Cryfhau amddiffyniadau i lesddeiliaid dros taliadau a gwasanaethau: crynodeb gweithredol
Cyhoeddwyd 4 Gorffennaf 2025
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
1.0 Cyflwyniad
I lawer gormod o lesddeiliaid yng Nghymru a Lloegr maer realiti o fod yn berchen t天 yn bell iawn oddi wrth y freuddwyd - mae eu bywydau wediu nodweddu gan frwydr ysbeidiol, os nad cyson, gyda rhenti tir cosbol a chynyddol; ffioedd gweinyddu a chaniat叩u heb gyfiawnhad; taliadau afresymol neu ormodol; ac amodau beichus syn cael eu gosod heb fawr o ymgynghori, os o gwbl. Ni ddylai perchentyaeth fod fel hyn.
Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i ddod 但r system lesddaliad ffiwdalaidd i ben ac rydym yn bwrw ymlaen 但r set ehangach o ddiwygiadau syn angenrheidiol i wneud hynny. Ar 3 Mawrth fe wnaethom gyhoeddir Papur Gwyn Cyfunddaliad fel cam cyntaf hanfodol tuag at sicrhau mai cyfunddaliad fydd y ddaliadaeth ddiofyn.
Yn nes ymlaen eleni bydd Llywodraeth y DU yn cyhoeddi Bil Diwygio Lesddaliad a Chyfunddaliad drafft uchelgeisiol. Bydd pwyslais creiddiol y Bil ar adfywio cyfunddaliadaeth drwy gyflwyno fframwaith cyfreithiol newydd cynhwysol ond bydd hefyd yn cynnwys ystod o ddiwygiadau hanfodol ir system lesddaliad presennol.
Rydym, fodd bynnag, yn ymwybodol iawn bod angen cymorth ar frys ar lesddeiliaid syn dioddef arferion annheg ac afresymol. Un or pryderon pennaf i lawer o lesddeiliaid ywr taliadau gwasanaeth aneglur ac anodd eu fforddio; dymar pwnc sydd 但r nifer mwyaf o ymholiadau ymhlith lesddeiliaid syn gofyn am gyngor a chymorth gan y Gwasanaeth Cynghori ar Lesddaliadau.
Mae Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024 yn cynnwys nifer o ddarpariaethau wedi eu cynllunio i safoni taliadau gwasanaeth au gwneud yn fwy tryloyw fel bod lesddeiliaid yn gallu craffun well ar y costau au herio os ydyn nhwn credu eu bod yn afresymol. Maer Ddeddf hefyd yn cynnwys cael gwared 但r rhagdybiad bod y lesddeiliaid yn talu costau cyfreithiol eu landlord, a fyddain chwalu rhwystr sylweddol rhag herio arferion gwael.
Mae gweithredu Deddf 2024 yn gofyn am raglen helaeth o is-ddeddfwriaeth fanwl. Er ein bod eisiau gweithredu mor fuan 但 phosibl i roi mwy o hawliau, pwerau ac amddiffyniadau i berchentywyr yng nghyswllt eu cartrefi, rhaid i ni fod yn glir bod angen i ni daro cydbwysedd rhwng bod yn gyflym a bod yn ofalus os ydym am sicrhau bod y mesurau syn dod i rym yn dod 但 budd parhaol i lesddeiliaid.
Mae taliadau gwasanaeth hefyd yn galw am yr un ystyriaeth o ran pwysigrwydd cymryd yr amser sydd ei angen i sicrhau bod y diwygiadaun dal d典r. O ystyried yr amrywiaeth eang o lesddaliadau syn weithredol dros bum miliwn o anheddau, maen hollbwysig ein bod yn ymgysylltun eang a thrylwyr i gael y manylion technegol yn iawn. Rydym eisiau clywed cyfraniad y rhai syn ymwneud 但 rheoli adeiladau lesddaliad, ond rydym hefyd eisiau clywed gan y lesddeiliaid eu hunain beth yn eu barn nhw ywr ffordd orau o weithredur mesurau ar gyfer taliadau gwasanaeth a chostau cyfreithiol yn Neddf 2024.
Drwyr ymgynghoriad hwn rydym hefyd yn cynnig diwygiadau newydd ir broses Adran 20 y maen rhaid i lesddeiliaid fynd drwyddi pan fydd landlord eisiau gwneud gwaith mawr wedi ei ariannu drwyr t但l gwasanaeth. Gall biliau untro, annisgwyl ar gyfer gwaith mawr, syn aml yn filiau mawr iawn hefyd, roi straen ariannol enfawr ar lesddeiliaid. Mae llawer gormod o lesddeiliaid yn derbyn ychydig neu ddim rhybudd am waith or fath ac felly nid oes ganddynt fawr o amser i gasglu digon o arian.
Does dim dadl bod rhaid cynnal a chadw adeiladaun briodol, ond dylid cynllunio yn iawn ar gyfer gwaith mawr, fel atgyweirio to neu osod lifft newydd, cyn belled ag y bo modd, a dylid sicrhau bod lesddeiliaid yn cael eu hysbysu. Rydym yn gwybod nad ywr system bresennol yn gweithio i unrhyw un, lesddeiliaid, asiantiaid rheoli na landlordiaid, ac rydym yn ceisio barn ar sut y gallwn ei gwella iw gwneud yn addas ir diben.
