Defnyddio eich 51²è¹Ý One Login

Printable version

1. Mewngofnodi i'ch 51²è¹Ý One Login yn

Gallwch ddefnyddio eich 51²è¹Ý One Login i gael mynediad at rai gwasanaethau’r llywodraeth.

Nid yw’n gweithio gyda holl gyfrifon a gwasanaethau’r llywodraeth eto (er enghraifft Credyd Cynhwysol).

Dros amser, bydd 51²è¹Ý One Login yn disodli’r holl ffyrdd eraill o fewngofnodi i wasanaethau ar 51²è¹Ý, gan gynnwys Porth y Llywodraeth.

Gweler y gwasanaethau y gallwch eu defnyddio gyda 51²è¹Ý One Login.

Mae’r gwasanaeth ar-lein ar gael yn Saesneg (English) hefyd.

Os ydych angen 51²è¹Ý One Login i ddefnyddio gwasanaeth, ac nad oes gennych un yn barod, byddwch yn gallu creu un pan fyddwch yn defnyddio’r gwasanaeth hwnnw am y tro cyntaf.

Mewngofnodwch i:

  • newid eich manylion mewngofnodi (cyfeiriad e-bost, cyfrinair neu sut rydych yn cael codau diogelwch)
  • gweld a chael mynediad at y gwasanaethau rydych wedi’u defnyddio gyda’ch 51²è¹Ý One Login
  • dileu eich 51²è¹Ý One Login

Cael help i ddefnyddio 51²è¹Ý One Login

Gallwch i gael help, rhoi gwybod am broblem neu roi adborth.

Gallwch hefyd ofyn i rywun rydych yn eu hadnabod ac yn ymddiried ynddynt i’ch helpu os nad ydych yn teimlo’n gyfforddus yn defnyddio 51²è¹Ý One Login ar eich pen eich hun. Darganfyddwch beth gall ac na all y person rydych yn gofyn iddynt eich helpu gyda.

Sut mae 51²è¹Ý One Login yn defnyddio’ch gwybodaeth

I gael gwybod sut mae eich gwybodaeth yn cael ei storio a’i defnyddio pan fyddwch yn defnyddio 51²è¹Ý One Login, gweler hysbysiad preifatrwydd 51²è¹Ý One Login.

2. Gwasanaethau y gallwch eu defnyddio gyda 51²è¹Ý One Login

3. Profi eich hunaniaeth gyda 51²è¹Ý One Login

Bydd angen i chi brofi eich hunaniaeth gyda 51²è¹Ý One Login i ddefnyddio rhai gwasanaethau. Pan fyddwch yn gwneud hyn, bydd eich gwybodaeth One Login yn cael ei storio’n awtomatig i’ch 51²è¹Ý One Login.

Mae hyn yn golygu na fydd angen i chi brofi eich hunaniaeth eto y tro nesaf y bydd angen i wasanaeth wirio pwy ydych chi.

Mae yna 3 ffordd i brofi eich hunaniaeth gyda 51²è¹Ý One Login:

  • gydag ap - gallai hwn fod yn ap 51²è¹Ý ID Check neu’r ap 51²è¹Ý One Login
  • drwy ateb cwestiynau diogelwch ar-lein
  • mewn Swyddfa Bost

Bydd y dull a ddefnyddiwch yn dibynnu ar eich dyfais, os oes gennych ID gyda llun a pha fath o ID gyda llun sydd gennych.

Gydag ap

Gallwch ddefnyddio naill ai’r ap 51²è¹Ý ID Check neu’r ap 51²è¹Ý One Login i brofi eich hunaniaeth. Byddwch yn cael eich tywys i’r ap y mae angen i chi ei ddefnyddio pan fydd yn amser ei ddefnyddio.

Bydd angen un o’r mathau canlynol o ID llun arnoch chi:

  • trwydded yrru cerdyn llun y DU
  • pasbort y DU
  • pasbort o’r tu allan i’r DU gyda sglodyn biometrig
  • trwydded breswylio biometreg y DU (BRP)
  • cerdyn preswylio biometreg y DU (BRC)
  • trwydded Gweithwyr Ffiniol y DU (FWP)

Gallwch ddefnyddio BRP, BRC neu FWP sydd wedi dod i ben hyd at 18 mis ar ôl ei ddyddiad dod i ben.

Byddwch hefyd angen mynediad i ffôn gyda chamera sy’n gweithio.

Os ydych yn defnyddio iPhone, rhaid iddo fod yn rhedeg iOS 15 neu uwch a bod naill ai yn: 

  • iPhone 6s neu fwy newydd os yw’ch ID gyda llun yn drwydded yrru y DU
  • iPhone 7 neu fwy newydd os ydych yn defnyddio unrhyw fath arall o ID gyda llun 

Ar gyfer ffôn Android (er enghraifft, Samsung neu Google Pixel), rhaid iddo fod yn rhedeg Android 10 neu uwch.

Byddwch yn cael arweiniad ar sut i lawrlwytho a defnyddio’r ap.

Trwy ateb cwestiynau diogelwch ar-lein

Bydd yn rhaid i chi ateb rhai cwestiynau diogelwch am bethau fel eich contract ffôn symudol, ac unrhyw gyfrifon banc, cardiau credyd, benthyciadau neu forgeisi sydd gennych.

Mae angen i chi hefyd roi manylion o un o’r canlynol:

  • pasbort y DU
  • trwydded yrru cerdyn llun y DU
  • cyfrif cyfredol gyda banc neu gymdeithas adeiladu yn y DU

Mewn Swyddfa Bost

Gofynir i chi:

  • roi manylion o’ch ID gyda llun ar 51²è¹Ý 
  • fynd i , lle byddant yn sganio’ch ID gyda llun ac yn tynnu llun ohonoch chi

Byddwch yn cael e-bost am ganlyniad eich gwiriad hunaniaeth - fel arfer o fewn diwrnod o fynd i Swyddfa Bost.

Byddwch angen un o’r mathau canlynol o ID gyda llun:

  • pasbort y DU
  • pasbort o’r tu allan i’r DU
  • trwydded yrru cerdyn llun y DU
  • trwydded yrru cerdyn llun yr Undeb Ewropeaidd (UE)
  • cerdyn llun hunaniaeth genedlaethol o wlad yr UE, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein