Trosolwg

Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol ac angen help i dalu’ch biliau neu dalu costau eraill, efallai y byddwch yn gallu cael taliad ymlaen llaw neu daliad caledi.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg

Bydd y rhain yn cael eu talu i chi cyn eich taliad Credyd Cynhwysol nesaf. Byddwch fel arfer yn eu talu’n ôl yn awtomatig trwy eich taliadau Credyd Cynhwysol rheolaidd.

Mae faint y gallwch ei gael yn dibynnu ar eich amgylchiadau ac am beth rydych angen yr arian.

Mae enghreifftiau o’r hyn y gallwch gael taliad ymlaen llaw amdano yn cynnwys:

  • costau byw cyn i chi gael eich taliad cyntaf
  • costau byw hanfodol os ydych wedi cael eich sancsiynu
  • costau gwaith neu gyfweliad swyddÌý
  • costau brys yn y cartref
  • costau angladd