Tâl ac Absenoldeb Gofal Newyddenedigol

Printable version

1. Trosolwg

Efallai y byddwch chi a’ch partner yn gallu cael amser i ffwrdd o’r gwaith â thâl os yw’ch baban newydd yn cael ei eni yn sâl neu’n gynnar ac mae angen gofal newyddenedigol arno.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Rhoddir yr enw ‘Gofal Newyddenedigol’ ar gyfer gofal babanod newydd sy’n dechrau yn ystod y 28 diwrnod cyntaf ar ôl yr enedigaeth. Gall hyn fod ar gyfer y canlynol:

  • gofal yn yr ysbyty
  • gofal meddygol ar ôl gadael yr ysbyty – mae’n rhaid i hwn fod o dan ofal ymgynghorydd, a chynnwys ymweliadau a gwiriadau parhaus a defnwyd gan yr ysbyty ble cafodd eich baban ei drin
  • gofal lliniarol neu ofal diwedd oes

Efallai y gallwch gael:

  • Absenoldeb Gofal Newyddenedigol
  • Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol

Gallwch gael un wythnos o absenoldeb am bob 7 diwrnod llawn yn olynol y mae’ch baban mewn gofal newyddenedigol, hyd at gyfanswm o 12 wythnos.

Gallwch gael Absenoldeb a Thâl Gofal Newyddenedigol Statudol yn ychwanegol i dâl rhieni a hawliau absenoldeb eraill. Os ydych eisoes ar absenoldeb mamolaeth neu absenoldeb mabwysiadu, mae’n rhaid i chi gymryd yr Absenoldeb Gofal Newyddenedigol ar ddiwedd yr hawl hynny.

Mae rheolau ynghylch pryd y gallwch gymryd eich absenoldeb a sut i hawlio.

Hawliau cyflogaeth tra byddwch ar absenoldeb

²Ñ²¹±ð’c³ó hawliau cyflogaeth (yn agor tudalen Saesneg) yn cael eu diogelu tra byddwch ar Absenoldeb Gofal Newyddenedigol. Mae hyn yn cynnwys eich hawl i’r canlynol:

  • cael codiadau cyflog
  • adeiladu (‘cronni’) gwyliau
  • dychwelyd i’r gwaith

2. Yr hyn y gallwch ei gael

Mae’n bosibl y bydd gennych hawl i Absenoldeb Gofal Newyddenedigol, Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol, neu’r ddau.

Gallwch gael un wythnos o absenoldeb am bob 7 diwrnod llawn yn olynol y mae’ch baban mewn gofal newyddenedigol.

Absenoldeb Gofal Newyddenedigol

Gallwch gael hyd at 12 wythnos o Absenoldeb Gofal Newyddenedigol os ydych chi’n cael eich ystyried fel cyflogai (yn agor tudalen Saesneg). Does dim ots pa mor hir rydych wedi bod gyda’ch cyflogwr.

Mae’n rhaid i chi gymryd eich absenoldeb o fewn 68 wythnos (ychydig yn llai na 16 mis) o ddyddiad geni eich baban.

Bydd y cyfnod rhybudd y mae’n rhaid i chi ei roi i’ch cyflogwr yn dibynnu ar p’un a ydych yn cymryd absenoldeb:

  • tra bod eich baban mewn gofal newyddenedigol, neu hyd at wythnos ar ôl gadael gofal newyddenedigol (weithiau, cyfeirir at hyn fel ‘haen 1’)
  • mwy nag wythnos ar ôl i’ch baban adael gofal newyddenedigol (weithiau, cyfeirir at hyn fel ‘haen 2’)

Sut i gymryd yr absenoldeb

Tra bod eich baban mewn gofal newyddenedigol, neu hyd at wythnos ar ôl i’r baban gadael gofal newyddenedigol, gallwch gymryd absenoldeb mewn blociau ar wahân sy’n cwmpasu o leiaf wythnos ar y tro.

Ar ôl hyn, mae’n rhaid i chi gymryd yr absenoldeb mewn un bloc parhaus.

