chi pan fydd yn amser i chi anfon eich adroddiad.
Efallai y bydd unigolyn o Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ymweld â chi.
2. Pwy all wneud cais
Gallwch wneud cais os ydych chi’n un o’r canlynol i’r unigolyn:
- gŵr, gwraig neu bartner sifil
- rhiant
- plentyn
- brawd neu chwaer
- gwarcheidwad yn barod ac rydych chi’n adnewyddu’r gorchymyn
Hefyd, gallwch wneud cais os gallwch gyflwyno tystiolaeth i’r llys fod gennych ‘fuddiant digonol’ yng nghyllid neu eiddo’r unigolyn. Gallai hyn fod, er enghraifft, oherwydd y canlynol:
- rydych wedi bod mewn perthynas â’r unigolyn ers amser maith, ac rydych yn byw gyda nhw
- mae’r unigolyn yn bartner busnes i chi, ac mae gofyn i chi barhau i redeg y busnes
- rydych chi’n llysriant, llysfrawd, llyschwaer neu lysblentyn i’r unigolyn
Gorau po hiraf rydych wedi adnabod yr unigolyn a gorau fo fwyaf rydych chi’n ei adnabod, hawsaf bydd hi i chi ddarbwyllo’r llys bod gennych ‘fuddiant digonol’.
Rhaid i chi fod dros 18 oed i wneud cais.
3. Gwneud cais i fod yn warcheidwad
Gallwch wneud cais eich hun neu ddefnyddio cynrychiolydd cyfreithiol.
Llenwi’r ffurflen
Lawrlwythwch a llenwch ffurflen hawlio rhan 8.
Cofiwch gynnwys:
- eich enw a’ch cyfeiriad (o dan ‘hawlydd’)
- enw’r unigolyn coll (o dan ‘diffynnydd’)
- eich perthynas â’r unigolyn coll
- cyfeiriad hysbys olaf yr unigolyn
- pryd aeth yr unigolyn ar goll
- pa mor hir mae’r unigolyn wedi bod ar goll
Os ydych yn gwneud cais â phobl eraill, llenwch un ffurflen a chynnwys manylion pawb arni.
Bydd angen i chi ysgrifennu datganiad tyst i helpu’r llys i benderfynu a ydych chi’n warcheidwad addas.
Datganiad tyst
Cadarnhewch fod yr unigolyn coll yn byw yng Nghymru neu yn Lloegr fel arfer.
Os nad ydych yn ŵr, gwraig, partner sifil, rhiant, plentyn, brawd neu chwaer i’r unigolyn, eglurwch pam fod gennych fuddiant yn eiddo neu faterion ariannol yr unigolyn.
Os yw’r unigolyn ar goll ers llai na 90 diwrnod, eglurwch fod angen y gorchymyn gwarcheidiaeth arnoch ar frys, er enghraifft oherwydd bod yr unigolyn ar fin colli eu cartref.
Dylech gynnwys y canlynol yn eich datganiad:
- gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd yr unigolyn a pha bryd y rhoddwyd gorau i wneud y rhain
- tystiolaeth fod yr unigolyn ar goll ers o leiaf 90 diwrnod
- gwybodaeth am eiddo a chyllid yr unigolyn
- beth rydych yn ei wybod am y ffaith eu bod wedi diflannu a ble allant fod
- manylion unrhyw ymchwiliad neu adroddiad gan yr heddlu
- enwau a chyfeiriadau teulu’r unigolyn coll, os oes ganddynt deulu
- hysbyseb newyddion arfaethedig
- a ydych chi erioed wedi eich cael yn euog o drosedd
- a oes unrhyw un wedi gwrthod rhoi credyd i chi
- a ydych erioed wedi bod yn fethdalwr
- a ydych wedi rhedeg cwmni a aeth yn ansolfent neu a aeth i’r wal
- cadarnhad eich bod yn credu bod y ffeithiau yn y ddogfen yn wir ac yn gywir (‘datganiad gwirionedd’)
Anfon y ffurflen i’r Uchel Lys
Anfonwch y cais i un o’r canlynol:
- Adran Siawnsri yr Uchel Lys - os oes problemau cymhleth ag eiddo neu ymddiriedolaeth
- Adran Deulu yr Uchel Lys - os yw’n debygol y bydd problemau neu anghytuno yn codi ymhlith y teulu
- Cofrestrfa Dosbarth eich Uchel Lys lleol
Gall yr Uchel Lys drosglwyddo eich gwrandawiad o un adran i’r llall. Ni fydd hyn yn arwain at newid y swm y bydd rhaid i chi ei dalu.
