Cael taliad ymlaen llaw am gostau annisgwyl

Efallai y byddwch yn gallu cael Taliad Cyllidebu Ymlaen Llaw i helpu gyda phethau fel:

  • costau brys yn y cartref fel ailosod popty wedi torri
  • arian sydd ei angen i gael swydd neu aros mewn gwaith
  • costau angladd

Beth allwch chi ei gael

Bydd yr hyn a gewch yn dibynnu ar faint rydych ei angen. Y swm lleiaf y gallwch ei fenthyg yw £100. Gallwch gael hyd at:

  • £348 os ydych yn sengl
  • £464 os ydych yn rhan o gwpl
  • £812 os oes gennych blant

Cymhwysedd

I gael Taliad Cyllidebu Ymlaen llaw, byddwch angen naill ai:

  • wedi bod yn cael Credyd Cynhwysol, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith neu Gredyd Pensiwn y Wladwriaeth am 6 mis neu fwy
  • angen yr arian i’ch helpu chi i ddechrau swydd newydd neu aros yn y gwaith

Ni fyddwch yn gymwys os naill ai:

  • rydych wedi ennill mwy na £2,600 (£3,600 gyda’ch gilydd i gyplau) yn ystod y 6 mis diwethaf
  • nad ydych wedi talu unrhyw fenthyciadau Taliadau Cyllidebu Ymlaen Llaw blaenorol (gallwch ond cael un ar y tro)

Sut i wneud cais

I wneud cais, gallwch wneud unrhyw un o’r canlynol:

  • diweddaru eich dyddlyfr yn eich cyfrif Credyd Cynhwysol
  • gofyn i gyswllt Credyd Cynhwysol yn eich canolfan gwaith leol neu’ch anogwr gwaith
  • ffonio llinell gymorth Credyd Cynhwysol

Llinell gymorth Credyd Cynhwysol
Ffôn: 0800 328 5644
Ffôn testun: 0800 328 1344
(os na allwch glywed na siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 328 5644
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur - darganfyddwch sut i
Llinell Gymraeg: 0800 328 1744
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch am gostau galwadau

Talu’n ôl eich taliad ymlaen llaw

Byddwch yn talu’n ôl eich taliad ymlaen llaw trwy eich taliadau Credyd Cynhwysol. Byddwch fel arfer yn ei dalu’n ôl dros 24 mis, gan ddechrau o’ch taliad Credyd Cynhwysol nesaf.

Enghraifft

Rydych yn cael taliad ymlaen llaw o £240. Rydych yn talu hyn yn ôl dros 24 mis, felly mae £10 yn cael ei dynnu oddi ar eich taliad bob mis.

Os ydych yn cael trafferth ad-dalu taliad ymlaen llaw

Os na allwch fforddio eich ad-daliadau taliad ymlaen llaw, gallwch ofyn i’r swm rydych yn ei dalu i gael ei newid. I wneud hyn, gallwch:

  • ddiweddaru eich dyddlyfr yn eich cyfrif Credyd Cynhwysol
  • gofyn i gyswllt Credyd Cynhwysol yn eich canolfan gwaith leol neu’ch anogwr gwaith
  • ffonio llinell gymorth Credyd Cynhwysol

Ad-dalu os nad ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol mwyach

Os nad ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol mwyach, bydd angen i chi dalu eich taliad ymlaen llaw yn ôl.

Os ydych yn symud i fudd-dal arall, bydd y didyniadau fel arfer yn parhau o’ch taliadau.

Os ydych yn symud oddi ar fudd-daliadau, bydd Rheoli Dyled y DWP yn cysylltu i drafod ei ad-dalu. Os ydych am drafod eich ad-daliadau, gallwch ffonio Rheoli Dyled y DWP.

Rheoli Dyled y DWP Ffôn: 0800 916 0647
Ffôn testun: 0800 916 0651
– os na allwch glywed na siarad dros y ffôn: 18001 yna 0800 916 0647
Ffonio o dramor: +44 (0)161 904 1233
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 7.30pm
Darganfyddwch am gostau galwadau