Credyd Cynhwysol
Cymhwyster
Efallai y gallwch gael Credyd Cynhwysol os ydych ar incwm isel neu angen help gyda’ch costau byw. Gallech fod:
- allan o waith
- yn gweithio (gan gynnwys hunangyflogaeth a rhan amser)
- yn methu gweithio, er enghraifft oherwydd cyflwr iechyd
I wneud cais rhaid i chi fod:
- yn byw yn y DU
- yn 18 oed neu drosodd (mae rhai eithriadau os ydych chi rhwng 16 a 17 oed)
- o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth
- â £16,000 neu lai mewn arian, cynilion a buddsoddiadau
Gallwch ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau i wirio pa fudd-daliadau y gallech chi eu cael.
Os ydych chi’n ddinesydd o’r UE, yr AEE neu’r Swistir
Efallai y bydd angen statws sefydlog neu wedi’i setlo ymlaen llaw arnoch chi a’ch teulu o dan Gynllun Setliad yr UE i gael Credyd Cynhwysol. Gwiriwch a allwch barhau i wneud cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog yr UE.
Os ydych chi’n byw gyda’ch partner
Bydd angen i’r ddau ohonoch wneud cais am Gredyd Cynhwysol. Rhaid i chi wneud cais ar y cyd am eich cartref, hyd yn oed os nad yw’ch partner yn gymwys. Bydd faint y gallwch ei gael yn dibynnu ar incwm a chynilion eich partner, yn ogystal â’ch incwm chi.
Os yw un ohonoch wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth
Os mai dim ond un ohonoch sydd wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gallwch chi a’ch partner hawlio Credyd Cynhwysol fel cwpl o hyd. Bydd eich hawliad Credyd Cynhwysol yn dod i ben pan fydd y ddau ohonoch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Os ydych yn cael Credyd Pensiwn bydd hwn yn dod i ben os ydych chi neu’ch partner yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol. Fel arfer byddwch well eich byd yn aros ar Gredyd Pensiwn, gallwch wirio gan ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau.
Os ydych chi’n astudio neu mewn hyfforddiant
Gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol os ydych chi mewn addysg amser llawn ac mae unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:
- rydych chi’n byw gyda’ch partner ac maen nhw’n gymwys i gael Credyd Cynhwysol
- rydych chi’n gyfrifol am blentyn, naill ai fel person sengl neu fel cwpl
- rydych chi wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac yn byw gyda phartner sydd o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth
- rydych wedi derbyn llythyr Hysbysiad Trosglwyddo yn dweud wrthych i wneud cais am Gredyd Cynhwysol
Gallwch hefyd wneud cais am Gredyd Cynhwysol os ydych chi’n 21 neu’n iau, yn astudio unrhyw gymhwyster hyd at Lefel A neu gyfwerth ac nad oes gennych gefnogaeth rhieni.
Efallai y gallwch wneud cais os ydych chi’n astudio’n rhan-amser neu’n gwneud cwrs nad oes benthyciad na chyllid myfyriwr ar gael ar ei gyfer.
Gwiriwch y canllawiau ynghylch gwneud cais am Gredyd fel myfyriwr.
Myfyrwyr ag anableddau neu gyflyrau iechyd
Gallwch gwneud cais am Gredyd Cynhwysol os ydych mewn addysg llawn-amser, ac wedi cael eich asesu fel bod â gallu cyfyngedig i weithio gan Asesiad Gallu i Weithio cyn dechrau eich cwrs. Rhaid i chi hefyd fod â hawl i unrhyw un o’r canlynol:
- Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
- Lwfans Byw i’r Anabl (DLA)
- Taliad Plant Anabl (CDP) yn yr Alban
- Lwfans Gweini
- Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
- Taliad Anabledd Oedolion (ADP) yn yr Alban
- Taliad Anabledd Oedran Pensiwn (PADP) yn yr Alban
Gwneud cais os ydych chi’n 16 neu’n 17 oed
Gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol os yw unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:
- mae gennych gyflwr iechyd neu anabledd a bod gennych dystiolaeth feddygol ar ei gyfer, fel nodyn ffitrwydd
- rydych yn gofalu am rywun sy’n cael budd-dal yn seiliedig ar iechyd neu anabledd
- mae gweithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud eich bod yn agosà u at ddiwedd oes
- yn gyfrifol am blentyn
- rydych chi’n byw gyda’ch partner, mae gennych gyfrifoldeb am blentyn ac mae’ch partner yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol
- rydych chi’n feichiog ac yn disgwyl eich babi yn yr 11 wythnos nesaf
- rydych chi wedi cael babi yn ystod y 15 wythnos ddiwethaf
- nid oes gennych gefnogaeth rhieni, er enghraifft nid ydych yn byw gyda’ch rhieni ac nid ydych o dan ofal awdurdod lleol
Os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd
Os oes gennych gyflwr iechyd sy’n effeithio ar eich gallu i weithio efallai y cewch arian ychwanegol ar gyfer Credyd Cynhwysol.
Os ydych yn y lluoedd arfog
Os ydych yn y lluoedd arfog ac wedi’ch lleoli dramor, gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol. Bydd angen i chi ddefnyddio cyfeiriad penodol pan fyddwch yn gwneud cais