Ad-dalu a rheoli arian budd-dal sy’n ddyledus gennych
Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i:
- wirio faint sy’n ddyledus gennych,
- darganfod pam fod angen i chi ad-dalu arian
- gweld hanes eich taliadau
- ad-dalu’r hyn sy’n ddyledus gennych yn llawn neu wneud taliad untro
- cael cymorth a chefnogaeth am yr arian sy’n ddyledus gennych
Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol
Caiff eich budd-daliadau eu lleihau nes eich bod wedi ad-dalu’r arian.
Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i wirio pryd y byddwch wedi ad-dalu’r arian.
Ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i reoli arian sy’n ddyledus gennych o daliad ymlaen llaw sydd gennych ar eich cais Credyd Cynhwysol presennol. Cysylltwch â Chredyd Cynhwysol yn lle.
Os ydych wedi rhoi’r gorau i gael budd-daliadau
Byddwch yn cael llythyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn dweud wrthych y gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn. Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, bydd y llythyr yn dod gan y Department for Communities (DfC).
Ar ôl i chi dderbyn y llythyr, gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth i sefydlu neu reoli Debyd Uniongyrchol neu gynllun talu hyblyg.
Mewngofnodwch i’r gwasanaeth
Gallwch fewngofnodi gyda’r cod diogelwch yn eich llythyr gan DWP neu DfC. Gallwch hefyd mewngofnodi gyda 51²è¹Ý One Login. Gallwch greu 51²è¹Ý One Login os nad oes gennych un eisoes.
Ffyrdd eraill i dalu os nad ydych yn cael budd-daliadau mwyach
Os nad ydych yn cael budd-daliadau mwyach, mae ffyrdd eraill i ad-dalu’r arian.
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon gallwch dalu gan .
Talu gan ddefnyddio bancio ar-lein
Os ydych yn talu o gyfrif banc yn y DU, defnyddiwch y manylion canlynol.
- enw’r cyfrif - Rheoli Dyled DWP
- cod didoli - 60 70 80
- rhif cyfrif - 10025634
- cyfeirnod talu - y cyfeirnod ar eich llythyr gan DWP neu’ch rhif Yswiriant Gwladol
Os ydych yn talu o gyfrif tramor, defnyddiwch y manylion canlynol.
- enw’r cyfrif - Rheoli Dyled DWP
- rhif cyfrif (IBAN) - GB30NWBK60708010025634
- Cod Adnabod y Busnes (BIC) - NWBKGB2L
- cyfeirnod talu - y cyfeirnod ar eich llythyr gan DWP neu’ch rhif Yswiriant Gwladol
Talu gan ddefnyddio Debyd Uniongyrchol, cerdyn debyd, sieciau, neu arian parod
Cysylltwch â DWP i:
- sefydlu ad-daliadau misol trwy Ddebyd Uniongyrchol
- gwneud taliad gan ddefnyddio cerdyn debyd
- gofyn am slip talu i mewn am siec neu daliadau arian parod
Cael help gyda’ch ad-daliadau
Cysylltwch â Rheoli Dyled DWP os oes angen help arnoch i reoli eich ad-daliadau. Gallant drafod eich opsiynau, gan gynnwys yr hyn y gallwch fforddio ei dalu.
Cysylltwch â Rheoli Dyled DWP
Ffôn: 0800 916 0647
Ffôn testun: 0800 916 0651
(os na allwch glywed na siarad ar y ffôn): 18001 yna 0800 916 0647
ar gyfer defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL) -
Ffonio o dramor: +44 (0)161 904 1233
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 7:30pm
Darganfyddwch am gostau galwadau