Cofrestru ar gyfer TAW
Trosglwyddo’ch cofrestriad TAW
Gallwch drosglwyddo rhif cofrestru TAW os oes newid mewn perchnogaeth busnes neu statws cyfreithiol.
Er enghraifft:
- os byddwch yn cymryd busnes drosodd a’ch bod am barhau i ddefnyddio’i rif cofrestru TAW
- os bydd eich busnes yn newid o fod yn bartneriaeth i fod yn unig fasnachwr
Mae hyn yn golygu y bydd y busnes yn cadw’r un rhif cofrestru TAW.
Gwneud cais am drosglwyddiad
Newid statws cyfreithiol eich busnes
I drosglwyddo’ch rhif cofrestru TAW pan fydd statws cyfreithiol eich busnes yn newid (a elwir hefyd yn ‘newid endid cyfreithiol’):
- argraffwch, llenwch a phostiwch ffurflen VAT68 i Gyllid a Thollau EF (CThEF)
- cofrestrwch ar gyfer TAW gan ddefnyddio statws cyfreithiol newydd eich busnes – er enghraifft, os ydych wedi dod yn unig fasnachwr
Gallwch wirio cynnydd eich cais.
Prynu busnes
I drosglwyddo’r rhif cofrestru TAW:
- mae’n rhaid i chi a’ch gwerthwr gwblhau ffurflen VAT68 – argraffwch y ffurflen, ei llenwi a’i phostio i CThEF
- mae’n rhaid i chi gofrestru ar gyfer TAW fel perchennog newydd y busnes
Bydd CThEF yn trin y ffurflen VAT68 fel y gwerthwr yn canslo ac yn trosglwyddo i chi. Nid oes angen i chi lenwi ffurflen VAT7.
Gallwch wirio cynnydd eich cais.
Yr hyn sy’n digwydd nesaf
Os ydych yn gwerthu’ch busnes:
- canslwch fynediad eich cyfrifydd at eich cyfrif TAW ar-lein – er enghraifft, os gwnaethoch ei awdurdodi i ddelio â’ch TAW
- canslwch unrhyw Ddebydau Uniongyrchol ar eich cyfrif TAW ar-lein
Hefyd, mae’n rhaid i chi roi’ch cofnodion i’r prynwr os ydych yn pasio’ch rhif TAW ymlaen.
Os ydych yn prynu busnes:
- cysylltwch â CThEF cyn pen 21 diwrnod i’r cais i drosglwyddo os ydych am gadw cyfrifydd y gwerthwr
- newidiwch unrhyw drefniadau hunan-filio (yn agor tudalen Saesneg) am rai newydd
- trefnwch Ddebydau Uniongyrchol newydd ar eich cyfrif TAW ar-lein
Os yw’n well gennych gael rhif TAW ²Ô±ð·É²â»å»åÌý
Os ydych am gael rhif TAW newydd yn hytrach na chadw’r un presennol, bydd angen i chi ganslo’r cofrestriad TAW presennol a chofrestru eto ar gyfer TAW.