Rydym hefyd yn cymryd camau drwyr ymgynghoriad hwn i gryfhaur drefn ar gyfer rheoleiddio asiantiaid rheoli. Mae asiantiaid rheoli yn chwarae r担l allweddol wrth gynnal a chadw adeiladau amlfeddiannaeth ac ystadau rhydd-ddaliadol, a bydd eu pwysigrwydd yn cynyddu wrth i ni symud tuag at gyfunddaliad fel y ddaliadaeth ddiofyn ac wrth i bobl syn lesddeiliaid ar hyn o bryd gael eu grymuso i arddel eu Hawl i Reoli, rhyddfreinio ar y cyd neu drosi i gyfunddaliad.
Er y gwyddom bod enghreifftiau o arfer da yn y sector, mae llawer gormod o lesddeiliaid yn dioddef camdriniaeth a gwasanaeth gwael gan asiantiaid rheoli diegwyddor. Er y bydd angen diwygio pellach i wella safon y gwasanaeth a roddir gan asiantiaid rheoli a sicrhau eu bod yn fwy atebol i lesddeiliaid, mae cyflwyno cymwysterau gorfodol yn Lloegr yn gam cyntaf pwysig tuag at sicrhau bod gan bob asiant yr wybodaeth ar sgiliau sydd eu hangen arnynt i wneud eu gwaith yn effeithiol.
Yn olaf, fe hoffem gymryd y cyfle hwn i adolygu rhai agweddau hirsefydlog yn y system, i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn addas ir diben. Mae hyn yn cynnwys amddiffyniadau i lesddeiliaid syn talu t但l gwasanaeth sefydlog, yn enwedig pan for costaun cael eu hamcangyfrif bob blwyddyn. Mae ganddynt lai o hawliau nar rhai syn talu t但l gwasanaeth amrywiadwy ar hyn o bryd, ac rydym yn awyddus i archwilio beth arall y gellir ei wneud iw helpu.
Ou rhoi at ei gilydd, mae hwn yn becyn uchelgeisiol o fesurau wedi ei gynllunio i rymuso ac amddiffyn lesddeiliaid sydd ar hyn o bryd yn dioddef o ganlyniad i arferion annheg ac afresymol.
Mae rhannau or ymgynghoriad o reidrwydd yn dechnegol, ond mae wedii gynllunio fel y gall ymatebwyr ymgysylltu 但r materion sydd fwyaf perthnasol iddynt ac i ddefnyddior crynodeb hwn fel canllaw. Mae atodiad yr ymgynghoriad hefyd yn darparu enghreifftiau o ffurflenni y gallai lesddeiliaid eu derbyn at ddibenion eglurhaol. Edrychwn ymlaen at glywed eich barn ar y diwygiadau pwysig hyn.
Maer ymgynghoriad llawn iw weld yn: Cryfhau amddiffyniadau i lesddeiliaid dros taliadau a gwasanaethau: ymgynghoriad
Bydd yr ymgynghoriad ar agor o 4 Gorffennaf 2025 am 12 wythnos ac yn cau ar 26 Medi 2025.
2.0 Cynyddu tryloywder ffioedd a thaliadau
Bydd mwy o dryloywder yn helpu lesddeiliaid i ddeall yn well y taliadau ar ffioedd y gofynnir iddynt eu talu gan landlordiaid ac asiantiaid rheoli syn gweithio i landlordiaid. Dylai hefyd helpu iw gwneud yn fwy atebol i lesddeiliaid ynghylch darparu gwasanaethau, cynnal a chadw a gwaith, a lefel yr yswiriant y maent yn ei gaffael ar ran lesddeiliaid. Bydd hyn hefyd yn helpu lesddeiliaid i benderfynu a yw costaun rhesymol, ac os na, iw herion haws.
Rydym yn cynnig adroddiad blynyddol newydd i nodir manylion or hyn y mae lesddeiliaid yn talu amdano a darparu gwybodaeth allweddol ar gyfer y flwyddyn i ddod, gan gynnwys rhybudd ymlaen llaw am waith mawr sydd wedii gynllunio. Bydd hysbysiadau galw safonedig am d但l gwasanaeth yn rhoi eglurder am y biliau y maen ofynnol i lesddeiliaid eu talu, yn ogystal 但r hysbysiad newydd o alw yn y dyfodol a hawliau ehangach i ofyn am ragor o wybodaeth os oes angen. Bydd gwell gwybodaeth am yswiriant adeiladau a gwybodaeth ymlaen llaw am daliadau gweinyddol yn gwneud y taliadau hyn yn glir. A bydd cyfrifon wediu paratoin well yn sicrhau bod manylion incwm a gwariant dros y 12 mis blaenorol yn cael eu nodin briodol, yn gywir ac yn cael eu darparu mewn modd amserol ar ddiwedd y flwyddyn gyfrifyddu. Bydd yr holl wybodaeth hon yn galluogi lesddeiliaid i herio costau yn anffurfiol a, lle bo angen, yn y tribiwnlys neur llys. Bydd mesurau yn Neddf 2024 hefyd yn sicrhau bod cyfundrefn costau ymgyfreitha decach. Mae trosolwg enghreifftiol o bryd y gall lesddeiliaid ddisgwyl cael biliau a gwybodaeth unwaith y bydd y trefniadau newydd ar waith yn cael ei ddangos yn Ffigur 1 isod.
Ffigur 1: Effaith y mesurau newydd ar y broses o roi gwybodaeth i lesddeiliaid dros y flwyddyn
2.1 Adroddiad blynyddol newydd
Er mwyn rhoi gwybodaeth allweddol i lesddeiliaid am eu hadeilad ar gost oi gynnal, byddwn yn gweithredu mesurau yn Neddf 2024 syn ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid ddarparu adroddiad blynyddol.
