Gwneud cais am daliad ymlaen llaw neu daliad caledi Credyd Cynhwysol
Cael taliad ymlaen llaw os yw eich amgylchiadau wedi newid
Os yw’ch amgylchiadau wedi newid ac mae hyn yn golygu y byddwch yn gymwys i gael mwy o arian, gallwch wneud cais am daliad ymlaen llaw. Er enghraifft, efallai y byddwch yn gallu cael taliad ymlaen llaw os:
- rydych yn cael plentyn
- mae eich rhent yn mynd i fyny
- rydych wedi colli swydd neu mae eich cyflog wedi mynd lawr
Pryd allwch chi wneud cais
Gallwch wneud cais cyn gynted ag y byddwch wedi rhoi gwybod am y newid.
Ni allwch wneud cais ar ôl i chi dderbyn taliad uwch oherwydd eich newid mewn amgylchiadau.
Sut i wneud cais
I wneud cais, gallwch wneud unrhyw un o’r canlynol:
- diweddaru eich dyddlyfr yn eich cyfrif Credyd Cynhwysol
- gofyn i gyswllt Credyd Cynhwysol yn eich canolfan gwaith leol neu’ch anogwr gwaith
- ffonio llinell gymorth Credyd Cynhwysol
Llinell gymorth Credyd Cynhwysol
Ffôn: 0800 328 5644
Ffôn testun: 0800 328 1344
(os na allwch glywed na siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 328 5644
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur - darganfyddwch sut i
Llinell Gymraeg: 0800 328 1744
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch am gostau galwadau
Talu yn ôl eich taliad ymlaen llaw
Byddwch yn talu’ch taliad ymlaen llaw yn ôl trwy eich taliadau Credyd Cynhwysol. Byddwch fel arfer yn ei dalu’n ôl dros 6 mis, gan ddechrau o’ch taliad Credyd Cynhwysol nesaf.
Os ydych yn cael trafferth ad-dalu taliad ymlaen llaw
Os na allwch fforddio eich ad-daliadau taliad ymlaen llaw, gallwch ofyn i’ch ad-daliadau gael eu gohirio am un mis. I ofyn am hyn, gallwch:
- ddiweddaru eich dyddlyfr yn eich cyfrif Credyd Cynhwysol
- gofyn i gyswllt Credyd Cynhwysol yn eich canolfan gwaith leol neu’ch anogwr gwaith
- ffonio llinell gymorth Credyd Cynhwysol
Ad-dalu os nad ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol mwyach
Os nad ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol mwyach, bydd angen i chi dalu eich taliad ymlaen llaw yn ôl.
Os ydych yn symud i fudd-dal arall, bydd y didyniadau fel arfer yn parhau o’ch taliadau.
Os ydych yn symud oddi ar fudd-daliadau, bydd Rheoli Dyled y DWP yn cysylltu i drafod ei ad-dalu. Os ydych am drafod eich ad-daliadau, gallwch ffonio Rheoli Dyled y DWP.
Rheoli Dyled y DWP
Ffôn: 0800 916 0647
Ffôn testun: 0800 916 0651
– os na allwch glywed na siarad dros y ffôn: 18001 yna 0800 916 0647
Ffonio o dramor: +44 (0)161 904 1233
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 7.30pm
Darganfyddwch am gostau galwadau