Anfonwch un copi union yr un fath at bob unigolyn y mae’n rhaid i chi roi gwybod iddynt, ynghyd â chopi ar gyfer y llys.
- y ffurflen a’r datganiad tyst
- unrhyw ddogfennau sydd gennych fel tystiolaeth ategol, er enghraifft adroddiadau gan yr heddlu
- siec am ffi’r llys, wedi’i gwneud yn daladwy i ‘Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Fawrhydi’
Adran Siawnsri’r Uchel Lys
Rolls Building
7 Rolls Building
Fetter Lane
Llundain
EC4A 1NL
Adran Deulu’r Uchel Lys
Y Llysoedd Barn Brenhinol
Strand
Llundain
WC2A 2LL
Dewch o hyd i’ch .
Ar ôl i chi wneud cais, bydd angen i chi hysbysebu eich hawliad mewn papur newydd. Bydd yr Uchel Lys yn gofyn i chi fynd i wrandawiad.
4. Faint mae’n ei gostio
Rhaid i chi dalu un o’r rhain:
- ffi gwneud cais o £528 os byddwch yn gwneud cais i Adran Siawnsri’r Uchel Lys
- ffi gwneud cais o £245 os byddwch yn gwneud cais i Adran Deulu’r Uchel Lys
Anfonwch siec yn daladwy i ‘Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Fawrhydi’ gyda’ch cais.
Efallai y bydd rhaid i chi dalu bond diogelwch hefyd.
Ar ôl i chi gael eich penodi’n warcheidwad, rhaid i chi dalu:
- ffi sefydlu o £200
- ffi goruchwylio o £320 am bob blwyddyn o’ch gwarcheidiaeth
Bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn dweud wrthych sut a phryd i dalu eich ffioedd sefydlu a goruchwylio.
Os ydych chi eisiau cael yr arian yn ôl am y ffioedd o gyfrif yr unigolyn coll, gofynnwch i’r llys roi caniatâd i chi yn y gorchymyn gwarcheidiaeth.
Talu’r bond diogelwch
Efallai y bydd rhaid i chi dalu bond diogelwch cyn y cewch ddefnyddio’r gorchymyn gwarcheidiaeth. Bydd yr Uchel Lys yn dweud wrthych os bydd angen i chi dalu bond.
Os bydd y gorchymyn gwarcheidiaeth yn rhoi caniatâd i chi, cewch wneud un o’r canlynol:
- defnyddio arian yr unigolyn i dalu am y bond
- talu am y bond eich hun ac yna talu eich hun yn ôl pan fyddwch yn gallu cael mynediad at gyllid yr unigolyn
Ni chewch ddechrau gweithredu ar ran yr unigolyn nes byddwch wedi talu’r bond diogelwch.
Cael help i dalu eich ffioedd
Efallai y gallwch hefyd gael help i dalu ffioedd llys.
5. Ar ôl i chi wneud cais
Bydd y llys yn anfon copïau o’ch ffurflen yn ôl atoch, ynghyd â ffurflenni ‘cydnabyddiad cyflwyno’ a rhif achos. Bydd yn cadw copi o’r ffurflen. Bydd yr Uchel Lys yn rhoi gwybod i chi ar ba ddyddiad y bydd y gwrandawiad.
Bydd y gwrandawiad yn cael ei gynnal o leiaf 8 wythnos ar ôl i’r Uchel Lys anfon y ffurflenni hawlio yn ôl atoch.
Pan fydd y llys wedi rhoi dyddiad y gwrandawiad i chi, bydd gofyn i chi roi gwybod i bobl eraill eich bod chi wedi gwneud cais cyn y gwrandawiad, rhag ofn y byddant yn gwrthwynebu. Hefyd, rhaid i chi hysbysebu eich hawliad mewn papur newydd.