Os ydych eisoes yn cymryd absenoldeb mamolaeth neu absenoldeb mabwysiadu

Os yw’ch baban mewn gofal newyddenedigol tra’ch bod ar Absenoldeb Mamolaeth Statudol neu Absenoldeb Mabwysiadu Statudol, mae’n rhaid i chi gymryd Absenoldeb Gofal Newyddenedigol ar ôl i’ch absenoldeb mamolaeth neu absenoldeb mabwysiadu ddod i ben.

Enghraifft

²Ñ²¹±ð’c³ó baban newydd yn sâl ac mae’n rhaid iddo aros mewn gofal newyddenedigol am 56 diwrnod. Rydych eisoes yn cymryd Absenoldeb Mamolaeth Statudol.

Yn lle colli 56 diwrnod (8 wythnos) o’ch absenoldeb, rydych yn ychwanegu Absenoldeb Gofal Newyddenedigol i ddiwedd y 39 wythnos o’ch absenoldeb mamolaeth.

Os ydych yn cymryd Absenoldeb ar y cyd i Rieni neu Absenoldeb Tadolaeth Statudol

Gallwch naill ai gymryd Absenoldeb a Thâl Gofal Newyddenedigol Statudol:

  • cyn i chi ddechrau Absenoldeb Tadolaeth Statudol neu Absenoldeb ar y cyd i Rieni
  • rhwng blociau o Absenoldeb ar y cyd i Rieni a drefnwyd gennych cyn i’ch baban ddechrau gofal newyddenedigol (mae hyn yn cynnwys os yw’r Absenoldeb ar y cyd i Rieni ar gyfer plentyn arall)

Os ydych yn defnyddio’ch absenoldeb a’ch tâl am o leiaf un wythnos ar ôl i’ch baban adael gofal newyddenedigol, mae’n rhaid i chi gymryd y cyfan mewn un bloc. Gallwch wneud hyn cyn neu ar ôl eich Absenoldeb ar y cyd i Rieni neu Absenoldeb Tadolaeth Statudol.

Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol

Os ydych yn hawlio Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol, efallai y byddwch hefyd yn gallu hawlio Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol os ydych yn gymwys i wneud hynny.

Gallwch gael £187.18 yr wythnos, neu 90% o’ch enillion wythnosol cyfartalog (pa un bynnag sydd isaf).

Mae unrhyw arian a gewch yn cael ei dalu yn yr un ffordd â’ch cyflog, er enghraifft yn wythnosol neu’n fisol, ynghyd â didyniadau ar gyfer treth ac Yswiriant Gwladol.

Os oes gennych fwy nag un baban mewn gofal newyddenedigol

Os yw’ch babanod mewn gofal newyddenedigol ar yr un pryd (er enghraifft, os oes gennych efeilliaid), gallwch ond hawlio Absenoldeb a Thâl Gofal Newyddenedigol Statudol am un baban, hyd at uchafswm o 12 wythnos.

Os yw’ch babanod mewn gofal newyddenedigol ar adegau ar wahân, byddwch yn gallu hawlio am bob un baban – hyd at uchafswm o 12 wythnos at ei gilydd.

3. Gwirio a ydych yn gymwys

Efallai y byddwch yn gallu cael hyd at 12 wythnos o Absenoldeb a Thâl Gofal Newyddenedigol Statudol os yw’r canlynol yn wir:

  • ganed eich baban ar neu ar ôl 6 Ebrill 2025
  • treuliodd eich baban 7 diwrnod neu fwy mewn gofal newyddenedigol yn olynol
  • rydych yn rhiant y baban, neu’n bartner i fam y baban, ac mae gennych gyfrifoldeb gofal am y baban
  • rydych yn cymryd yr absenoldeb er mwyn gofalu am y baban

Mae’n rhaid i chi hefyd fodloni’r meini prawf cymhwystra fel cyflogai.

