Treth ar eich cyfraniadau pensiwn preifat

Sgipio cynnwys

Rhyddhad treth

Gallwch gael rhyddhad treth ar gyfraniadau pensiwn preifat gwerth hyd at 100% o’ch enillion blynyddol.

Byddwch naill ai’n cael y rhyddhad treth yn awtomatig neu bydd angen i chi hawlio’r rhyddhad eich hun. Mae’n dibynnu ar y math o gynllun pensiwn rydych yn rhan ohono, a’r gyfradd Treth Incwm rydych yn ei thalu.

Mae dau fath o gynllun pensiwn lle byddwch yn cael rhyddhad yn awtomatig. Naill ai:

  • bod eich cyflogwr yn tynnu cyfraniadau pensiwn gweithle o’ch cyflog cyn didynnu Treth Incwm

  • bod eich darparwr pensiwn yn hawlio rhyddhad treth gan y llywodraeth ar y gyfradd sylfaenol o 20% a’i fod yn ychwanegu hwn at eich cronfa bensiwn (‘rhyddhad wrth y ffynhonnell’)

Os yw’ch cyfradd Treth Incwm yn yr Alban (yn agor tudalen Saesneg) yn 19%, bydd eich darparwr pensiwn yn hawlio rhyddhad treth ar eich rhan ar gyfradd o 20%. Nid oes angen i chi dalu’r gwahaniaeth.

Mae rhyddhad treth yn y DU hefyd ar gael ar gyfraniadau a wnaed at fathau penodol o gynlluniau pensiwn tramor (yn agor tudalen Saesneg).

Eich cyfrifoldeb chi yw gwneud yn siŵr nad ydych yn cael rhyddhad treth ar gyfraniadau pensiwn sydd fwy na 100% o’ch enillion blynyddol. Gall Cyllid a Thollau EF (CThEF) ofyn i chi dalu unrhyw beth dros y terfyn hwn yn ôl.

Rhyddhad wrth y ffynhonnell

Cewch ryddhad wrth y ffynhonnell mewn pob un pensiwn personol a phensiwn rhanddeiliaid, yn ogystal â rhai pensiynau gweithle.

I gael rhyddhad wrth y ffynhonnell

Cyn talu i mewn i gynllun, mae angen i chi gytuno i amodau penodol ynghylch eich cyfraniadau (‘gwneud datganiad’). Bydd eich darparwr pensiwn yn rhoi gwybod i chi beth yw’r rhain.

Bydd hefyd angen i chi roi’r canlynol i’ch darparwr pensiwn:

  • eich enw llawn a’ch cyfeiriad

  • dyddiad geni

  • eich rhif Yswiriant Gwladol

  • eich statws cyflogaeth - neu roi gwybod iddo os ydych wedi ymddeol, yn fyfyriwr llawn amser, yn ofalwr neu o dan 16 oed

Efallai y bydd eich cyflogwr yn gwneud hyn ar eich rhan os ydych wedi’ch cofrestru’n awtomatig i’w gynllun pensiwn.

Bydd eich darparwr pensiwn yn rhoi gwybod i chi os dyma’r achos, a gofyn i chi gadarnhau bod eich manylion yn gywir. Mae’n rhaid i chi wneud hyn cyn pen 30 diwrnod.

Os nad ydych yn talu Treth Incwm

Gall eich darparwr pensiwn hawlio rhyddhad treth ar eich rhan ar gyfradd o 20% ar gyfraniadau rydych chi’n eu talu i mewn i bensiwn bob blwyddyn dreth (6 Ebrill i 5 Ebrill) hyd at y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • 80% o’ch enillion yn ystod y flwyddyn honno

  • £2,880 os nad oes gennych unrhyw enillion yn ystod y flwyddyn honno

Hawlio rhyddhad treth eich hun

Mewn rhai achosion, bydd angen i chi hawlio rhyddhad treth ar gyfraniadau pensiwn eich hun. Bydd angen i chi hawlio:

  • os ydych yn talu Treth Incwm ar gyfradd sydd uwch nag 20%, ac mae’ch darparwr pensiwn yn hawlio’r 20% cyntaf ar eich rhan (rhyddhad wrth y ffynhonnell)

  • os nad yw’ch cynllun pensiwn wedi’i drefnu ar gyfer rhyddhad treth awtomatig

  • os yw rhywun arall yn talu i mewn i’ch pensiwn

Os ydych chi’n talu mewn swm sy’n fwy na £10,000, dewch o hyd i sut i hawlio rhyddhad treth.

