Treth ar incwm tramor
Printable version
1. Trosolwg
Efallai y bydd angen i chi dalu Treth Incwm yn y DU ar eich incwm tramor, fel:
-
cyflog os ydych yn gweithio dramor
-
incwm o fuddsoddi dramor, er enghraifft difidendau a llog cynilion
-
incwm rhent ar eiddo tramor
-
incwm o bensiynau a gynhelir dramor
Incwm tramor yw unrhyw beth o’r tu allan i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw yn cael eu hystyried yn dramor.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Canfod a oes angen i chi dalu
Mae’r cwestiwn a oes angen i chi dalu yn dibynnu ar os ystyrir eich bod yn ‘breswylydd’ yn y DU at ddibenion treth.
Os nad ydych yn breswylydd yn y DU, ni fydd angen i chi dalu treth yn y DU ar eich incwm tramor.
Os ydych yn breswylydd yn y DU, byddwch fel arfer yn talu treth ar eich incwm tramor. Mae’n bosibl na fydd yn rhaid i chi wneud hynny os ydych chi’n gymwys i gael Rhyddhad o ran Incwm ac Enillion Tramor (yn agor tudalen Saesneg).
Cyn 6 Ebrill 2025, efallai na fu’n rhaid i chi dalu treth ar eich incwm tramor os oedd eich cartref parhaol (‘domisil’) dramor.
Rhoi gwybod am incwm tramor
Os oes angen i chi dalu treth, byddwch fel arfer yn rhoi gwybod am eich incwm tramor ar Ffurflen Dreth Hunanasesiad. Ond mae rhywfaint o incwm tramor yn cael ei drethu’n wahanol.
Os yw’ch incwm yn cael ei drethu mewn mwy nag un wlad
Efallai y gallwch hawlio rhyddhad treth os ydych wedi cael eich trethu mewn mwy nag un wlad.
Os nad ydych chi wedi talu treth ar yr incwm tramor eto, efallai y bydd angen i chi wneud cais am dystysgrif preswylio (yn agor tudalen Saesneg) i brofi eich bod yn gymwys i gael rhyddhad.
2. Preswylio yn y DU a threth
Mae gan eich statws preswyl yn y DU effaith ar p’un a oes angen i chi dalu treth yn y DU ar eich incwm tramor.
Mae rhai sy’n ddibreswyl ond yn talu treth ar eu hincwm yn y DU (yn agor tudalen Saesneg) - nid ydynt yn talu treth yn y DU ar eu hincwm tramor.
Mae preswylwyr fel arfer yn talu treth yn y DU ar eu holl incwm, boed hynny o’r DU neu dramor.
Canfod beth yw’ch statws preswylio
Mae p’un a ydych chi’n breswylydd yn y DU fel arfer yn dibynnu ar sawl diwrnod rydych chi’n ei dreulio yn y DU yn y flwyddyn dreth (6 Ebrill i 5 Ebrill y flwyddyn ganlynol).
Byddwch ond yn breswylydd yn y DU os yw’r ddau o’r canlynol yn berthnasol:
-
os ydych chi’n bodloni un neu fwy o brofion awtomatig y DU ²Ô±ð³Ü’r prawf cysylltiadau digonol
-
nad ydych yn bodloni unrhyw un o’r profion tramor awtomatig
Fel arall, ni fyddwch yn breswylydd yn y DU at ddibenion treth.
Profion y DU
Gallwch fod yn breswylydd o dan brofion awtomatig y DU os yw’r canlynol yn wir:
-
gwnaethoch dreulio 183 diwrnod neu fwy yn y DU yn ystod y flwyddyn dreth
-
eich unig gartref oedd yn y DU am 91 diwrnod neu fwy yn olynol - ac mi wnaethoch ymweld â hi neu aros yno am o leiaf 30 diwrnod o’r flwyddyn dreth
-
gwnaethoch weithio’n llawn amser yn y DU am unrhyw gyfnod o 365 diwrnod ac roedd o leiaf un diwrnod o’r cyfnod hwnnw yn y flwyddyn dreth yr ydych yn ei gwirio
Efallai eich bod hefyd yn breswylydd o dan y prawf cysylltiadau digonol (yn agor tudalen Saesneg) os gwnaethoch chi dreulio nifer penodol o ddiwrnodau yn y DU a bod gennych gysylltiadau ychwanegol â’r DU, fel gwaith neu deulu.