Rhoi gwybod i deulu’r unigolyn eich bod chi wedi gwneud cais i fod yn warcheidwad iddo
Bydd gofyn i chi fod yn un o’r canlynol i’r unigolyn coll:
- gŵr, gwraig neu bartner sifil
- rhieni, brodyr a chwiorydd
- plant
Anfonwch y canlynol:
- copi o’r ffurflen hawlio
- y ffurflen cydnabyddiad cyflwyno y mae’r llys wedi’i hanfon atoch
- copïau o’r dystiolaeth ategol rydych wedi’i hanfon gyda’ch cais
- llythyr yn rhoi gwybod beth yw dyddiad y gwrandawiad cyntaf
Hysbysebu eich cais yn y newyddion
Rhaid i chi hysbysebu eich cais cyn pen 14 diwrnod i’r diwrnod y byddwch chi’n cael dyddiad ar gyfer y gwrandawiad llys cyntaf. Rhaid i’r hysbyseb ymddangos mewn papur newydd wedi’i argraffu neu bapur newydd ar-lein sy’n rhoi sylw i gyfeiriad hysbys arferol diwethaf yr unigolyn coll.
Sut i ysgrifennu’r hysbyseb
Cewch ddefnyddio’r templed hwn ar gyfer yr hysbyseb. Ychwanegwch eich gwybodaeth eich hun yn y cromfachau sgwâr.
Yn Adran [Deulu neu Siawnsri] yr Uchel Lys Barn
Rhif yr achos [ ]
O ran y cais a wnaed o dan Ddeddf Gwarcheidiaeth (Unigolyn Coll) 2017 am orchymyn gwarcheidiaeth ar gyfer [rhowch enw’r unigolyn coll].
Mae cais wedi’i gyflwyno i Adran [Deulu neu Siawnsri] yr Uchel Lys Barn, rhif yr achos [rhif yr achos], gan [eich enw] am orchymyn i [eich enw] gael ei benodi/phenodi yn warcheidwad ar gyfer [enw’r unigolyn coll] (“yr unigolyn coll”), a oedd yn arfer preswylio yn [cyfeiriad yr unigolyn coll].
Cynhelir gwrandawiad cyntaf y cais ar [dyddiad] yn [cyfeiriad y llys]. Mae gan unrhyw briod, partner sifil, rhiant, plentyn, brawd neu chwaer i’r unigolyn coll hawl i ymyrryd yn y mater. Caiff unrhyw unigolyn arall sydd â buddiant ofyn i’r llys am ganiatâd i ymyrryd yn y mater.
Os ydych chi’n dymuno rhoi hysbysiad o fwriad i ymyrryd neu ofyn i’r llys am ganiatâd i ymyrryd, dylech wneud hynny i [cyfeiriad y llys] cyn gynted â phosibl, a dim hwyrach na 14 diwrnod cyn dyddiad y gwrandawiad cyntaf. Dylech gyflwyno copi o’r hysbysiad neu’r cais i’r hawlydd yn y cyfeiriad a nodir isod. Gall oedi wneud drwg i’ch potensial o gael caniatâd i ymyrryd os nad oes gennych chi hawl i ymyrryd, a beth bynnag, gellid ystyried hynny yng nghyswllt unrhyw gwestiwn sy’n ymwneud â chostau.
[eich enw]
[Enw a chyfeiriad eich cynrychiolydd cyfreithiol, os oes gennych un]
[Eich cyfeiriad, os nad oes gennych gynrychiolydd cyfreithiol]
Rhoi gwybod i’r llys am yr hysbyseb
O leiaf 7 diwrnod cyn y gwrandawiad llys cyntaf, anfonwch dystiolaeth i’r Uchel Lys eich bod chi wedi hysbysebu’r cais. Cofiwch gynnwys rhif yr achos y mae’r llys wedi’i anfon atoch. Gallai tystiolaeth gynnwys:
- copi o’r dudalen wedi’i hargraffu
- dolen fyw ar gyfer gwefan
- cadarnhad gan y sefydliad newyddion
Yn y gwrandawiad
Dewch ag unrhyw ddogfennau ategol sydd gennych gyda chi i’r gwrandawiad.
