Prynu trwydded pysgota â gwialen
Printable version
1. Pryd mae angen trwydded arnoch
Rhaid i chi feddu ar drwydded pysgota â gwialen ar gyfer Cymru a Lloegr os ydych yn pysgota am eogiaid, brithyllod, pysgod dŵr croyw, brwyniaid neu lysywod gyda gwialen a lein yn yr ardaloedd canlynol:
- Lloegr (ac eithrio afon Tuedd)
- Cymru
- rhanbarth afon Border Esk, gan gynnwys y rhannau o’r afon sydd yn yr Alban
Mae hyn yn cynnwys os ydych chi’n pysgota ar dir preifat, fel dyfroedd clwb pysgota neu lynnoedd pysgota preifat.
Gallwch dderbyn dirwy o hyd at £2,500 os ydych yn pysgota yn yr ardaloedd hyn heb allu dangos trwydded pysgota â gwialen ddilys ar gais.
Rhaid i chi ddilyn is-ddeddfau lleol a chenedlaethol ar gyfer pysgota â gwialen (yn Saesneg) wrth bysgota mewn dŵr croyw gyda gwialen a lein yng Nghymru a Lloegr. Efallai y bydd rheolau ychwanegol mewn rhai ardaloedd - gwiriwch gyda pherchennog y tir.
Mae rheolau gwahanol ar gyfer pysgota yng ngweddill yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Caniatadau eraill sydd eu hangen arnoch
Mae angen caniatâd arnoch gan berchennog y tir neu’r bysgodfa i bysgota yn yr ardal, yn ogystal â thrwydded pysgota â gwialen.
Fel arfer, y caniatâd sydd ei angen arnoch chi yw trwydded pysgota.
Er enghraifft, i bysgota mewn lociau neu goredau ar afon Tafwys mae angen trwydded pysgota mewn lociau a choredau arnoch chi.
Trwyddedau i blant a gofalwyr
Nid oes angen trwydded ar blant dan 13 oed.
Bydd angen i chi gael trwydded iau ar gyfer plant rhwng 13 a 16 oed. Mae trwyddedau iau ar gael am ddim.
Nid oes angen trwydded ar ofalwyr sy’n dod gyda rhywun sy’n pysgota oni bai eu bod nhw’n pysgota eu hunain.
2. Mathau o drwyddedau a therfynau gwialen
Trwydded brithyll, pysgod bras a llyswennod
Mae’r drwydded hon yn caniatáu ichi bysgota am frithyll anfudol a phob math o bysgod dŵr croyw, gan gynnwys brwyniaid a llyswennod.
Gallwch ddefnyddio eich trwydded i bysgota gyda:
- 1 wialen ar gyfer brithyll anfudol mewn afonydd, nentydd, draeniau a chamlesi
- hyd at 2 wialen ar gyfer brithyll anfudol mewn cronfeydd dŵr, llynnoedd a phyllau
- hyd at 2 wialen ar gyfer pysgod dŵr croyw eraill
Gallwch hefyd brynu trwydded 12 mis sy’n caniatáu ichi ddefnyddio hyd at 3 gwialen ar gyfer pysgod dŵr croyw, ac eithrio brithyll anfudol.
Efallai y bydd gan y lle rydych chi’n pysgota reolau ychwanegol ynghylch faint o wialenni y gallwch chi eu defnyddio yno.
Trwydded eog a brithyll môr
Mae’r drwydded hon yn caniatáu i chi bysgota am eogiaid, brithyll anfudol a phob math o bysgod dŵr croyw, gan gynnwys brwyniaid a llyswennod.
Gallwch ddefnyddio eich trwydded i bysgota gyda’r canlynol:
- 1 wialen ar gyfer eogiaid, brithyll môr a brithyll anfudol mewn afonydd, nentydd a chamlesi
- hyd at 2 wialen ar gyfer eogiaid, brithyll môr a brithyll anfudol mewn cronfeydd dŵr, llynnoedd a phyllau
- hyd at 3 gwialen ar gyfer pysgod dŵr croyw eraill
Os oes gennych drwydded ar gyfer eogiaid a brithyll y môr, rhaid i chi gyflwyno ffurflen daliad (yn Saesneg) bob blwyddyn hyd yn oed os nad ydych wedi pysgota.
Efallai y bydd gan y lle rydych chi’n pysgota reolau ychwanegol ynghylch faint o wialenni y gallwch chi eu defnyddio yno.
Gwialenni nad effeithir arnynt gan derfynau trwyddedau
Nid yw terfynau trwyddedau yn effeithio ar y gwialenni canlynol oni bai bod bachau ynghlwm wrthynt:
- gwialenni spodiau (wedi’u defnyddio i daflu abwyd i’r dŵr)
- gwialenni marcio (wedi’u defnyddio i farcio llinynnau)
3. Prynu trwydded pysgota â gwialen ar gyfer Cymru a Lloegr
Gallwch brynu trwydded 1 diwrnod, 8 diwrnod neu 12 mis ar-lein i chi’ch hun neu rywun arall.
Gallwch brynu trwydded hyd at 30 diwrnod cyn i chi ei defnyddio.
Ffioedd
Nid oes prisiau gostyngol ar gyfer trwydded 1 diwrnod na thrwydded 8 diwrnod.