Profion tramor
Fel arfer, rydych yn ddibreswyl yn awtomatig os yw naill ²Ô±ð³Ü’r llall o’r canlynol yn wir:
-
gwnaethoch dreulio llai na 16 diwrnod yn y DU (neu 46 diwrnod os nad ydych wedi bod yn breswylydd yn y DU am y 3 blynedd dreth flaenorol)
-
rydych yn gweithio dramor yn llawn amser (o leiaf 35 awr yr wythnos ar gyfartaledd) a gwnaethoch dreulio llai na 91 diwrnod yn y DU, ac na threuliwyd mwy na 30 ohonynt yn gweithio
Cael help i gyfrifo’ch statws preswylio
Os ydych chi’n dal yn ansicr am eich statws, gallwch ddefnyddio’r gwiriwr statws preswylio. Bydd hyn yn rhoi syniad i chi a oeddech yn breswylydd yn y DU mewn unrhyw flwyddyn dreth o 6 Ebrill 2016 ymlaen.
Efallai y gofynnir i chi am yr wybodaeth ganlynol am y flwyddyn rydych yn ei gwirio:
-
sawl diwrnod y gwnaethoch dreulio’n byw ac yn gweithio yn y DU a thramor
-
yn fras sawl awr yr wythnos ydych yn ei gweithio
-
y teulu sydd gennych chi yn y DU
-
manylion eich cartref yn y DU
Ffyrdd eraill i gael help
Gallwch hefyd wneud y canlynol:
-
darllen arweiniad ar y Prawf Preswylio Statudol (yn agor tudalen Saesneg) gan Cyllid a Thollau EF (CThEF)
Eich statws preswylio pan fyddwch yn symud
Pan fyddwch yn symud i mewn neu allan o’r DU, bydd y flwyddyn dreth fel arfer yn cael ei rhannu’n 2 - rhan dibreswyl a rhan breswyl. Mae hyn yn golygu y byddwch fel arfer yn talu treth yn y DU ar incwm tramor yn seiliedig ar yr amser yr oeddech yn byw yn y DU.
Gelwir hyn yn ‘driniaeth blwyddyn ranedig’.
Ni fyddwch yn cael triniaeth blwyddyn ranedig os ydych yn byw dramor am lai na blwyddyn dreth lawn cyn dychwelyd i’r DU (yn agor tudalen Saesneg). Mae angen i chi hefyd fodloni amodau eraill.
I gael gwybod a ydych chi’n gymwys ac i weld pa ‘achos’ triniaeth blwyddyn ranedig y bydd angen i chi sôn ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad, gallwch wneud y canlynol:
-
darllen yr arweiniad am flynyddoedd rhanedig o dan y Prawf Preswylio Statudol (yn agor tudalen Saesneg) gan CThEF
Os yw’ch sefyllfa yn newid
Gall eich statws newid o un flwyddyn dreth i’r nesaf. Gwiriwch eich statws os bydd eich sefyllfa’n newid, er enghraifft:
-
rydych yn treulio mwy neu lai o amser yn y DU
-
rydych yn prynu neu’n gwerthu cartref yn y DU
-
rydych yn newid eich swydd
-
mae eich teulu’n symud i mewn neu allan o’r DU, neu’ch bod yn priodi, yn gwahanu neu mae gennych blant
Preswylio ac Enillion Cyfalaf
Rydych yn canfod eich statws preswylio at ddibenion enillion cyfalaf (er enghraifft, pan fyddwch yn gwerthu cyfranddaliadau neu ail gartref) yn yr un ffordd ag eich incwm.
Mae’n rhaid i breswylydd yn y DU dalu treth ar ei enillion yn y DU a’i enillion tramor. Mae’n rhaid i bobl ddibreswyl dalu treth ar eu hincwm, ond fel arfer maent ond yn gorfod talu Treth Enillion Cyfalaf naill ai:
-
os ydyn nhw’n dychwelyd i’r DU (yn agor tudalen Saesneg)
Preswylio cyn Ebrill 2013
Roedd rheolau gwahanol (yn agor tudalen Saesneg) ar gyfer canfod eich statws preswylio cyn 6 Ebrill 2013.