Mae Deddf 2024 yn rhoi pwerau i Weinidogion nodi pa wybodaeth y maen rhaid ei darparu, a sut, ac rydym yn ceisio barn trwyr ymgynghoriad i gael y manylion yn iawn, gweler adran ymgynghori 2.1. Maer adroddiad blynyddol yn cael ei gynnig i roi cipolwg i lesddeiliaid ar iechyd a chyflwr eu hadeilad, ar gynlluniau ar gyfer gwaith mawr sydd ar ddod a gwybodaeth arall am y flwyddyn i ddod.
Rydym yn cynnig y dylid darparu manylion cyswllt ar gyfer y prif bobl syn gysylltiedig 但r adeilad, gan gynnwys y landlord, a lle bon berthnasol, yr asiant rheoli ar rhai syn gysylltiedig 但 swyddogaethau diogelwch t但n ac adeiladau. Dylair adroddiad blynyddol hefyd gynnwys nodyn yn atgoffa o ddyddiadau allweddol, megis pryd y bydd hysbysiadau galw am d但l gwasanaeth yn cael eu cyflwyno, gwybodaeth sylfaenol am iechyd a chyflwr yr adeilad, neu pryd mae arolygon wediu cynllunio. Dylai hefyd gynnwys manylion am unrhyw waith mawr sydd wedii gynllunio a chyfeirio lesddeiliaid at ble i fynd os oes ganddynt g典yn yn ogystal ag amlinellu eu hawliau ehangach. Rydym hefyd yn cynnig bod yr adroddiad blynyddol yn cynnwys manylion unrhyw achos statudol, megis hawliad rhyddfreinio sydd ar y gweill, neu gamau gorfodi a gymerwyd yn erbyn y landlord.油
Mae lesddeiliadaeth yn cwmpasu ystod enfawr o wahanol fathau o adeiladau, lesddeiliaid a landlordiaid. Mae Deddf 2024 yn darparu ar gyfer eithriadau rhag cynhyrchu adroddiadau blynyddol. Rydym yn ceisio barn ar ble y gallai fod angen eithriadau, yn enwedig, mewn perthynas 但 lesddeiliaid syn talu taliadau gwasanaeth sefydlog yn y sector ymddeol lle gall anghenion fod yn wahanol, yn ogystal 但 landlordiaid lesoedd canolraddol a allai fod angen trefniadau gwahanol i ddarparu gwybodaeth iw lesddeiliaid. Ceisir barn hefyd ar sut i ddelio 但 sefyllfaoedd lle nad yw landlordiaid yn dal gwybodaeth yn uniongyrchol ac efallai y bydd yn ofynnol iddynt ei chael gan drydydd parti.
2.2 Ffurflen galw am d但l gwasanaeth safonedig newydd
Yr hysbysiad galw am d但l gwasanaeth ywr hyn y mae pob lesddeiliaid yn ei dderbyn, sef anfoneb am swm y taliadau gwasanaeth y maen ofynnol iddynt eu talu. Ar hyn o bryd, yn 担l y gyfraith, maen ofynnol i hysbysiadau galw gynnwys enw a chyfeiriad y landlord a chrynodeb o hawliau a rhwymedigaethau yn unig. Fel arall, maer wybodaeth a ddarperir yn cael ei phennu gan y les, neu gan y landlord, neur asiant rheoli syn gweithio ar eu rhan, syn cyflwynor hysbysiad galw.
Er mwyn helpu lesddeiliaid i ddeall yr hysbysiadau galw maen nhwn eu derbyn yn well, mae Deddf 2024 yn caniat叩u i Weinidogion fynnu bod yn rhaid defnyddio ffurflen hysbysiad galw am d但l gwasanaeth safonedig ac i ragnodi pa wybodaeth syn cael ei rhoi a sut y dylid ei darparu. Rydym yn ceisio barn ar y wybodaeth ofynnol y dylai pob hysbysiad galw am d但l gwasanaeth ei chynnwys ac rydym yn cynnig caniat叩u i landlordiaid ddarparu gwybodaeth ychwanegol os dymunant. Rydym hefyd yn cynnig bod y gyllideb flynyddol yn cael ei darparu i lesddeiliaid fel rhan or ffurflen galw am d但l gwasanaeth gychwynnol, syn nodir gwariant a gynlluniwyd ar gyfer y flwyddyn i ddod. Byddai hyn yn dadansoddi beth y bwriedir gwarior t但l gwasanaeth arno o dan benawdau costau safonedig i nodi eitemau o wariant ai gwneud yn haws cymharu 但 blynyddoedd blaenorol, neu hyd yn oed rhwng adeiladau. Rydym yn ceisio barn am y lefel gywir o fanylion y dylid ei darparu. Bydd yn bwysig taro ar y cydbwysedd cywir rhwng y wybodaeth y dylai lesddeiliaid ei chael ac y byddant yn ei chael yn ddefnyddiol, ar costau ir landlord neur asiant rheoli o ddarparur wybodaeth honno iddynt.
Gallair hysbysiad galw am d但l gwasanaeth weithio ochr yn ochr 但r adroddiad blynyddol newydd (a ddisgrifir uchod) i osgoi ailadrodd gwybodaeth, ond rydym yn cynnig y dylai gynnwys set o wybodaeth graidd. Gallai hyn gynnwys: y swm cyffredinol syn daladwy am y cyfnod perthnasol mewn perthynas 但r gyllideb flynyddol, manylion sut i dalu ac erbyn pryd a chanlyniadau peidio 但 thalu, ynghyd 但 ble i fynd am help os ywr lesddeiliad yn dymuno cwestiynur bil neu efallain cael trafferth ei dalu. Mae rhagor o fanylion wediu nodi yn adran ymgynghori 2.2, gan gynnwys gofyn am farn ar unrhyw eithriadau posibl.