Os ydych chi neu’ch partner yn rhiant mabwysiadol

Mae’n bosibl eich bod yn gymwys os yw’r naill neu’r llall o’r canlynol yn wir:

  • mae’r baban wedi’i leoli gyda chi
  • mae gennych yr ‘hysbysiad swyddogol’ sy’n cadarnhau eich bod yn cael mabwysiadu (os ydych yn mabwysiadu baban o dramor)

Os cawsoch chi neu’ch partner faban gyda chymorth rhiant benthyg

Mae’n bosibl eich bod yn gymwys os yw’r canlynol yn wir:

Absenoldeb Gofal Newyddenedigol

I gael Absenoldeb Gofal Newyddenedigol, mae’n rhaid i chi hefyd:

  • cael eich ystyried yn gyflogai (yn agor tudalen Saesneg) – does dim ots pa mor hir rydych wedi gweithio i’ch cyflogwr
  • wedi’i gyflogi yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban
  • rhoi rhybudd i’ch cyflogwr ynghylch Absenoldeb Gofal Newyddenedigol

Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol

I gael Tâl Statudol Gofal Newyddenedigol, mae’n rhaid i chi fod wedi’ch cyflogi’n barhaus gan eich cyflogwr (yn agor tudalen Saesneg) am o leiaf 26 wythnos hyd at ddiwedd yr hyn a elwir yn ‘wythnos gymhwysol’.

Os ydych yn cael Tâl Mamolaeth neu Dâl Tadolaeth, yr ‘wythnos gymhwysol’ yw’r 15fed wythnos cyn y disgwylir i’r babi gael ei eni. Os ydych yn cael Tâl Mabwysiadu Statudol, dyma’r wythnos y gwnaethoch gael gwybod eich bod wedi cael eich paru â baban ar gyfer mabwysiadu.

Fel arall, yr ‘wythnos gymhwysol’ yw’r wythnos yn union cyn i’r baban fynd i ofal newyddenedigol.

Bydd yn rhaid i chi hefyd wneud y canlynol:

  • parhau i fod wedi’ch cyflogi hyd at yr wythnos cyn yr ydych am i’r tâl ddechrau
  • ennill, ar gyfartaledd, o leiaf £125 yr wythnos (cyn treth) dros gyfnod o 8 wythnos

4. Sut i hawlio

Rydych yn hawlio Absenoldeb a Thâl Gofal Newyddenedigol drwy’ch cyflogwr. Mae’n rhaid i chi eu cymryd o fewn 68 wythnos (ychydig yn llai na 16 mis) o ddyddiad geni eich baban, gan gynnwys os yw’ch baban wedi’i fabwysiadu.

Mae’n rhaid i chi roi rhybudd i’ch cyflogwr cyn i chi gymryd Absenoldeb a Thâl Gofal Newyddenedigol Statudol. Os ydych yn gymwys i gael y ddau, yn ddelfrydol, dylech wneud hyn ar yr un pryd.

Mae faint o rybudd y mae’n rhaid i chi ei roi yn dibynnu ar ba bryd rydych yn cymryd yr absenoldeb a’r tâl.

Os ydych yn cymryd yr absenoldeb a’r tâl tra bod eich baban mewn gofal newyddenedigol (neu’r wythnos gyntaf ar ôl hynny)

Weithiau, cyfeirir at hyn fel absenoldeb ‘haen 1’.

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i’ch cyflogwr ar y diwrnod rydych am i’ch absenoldeb ddechrau, yn ddelfrydol, cyn yr amser arferol rydych yn dechrau gwaith neu mor gynted ag y gallwch. Gallwch roi rhybudd i’ch cyflogwr am dâl hyd at 28 diwrnod ar ôl i chi ddechrau eich absenoldeb.

Os oes angen i chi barhau gyda’r absenoldeb a thâl am wythnos ychwanegol, bydd angen i chi roi gwybod i’ch cyflogwr eto. Dylech wneud hyn erbyn diwedd yr wythnos flaenorol.

Os yw’n debygol y bydd eich baban mewn gofal newyddenedigol am gyfnod hir, efallai y bydd eich cyflogwr yn cytuno y gallwch gysylltu ag ef yn llai aml.

Mae angen i chi roi gwybod i’ch cyflogwr y dyddiad y mae’ch baban yn gadael gofal newyddenedigol cyn gynted â phosibl.

Os ydych yn cymryd absenoldeb a thâl am fwy nag wythnos ar ôl i’ch baban adael gofal newyddenedigol

Weithiau, cyfeirir at hyn fel absenoldeb ‘haen 2’.

