Sut mae’r cyfnod pontio ar gyfer pensiynau’r gwasanaeth cyhoeddus yn effeithio ar eich pensiwn
Os ydych chi’n aelod o gynllun pensiwn y gwasanaeth cyhoeddus, dysgwch sut gallai cyfnod pontio’r pensiwn (sydd hefyd yn cael ei alw’n McCloud) fod wedi effeithio arnoch chi.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Mae’r casgliad hwn yn cynnwys yr holl ganllawiau perthnasol ar gyfer aelodau cynlluniau pensiwn y mae’r cyfnod pontio ar gyfer pensiynau’r gwasanaeth cyhoeddus wedi effeithio arnynt.
Mae’r cyfnod pontio ar gyfer pensiynau’r gwasanaeth cyhoeddus yn ateb i fynd i’r afael â’r gwahaniaethu a ddigwyddodd yn y diwygiadau i bensiynau gwasanaeth cyhoeddus o 2014 ymlaen. Roedd hyn yn cynnwys gwneud newidiadau i wasanaeth pensiynadwy aelodau cynllun pensiwn y gwasanaeth cyhoeddus dros ‘cyfnod pontio’. Diben y cyfnod pontio yw sicrhau bod aelodau yn yr un sefyllfa dreth ag y byddent pe na bai’r gwahaniaethu wedi digwydd.
Efallai y bydd y cyfnod pontio’n effeithio arnoch chi os oeddech yn aelod o gynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus cyn 1 Ebrill 2012, ac roeddech wedi aros mewn gwasanaeth ar ôl dechrau’r cyfnod pontio ar gyfer eich cynllun.
Mae’r effaith bosibl arnoch chi, a’r camau efallai y bydd angen i chi eu cymryd, yn amrywio gan ddibynnu ar y math o gynllun pensiwn rydych chi’n aelod ohono:
- Cynlluniau Pennod 1 — unrhyw gynlluniau pensiwn y gwasanaeth cyhoeddus ar wahân i gynlluniau ar gyfer barnwyr neu gyflogeion llywodraeth leol
- Cynlluniau Pennod 2 — cynlluniau pensiwn barnwrol
- Cynlluniau Pennod 3 — cynlluniau pensiwn llywodraeth leol
Pryd y mae’r cyfnod pontio
Ar gyfer y rhan fwyaf o gynlluniau, y cyfnod pontio yw 1 Ebrill 2015 i 31 Mawrth 2022.
Mae’r cyfnod pontio wedi’i rannu’n ddau gyfnod ar wahân, sef:
- cyfnod yr iawndal, sy’n cynnwys y blynyddoedd treth 2015 i 2016 hyd at a chan gynnwys blwyddyn dreth 2018 i 2019
- cyfnod fframwaith gweinyddu treth y cyfnod pontio ar gyfer pensiynau’r gwasanaeth cyhoeddus, sy’n cynnwys y blynyddoedd treth 2019 i 2020 hyd at a chan gynnwys blwyddyn dreth 2022 i 2023
Cynlluniau llywodraeth leol yng Nghymru a Lloegr
Ar gyfer cynlluniau llywodraeth leol yng Nghymru a Lloegr, y cyfnod pontio yw 1 Ebrill 2014 i 31 Mawrth 2022.
Mae’r cyfnod pontio wedi’i rannu’n ddau gyfnod ar wahân, sef:
- cyfnod yr iawndal, sy’n cynnwys y blynyddoedd treth 2014 i 2015 hyd at a chan gynnwys blwyddyn dreth 2018 i 2019
- cyfnod fframwaith gweinyddu treth y cyfnod pontio ar gyfer pensiynau’r gwasanaeth cyhoeddus, sy’n cynnwys y blynyddoedd treth 2019 i 2020 hyd at a chan gynnwys blwyddyn dreth 2022 i 2023
Cynlluniau asiantaeth
Ar gyfer cynlluniau asiantaeth, y cyfnod pontio yw 1 Ebrill 2016 i 31 Mawrth 2022. Mae’r cyfnod pontio wedi’i rannu’n ddau gyfnod ar wahân, sef:
- cyfnod yr iawndal, sy’n cynnwys y blynyddoedd treth 2016 i 2017 hyd at a chan gynnwys blwyddyn dreth 2018 i 2019
- cyfnod fframwaith gweinyddu treth y cyfnod pontio ar gyfer pensiynau’r gwasanaeth cyhoeddus, sy’n cynnwys y blynyddoedd treth 2019 i 2020 hyd at a chan gynnwys blwyddyn dreth 2022 i 2023
Yr effaith ar aelodau
Os yw’r cyfnod pontio’n effeithio arnoch chi, byddwch yn cael eich diffinio ar sail sut cawsoch eich trin yn ystod y cyfnod pontio. Rydych chi naill ai’n aelod a ddiogelir, yn aelod â diogelwch rhag meinhau, neu’n aelod na ddiogelir.