Rydym hefyd yn ceisio barn ar beth ddylai fod yn gyfnod pontio priodol i roi digon o amser i bob landlord ac asiant rheoli weithredur newidiadau hyn.
2.3 Eglurder ynghylch hysbysiadau galw am d但l gwasanaeth yn y dyfodol
Maer gyfraith bresennol yn ei gwneud yn ofynnol bod lesddeiliaid yn derbyn hysbysiad galw am daliad o fewn 18 mis ar 担l ir costau perthnasol ddod i ran y landlord. Mae hyn fel bod biliau, a fydd yn rhan or hysbysiad galw am d但l gwasanaeth, yn cael eu cyflwyno mewn modd amserol ac er mwyn osgoi dryswch ac anghydfod a allai godi dros gostau a ysgwyddwyd amser maith yn 担l, a allai hefyd gwmpasu gwahanol breswylwyr yr adeilad.
Nid yw lesddeiliaid nad ydynt yn derbyn hysbysiad galw am gostau o fewn y cyfnod hwn yn atebol iw talu oni bai eu bod yn cael eu hysbysun ysgrifenedig. Fodd bynnag, mae rhywfaint o ddryswch yngl天n 但r broses bresennol hon ac ystyr pryd y mae costaun cael eu codi; pryd fydd y cloc yn dechrau; a pha lesddeiliaid y maen rhaid eu hysbysu or gwariant. Er enghraifft, pun air amser cychwyn ywr pwynt lle mae contractwr yn anfonebur landlord, neu pan fydd y landlord yn gwneud taliad ir contractwr.
Er mwyn egluror broses hon, mae Deddf 2024 yn cyflwyno mesurau a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid gyhoeddi hysbysiad galw yn y dyfodol. Bydd yr hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid ddarparu gwybodaeth fanwl i lesddeiliaid am gyfanswm cost y bil, eu cyfraniad tuag at y gost honno, a phryd y gallent ddisgwyl derbyn yr hysbysiad galw.
Trwy adran ymgynghori 2.3, rydym yn ceisio barn ar ffurf a dull yr hysbysiad galw newydd yn y dyfodol. Ceisir barn hefyd am beth fyddain sail briodol dros ymestyn y dyddiad galw dyledus. Er enghraifft, lle bu oedi annisgwyl i waith neu anghydfod dros gostau rhwng y landlord ar contractwr.
2.4 Hawliau estynedig i gael gwybodaeth ar gais
Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y wybodaeth a ddarperir mewn adroddiad blynyddol ar hysbysiad galw am d但l gwasanaeth yn ddigonol i lesddeiliaid ddeall beth y gofynnir iddynt dalu amdano ac asesu a ywn rhesymol ai peidio. Efallai y bydd achlysuron lle mae lesddeiliad yn dymuno gweld gwybodaeth ychwanegol, fel derbynebau neu anfonebau o waith neu wasanaethau penodol, neu gop誰au o asesiad risg t但n ar gyfer yr adeilad.
Er bod gan lesddeiliaid yr hawl ar hyn o bryd i ofyn am grynodeb or costau, ac yna i archwilio unrhyw ddogfennau syn ymwneud 但r crynodeb hwn, maer darpariaethau hyn yn gyfyngedig a gallant atal lesddeiliaid rhag archwilio dogfennau y dylent fod 但 hawl iw gweld.
Mae pwerau yn Neddf 2024 yn caniat叩u rhestr ragnodedig newydd or mathau o wybodaeth y maen rhaid i landlordiaid sicrhau eu bod ar gael ar gais i lesddeiliaid eu harchwilio ymhellach. Rydym yn ceisio barn yn adran ymgynghori adran 2.4 ar ba fathau o wybodaeth y dylid eu cynnwys, mewn perthynas 但 rheolaeth a chyllid yr adeilad. Rydym hefyd yn ceisio barn ar sut y dylid darparur wybodaeth hon a pha mor gyflym, yn ogystal ag achosion syn eithriadau. Er enghraifft, lle gall gwybodaeth fod yn fasnachol sensitif neu i osgoi ceisiadau blinderus.
2.5 Cwmpas y cynigion newydd ar gyfer rhentwyr
Gall tenantiaid syn rhentu eu cartrefi mewn tai cymdeithasol hefyd dalu t但l gwasanaeth. Gall mesurau yn Neddf 2024 syn ymwneud 但r adroddiad blynyddol newydd (adran 2.1 y ddogfen ymgynghori), yr hysbysiad galw am d但l gwasanaeth (adran 2.2) ar hawl i gael gwybodaeth ar gais (adran 2.4) hefyd ymestyn i denantiaid Darparwyr Tai cymdeithasol Cofrestredig Preifat yn Lloegr a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru. Rydym yn ceisio barn yn adran ymgynghori 2.5 ynghylch cymhwysor mesurau hyn i denantiaid or fath.油
2.6 Dyletswydd newydd i gyhoeddi atodlen taliadau gweinyddol
Mae taliadau gweinyddol yn d但l untro syn cael ei godi ar lesddeiliaid unigol, yn gyffredinol yn ymwneud 但 gwasanaeth penodol a ddarperir iddynt gan y landlord neur asiant rheoli. Bydd yr hyn y gellir ei godi amdano yn cael ei nodi yn y les a gall gynnwys materion fel ceisio caniat但d y landlord i wneud newid ir eiddo, is-osod neu gadw anifail anwes.
