Taliad Tanwydd Gaeaf

Printable version

1. Trosolwg

Os cawsoch eich geni cyn 22 Medi 1959 gallech gael naill ai £100 neu £300 i’ch helpu i dalu eich biliau gwresogi ar gyfer gaeaf 2025 i 2026. Gelwir hyn yn ‘Daliad Tanwydd Gaeaf’.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Bydd y rhan fwyaf o bobl yn cael y Taliad Tanwydd Gaeaf yn awtomatig os ydynt yn gymwys.

Os yw’ch incwm trethadwy dros £35,000, bydd CthEF yn adennill eich Taliad Tanwydd Gaeaf trwy’r system dreth.

Gallwch optio allan o gael y Taliad Tanwydd Gaeaf os nad ydych eisiau ei dderbyn.

Os ydych yn gymwys, byddwch yn cael llythyr ym mis Hydref neu fis Tachwedd yn dweud faint fyddwch yn ei gael.

Caiff y rhan fwyaf o bobl gymwys eu talu ym mis Tachwedd neu fis Rhagfyr 2025.

Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon

Efallai byddwch yn gymwys i gael Taliad Tanwydd Gaeaf gan Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon. Bydd yr un rheolau â Chymru a Lloegr yn berthnasol.

Os ydych yn byw yn Yr Alban

Ni allwch gael Taliad Tanwydd Gaeaf. Efallai y byddwch yn gymwys i gael .

Help arall gyda biliau gwresogi

Gallech hefyd gael:

  • Taliad Tywydd Oer - os ydych yn cael rhai budd-daliadau a bod y tymheredd yn gostwng i radd sero celsius neu’n is am 7 diwrnod yn olynol
  • y Gostyngiad Cartrefi Cynnes - mae hwn yn ostyngiad o £150 ar eich biliau os ydych yn cael Credyd Pensiwn neu os ydych yn byw mewn cartref incwm isel
  • cymorth gan y Gronfa Cymorth i Gartrefi, os ydych yn gymwys o dan reolau eich cyngor lleol

2. Cymhwysedd

Gallwch gael Taliad Tanwydd Gaeaf os cawsoch eich geni cyn 22 Medi 1959 ac rydych yn byw yng Nghymru neu Loegr.

Pan na fyddwch yn gymwys

Ni fyddwch yn gymwys os:

  • rydych yn byw tu allan i Gymru a Lloegr
  • rydych wedi bod yn yr ysbyty yn cael triniaeth am ddim am yr wythnos gyfan rhwng 15 a 21 Medi 2025 a’r flwyddyn gynt
  • rydych angen caniatâd i ddod i mewn i’r DU ac mae eich caniatâd a roddwyd yn dweud na allwch hawlio arian cyhoeddus
  • roeddech yn y carchar am yr wythnos gyfan rhwng 15 a 21 Medi 2025

Os ydych yn byw mewn cartref gofal

Gallwch gael Taliad Tanwydd Gaeaf os ydych yn byw mewn cartref gofal. Ni fyddwch yn gymwys os yw’r ddau o’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn cael Credyd Cynhwysol, Credyd Pensiwn, Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm (JSA) neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA)
  • rydych wedi byw mewn cartref gofal am y cyfnod llawn ers 23 Mehefin 2025 neu’n gynharach

3. Faint fyddwch chi'n ei gael

Byddwch yn cael llythyr ym mis Hydref neu fis Tachwedd yn rhoi gwybod i chi faint o Daliad Tanwydd Gaeaf byddwch yn ei gael, os ydych yn gymwys.

Os nad ydych yn cael llythyr ond rydych yn meddwl eich bod yn gymwys, gwiriwch a oes angen i chi wneud cais.

Mae faint rydych yn ei gael yn seiliedig ar pryd y cawsoch eich geni a’ch amgylchiadau rhwng 15 i 21 Medi 2025. Mae hwn yn cael ei alw yn ‘wythnos gymhwyso’.

Ni fydd unrhyw arian a gewch yn effeithio ar eich budd-daliadau eraill.

