Am Rybuddion Argyfwng
Gwasanaeth llywodraeth y DU yw Rhybuddion Argyfwng sy’n rhoi rhybudd a chyngor mewn argyfwng sy’n peryglu bywyd.
Bydd y llywodraeth yn rhedeg prawf cenedlaethol o’r system Rhybuddion Argyfwng ar ddydd Sul 7 Medi 2025.
Rhesymau pam y gallech gael rhybudd
Gallech gael rhybuddion am unrhyw fath o argyfwng sy’n peryglu bywyd, megis:
- tanau gwyllt
- llifogydd difrifol
- stormydd eithafol
Mae camau syml ac effeithiol y gallech eu cymryd i fod yn fwy parod am argyfwng yn eich ardal chi. Ewch i gov.uk/prepare am fwy o wybodaeth.
Anfonir rhybuddion argyfwng yn unig drwy:
- y gwasanaethau brys
- adrannau'r llywodraeth, asiantaethau a chyrff cyhoeddus sy'n ymdrin ag argyfyngau
Beth sy'n digwydd pan gewch chi rybudd argyfwng
Gallai eich ffôn symudol neu dabled:
- wneud sŵn uchel tebyg i seiren, hyd yn oed os yw ar osodiad tawel
- dirgrynu
- darllen y rhybudd yn uchel
Bydd y sŵn a'r dirgryniad yn parhau am ryw 10 eiliad.
Bydd rhybudd yn cynnwys rhif ffôn neu ddolen at wefan 51²è¹Ý am ragor o wybodaeth.
Cewch rybuddion ar sail eich lleoliad presennol – nid lle rydych chi'n byw neu'n gweithio. Does dim angen i chi droi gwasanaethau lleoliad ymlaen i gael rhybuddion.
Beth sydd angen i chi ei wneud
Pan gewch chi rybudd, stopiwch beth rydych chi'n ei wneud a dilynwch y cyfarwyddiadau yn y rhybudd.
Os ydych chi'n gyrru neu'n reidio pan gewch chi rybudd
Peidiwch â darllen nac ymateb i rybudd argyfwng wrth yrru neu reidio.
Dewch o hyd i rywle diogel a chyfreithion i stopio cyn darllen y neges. Os nad oes unrhyw le diogel a chyfreithlon i stopio, a neb arall yn y cerbyd i ddarllen y rhybudd, gallwch wrando ar newyddion ar radio byw i gael gwybod am yr argyfwng.
Os na allwch chi dderbyn rhybuddion argyfwng
Os nad oes gennych chi ddyfais gydweddol, rhoddir gwybod o hyd i chi am argyfwng. Mae gan y gwasanaethau brys ffyrdd eraill o'ch rhybuddio pan fydd bygythiad i fywyd.
Os ydych chi'n fyddar, yn drwm eich clyw, yn ddall neu'n rhannol ddall
Os oes gennych nam ar eich golwg neu'ch clyw, bydd signalau sylw sain a dirgrynu yn rhoi gwybod i chi fod gennych chi rybudd argyfwng os yw hysbysiadau hygyrchedd wedi eu galluogi ar eich ffôn symudol neu dabled.
Ieithoedd y rhybuddion
Anfonir rhybuddion argyfwng yn y Saesneg. Yng Nghymru, gellir hefyd eu hanfon yn y Gymraeg.