3. Preswylwyr ‘nad yw’n ddomisil’
Mae’n bosibl na fydd yn rhaid i breswylwyr yn y DU dalu treth yn y DU ar incwm tramor os ydych chi’n gymwys i gael Rhyddhad o ran Incwm ac Enillion Tramor (yn agor tudalen Saesneg).
Cyn 6 Ebrill 2025, nid oedd preswylwyr yn y DU a oedd â’u cartref parhaol (‘domisil’) y tu allan i’r DU yn gorfod talu treth yn y DU ar incwm tramor.
Roedd yr un rheolau’n berthnasol os oeddech yn gwneud unrhyw enillion cyfalaf, er enghraifft os oeddech wedi gwerthu cyfranddaliadau neu ail gartref.
Canfod eich domisil
Fel arfer, eich domisil yw’r wlad yr oedd eich tad yn ystyried ei gartref parhaol pan gawsoch eich geni. Efallai y bydd wedi newid os wnaethoch symud dramor ac nad ydych yn bwriadu dychwelyd.
Os oes angen help arnoch i ganfod ym mha wlad y mae eich domisil, gallwch wneud y canlynol:
-
darllen pennod 5 o arweiniad Cyllid a Thollau EF (CThEF) ar ‘Fannau Preswylio, Domisil a’r Sail Drosglwyddo (yn agor tudalen Saesneg)’
-
cael help treth proffesiynol, er enghraifft gan ymgynghorydd treth
Mae rheolau ychwanegol ar gyfer domisil a Threth Etifeddiant.
Treth os nad yw’ch yn ddomisil
Cyn 6 Ebrill 2025, nid oeddech yn talu treth yn y DU ar eich incwm tramor na’ch enillion tramor os oedd y canlynol yn berthnasol:
-
roeddent yn llai na £2,000 yn y flwyddyn dreth
-
na wnaethoch chi ddod â nhw i’r DU, er enghraifft drwy eu trosglwyddo i gyfrif banc yn y DU
Os yw hyn yn berthnasol i chi, nid oes angen i chi wneud dim byd.
Mae Pennod 9 yn arweiniad CThEF ar ‘Fannau Preswylio, Domisil a’r Sail Drosglwyddo (yn agor tudalen Saesneg)’ yn egluro’r rheolau ar gyfer dod ag incwm neu enillion i’r DU.
Os yw’ch incwm yn £2,000 neu’n fwy – ar gyfer blwyddyn dreth hyd at 5 Ebrill 2025
Mae’n rhaid i chi roi gwybod am incwm neu enillion tramor o £2,000 neu fwy, neu unrhyw arian a gawsoch yn y DU, mewn Ffurflen Dreth Hunanasesiad.
Gallwch wneud un o’r canlynol:
-
talu treth yn y DU arnynt, efallai y gallwch ei hawlio’n ôl
-
hawlio’r sail trosglwyddo
Mae hawlio’r sail trosglwyddo yn golygu eich bod ond yn talu treth yn y DU ar yr incwm ²Ô±ð³Ü’r enillion y byddwch wedi dod â nhw i’r DU, ond mae’n bosibl y byddwch:
-
colli lwfansau rhydd o dreth ar gyfer Treth Incwm a Threth Enillion Cyfalaf (efallai bydd rhai ‘’ yn eu cadw)
-
yn talu tâl blynyddol os ydych wedi bod yn breswylydd yn y DU am amser penodol
Rydych yn talu tâl blynyddol o naill ai:
-
£30,000 os ydych chi wedi bod yn y DU am o leiaf 7 o’r 9 blwyddyn dreth flaenorol
-
£60,000 am o leiaf 12 o’r 14 blwyddyn dreth flaenorol
Mae hawlio’r sail drosglwyddo yn gymhleth. Gallwch wneud y canlynol:
-
cael help treth proffesiynol, er enghraifft gan ymgynghorydd treth
Os ydych chi’n gweithio yn y DU ac mewn gwlad dramor
Cyn 6 Ebrill 2025, roedd rheolau arbennig os oeddech yn gweithio yn y DU ac mewn gwlad dramor.