Mae gan y landlord ddyletswydd i ystyried budd gorau pob lesddeiliaid yn ogystal 但 diogelur adeilad. Efallai y byddant yn ysgwyddo costau wrth wneud penderfyniadau ar ran ceisiadau gan lesddeiliaid unigol y byddent yn dymuno eu trosglwyddo ir lesddeiliaid hynny yn uniongyrchol yn hytrach nag ir holl lesddeiliaid yn yr adeilad trwyr t但l gwasanaeth.
Gall rhai costau fod yn syml ac yn rhagweladwy, ond bydd costau eraill yn dibynnu ar yr amgylchiadau (e.e. cyflogi syrf谷wr i gynghori ar gais lesddeiliad i ail-ffurfweddu diwyg eu fflat neu i gael gwared ar wal fewnol).
Er bod llawer o landlordiaid yn ceisio bod yn dryloyw yngl天n 但 thaliadau gweinyddol, mae gormod o lesddeiliaid yn dal i fod yn cwyno nad ywn glir a fydd y taliadau hyn yn cael eu codi yn y lle cyntaf, ac os felly, faint fydd y taliadau, ac anghysondeb rhwng taliadau a godir ar wahanol lesddeiliaid am faterion tebyg.油
Er mwyn gwella tryloywder i bob lesddeiliaid, mae Deddf 2024 yn ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid gyhoeddi atodlen taliadau gweinyddol, syn dangos pa daliadau y gall lesddeiliaid fod yn atebol iw talu, beth fydd y taliadau hynny, neu os nad ywn bosibl pennur swm ymlaen llaw, sut y bydd y t但l yn cael ei gyfrifo. Trwyr ymgynghoriad yn adran ymgynghori 2.6, ceisir barn ynghylch ffurf a chynnwys yr atodlen, a sut y dylid ei darparu yn ogystal 但i diweddaru lle bo angen dros amser.
2.7 Gwell gwybodaeth am yswiriant
Maen hanfodol bwysig bod gan adeiladau yswiriant adeiladau priodol i amddiffyn buddiannau lesddeiliaid a landlordiaid fel ei gilydd. Gall cost yswiriant adeiladau fod yn gyfran sylweddol o gostau t但l gwasanaeth i lesddeiliaid.
Bydd landlordiaid fel arfer yn ymgymryd 但r dasg o gael yswiriant ir adeilad, yn aml yn cyflogi asiant rheoli i drefnur yswiriant a fydd yn ei dro o bosibl yn cyflogi brocer yswiriant. Gall y trefniadau hyn ysgogir dewis o gynnyrch yswiriant nad yw o reidrwydd yn cynrychiolir gwerth gorau am arian ir lesddeiliad ond syn rhoir comisiwn uchaf ir landlord neur asiant rheoli. Maer Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) wedi cyflwyno rheolau newydd i sicrhau bod yswirwyr a broceriaid yswiriant (cyfryngwyr) yn gweithredu er budd gorau lesddeiliaid, ond o ystyried y ffordd y mae yswiriant yn aml yn cael ei gaffael ar ran lesddeiliaid ar costau sylweddol syn gysylltiedig, maen hanfodol bod mwy o dryloywder hefyd. Mae hyn er mwyn sicrhau bod gan lesddeiliaid yr wybodaeth angenrheidiol i fod yn hyderus bod eu hyswiriant adeiladau yn briodol ac yn rhoi gwerth teg, neu iw helpu i herio rhesymoldeb costau yswiriant.
Maer trefniadau presennol yn caniat叩u i lesddeiliaid ofyn am grynodeb or polisi yswiriant gan y landlord, ond nid oes gan landlordiaid unrhyw ddyletswydd i rannu gwybodaeth yn rhagweithiol os nad oes gofyn amdani. Mae mesurau yn Neddf 2024 yn ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid ddarparu gwybodaeth am eu polisi yswiriant i lesddeiliaid yn rhagweithiol. Mae Deddf 2024 hefyd yn cynnwys ystod o fesurau eraill i ategur rhai syn ymwneud 但 mwy o dryloywder, megis mynd ir afael 但r strwythurau comisiwn presennol ar gyfer rhydd-ddeiliaid, asiantiaid rheoli eiddo a landlordiaid. Ymgynghorwyd ar hyn ar wah但n.
Maer Awdurdod Ymddygiad Ariannol hefyd wedi cyflwyno rheolau newydd syn golygu ei bod yn ofynnol i froceriaid ac yswirwyr a reoleiddir gan yr Awdurdod ddarparu gwybodaeth fanylach iw defnyddwyr contractiol, yn aml y landlord neur asiant rheoli. Mae hyn yn cynnwys mwy o fanylion am nodweddion allweddol y polisi yn ogystal 但 gwybodaeth am gomisiynau a gwrthdaro buddiannau. Fodd bynnag, gan na fydd y cwsmer o bosibl yn cael ei reoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol, ni all yr Awdurdod ei gwneud yn ofynnol ir wybodaeth gael ei throsglwyddo i lesddeiliaid. Felly, credwn y dylid o leiaf drosglwyddor wybodaeth a nodir gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol i lesddeiliaid bob amser. Credwn hefyd bod achos i fynd ymhellach ac y dylai landlordiaid ac asiantiaid rheoli orfod datgan i lesddeiliaid unrhyw achos o wrthdaro buddiannau a allai fod ganddynt gydag yswirwyr neu froceriaid yswiriant. Rydym yn ceisio barn trwy adran ymgynghori 2.7 ynghylch pa wybodaeth ychwanegol y dylai lesddeiliaid ei derbyn, y ffurf ar modd y dylid ei darparu, a threfniadau trosiannol i sicrhau bod y gofynion newydd hyn yn cael eu cyflwynon llyfn.