Aelodau a ddiogelir
Rydych chi’n aelod a ddiogelir os ydych chi’n un o’r canlynol:
- Aelod Pennod 1 neu Bennod 2 a oedd yn dal i fod yn rhan o’r cynllun hanesyddol ar gyfer y cyfnod pontio i gyd
- Aelod Pennod 3 a fyddai wedi bod â’r hawl i’r sail cyflog terfynol pan ddechreuoch chi gael eich buddiannau
Aelod â diogelwch rhag meinhau
Rydych chi’n aelod â diogelwch rhag meinhau os ydych chi’n aelod Pennod 1 neu Bennod 2 a oedd yn dal i fod yn rhan o’r cynllun hanesyddol am ran o’r cyfnod pontio. Ond, byddech wedi symud i gynllun diwygiedig cyn 1 Ebrill 2022.
Aelod na ddiogelir
Rydych chi’n aelod na ddiogelir os yw’r canlynol yn berthnasol i chi ers 1 Ebrill 2015:
- rydych chi’n aelod Pennod 1, a ddechreuodd gronni hawliau pensiwn o dan gynllun newydd
- rydych chi’n aelod Pennod 2, a ddechreuodd gronni hawliau pensiwn o dan gynllun 2015
- rydych chi’n aelod Pennod 3 na fyddai wedi bod â’r hawl i’r sail cyflog terfynol pan ddechreuoch chi gael eich buddiannau
Triniaeth o ran statws aelod o 30 Medi 2023 ymlaen
Rydych hefyd yn cael eich trin yn wahanol gan ddibynnu ar eich statws mewn cynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus o 30 Medi 2023 ymlaen.
Aelod gweithredol
Roeddech chi’n dal i fod yn cronni buddiannau pensiwn yng nghynllun pensiwn y gwasanaeth cyhoeddus. Hefyd, nid ydych wedi dechrau hawlio unrhyw rai o’ch buddiannau pensiwn eto.
Aelod gohiriedig
Nid oeddech chi’n cronni buddiannau pensiwn yn eich cynllun pensiwn y gwasanaeth cyhoeddus mwyach. Hefyd, nid ydych wedi dechrau hawlio unrhyw rai o’ch buddiannau pensiwn eto.
Aelod pensiynwr
Roeddech wedi dechrau hawlio’ch buddiannau pensiwn.
Aelod ymadawedig
Bydd person sydd wedi marw yn cael ei roi fel buddiannau neu gyfandaliad i fuddiolwr. Dim ond cynrychiolydd personol cyfreithiol fydd â’r awdurdod i weithredu ar ran aelod ymadawedig.
Canllawiau Pennod 1 — aelodau pensiwn nad ydynt yn aelodau barnwrol nac yn aelodau llywodraeth leol
Canllawiau Pennod 2 — aelodau cynllun barnwrol
Canllawiau Pennod 3 — aelodau cynllun llywodraeth leol
Newidiadau i’ch lwfans blynyddol
Gall newidiadau i’ch buddiannau o ganlyniad i’r cyfnod pontio olygu bod eich sefyllfa dreth o ran lwfans blynyddol wedi newid. Gwiriwch a oes modd lleihau tâl lwfans blynyddol blaenorol, neu a oes tâl newydd neu uwch yn ddyledus.
Newidiadau i’ch lwfans oes pensiwn
Os ydych chi wedi cael digwyddiad crisialu buddiannau yn ystod y cyfnod pontio, mae’n bosibl bod eich sefyllfa dreth o ran lwfans oes wedi newid. Gwiriwch a oes modd lleihau tâl lwfans oes blaenorol, neu a oes tâl newydd neu uwch yn ddyledus.
Yr effaith ar daliadau heb eu hawdurdodi
Os ydych chi wedi gwneud taliad heb ei awdurdodi neu ordal heb ei awdurdodi yn ystod y cyfnod pontio, gallai’r newid i’ch buddiannau effeithio ar hyn.