Nid oedd rhaid i chi dalu treth ar incwm tramor nac enillion tramor (hyd yn oed os oeddech yn dod â nhw i mewn i’r DU) os cawsoch yr esemptiad ‘gweithwyr tramor’.
Roeddech yn gymhwysol os oedd:
-
eich incwm o’ch swydd dramor yn llai na £10,000
-
eich incwm tramor arall (fel llog banc) yn llai na £100
-
mae’ch holl incwm tramor yn agored i dreth tramor (hyd yn oed os nad oedd rhaid i chi dalu, er enghraifft oherwydd lwfans sy’n rhydd o dreth)
-
eich incwm yn y DU a’ch incwm tramor wedi’i chyfuno o fewn y band ar gyfer Treth Incwm ar y gyfradd sylfaenol
-
Os nad oes angen i chi lenwi Ffurflen Dreth ar gyfer y flwyddyn honno am unrhyw reswm arall
Os ydych chi’n gymhwysol, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth i hawlio.
Os ydych wedi secondio i’r DU
Efallai y gallwch hawlio Rhyddhad Diwrnod Gwaith Dramor (yn agor tudalen Saesneg) os bydd eich cyflogwr yn eich anfon i weithio yn y DU ar secondiad.
Os ydych yn gymwys:
-
rydych yn talu treth ar eich incwm o gyflogaeth yn y DU yn seiliedig ar nifer y diwrnodau rydych chi wedi gweithio yma
-
nid ydych yn talu treth ar eich incwm ar y dyddiau rydych yn gweithio dramor
Newidiodd y rheolau ar gyfer gwneud hawliad ar 6 Ebrill 2025. I ddysgu a allwch hawlio, gofynnwch i’ch cyflogwr.
Myfyrwyr tramor
Mae rheolau arbennig os byddwch yn dod i astudio yn y DU.
4. Rhoi gwybod am eich incwm tramor
Fel arfer, bydd angen i chi lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad os ydych yn breswylydd yn y DU gydag incwm tramor neu enillion cyfalaf. Ond mae rhywfaint o incwm tramor yn cael ei drethu’n wahanol.
Nid oes angen i chi lenwi Ffurflen Dreth os yw’r canlynol i gyd yn berthnasol:
-
eich unig incwm tramor yw difidendau
-
cyfanswm eich difidendau - gan gynnwys difidendau’r DU - yn llai na’r lwfans o ran difidendau o £500
-
nid oes gennych unrhyw incwm arall i’w rhoi gwybod amdano
Efallai y bydd rheolau gwahanol yn berthnasol os ydych yn gymwys i gael rhyddhad Incwm ac Enillion Tramor (yn agor tudalen Saesneg).
Cyn 6 Ebrill 2025, efallai y byddai rheolau gwahanol wedi bod yn berthnasol os oedd eich cartref parhaol (‘domisil’) dramor.
Cofrestru ar gyfer Hunanasesiad
Os nad ydych fel arfer yn anfon Ffurflen Dreth, bydd angen i chi gofrestru erbyn 5 Hydref yn dilyn y flwyddyn dreth yr oedd gennych yr incwm ar ei chyfer.
Cewch lythyr yn rhoi gwybod am yr hyn i’w wneud nesaf ar ôl i chi gofrestru.
Llenwi’ch Ffurflen Dreth
Defnyddiwch adran ‘dramor’ y Ffurflen Dreth i gofnodi eich incwm tramor neu eich enillion tramor.
Dylech gynnwys incwm sydd eisoes wedi cael ei drethu dramor i gael Rhyddhad Credyd Treth Tramor, os ydych yn gymwys.
Mae gan Gyllid a Thollau EF (CThEF) arweiniad ar sut i roi gwybod am eich incwm tramor neu enillion tramor yn eich Ffurflen Dreth yn ‘Nodiadau tramor’.
5. Incwm tramor sy’n cael ei drethu’n wahanol
Mae’r rhan fwyaf o incwm tramor yn cael ei drethu yn yr un ffordd ag incwm yn y DU, ond mae rheolau arbennig ar gyfer:
-
pensiynau
-
rhent o eiddo
-
mathau penodol o incwm o gyflogaeth
Pensiynau
Mae’n rhaid i chi dalu treth ar bensiynau os ydych chi’n preswylydd, neu os oeddech chi’n preswylydd yn ystod unrhyw un o’r 5 blwyddyn dreth flaenorol.