Os ydych yn cymryd absenoldeb a thâl am un wythnos, bydd angen i chi roi gwybod i’ch cyflogwr 15 diwrnod cyn rydych am i’r absenoldeb a thâl ddechrau. Os ydych am gymryd absenoldeb a thâl am 2 wythnos neu fwy, bydd angen i chi roi gwybod i’ch cyflogwr 28 diwrnod ymlaen llaw.

Er mwyn hawlio absenoldeb gofal newyddenedigol, mae’n rhaid i chi ysgrifennu i’ch cyflogwr gan nodi’r canlynol:

  • eich enw llawn
  • dyddiad geni eich baban ac, os cafodd ei fabwysiadu, y dyddiad y cafodd ei osod gyda chi (neu’r dyddiad y daeth y baban i mewn i Brydain Fawr os cafodd ei fabwysiadu o dramor)
  • dyddiad dechrau a dyddiad dod i ben gofal newyddenedigol eich baban
  • pryd yr hoffech i’ch Absenoldeb Gofal Newyddenedigol ddechrau
  • sawl wythnos o absenoldeb yr hoffech gymryd

Ar gyfer absenoldeb a thâl, y bydd angen i chi gadarnhau’r canlynol hefyd:

  • y byddwch yn gofalu am y baban yn ystod y cyfnod rydych yn hawlio ar ei gyfer
  • rydych yn rhiant y baban, neu’n bartner i fam y baban, ac mae gennych gyfrifoldeb gofal am y baban – bydd angen i chi roi’r wybodaeth hon y tro cyntaf y byddwch yn ysgrifennu at eich cyflogwr

Os oes gennych fwy nag un baban mewn gofal newyddenedigol

Bydd angen i chi roi manylion am bob baban i’ch cyflogwr.

Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad am Dâl Gofal Newyddenedigol

Cysylltwch â’ch cyflogwr os ydych yn anghytuno â phenderfyniad ar gyfer hawl am Dâl Gofal Newyddenedigol Statudol, er enghraifft oherwydd rydych chi’n meddwl bod eich cyflogwr:

  • yn talu’r swm anghywir i chi
  • wedi penderfynu, yn anghywir, i beidio talu eich tâl statudol

Os nad ydych yn gallu dod i gytundeb, gallwch gysylltu â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF. Mae’n rhaid i chi wneud hyn o fewn 6 mis o ddyddiad y penderfyniad hwn.

5. Canslo eich absenoldeb neu dâl

Efallai y byddwch yn gallu canslo eich Absenoldeb Gofal Newyddenedigol neu Dâl Gofal Newyddenedigol Statudol yn dibynnu ar ba bryd y mae disgwyl i’ch absenoldeb ddechrau.

Gallwch aildrefnu eich absenoldeb a thâl os ydych yn rhoi’r rhybudd cywir i’ch cyflogwr.

Ni allwch ganslo eich absenoldeb neu’ch tâl os oedd disgwyl i’ch absenoldeb neu’ch tâl ddechrau tra bod eich baban dal i gael gofal newyddenedigol (neu yn ystod yr wythnos gyntaf ar ôl hynny).

Os oedd disgwyl i’ch absenoldeb neu’ch tâl ddechrau mwy nag wythnos ar ôl i’ch baban adael gofal newyddenedigol

Er mwyn canslo eich Absenoldeb Gofal Newyddenedigol neu Dâl Gofal Newyddenedigol Statudol, bydd angen i chi roi rhybudd ysgrifenedig i’ch cyflogwr. Mae pennu pryd y mae angen i chi roi gwybod iddo yn dibynnu ar ba bryd y mae disgwyl i’ch absenoldeb neu’ch tâl ddechrau.

Os ydych yn cymryd:

  • un wythnos o absenoldeb – mae’n rhaid i chi roi gwybod i’ch cyflogwr os ydych am ganslo o leiaf 15 diwrnod cyn dechrau’r absenoldeb a gynlluniwyd
  • 2 wythnos o absenoldeb neu fwy – mae’n rhaid i chi roi gwybod i’ch cyflogwr os ydych am ganslo o leiaf 28 diwrnod cyn dechrau’r absenoldeb a gynlluniwyd