Os ydych yn byw ar eich pen eich hun neu does neb rydych chi’n byw gyda nhw yn gymwys ar gyfer y Taliad Tanwydd Gaeaf

Byddwch yn cael naill ai:

  • £200 os cawsoch eich geni rhwng 22 Medi 1945 a 21 Medi 1959
  • £300 os cawsoch eich geni cyn 22 Medi 1945

Os ydych yn byw gyda rhywun arall sy’n gymwys i gael y Taliad Tanwydd Gaeaf

Efallai y bydd eich taliad yn wahanol os ydych yn cael un o’r budd-daliadau canlynol:

  • Credyd Pensiwn
  • Credyd Cynhwysol
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm (JSA)
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA)
  • Cymhorthdal Incwm

Os nad ydych yn cael un o’r budd-dalidadau

Cewch daliad o:

  • £100 os ydych chi a’r person rydych chi’n byw gyda wedi’ch geni rhwng 22 Medi 1945 a 21 Medi 1959
  • £100 os ydych chi wedi’ch geni rhwng 22 Medi 1945 a 21 Medi 1959 ond bod y person rydych chi’n byw gyda wedi’u geni cyn 22 Medi 1945
  • £200 os ydych chi wedi’ch geni cyn 22 Medi 1945 ond bod y person rydych chi’n byw gyda wedi’u geni rhwng 22 Medi 1945 a 21 Medi 1959
  • £150 os ydych chi a’r person rydych chi’n byw gyda wedi’ch geni cyn 22 Medi 1945

Os oes gennych chi a’ch partner cais ar y cyd am unrhyw un o’r budd-daliadau

Bydd un ohonoch yn cael taliad o naill ai:

  • £200 os ganwyd y ddau ohonoch rhwng 22 Medi 1945 a 21 Medi 1959
  • £300 os ganwyd un neu’r ddau ohonoch cyn 22 Medi 1945

Byddwch yn cael eich talu i’r cyfrif banc y telir eich budd-daliadau iddo fel arfer.

Os cewch unrhyw un o’r budd-daliadau (nid fel rhan o gais ar y cyd)

Byddwch yn cael taliad o naill ai:

  • £200 os cawsoch eich geni rhwng 22 Medi 1945 a 21 Medi 1959
  • £300 os cawsoch eich geni cyn 22 Medi 1945

Os yw’ch incwm trethadwy yn fwy na £35,000

Bydd CThEF yn adennill eich holl Daliad Tanwydd Gaeaf naill ai trwy PAYE neu’ch ffurflen dreth Hunanasesiad.

Os ydych chi’n byw mewn cartref gofal

Os ydych chi’n gymwys byddwch chi’n cael naill ai:

  • £100 os cawsoch eich geni rhwng 22 Medi 1945 a 21 Medi 1959
  • £150 os cawsoch eich geni cyn 22 Medi 1945

4. Gwirio a oes angen i chi wneud cais

Bydd y rhan fwyaf o bobl yn cael y Taliad Tanwydd Gaeaf yn awtomatig os ydynt yn gymwys.

Nid oes angen i chi wneud cais os ydych yn cael unrhyw un o’r canlynol:

  • Pensiwn y Wladwriaeth
  • Credyd Pensiwn
  • Credyd Cynhwysol
  • Lwfans Gweini
  • Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
  • Lwfans Gofalwr
  • Lwfans Byw i’r Anabl (DLA)
  • Cymorthdal Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA)
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm (JSA)
  • dyfarniadau gan y Cynllun Pensiwn Rhyfel
  • Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol
  • Budd-dal Analluogrwydd
  • Budd-dal Marwolaeth Diwydiannol

Os nad ydych yn cael unrhyw un o’r rhain, mae angen i chi wneud cais os yw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • nid ydych chi wedi cael y Taliad Tanwydd Gaeaf o’r blaen 
  • rydych chi wedi gohirio eich Pensiwn y Wladwriaeth ers eich Taliad Tanwydd Gaeaf diwethaf

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais am Daliad Tanwydd Gaeaf:

  • drwy’r post – o 15 Medi 2025
  • dros y ffôn – o 13 Hydref 2025

Y terfyn er mwyn gwneud cais ar gyfer gaeaf 2025 i 2026 yw 31 Mawrth 2026.

Gwneud cais drwy’r post

Llenwch ffurflen gais Taliad Tanwydd Gaeaf ac anfonwch ef at y Ganolfan Taliad Tanwydd Gaeaf.

Winter Fuel Payment Centre
Mail Handling Site A
Wolverhampton
WV98 1LR

Gwneud cais dros y ffôn

Ffoniwch y Ganolfan Taliad Tanwydd Gaeaf i wneud cais dros y ffôn.

