Apelio i'r tribiwnlys treth
Trosolwg
Gallwch apelio i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf (Treth) os ydych am herio rhai penderfyniadau gan:
- Gyllid a Thollau EF (CThEF)
- Llu’r Ffiniau
- Yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA)
- Awdurdod Cyllid Cymru (WRA)
- Y Comisiwn Hapchwarae (dim ond
Mae’r tribiwnlys yn annibynnol ar y llywodraeth, CThEF, Llu’r Ffiniau, NCA, WRA a’r Comisiwn Hapchwarae. Bydd yn gwrando ar ddwy ochr y ddadl cyn gwneud penderfyniad.
Os byddwch yn apelio gall y tribiwnlys:
- wneud penderfyniad newydd
- gofyn i’r sefydliad edrych ar y penderfyniad eto
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Cyn i chi apelio
Gallwch ofyn i rai penderfyniadau treth gael eu hadolygu. Gall hyn fod yn gyflymach ac yn rhatach nag apelio i’r tribiwnlys.
Gallwch:
Os nad ydych yn cytuno â’r canlyniad yna gallwch dal apelio i’r tribiwnlys.
Apelio yn erbyn penderfyniad CThEF
Gallwch apelio yn erbyn y rhan fwyaf o benderfyniadau ynghylch ‘treth uniongyrchol’ a ‘threth anuniongyrchol’.
Mae treth uniongyrchol yn cynnwys:
- Treth Incwm
- Treth Talu Wrth Ennill
- Treth Gorfforaeth
- Treth Enillion Cyfalaf
- Cyfraniadau Yswiriant Gwladol
- Treth Etifeddiant
Mae treth anuniongyrchol yn cynnwys:
- Treth ar Werth
- Toll Gartref
- Toll Dramor
Mae sut yr ydych yn apelio yn erbyn penderfyniad yn dibynnu ar p’un a yw’n ymwneud â threth uniongyrchol neu dreth anuniongyrchol.
Mae’n rhaid i chi apelio yn erbyn penderfyniadau ynghylch treth uniongyrchol i CThEF cyn y gallwch apelio i’r tribiwnlys.
Gan amlaf, gallwch apelio yn erbyn penderfyniadau ynghylch treth anuniongyrchol yn syth i’r tribiwnlys.
Gallwch hefyd wneud cais am ddull amgen o ddatrys anghydfod.
Mae yna ffordd wahanol i apelio yn erbyn penderfyniadau ynghylch credydau treth a Treth y Cyngor.
Oedi talu tra byddwch yn apelio
Gallwch ofyn i oedi cyn talu bil treth os ydych yn gwneud apêl i’r tribiwnlys treth. Fel arfer codir llog arnoch os byddwch yn colli eich apêl.
Gallwch dal apelio i’r tribiwnlys os na allwch dalu eich bil treth - peidiwch ag aros hyd nes y bydd CThEF wedi cytuno y gallwch beidio â thalu am y tro. Mae’n rhaid i chi ddweud wrth y tribiwnlys os ydych wedi gofyn i gael oedi talu pan fyddwch yn apelio.
Os byddwch yn gofyn i gael oedi talu ar ôl i chi gyflwyno eich apêl, yna mae angen i chi gysylltu â’r tribiwnlys treth i roi gwybod iddynt.
Tribiwnlys treth
ymholiadaucymraeg@justice.gov.uk
Rhif ffôn: 0300 303 5857
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 4pm
Gwybodaeth am gost galwadau
Nid oes rhaid i chi dalu ar unwaith os ydych chi’n apelio yn erbyn cosb.
Apêl am nwyddau wedi’u hatafaelu
Rhaid i chi ofyn i Lu’r Ffiniau neu CThEF fynd â’ch achos i’r llys ynadon (gelwir hyn yn dechrau ‘achos condemnio’) os credwch na ddylent fod wedi cymryd (neu ‘atafaelu’) eich nwyddau.
Efallai y gallwch apelio i’r tribiwnlys os yw Llu’r Ffiniau neu CThEF:
- yn gwrthod dychwelyd eich nwyddau wedi’u hatafaelu
- yn dweud bod angen i chi dalu i gael eich nwyddau wedi’u hatafaelu yn ôl
Cyn y gallwch apelio yn erbyn gwrthod dychwelyd eich nwyddau wedi’u hatafaelu, rhaid i chi ofyn i naill ai Llu’r Ffiniau neu CThEF adolygu eu penderfyniad. Os ydych wedi methu’r terfyn amser ar gyfer adolygiad, gallwch wneud cais i’r tribiwnlys i gael caniatâd i ofyn am adolygiad hwyr.
Os gofynnwyd i chi dalu toll neu gosb
Efallai y gallwch apelio os yw CThEF:
- yn anfon asesiad ar gyfer toll atoch
- yn gosod cosb arnoch
Cyn i chi apelio, fel arfer bydd yn rhaid i chi dalu am asesiad toll. Os na allwch, gallwch wneud cais i CThEF i ohirio ei dalu tan ar ôl i’r apêl ddod i ben.
Nid oes angen i chi dalu cosb cyn i chi apelio.
Apelio yn erbyn penderfyniad gan yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA)
Gall NCA wirio’ch ffurflen dreth yn lle CThEF mewn rhai achosion.
Gallwch wneud apêl os nad ydych yn cytuno â’r penderfyniad trwy ysgrifennu at NCA. Mae’n rhaid i chi apelio i’r NCA cyn y gallwch apelio i’r tribiwnlys.
Yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol / National Crime Agency
Units 1 - 6 Citadel Place
Tinworth Street
Llundain
SE11 5EF
Apelio yn erbyn penderfyniad gan Awdurdod Cyllid Cymru (WRA)
Gallwch apelio yn erbyn rhai penderfyniadau a wnaed gan WRA ynghylch y Dreth Trafodiadau Tir a’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi.
Fel arfer mae’n rhaid i chi dalu’r swm y mae WRA yn dweud sy’n ddyledus gennych ymlaen llaw. Gallwch ofyn i gael peidio â thalu hyd nes y cewch benderfyniad ynghylch eich apêl. Os byddwch yn oedi cyn talu yna efallai y codir llog arnoch ar y swm sy’n ddyledus gennych.
Cau ymholiad
Os bydd CThEF, NCA neu WCA yn agor ymholiad ynghych eich ffurIflen dreth a’ch bod yn meddwl y dylid ei gau, gallwch ofyn i’r tribiwnlys treth orchymyn eu bod yn ei gau.
Gallwch wneud cais i:
Ni allwch wneud cais os yw eich ffurflen dreth yn cael ei gwirio ar gyfer treth anuniongyrchol.
Cymorth y gallwch ei gael
Efallai y byddwch am gael cymorth a chyngor cyn i chi apelio. Efallai y gall cyfrifydd, cynghorydd treth neu gynghorydd cyfreithiol eich helpu chi.
Gallwch gael cyngor am ddim gan:
- , os ydych chi dros 60 oed