2.8 Cyfrifon t但l gwasanaeth safonedig newydd
Ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, mae datganiadau o gyfrifon ariannol (neu gyfrifon t但l gwasanaeth) fel arfer yn cael eu paratoi au darparu i lesddeiliaid, syn nodi manylion yr incwm ar gwariant syn ymwneud 但 rheoli a chynnal a chadwr adeilad dros y 12 mis diwethaf.
Gellir pennu ffurf a chynnwys y cyfrifon hyn gan y les. Os nad ywn cael ei bennu felly, gall landlordiaid gyfeirio at .
Nid oes dull safonol o lunion cyfrifon y maen rhaid i landlordiaid eu darparu. Nid ywr ddeddfwriaeth bresennol yn nodi ychwaith pa mor gyflym y dylid darparu gwybodaeth am gyfrifon t但l gwasanaeth i lesddeiliaid ar 担l diwedd y flwyddyn. Mae hyn yn golygu bod y broses o ddarparu gwybodaeth yn anghyson rhwng lesddeiliaid ac yn yr achosion gwaethaf, gall lesddeiliaid dderbyn gwybodaeth flynyddoedd yn ddiweddarach neu ddim o gwbl.
Maer rheolau presennol yn caniat叩u i lesddeiliaid ofyn am grynodeb or costau gan landlordiaid, a bod yn rhaid ir crynodeb gael ei ardystio gan gyfrifydd cymwys ar gyfer blociau o bedair annedd neu fwy. Ond nid ywr trefniadau presennol yn cael eu hystyried yn foddhaol gan nad oes llawer o ganlyniadaun wynebu landlordiaid syn methu 但 darparu cyfrifon mewn modd amserol neu syn darparu cyfrifon annigonol neu anghywir.
Mae Deddf 2024 yn cynnwys mesurau a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid pedair annedd neu fwy ddarparu datganiad ysgrifenedig o gyfrifon o fewn chwe mis i ddiwedd y flwyddyn gyfrifyddu. Maer Ddeddf yn darparu hyblygrwydd ynghylch pa wybodaeth y maen rhaid ei darparu, y safonau y maen rhaid eu bodloni i sicrhau cywirdeb cyfrifon, trefniadau gwirio gan gyfrifwyr a manyleb ar gyfer pwy y gellir ei alwn gyfrifydd at y diben hwn.
Trwy adran ymgynghori 2.8 rydym yn ceisio barn ar ffurf a chynnwys datganiad ysgrifenedig o gyfrifon statudol newydd, safonau adrodd ariannol a sicrwydd bod yr adroddiadau wediu paratoin gywir a chan weithiwr proffesiynol priodol. Rydym hefyd yn ceisio barn ar drefniadau pontio priodol ar gyfer eu gweithredu yn ogystal 但 chostau.
2.9 Ailgydbwyso trefn costau ymgyfreitha
Pan na ellir datrys anghydfodau fel torrir les neu herio rhesymoldeb t但l gwasanaeth yn anffurfiol, gall lesddeiliaid a landlordiaid fynd at y tribiwnlys neur llysoedd perthnasol am gymorth.
Mae landlordiaid yn aml yn cael mantais yn y ffaith y bydd llawer o lesoedd yn caniat叩u iddynt adennill eu costau ymgyfreitha a ysgwyddwyd yn ystod achos cyfreithiol gan lesddeiliaid waeth beth yw canlyniad yr anghydfod. Gall hyn atal lesddeiliaid rhag dwyn achos ynghylch anghydfod yn y lle cyntaf, oherwydd yr ofn o orfod talu ffioedd cyfreithiol eu landlordiaid.
Gall lesddeiliaid geisio cyfyngu ar eu hatebolrwydd am gostau or fath trwy wneud cais ir llysoedd, ond maer cyfrifoldeb i wneud hynny arnyn nhw, a dim ond lesddeiliaid a enwir yn y cais syn elwa o unrhyw orchymyn a wneir. Ychydig iawn o gyfle hefyd sydd i lesddeiliaid adennill eu costau eu hunain gan landlordiaid.
Mae mesurau yn Neddf 2024 yn ceisio rhoi cydbwysedd yn 担l ir drefn costau ymgyfreitha.
Yn gyntaf, maent yn ei gwneud yn ofynnol ir landlord, os ydynt yn dymuno adennill eu costau ymgyfreitha gan y lesddeiliad trwyr t但l gwasanaeth neu fel t但l gweinyddol, wneud cais ir tribiwnlys neur llys perthnasol yn gyntaf am gymeradwyaeth. Bydd hyn yn rhoir pwysau ar y parti syn dymuno adennill eu costau i wneud y cais a bydd yn caniat叩u ir llys neur tribiwnlys benderfynu a ywn gyfiawn ac yn deg i gostau gael eu trosglwyddo.
Yn ail, mae mesur pellach yn rhoi hawl i lesddeiliaid syn debyg i hawl landlordiaid, trwy gyflwyno hawl newydd iddynt allu gwneud cais ir tribiwnlys neur llys perthnasol i adennill eu costau ymgyfreitha gan y landlord mewn rhai achosion cyfreithiol.