Canolfan Taliad Tanwydd Gaeaf

Ffôn: 0800 731 0160
Ffôn testun: cysylltwch â ar 18001 ac yna 0800 731 0160
Iaith Arwyddion Prydain (BSL)  os ydych yn denfyddio cyfrifiadur – darganfyddwch sut i

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch am gostau galwadau

Beth i’w baratoi cyn i chi ffonio

Cyn i chi ffonio, bydd angen i chi wybod:

  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • manylion eich banc neu gymdeithas adeiladu
  • y dyddiad y gwnaethoch chi briodi neu ymuno â phartneriaeth sifil (os yw’n briodol)

Ni ellir gwneud taliadau i gyfrif Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (NS&I) oni bai bod eich budd-daliadau eraill eisoes yn cael eu talu i’r cyfrif.

Bydd angen i chi hefyd ddweud os yw’r canlynol yn berthnasol i chi yn ystod yr wythnos gymhwyso o 15 i 21 Medi 2025:

  • roeddech chi yn yr ysbyty yn cael triniaeth cleifion mewnol am ddim
  • roeddech chi mewn cartref gofal preswyl neu Gartref Ailsefydlu Ilford Park
  • roeddech chi yn y carchar

Os ydych chi’n anghytuno â phenderfyniad

Gallwch herio penderfyniad ynghylch eich cais. Gelwir hyn yn gofyn am ailystyriaeth orfodol.

5. Pryd fyddwch chi'n cael eich talu

Mae’r rhan fwyaf o daliadau’n cael eu gwneud yn awtomatig ym mis Tachwedd neu fis Rhagfyr.

Dylech gael llythyr yn dweud wrthych:

  • faint fyddwch yn ei gael
  • pa gyfrif banc y bydd yn cael ei dalu iddo - fel arfer mae hwn yr un cyfrif â’ch Pensiwn y Wladwriaeth neu fudd-daliadau eraill

Os nad ydych yn cael llythyr ac nad yw’r arian wedi’i dalu i’ch cyfrif erbyn 28 Ionawr 2026, cysylltwch â’r Ganolfan Taliadau Tanwydd Gaeaf.

6. Rhoi gwybod am newid neu optio allan

Cysylltwch â’r Ganolfan Taliad Tanwydd Gaeaf os ydych yn gymwys am Daliad Tanwydd Gaeaf ac rydych:

  • angen rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau
  • angen newid eich cyfeiriad neu fanylion personol

Rhowch wybod am unrhyw newid mewn amgylchiadau cyn gynted ag y bo modd - er enghraifft, os byddwch yn symud tÅ· neu fynd i mewn i gartref gofal. Gall y rhain effeithio faint o Daliad Tanwydd Gaeaf rydych yn ei gael.

Os ydych eisiau optio allan o gael y Taliad Tanwydd Gaeaf

Gallwch ddewis optio allan o gael pob Taliad Tanwydd Gaeaf. I optio allan, bydd angen i chi gysylltu â’r Ganolfan Taliad Tanwydd Gaeaf cyn 15 Medi 2025.

Gallwch optio yn ôl i fewn gan gysylltu â’r Ganolfan Taliad Tanwydd Gaeaf. I gael taliad ar gyfer gaeaf 2025 i 2026 bydd angen i chi gysylltu â nhw cyn 31 Mawrth 2026.

Cysylltu â’r Ganolfan Taliad Tanwydd Gaeaf

Pan fyddwch yn cysylltu â’r ganolfan daliadau, byddwch angen dweud wrthynt eich manylion personol fel:

Gallwch naill ai ffonio’r llinell gymorth neu anfon llythyr trwy’r post.

I optio allan o gael taliadau Tanwydd Gaeaf gallwch neu ffonio’r llinell gymorth.


Ffôn: 0800 731 0160
Ffôn testun: cysylltwch â ar 18001 ac yna 0800 731 0160
Iaith Arwyddion Prydain (BSL)  os ydych yn denfyddio cyfrifiadur – darganfyddwch sut i

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch am gostau galwadau

Winter Fuel Payment Centre
Mail Handling Site A
Wolverhampton
WV98 1LR

Os ydych wedi cael eich gordalu

Efallai y bydd rhaid i chi ad-dalu’r arian os:

  • na wnaethoch ddweud wrthym am newid ar unwaith
  • rydych wedi rhoi gwybodaeth anghywir
  • cawsoch eich gordalu mewn camgymeriad

Darganfyddwch sut i ad-dalu’r arian sy’n ddyledus gennych o ordaliad budd-dal.