Os ydych yn talu Treth Incwm ar gyfradd uwch nag 20% (Cymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon)

Gallwch hawlio rhyddhad treth ychwanegol ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad am arian y byddwch yn ei roi yn eich pensiwn preifat. Gall y rhyddhad hwn fod yn un o’r canlynol:

  • 20% hyd at swm unrhyw incwm rydych wedi talu treth o 40% arno

  • 25% hyd at swm unrhyw incwm rydych wedi talu treth o 45% arno

Os nad fyddwch yn cyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad, dewch o hyd i sut i hawlio rhyddhad treth.

Enghraifft

Rydych chi’n ennill £60,270 ym mlwyddyn dreth 2024 i 2025 ac yn cyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

Gallwch dalu £12,000 i mewn i gynllun pensiwn rhyddhad wrth y ffynhonnell yn ystod y flwyddyn dreth, a’r cynllun yn hawlio’r rhyddhad treth gyntaf o 20% ar eich rhan.

Gallwch hawlio rhyddhad treth ychwanegol o 20% ar £10,000 (yr un swm a wnaethoch dalu 40% o dreth arno) drwy eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

Ni chewch ryddhad ychwanegol ar y £2,000 sy’n weddill yr ydych wedi rhoi yn eich pensiwn.

Os ydych yn talu Treth Incwm sydd uwch nag 20% (Yr Alban)

Gallwch hawlio rhyddhad treth ychwanegol ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad am arian y byddwch yn ei roi yn eich pensiwn preifat. Gall y rhyddhad hwn fod yn un o’r canlynol:

  • 1% hyd at swm unrhyw incwm rydych wedi talu treth o 21% arno

  • 22% hyd at swm unrhyw incwm rydych wedi talu treth o 42% arno

  • 25% hyd at swm unrhyw incwm rydych wedi talu treth o 45% arno

  • 28% hyd at swm unrhyw incwm rydych wedi talu treth o 48% arno

Os nad fyddwch yn cyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad, dewch o hyd i sut i hawlio rhyddhad treth.

Os nad yw’ch cynllun pensiwn wedi’i drefnu i gael rhyddhad treth awtomatig

Hawliwch ryddhad treth yn eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad os nad yw’ch cynllun pensiwn wedi’i drefnu i gael rhyddhad treth awtomatig.

Os nad fyddwch yn cyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad, dewch o hyd i sut i hawlio rhyddhad treth.

Ni allwch hawlio rhyddhad treth os nad yw’ch cynllun pensiwn wedi’i gofrestru gyda CThEF.

Os yw rhywun arall yn talu i mewn i’ch pensiwn

Pan fydd rhywun arall (er enghraifft, eich partner) yn talu i mewn i’ch pensiwn, cewch ryddhad treth ar 20% yn awtomatig os yw’ch darparwr pensiwn yn hawlio’r rhyddhad ar eich rhan (‘rhyddhad wrth y ffynhonnell’).

Os ydych mewn pensiwn gweithle, dewch o hyd i sut i hawlio rhyddhad treth.

Cyflwyno neu gynyddu hawliad sydd dros £10,000

Dewch o hyd i sut i hawlio rhyddhad treth os ydych yn gwneud y canlynol:

  • gwneud hawliad newydd ar gyfer cyfraniadau pensiwn dros £10,000

  • cynyddu’ch hawliad presennol gan fwy na 10% (os yw’r hawliad presennol eisoes dros £10,000)

Os ydych chi’n cynyddu eich hawliad presennol gan lai na 10%, gallwch ffonio CThEF.

Polisïau yswiriant bywyd

Ni allwch gael rhyddhad treth os ydych yn defnyddio’ch cyfraniadau pensiwn i dalu am bolisi aswiriant cyfnod personol, oni bai ei fod yn bolisi wedi’i ddiogelu.

Aswiriant cyfnod personol yw polisi yswiriant bywyd sydd naill ai:

  • yn dod i ben pan fydd y person cyntaf i gael ei yswirio’n marw

  • yn yswirio pobl sydd i gyd o’r un teulu