Maen bwysig ein bod nin cael y manylion yn iawn pan fydd y mesurau hyn yn dod i rym. Mae angen mecanwaith effeithiol ar lesddeiliaid i herio costau neu ddatrys anghydfodau eraill. Mae hefyd yn hanfodol bod landlordiaid yn gallu gorfodi telerau eu les, fel y gallant adennill yr arian sydd ei angen arnynt i gynnal a chadw neu redeg yr adeilad yn iawn neu i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol, a all effeithion negyddol ar lesddeiliaid eraill yn yr adeilad.
Gall natur neu amgylchiadau anghydfodau amrywion sylweddol, ac mae gan y Ddeddf elfennau o hyblygrwydd defnyddiol i wneud eithriadau pe bai eu hangen, or cychwyn cyntaf, neu os oes angen yn y dyfodol. Trwyr ymgynghoriad hwn hoffem geisio barn ar gynigion i fireinio nifer or mesurau fel eu bod yn gweithion dda i lesddeiliaid, landlordiaid ar tribiwnlysoedd ar llysoedd fel ei gilydd. Gellir dod o hyd i fanylion llawn y materion syn cael eu hystyried yn adran ymgynghori 2.9.油
Yn yr adran hon rydym yn ceisio barn ar sut i sicrhaur defnydd mwyaf effeithlon o amser tribiwnlysoedd a llysoedd yn ogystal 但 diogelu amddiffyniadau lesddeiliaid a landlordiaid. Er enghraifft, mae llawer o anghydfodau syn cael eu dwyn ir llysoedd gan landlordiaid yn cael eu derbyn neu ddim yn cael eu hamddiffyn gan lesddeiliaid ac yn cael eu prosesun gyflym. Er mwyn osgoi oedi diangen a defnyddio amser y llysoedd, mewn achosion or fath rydym yn cynnig y dylid eithrio landlordiaid or gofyniad i wneud cais i adennill eu costau ymgyfreitha.油
Rydym hefyd yn ceisio barn ar y dull gorau o ymdrin ag achosion yn cael eu haddef yn rhannol gan y lesddeiliad ac ar gyfer achosion syn cael eu bwrw allan yn awtomatig oherwydd rhywbeth y maer lesddeiliad wedii wneud neu wedi methu 但i wneud.
Maer Ddeddf hefyd yn cynnwys pwerau i atal dros dro y gofyniad i landlordiaid wneud cais i adennill eu costau nes bod adeg penodol wedi ei gyrraedd neu ddigwyddiad wedi digwydd. Mae hyn yn rhoi hyblygrwydd, yn arbennig i ystyried sut y dylid teilwrar mesurau i gefnogi adeiladau dan arweiniad preswylwyr fel Cwmn誰au Rheoli Preswylwyr neu Gwmn誰au Hawl i Reoli. Efallai mai arian cyfyngedig fydd gan landlordiaid or fath i gyflwyno camau cyfreithiol angenrheidiol a dim ond trwy gyfraniadau t但l gwasanaeth y gallant gael gafael ar arian. Gall costau ymgyfreitha gronni wrth ddwyn achos yn y lle gyntaf yn ogystal ag wrth ei herio. Rydym yn gwneud cynigion i atal y gofyniad i adeiladau dan arweiniad preswylwyr wneud cais ir llys neur tribiwnlys i adennill y costau ymgyfreitha trwyr t但l gwasanaeth tan gyfnod diweddarach, fel eu bod yn gallu tynnu ar arian or fath i ddwyn achos yn y lle cyntaf.
Ar gyfer yr hawl newydd i lesddeiliaid wneud cais i adennill eu costau ymgyfreitha gan eu landlord (ar gais llwyddiannus ir llys neur tribiwnlys), rydym yn ceisio barn ar ba fathau o achosion y dylair hawl fod yn berthnasol iddynt (e.e. achosion rhesymoldeb t但l gwasanaeth). Ein barn gychwynnol yw y dylai hawl lesddeiliad gyd-fynd yn fras 但r hawl sydd gan landlordiaid ar hyn o bryd i adennill eu costau ymgyfreitha.
Ni fydd y mesurau newydd hyn yn berthnasol i achosion presennol yn 担l-weithredol (lle mae achosion cyfreithiol eisoes ar y gweill). Er mwyn galluogi landlordiaid a lesddeiliaid i baratoi ar gyfer y trefniadau newydd, rydym hefyd yn gofyn am farn ynghylch a ddylid darparu unrhyw gyfnod pontio o pan fydd y rheoliadau syn dod 但r mesurau hyn i rym yn dechrau.
3.0 Diwygiadau t但l gwasanaeth ychwanegol newydd
Bydd y mesurau yn Neddf 2024 yn helpu i wella tryloywder mewn perthynas 但r ffioedd ar taliadau y mae lesddeiliaid yn eu talu ac yn eu helpu i herior costau hyn yn well yn ogystal 但 safon y gwasanaethau neur gwaith a ddarperir. Mae Llywodraeth y DU wedii gwneud yn glir erioed nad ywr diwygiadau hyn yn mynd yn ddigon pell, er eu bod yn ddefnyddiol.
