Cael taliad ymlaen llaw ar eich taliad cyntaf

Os ydych angen help i dalu eich biliau neu dalu costau eraill cyn i chi gael eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf, gallwch wneud cais i gael taliad ymlaen llaw.

Mae’r swm y gallwch ei gael yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Y mwyaf y gallwch ei gael yw swm eich taliad amcangyfrifedig cyntaf.

Sut i wneud cais

Byddwch angen:

  • egluro pam rydych angen taliad ymlaen llaw
  • dilysu eich hunaniaeth (byddwch yn gwneud hyn pan fyddwch yn gwneud cais ar-lein neu dros y ffôn gydag anogwr gwaith)
  • darparu manylion cyfrif banc ar gyfer y taliad ymlaen llaw (siaradwch â chyswllt Credyd Cynhwysol yn eich canolfan gwaith leol neu’ch anogwr gwaith os na allwch agor cyfrif)
  • egluro am unrhyw arian neu gynilion sydd gennych

I wneud cais, gallwch:

  • ddiweddaru eich dyddlyfr yn eich cyfrif Credyd Cynhwysol
  • gofyn i gyswllt Credyd Cynhwysol yn eich canolfan gwaith leol neu’ch anogwr gwaith
  • ffonio llinell gymorth Credyd Cynhwysol

Llinell gymorth Credyd CynhwysolÌý Ffôn: 0800 328 5644Ìý Ffôn testun: 0800 328 1344Ìý (os na allwch glywed na siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 328 5644Ìý Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur - darganfyddwch sut i Ìý Llinell Gymraeg: 0800 328 1744Ìý Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pmÌý Darganfyddwch am gostau galwadauÌý

Fel arfer byddwch yn cael gwybod yr un diwrnod os gallwch gael taliad ymlaen llaw.

Os ydych angen help

Ffoniwch linell gymorth Credyd Cynhwysol os ydych angen help i wneud cais am daliad ymlaen llaw.

Talu’n ôl eich taliad ymlaen llaw

Fel arfer, mae’n rhaid i chi dalu’r taliad ymlaen llaw o fewn 24 mis. Fel arfer, rydych yn dechrau ei dalu’n ôl allan o’ch taliad cyntaf.

Enghraifft

Eich taliad cyntaf amcangyfrifedig yw £344 ac rydych yn cael £344 fel taliad ymlaen llaw.

Rydych chi’n talu’ch taliad ymlaen llaw yn ôl dros 24 mis, sef £14.33 y mis. Byddwch yn cael £329.67 ar eich dyddiad talu cyntaf - dyma’ch taliad cyntaf llai y darn rydych yn ei ad-dalu (£344 minws £14.33).

Os ydych yn cael trafferth ad-dalu taliad ymlaen llaw

Os na allwch fforddio eich ad-daliadau taliad ymlaen llaw, gallwch ofyn i’ch ad-daliadau gael eu gohirio am 3 mis. I ofyn am hyn, gallwch:

  • ddiweddaru eich dyddlyfr yn eich cyfrif Credyd Cynhwysol
  • gofyn i gyswllt Credyd Cynhwysol yn eich canolfan gwaith leol neu’ch anogwr gwaith
  • ffonio llinell gymorth Credyd Cynhwysol

Ad-dalu os nad ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol mwyach

Os nad ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol mwyach, bydd angen i chi dalu eich taliad ymlaen llaw yn ôl.

Os ydych yn symud i fudd-dal arall, bydd y didyniadau fel arfer yn parhau o’ch taliadau.

Os ydych yn symud oddi ar fudd-daliadau, bydd Rheoli Dyled y DWP yn cysylltu i drafod ei ad-dalu. Os ydych am drafod eich ad-daliadau, gallwch ffonio Rheoli Dyled y DWP.

Rheoli Dyled y DWP Ffôn: 0800 916 0647
Ffôn testun: 0800 916 0651
– os na allwch glywed na siarad dros y ffôn: 18001 yna 0800 916 0647
Ffonio o dramor: +44 (0)161 904 1233
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 7.30pm
Darganfyddwch am gostau galwadauÌý