Rydych hefyd yn talu treth ar unrhyw daliadau pensiwn tramor, gan gynnwys taliadau heb eu hawdurdodi fel taliadau cynnar a rhai cyfandaliadau.
Gwiriwch â’ch darparwr pensiwn i gael gwybod sut y byddwch yn cael eich trethu.
Rhent o eiddo
Rydych chi’n talu treth yn y ffordd arferol ar eiddo tramor. Ond os ydych yn rhentu mwy nag un, gallwch osod colledion yn erbyn eiddo tramor eraill.
Mathau penodol o incwm o gyflogaeth
Fel arfer, byddwch yn talu treth yn y ffordd arferol os ydych yn gweithio yn y DU ac mewn gwlad dramor. Mae rheolau arbennig os oeddech yn gweithio:
-
ar long (yn agor tudalen Saesneg) neu yn y diwydiant nwy neu olew alltraeth (yn agor tudalen Saesneg)
-
ar gyfer yr UE (yn agor tudalen Saesneg) ²Ô±ð³Ü’r Llywodraeth (yn agor tudalen Saesneg), neu fel gweithiwr datblygu gwirfoddol (yn agor tudalen Saesneg)
6. Os ydych chi’n cael eich trethu ddwywaith
Efallai y cewch eich trethu ar eich incwm tramor gan y DU a’r wlad o le y daeth yr incwm.
Fel arfer, gallwch hawlio rhyddhad treth i gael rhywfaint o’r dreth yn ôl, ²Ô±ð³Ü’r holl dreth yn ôl. Mae sut y byddwch yn hawlio yn dibynnu ar p’un a yw’ch incwm tramor wedi’i drethu’n barod.
Mae ffordd wahanol o hawlio rhyddhad os ydych yn ddi-breswyl gydag incwm yn y DU (yn agor tudalen Saesneg).
Gwneud cais am ryddhad treth cyn i chi gael eich trethu ar incwm tramor
Mae’n rhaid i chi wneud cais am ryddhad treth yn y wlad y daw eich incwm ohoni os:
-
yw’r incwm wedi’i esemptio rhag treth dramor ond ei fod yn cael ei drethu yn y DU (er enghraifft, y rhan fwyaf o bensiynau)
-
yw’n ofynnol dan gytundeb trethiant dwbl y wlad honno
Gofynnwch i’r awdurdod treth tramor am ffurflen, neu gwnewch gais drwy lythyr os nad oes ganddynt un.
Cyn i chi wneud cais, mae’n rhaid i chi brofi eich bod yn gymwys i gael rhyddhad treth drwy naill ai:
-
llenwi’r ffurflen a’i hanfon at Gyllid a Thollau EF (CThEF) - byddant yn cadarnhau a ydych yn breswylydd ac yn anfon y ffurflen yn ôl atoch chi
-
gan gynnwys tystysgrif preswylio (yn agor tudalen Saesneg), os ydych yn gwneud cais drwy lythyr
Ar ôl i chi gael tystiolaeth, anfonwch y ffurflen ²Ô±ð³Ü’r llythyr at yr awdurdod treth tramor.
Os ydych eisoes wedi talu treth ar eich incwm tramor
Fel arfer, gallwch hawlio Rhyddhad Credyd Treth Tramor pan fyddwch yn rhoi gwybod am eich incwm tramor ar eich Ffurflen Dreth.
Mae faint o ryddhad a gewch yn dibynnu ar p’un a oes gan y DU ‘gytundeb trethiant dwbl (yn agor tudalen Saesneg)’ gyda’r wlad o le daeth eich incwm ohoni.
Fel arfer, byddwch yn dal i gael rhyddhad hyd yn oed os nad oes cytundeb, oni bai nad yw’r dreth dramor yn cyfateb i Dreth Incwm neu Dreth Enillion Cyfalaf yn y DU.
Cysylltwch â Chyllid a Thollau EF (CThEF) neu gael help treth proffesiynol os nad ydych chi’n siŵr, neu os oes angen help arnoch chi gyda rhyddhad trethiant dwbl.
