Arweiniad ar gynllun pensiwn llywodraeth leol, Pennod 3
Os ydych chi’n aelod o gynllun pensiwn llywodraeth leol, neu’n gynrychiolydd personol cyfreithiol ar gyfer aelod o’r fath, gwiriwch sut gallai’r cyfnod pontio ar gyfer pensiynau’r gwasanaeth cyhoeddus (sy’n cael ei alw’n McCloud) effeithio arnoch chi.
Beth yw cynllun Pennod 3
Mae Cynllun Pensiwn Pennod 3 yn golygu cynllun pensiwn y gwasanaeth cyhoeddus sydd naill ai:
- yn gynllun hanesyddol llywodraeth leol (roedd y buddiannau hyn wedi’u cronni ar sail cyflog terfynol cyn 1 Ebrill 2015 (1 Ebrill 2014 ar gyfer Cymru a Lloegr))
- yn gynllun newydd ar gyfer llywodraeth leol (mae’r buddiannau hyn wedi dechrau cronni ar sail cyfartaledd gyrfa o 1 Ebrill 2015 ymlaen (1 Ebrill 2014 ar gyfer Cymru a Lloegr))
I bwy mae’r cyfnod pontio’n berthnasol
Dim ond os oes gennych wasanaeth y gellir ei unioni y mae’r cyfnod pontio’n berthnasol. Hynny yw (pob un o’r canlynol):
- lle’r oedd gennych wasanaeth pensiynadwy ar neu cyn 31 Mawrth 2012
- lle’r oedd gennych wasanaeth pensiynadwy o dan gynllun newydd ar gyfer llywodraeth leol neu wasanaeth athrawon dros ben ar unrhyw adeg rhwng 1 Ebrill 2014 a 31 Mawrth 2022 ar gyfer Cymru a Lloegr, neu rhwng 1 Ebrill 2015 a 31 Mawrth 2022 o dan unrhyw gynllun newydd arall ar gyfer llywodraeth leol (sef y cyfnod pontio)
- lle nad oedd gennych fwlch mewn gwasanaeth pensiynadwy a oedd wedi para am fwy na 5 mlynedd, ac a oedd wedi dechrau neu wedi dod i ben rhwng 1 Ebrill 2012 a 31 Mawrth 2015
Mae gwasanaeth athrawon dros ben yn cyfeirio at y gyflogaeth ran-amser, lle bo gan athrawon gyflogaeth amser llawn a chyflogaeth ran-amser ar yr un pryd, a bod y gyflogaeth ran-amser yn bensiynadwy yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.
Sut mae’r cyfnod pontio’n effeithio arnoch chi
Ar 1 Ebrill 2014 (yn achos Llywodraeth leol yng Nghymru a Lloegr) ac ar 1 Ebrill 2015 (yn achos pob llywodraeth leol arall), roedd cynllun pensiwn hanesyddol llywodraeth leol wedi newid i gynllun newydd ar gyfer llywodraeth leol. Roedd hyn yn newid y ffordd roedd buddiannau’n cael eu cyfrifo o gyflog terfynol i gyfartaledd gyrfa.
Os ydych chi’n aelod a ddiogelir, cawsoch eich gwarchod rhag y newid hwn, sef y tanategu. Mae hyn yn golygu eich bod wedi cael buddiannau a oedd yn seiliedig ar yr uchaf o’r naill neu’r llall o’r canlynol:
- croniad cyflog terfynol yn ystod y cyfnod pontio
- croniad enillion cyfartaledd gyrfa yn ystod y cyfnod pontio
Os ydych chi’n aelod na ddiogelir o ganlyniad i’r cyfnod pontio, byddwch yn cael eich diogelu gan y tanategu. Mae hyn yn golygu y byddan nhw’n cael yr uchaf o’r naill neu’r llall o’r canlynol:
- croniad cyflog terfynol yn ystod y cyfnod pontio
- croniad enillion cyfartaledd gyrfa yn ystod y cyfnod pontio
Beth fydd gweinyddwr eich cynllun yn ei anfon atoch
Datganiad cynilion pensiwn
Bydd gweinyddwr eich cynllun pensiwn yn rhoi datganiad cynilion pensiwn diwygiedig i chi os ydych chi:
- wedi ymddeol yn ystod y cyfnod pontio
- wedi cael codiad cyflog terfynol ar ôl ymddeol
- wedi cael datganiad cynilion pensiwn wrth ymddeol
Os oedd gennych chi dâl treth lwfans blynyddol i’w dalu
Efallai fod eich sefyllfa dreth wedi newid os yw’r swm sy’n cael ei dalu i mewn i’ch pensiwn wedi newid o ganlyniad i’r cyfnod pontio. Os oedd gennych chi dâl treth lwfans blynyddol i’w dalu yn ystod y cyfnod pontio, neu os oeddech chi’n agos at hynny, mae’n bosibl y bydd angen i chi adolygu a chyfrifo’ch sefyllfa o ran lwfans blynyddol.
Gwirio a yw hyn wedi effeithio ar eich lwfans blynyddol. Os yw wedi cael effaith, bydd angen i chi gyfrifo’ch sefyllfa dreth a chyflwyno cais i’w chywiro.
Effaith ar daliadau treth lwfans oes
Os cawsoch chi ddigwyddiad crisialu buddiannau yn ystod y cyfnod pontio, ni fydd hyn yn cael ei addasu fel rhan o’r cyfnod pontio. Bydd unrhyw fuddiannau newydd yn cael eu trin fel digwyddiad crisialu buddiannau newydd.
Os ydych am i asiant weithredu ar eich rhan
Bydd angen i chi roi caniatâd ysgrifenedig os ydych am i asiant gyflwyno eich gwybodaeth wedi’i diweddaru i CThEF. Bydd yr asiant wedyn yn gallu defnyddio’r gwasanaeth Cyfrifo’r addasiadau i’ch pensiwn gwasanaeth cyhoeddus i wirio unrhyw newidiadau i’ch sefyllfa dreth a chyflwyno’r wybodaeth ar eich rhan.