Yn y gwrandawiad, gallai’r barnwr ystyried:
- eich perthynas â’r unigolyn coll
- barn yr unigolyn coll amdanoch chi (er enghraifft, os oes tystiolaeth ysgrifenedig o’r cyfnod cyn i’r unigolyn fynd ar goll)
- a oes gennych chi’r sgiliau a’r wybodaeth iawn i fod yn warcheidwad
- unrhyw wrthdaro buddiannau rhyngoch chi a’r unigolyn coll
Efallai y bydd y canlynol yn digwydd:
- gofynnir am ragor o wybodaeth gennych chi
- byddwch yn cael gwybod y bydd angen cynnal gwrandawiad arall
Bydd y llys yn dweud wrthych sut i gael gorchymyn llys os yw rhywun yn gwrthod rhoi gwybodaeth sydd ei hangen arnoch chi.
Efallai y bydd sawl gwrandawiad cyn i’r Uchel Lys wneud penderfyniad. Mae’n dibynnu ar ba mor gymhleth yw’r achos.
Os bydd yr Uchel Lys yn cymeradwyo eich cais
Efallai y bydd y barnwr yn dweud wrthych chi yn y gwrandawiad eich bod wedi bod yn llwyddiannus, neu efallai y bydd rhaid i chi aros rhywfaint cyn cael gwybod. Mae’n dibynnu ar ba mor gymhleth yw’ch achos a faint y mae’r unigolyn coll yn berchen arno.
Ar ôl i’r Uchel Lys roi gorchymyn gwarcheidiaeth i chi, bydd yn anfon sawl copi ohono atoch chi ac yn rhoi copi i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.
Bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cofrestru eich gwarcheidiaeth ac yn eich goruchwylio. Efallai y bydd rhaid i chi dalu bond diogelwch. Bydd yr Uchel Lys yn dweud wrthych chi os yw hynny’n ofynnol.
6. Ar ôl i chi gael eich penodi'n warcheidwad
Bydd y gorchymyn gwarcheidiaeth yn dweud wrthych pryd gallwch ddechrau gwneud penderfyniadau ar ran yr unigolyn a pha fath o benderfyniad y gallwch ei wneud.
Bydd y gorchymyn hefyd yn dweud wrthych chi am ba hyd rydych chi’n warcheidwad.
Cysylltwch â’r Uchel Lys os oes camgymeriadau ar y gorchymyn.
Bydd angen i chi wneud cais arall i wneud penderfyniad ar unrhyw beth nad yw’n rhan o’r gorchymyn.
Rhoi gwybod i bobl eich bod chi’n warcheidwad
Efallai y bydd y llys yn rhoi’r hawl i chi wybod ble mae gan yr unigolyn gyfrifon banc neu gymdeithas adeiladu, os nad ydych chi’n gwybod hynny’n barod. Bydd angen i chi ysgrifennu at y banciau a’r cymdeithasau adeiladu i gael gwybod.
Os yw’r gorchymyn yn cyfeirio at bobl neu sefydliadau, rhowch wybod iddynt mai chi yw’r gwarcheidwad.
Dyma rai enghreifftiau:
- Yr Adran Gwaith a Phensiynau
- banciau neu gymdeithasau adeiladu
- cwmnïau yswiriant bywyd
- talwr unrhyw bensiynau preifat
- y cyfreithiwr sy’n dal ewyllys neu weithredoedd eiddo yr unigolyn
- darparwyr cyfleustodau
- y cwmni lle mae gan yr unigolyn forgais
Anfonwch y canlynol:
- y gorchymyn gwarcheidiaeth
- prawf o’ch enw a’ch cyfeiriad
- prawf o enw a chyfeiriad yr unigolyn rydych chi’n warcheidwad iddo
Gallai prawf o enw a chyfeiriad fod yn drwydded yrru neu’n fil cyfleustodau. Holwch y sefydliad:
- pa brawf o enw a chyfeiriad mae’n ei dderbyn
- a fydd yn derbyn llungopi o’r gorchymyn gwarcheidiaeth neu dim ond y gwreiddiol
Gofynnwch i’r sefydliadau anfon eich gorchymyn gwarcheidiaeth yn ôl atoch pan fyddwch chi’n ei anfon, neu efallai y byddwch yn mynd yn brin o gopïau.
Talu biliau a chanslo taliadau
Ar ôl i chi gael mynediad at gyfrifon yr unigolyn a phan fyddwch yn gwybod o ble daw eu hincwm a’u hasedau, gallwch lunio rhestr lawn o’r hyn sydd ganddynt yn eu hystad er mwyn i chi wybod beth rydych chi’n gyfrifol amdanynt. Os bydd y gorchymyn gwarcheidiaeth yn rhoi caniatâd i chi, talwch unrhyw filiau sy’n ddyledus a chanslo unrhyw daliadau nad ydynt yn berthnasol mwyach.