Math o drwydded | Brithyll a physgod bras (hyd at 2 wialen) | Brithyll a physgod bras (hyd at 3 wialen) | Eog a brithyll y môr | |
---|---|---|---|---|
1 diwrnod | £7.30 | Ddim ar gael | £13.50 | Ìý |
8 diwrnod | £14.70 | Ddim ar gael | £30.50 | Ìý |
12 mis | £36.80 | £55.30 | £93.10 | Ìý |
12 mis - (66 neu hÅ·n neu anabl) | £24.50 | £36.80 | £62.00 | Ìý |
12 mis - iau (13 i 16 oed) | Am ddim | Am ddim | Am ddim | Ìý |
Mae angen gwahanol ganiatadau neu drwyddedau arnoch i bysgota yn y rhan fwyaf o’r Alban a Gogledd Iwerddon.
Cymhwysedd ar gyfer trwyddedau i bobl anabl
Gallwch gael trwydded i bobl anabl am 12 mis os yw un o’r canlynol yn berthnasol:
- os oes gennych Fathodyn Glas neu’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer un
- os ydych chi’n derbyn Taliad Annibyniaeth Personol - unrhyw gyfraddÌý
- os ydych chi’n derbyn Lwfans Byw i’r Anabl
Os ydych chi’n derbyn Taliad Annibyniaeth Personol neu Lwfans Byw i’r Anabl, bydd angen i chi roi eich rhif Yswiriant Gwladol (neu rif cyfeirnod plentyn os ydych chi o dan 16) wrth wneud cais.
Cael trwydded ar-lein
Gallwch gael trwydded oedolyn neu drwydded iau ar-lein. Mae trwyddedau iau i blant 13 i 16 oed am ddim.
Bydd angen y canlynol arnoch:
- cerdyn debyd neu gredyd
- eich rhif Yswiriant Gwladol, os ydych chi’n derbyn Taliad Annibyniaeth Personol neu Lwfans Byw i’r Anabl ac yn gwneud cais am drwydded 12 mis
- manylion y person arall (megis dyddiad geni), os ydych chi’n prynu ar ran rhywun arall
Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael .
Ffyrdd eraill o gael trwydded
Gallwch hefyd gael trwydded oedolyn neu drwydded iau drwy ffonio Asiantaeth yr Amgylchedd.
Gwasanaeth trwyddedau pysgota Asiantaeth yr Amgylchedd
Ffôn: 0344 800 5386
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm (ac eithrio gwyliau cyhoeddus)
Gwybodaeth am gostau galwadau
Os nad ydych wedi derbyn eich trwydded
Dylai trwyddedau a anfonir drwy’r post gyrraedd o fewn 10 diwrnod gwaith. Fel arfer, mae trwyddedau a anfonir dros e-bost neu neges destun yn cyrraedd o fewn awr.
Cysylltwch ag Asiantaeth yr Amgylchedd os nad ydych wedi derbyn eich trwydded.
Asiantaeth yr Amgylchedd
enquiries@environment-agency.gov.uk
Ffôn: 03708 506 506
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm (ac eithrio gwyliau cyhoeddus)
Gwybodaeth am gostau galwadauÌý
4. Amnewid, diweddaru neu ymestyn trwydded pysgota â gwialen
Gallwch gysylltu ag Asiantaeth yr Amgylchedd:
- i amnewid trwydded goll
- i ddiweddaru eich manylion os ydych chi wedi newid eich enw neu gyfeiriad
- i ddweud wrthym fod pysgotwr wedi marw
- os oes gennych gwestiynau am eich trwydded
Asiantaeth yr Amgylchedd
enquiries@environment-agency.gov.uk
Ffôn: 03708 506 506
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm (ac eithrio gwyliau cyhoeddus)
Gwybodaeth am gostau galwadauÌý
National Customer Contact Centre
PO Box 544
Rotherham
S60 1BY
Ymestyn trwydded
I newid trwydded 1 diwrnod neu 8 diwrnod i drwydded 12 mis, ffoniwch Asiantaeth yr Amgylchedd o fewn 14 diwrnod ar ôl y dyddiad y daeth y drwydded i ben. Bydd angen i chi brynu trwydded newydd ond byddwch yn cael ad-daliad am yr un gyntaf a brynwyd gennych.
Gwasanaeth trwyddedau pysgota Asiantaeth yr Amgylchedd
Ffôn: 0344 800 5386
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm (ac eithrio gwyliau cyhoeddus)
Gwybodaeth am gostau galwadau
5. Pysgota yn yr Alban a Gogledd Iwerddon
Pysgota yn yr Alban
Nid oes angen trwydded arnoch i bysgota â gwialen a lein yn unman yn yr Alban ac eithrio rhanbarth afon Border Esk.
Dim ond caniatâd gan berchennog y tir neu glwb pysgota sydd ei angen arnoch chi.
Gan fod afon Border Esk yn llifo i Loegr mae angen i chi brynu trwydded pysgota â gwialen ar gyfer Cymru a Lloegr i bysgota unrhyw ran ohoni. Mae hyn yn cynnwys y rhannau o’r afon a’i llednentydd sydd yn yr Alban.
Pysgota yng Ngogledd Iwerddon
Rhaid i chi gael gan asiantaeth yng Ngogledd Iwerddon i bysgota yng Ngogledd Iwerddon.