51²è¹Ý

Skip to main content
Emergency Alerts

This is a new service that is being trialled – your will help us to improve it.

Optio allan o rybuddion argyfwng

Mae rhybuddion argyfwng yn cynnwys gwybodaeth sy’n achub bywyd a dylent gael eu cadw wedi eu troi ymlaen er eich diogelwch eich hun.

Gallwch optio allan o rybuddion argyfwng. Er enghraifft, gall dioddefwyr camdriniaeth yn y cartref gyda ffôn wedi ei guddio ei chael yn briodol i ddiffodd rhybuddion.

Mae sut rydych chi’n optio allan yn dibynnu ar eich dyfais. Os ydych yn parhau i gael rhybuddion ar ôl optio allan, cysylltwch â gwneuthurwr eich dyfais am gymorth.

Ffonau iPhone ac Android

I optio allan:

  1. Chwiliwch am ‘rybuddion argyfwng’ yn eich gosodiadau.
  2. Diffoddwch ‘rybuddion difrifol’ a ‘rhybuddion eithafol’.

Ffonau symudol eraill a thabledi

Yn dibynnu ar fersiwn gwneuthurwr a meddalwedd eich ffôn, gellir galw gosodiadau rhybuddion brys yn enwau gwahanol, megis ‘rhybuddion argyfwng diwifr’ neu ‘ddarllediadau argyfwng’.

Gellir dod o hyd i’r gosodiadau fel arfer mewn un o’r ffyrdd canlynol. Ewch i:

  • ‘neges’, wedyn ‘gosodiadau negeseuon’, wedyn ‘rhybuddion argyfwng diwifr’, wedyn ‘rhybudd’
  • ‘gosodiadau’, wedyn ‘synau’, wedyn ‘uwch’, wedyn ‘darllediadau argyfwng’
  • ‘gosodiadau’, wedyn ‘gosodiadau cyffredinol’, wedyn ‘rhybuddion argyfwng’

Wedyn diffoddwch ‘rhybuddion difrifol’, ‘rhybuddion eithafol’ a ‘rhybuddion prawf’.