Yr hyn y byddwch yn ei gael yn ôl
Mae’n bosib na fydd swm llawn y dreth dramor y gwnaethoch ei thalu yn cael ei had-dalu i chi. Byddwch yn cael llai yn ôl os bydd un o’r canlynol yn berthnasol i chi:
-
mae swm llai yn cael ei bennu gan gytundeb trethiant dwbl (yn agor tudalen Saesneg) y wlad
-
pe bai’r incwm wedi cael ei drethu ar gyfradd is yn y DU
Mae gan CThEF arweiniad ar sut mae Rhyddhad Credyd Treth Tramor yn cael ei gyfrifo, gan gynnwys y rheolau llog a difidendau arbennig yn ‘Nodiadau tramor’.
Ni allwch hawlio’r rhyddhad hwn os yw cytundeb trethiant dwbl (yn agor tudalen Saesneg) y DU yn ei gwneud yn ofynnol i chi hawlio treth yn ôl o’r wlad y daeth eich incwm ohoni.
Treth Enillion Cyfalaf
Fel arfer, byddwch yn talu treth yn y wlad lle rydych yn byw ac wedi’ch esemptio rhag treth yn y wlad lle byddwch yn gwneud yr enillion cyfalaf. Fel arfer, nid oes rhaid i chi wneud hawliad.
Mae’n rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf ar eiddo preswyl yn y DU (yn agor tudalen Saesneg) hyd yn oed os nad ydych yn preswylydd yn y DU.
Pryd i hawlio rhyddhad
Mae yna wahanol reolau os daw’ch enillion o ased sydd naill ai:
-
ni ellir tynnu’r ased allan o’r wlad, megis tir neu dŷ
-
rydych yn ei defnyddio ar gyfer busnes yn y wlad honno
Bydd angen i chi dalu treth yn y ddwy wlad a chael rhyddhad gan y DU.
Preswylwyr deuol
Gallwch fod yn breswylydd yn y DU ac mewn gwlad arall. Bydd angen i chi wirio rheolau preswylio’r wlad arall a phryd mae’r flwyddyn dreth yn dechrau ac yn dod i ben.
Mae gan CThEF arweiniad ar gyfer hawlio rhyddhad trethiant dwbl os ydych chi’n breswylydd deuol (yn agor tudalen Saesneg).
7. Os ydych yn astudio yn y DU
Fel arfer, nid yw myfyrwyr tramor yn talu treth yn y DU ar incwm neu enillion tramor, cyn belled â bod yr incwm yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ffioedd cwrs neu gostau byw fel:
-
bwyd
-
rhent
-
biliau
-
deunyddiau myfyrio
Gwnewch yn siŵr bod gan y wlad y daw eich incwm ohoni ‘gytundeb trethiant dwbl (yn agor tudalen Saesneg)’ sy’n berthnasol i fyfyrwyr.
Efallai y bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn gofyn i chi gyfrif am eich costau byw os ydynt yn fwy na £15,000 mewn blwyddyn dreth (ac eithrio ffioedd cwrs). Mae’r flwyddyn dreth o 6 Ebrill i 5 Ebrill y flwyddyn ganlynol.
Pryd y mae’n rhaid i chi dalu treth
Efallai y bydd angen i chi dalu treth ar eich incwm tramor yn y ffordd arferol os ydych:
-
yn dod o wlad heb gytundeb trethiant dwbl i fyfyrwyr
-
yn ennill incwm arall nad ydych yn dod ag ef i’r DU
-
yn dod ag ef i’r DU a’i wario ar bethau ar wahân i gostau byw a ffioedd cwrs
-
yn bwriadu aros yn y DU fel eich cartref parhaol (‘domisil’)
Os ydych yn gweithio yn y DU
Mae rhai cytundebau trethiant dwbl (yn agor tudalen Saesneg) yn golygu nad ydych yn talu treth yn y DU ar eich incwm os ydych yn gweithio tra’ch bod yn fyfyriwr.
Os nad oes gan eich gwlad gytundeb fel hyn, mae’n rhaid i chi dalu treth yn yr un ffordd ag eraill sy’n dod i fyw yn y DU (yn agor tudalen Saesneg).