7. Gwneud penderfyniadau
Bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn eich goruchwylio pan fyddwch chi’n gweithredu fel gwarcheidwad. Bydd angen i chi gadw cofnod o’r penderfyniadau y byddwch chi’n eu gwneud.
Dyma’r math o benderfyniadau y gall gorchymyn gwarcheidiaeth ganiatáu i chi eu gwneud:
- gwneud buddsoddiad ar ran yr unigolyn
- gwerthu rhai o asedau’r unigolyn
- canslo debydau uniongyrchol
Rhaid i unrhyw benderfyniadau rydych chi’n eu gwneud dros rywun fod yn iawn i’r unigolyn (‘er budd pennaf iddynt’).
Gwneud penderfyniadau er budd pennaf rhywun
Dylech ystyried:
- beth fyddai penderfyniad yr unigolyn pe byddai’n gallu ei wneud
- teimladau a dymuniadau’r unigolyn
- gwerthoedd a chredoau yr unigolyn, gan gynnwys safbwyntiau moesegol, gwleidyddol a chrefyddol
- safbwyntiau pobl eraill sydd â buddiant yn eiddo’r unigolyn coll
Peidiwch â gwneud rhagdybiaethau ar sail oedran, rhywedd, cefndir ethnig, rhywioldeb neu iechyd.
Gall wneud hyn eich helpu:
- ysgrifennu ar bapur yr hyn y mae’r unigolyn wedi’i ddweud wrthych sy’n bwysig iddynt
- edrych ar bethau eraill yr oeddynt wedi’i ysgrifennu neu eu cofnodi (fel cyllidebau’r cartref neu fideos cartref)
- siarad â ffrindiau, teulu neu gydweithwyr sy’n eu hadnabod yn dda
Bydd angen i chi anfon adroddiad at Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gan esbonio pa benderfyniadau a wnaethoch.
Penderfyniadau anodd ac anghytuno
Ymgynghorwch â theulu a ffrindiau’r unigolyn. Gall cynnwys pawb mewn cyfarfod eich helpu i ddod i benderfyniad.
Os nad ydych chi’n gallu cytuno, mae modd i chi gael cyngor ynghylch sut mae dod i gytundeb gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.
Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
Rhif ffôn: 0300 456 0300
Dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau, dydd Gwener, rhwng 9am a 5pm
Dydd Mercher, rhwng 10am a 5pm
Gwybodaeth am gost galwadau
Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus / Office of the Public Guardian
PO Box 16185
Birmingham
B2 2WH
Rhaid i chi wneud cais arall i’r Uchel Lys er mwyn gwneud penderfyniad nad yw wedi’i gynnwys yn y gorchymyn gwarcheidiaeth.
8. Cadw cofnodion, rhoi rhoddion a hawlio treuliau
Rhaid i chi gadw cofnodion a chyfrifon ariannol. Dilynwch y rheolau ar gyfer rhoddion a threuliau. Rhaid i chi hefyd gofnodi’r trafodion yn eich adroddiad gwarcheidiaeth.
Cadw cofnodion
Cadwch gofnod os ydych chi’n gwneud y canlynol:
- gwneud buddsoddiad ar ran yr unigolyn
- gwerthu cartref, car neu unrhyw beth arall o werth sydd gan yr unigolyn
- defnyddio arian yr unigolyn i brynu anrheg i rywun
- gofyn i rywun am gyngor ac unrhyw anghytuno
- cau cyfrif
- talu bil
Rhaid i chi gadw copïau o’r canlynol:
- cyfriflenni banc a derbynebau
- anfonebau
- contractau ar gyfer gwasanaethau neu fasnachwyr
- llythyrau a negeseuon e-bost am eich gweithgareddau fel gwarcheidwad
Gallai Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ofyn i chi anfon y rhain pan fydd yn adolygu eich adroddiad gwarcheidwad.
Rhoi rhoddion
Bydd eich gorchymyn gwarcheidiaeth yn dweud a gewch chi brynu anrhegion neu roi arian yn rhodd ar ran yr unigolyn, gan gynnwys rhoi i elusennau. Bydd hefyd yn dweud os bydd cyfyngiad ar faint y gallwch ei wario.
