Credyd Cynhwysol
Cael taliad ymlaen llaw neu gymorth ariannol arall
Os ydych angen help i dalu eich biliau neu dalu costau eraill, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am daliad ymlaen llaw, taliad caledi neu gymorth ariannol arall.
Gallwch hefyd edrych i weld pa fudd-daliadau eraill y gallech eu cael. Efallai y byddwch yn gallu cael .
Gwneud cais am daliad ymlaen llaw neu daliad caledi
Bydd angen i chi edrych i weld pa fath o daliad ymlaen llaw rydych yn gymwys amdano.
Mae faint y gallwch ei gael yn dibynnu ar eich amgylchiadau a beth rydych angen y taliad ymlaen llaw ar ei gyfer
Mae’r mathau y gallwch eu cael yn cynnwys:
- taliad ymlaen llaw ar eich taliad cyntaf
- taliad caledi os caiff eich taliad ei stopio neu ei leihau
- taliad ymlaen llaw ar gyfer costau annisgwyl
- help gyda threuliau swyddi
- taliad ymlaen llaw os yw eich amgylchiadau wedi newid
Fel arfer, mae’n rhaid i chi dalu hyn yn ôl trwy eich taliadau Credyd Cynhwysol yn y dyfodol.
Cael help gyda chostau gofal plant ymlaen llaw
Os ydych yn dechrau gweithio neu’n cynyddu eich oriau, efallai y byddwch hefyd yn gallu cael help i dalu costau ymlaen llaw.
Sut i newid eich Credyd Cynhwysol misol
Os ydych yn cael anawsterau ariannol neu os ydych ar ei hôl hi ar eich rhent, gallwch ofyn am newid y ffordd y mae eich Credyd Cynhwysol yn cael ei dalu.
Efallai y byddwch chi neu’ch landlord yn gallu gwneud cais am Drefniant Talu Amgen (APA).
Cyngor ar arian a dyled
Os ydych angen help i reoli eich cyllideb neu filiau, gallwch gael cyngor am ddim.
Gallwch gael help i ofalu am eich costau byw gan gynnwys cymorth gyda’ch biliau cyfleustodau, costau tai neu bresgripsiynau’r GIG.