Rhaid i chi fod yn siŵr bod yr unigolyn yn gallu fforddio’r rhodd.
Costau
Darllenwch eich gorchymyn gwarcheidiaeth i weld a ydych chi’n gallu hawlio treuliau neu beidio. Dim ond os yw’r gorchymyn yn rhoi caniatâd i chi y cewch hawlio treuliau, a dim ond ar gyfer y pethau y mae’n rhaid i chi eu gwneud yn eich rôl fel gwarcheidwad, er enghraifft:
- cyflogi gweithiwr proffesiynol i wneud pethau fel llenwi ffurflen dreth yr unigolyn
- costau teithio
- nwyddau ysgrifennu
- costau postio
- galwadau ffôn
Os byddwch chi’n camddefnyddio arian yr unigolyn neu’n gwneud penderfyniadau a fydd yn arwain at fudd i chi’ch hun, mae’n bosibl y gorchmynnir i chi ei dalu’n ôl.
Cadwch eich derbynebau a rhoi anfoneb i’r unigolyn am eich treuliau.
9. Cwblhau eich adroddiad
Rhaid i chi ysgrifennu adroddiad ar gyfer Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus bob blwyddyn, yn egluro pa benderfyniadau rydych wedi’u gwneud fel gwarcheidwad.
Rhaid i’r adroddiad gynnwys:
- y rhesymau dros eich penderfyniadau a pham roeddent er budd pennaf yr unigolyn
- gyda phwy y gwnaethoch chi siarad a beth a ddywedon nhw oedd er budd pennaf yr unigolyn
- y balans agoriadol a therfynol a chyfriflenni banc
- y taliadau a’r trosglwyddiadau i mewn ac allan o’u cyfrifon
- manylion asedau’r unigolyn
- unrhyw asedau rydych wedi’u prynu neu eu gwerthu
Bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn dweud wrthych pa bryd i anfon eich adroddiad a sut.
Os na fyddwch chi’n anfon yr adroddiad, gallai Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wneud y canlynol:
- cynyddu lefel yr oruchwyliaeth a gewch
- gofyn i’r llys ddewis gwarcheidwad arall yn eich lle chi
10. Gwneud penderfyniad nad yw'n ymwneud â'r gorchymyn
Rhaid i chi wneud cais i’r Uchel Lys os oes angen newid eich gwarcheidiaeth arnoch, er enghraifft er mwyn gwneud penderfyniadau nad ydynt wedi’u cynnwys yn y gorchymyn gwreiddiol.
Sut i wneud cais
Gwnewch gais i’r Uchel Lys i newid y gorchymyn gwarcheidiaeth.
Lawrlwythwch a llenwch ffurflen N244.
Cofiwch gynnwys rhif eich achos a dweud mai chi yw’r ‘hawlydd’.
11. Pan ddaw'r warcheidiaeth i ben
Bydd eich gwarcheidiaeth yn dod i ben yn awtomatig os bydd un o’r canlynol yn digwydd:
- mae eich gorchymyn gwarcheidiaeth yn dod i ben
- mae’r unigolyn yn marw
- mae rhywun yn gwneud datganiad o farwolaeth ragdybiedig
- rydych chi’n marw
Os bydd yr unigolyn yn dychwelyd neu os byddwch chi’n penderfynu rhoi’r gorau iddi
Bydd angen i chi wneud cais i’r Uchel Lys i ddod â’r gorchymyn gwarcheidiaeth i ben (‘dirymu’).
Lawrlwythwch a llenwch ffurflen N244.
Cofiwch gynnwys rhif eich achos a dweud mai chi yw’r ‘hawlydd’.
Eglurwch yn yr adran manylion eich bod chi’n dymuno dirymu’r warcheidiaeth oherwydd bod yr unigolyn coll wedi dychwelyd neu oherwydd eich bod wedi penderfynu rhoi’r gorau iddi.
Adnewyddwch eich gwarcheidiaeth
Bydd y gorchymyn gwarcheidiaeth yn eich gwneud chi’n warcheidwad am 4 blynedd fan bellaf.
Gallwch wneud cais am orchymyn gwarcheidiaeth arall pan fydd y gorchymyn yn dod i ben. Mae’r broses yr un fath â gwneud cais am warcheidiaeth.