Roedd yn ymrwymo i ddiwygior gyfundrefn gwaith mawr ymhellach ac i ystyried beth mwy y gellid ei wneud i helpu lesddeiliaid.Maer ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar nifer o ddiwygiadau arfaethedig ychwanegol ynghylch y taliadau y mae lesddeiliaid yn eu hwynebu.油
Pryder cyffredin ymhlith lesddeiliaid yw derbyn bil mawr annisgwyl ar gyfer gwaith mawr. Rydym am archwilio beth mwy y gellir ei wneud i liniarur risg hon, trwy fwy o flaen-gynllunio ar gyfer gwaith mawr, gan gynnwys mwy o ddefnydd o gronfeydd wrth gefn a chynlluniau rheoli asedau. Ceisir barn hefyd ar sut y gellir gwella a diweddaru proses ymgynghori Adran 20 ar gyfer gwaith mawr fel ei bod yn darparu ymgynghoriad ystyrlon ond hefyd yn gymesur ac nad ywn achosi oedi diangen i waith llai nac yn atal lesddeiliaid rhag cael y fargen orau ar gyfer gwasanaethau fel tariffau ynni. Rydym hefyd yn ceisio barn ynghylch a ywr amddiffyniadau presennol ar gyfer arian lesddeiliaid a ddelir gan landlordiaid neu asiantiaid rheoli yn ddigonol ac a oes angen gwneud mwy i amddiffyn lesddeiliaid syn talu ffioedd gwasanaeth sefydlog.
Trwyr ymgynghoriad hwn, rydym hefyd yn ceisio barn am welliannau posibl ir drefn Adran 24 lle gellir mynd ati i wneud iawn am reolaeth wael ar adeilad trwy geisio asiant rheoli wedii benod gan y tribiwnlys, yn ogystal 但 chefnogi lesddeiliaid i gael mwy o lais dros benodi neu ddisodli asiantiaid rheoli. Rydym hefyd eisiau archwilio sut y gallair drefn t但l gwasanaeth sydd ar bapur ar hyn o bryd fod o fudd i lesddeiliaid a landlordiaid trwy fwy o ddefnydd o TG a chyfathrebu electronig.油
3.1 Gwneud cronfeydd wrth gefn a chynllunio ar gyfer gwaith mawr yn orfodol
Gall biliau untro mawr ar gyfer gwaith mawr, megis atgyweirio to, neu amnewid lifft neu foeler cymunol, beri gofid mawr, yn enwedig i aelwydydd agored i niwed neur rhai ar incwm sefydlog. Ceir sylw cyhoeddus yn aml i achosion lle mae lesddeiliaid yn wynebu biliau annisgwyl o ddegau o filoedd o bunnoedd ar gyfer gwaith mawr, ac mae llawer mwy yn wynebu biliau mawr y tu hwnt ir penawdau hyn hefyd.
Mae pryderon hefyd am degwch y costau hyn lle mae blaengynllunio gwael gan landlordiaid neu asiantiaid rheoli syn gweithredu ar eu rhan. Gall hyn deimlo fel loteri o ran amseru i lesddeiliaid gan fod biliau ar gyfer gwaith mawr yn disgyn ar bwy bynnag syn byw yn yr eiddo ar y pryd.
Maen cael ei ystyried yn arfer da i wneud darpariaeth ymlaen llaw ar gyfer gwariant yn y dyfodol trwy ddefnyddio cronfa wrth gefn a chael cynllun cynnal a chadw hirdymor sydd wedii gostio i reoli gwaith a ffrydiau incwm a ragwelir.
Yn adran ymgynghori 3.1 rydym yn ceisio barn ar wneud defnydd o gronfa ad-dalu yn orfodol mewn lesoedd newydd a rhai cyfredol. Lle defnyddir cronfa ad-dalu, rydym hefyd yn ceisio barn i sicrhau ei bod yn cael ei hariannun effeithiol, megis cael ei hategu gan gynllun rheoli asedau a ardystiwyd yn broffesiynol, a lle ceir darpariaethau ar gyfer adolygiadau cyfnodol.
Cynigir hefyd y dylid ymgorffori manylion cronfeydd ad-dalu a chynlluniau rheoli asedau yn y mesurau tryloywder newydd ar gyfer taliadau lesddaliad a fydd yn cael eu creu trwy weithredu Deddf 2024. Er enghraifft, bod gwybodaeth or fath yn cael ei darparu fel rhan or adroddiad blynyddol, neu fod gwybodaeth fanylach ar gael ar gais.
Credwn y dylai fod yn ddyletswydd ar berchnogion adeiladau i gael cynllun ar gyfer cynnal a chadw neu amnewid seilwaith ac asedau allweddol yr adeilad, ac i gynllunio ar gyfer ariannu gwaith mawr or fath. Mae llawer o adeiladau eisoes yn cael eu rhedeg fel hyn, ond gall fod yn anodd cyflwyno mesurau or fath ar gyfer adeiladau nad ydynt yn cael eu rhedeg fel hyn ar hyn o bryd, ac rydym eisiau archwilio sut rydym yn gwneud hyn yn haws.
Ni ddylid cymryd yn ysgafn y cam o ofyn i lesddeiliaid nad ydynt eisoes yn gwneud hynny dalu mwy i gyfrannu at gronfa wrth gefn. Fel cynilo tuag at bensiwn personol, maer buddion yn glir, ond mae angen trin a chyfathrebu unrhyw gynlluniau yn ofalus hefyd. Ir rhai sydd eisoes yn cael trafferth talu biliau, gall neilltuo symiau ychwanegol o arian nawr fod yn heriol iddynt, ond gall neilltuo arian mewn cronfa wrth gefn helpu i liniarur risg o bryderon ariannol llawer mwy yn y dyfodol.油
Ceisir barn ar sut i gyflwyno cynlluniau rheoli asedau ac annog llawer mwy o ddefnydd o gronfeydd wrth gefn, gan gynnwys ystyried yr amgylchiadau lle na fydd efallai angen cynlluniau or fath ar gyfer mathau penodol o adeiladau. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn barn am yr heriau, a sut iw goresgyn, mewn perthynas 但 chymhwysor cynigion hyn i adeiladau presennol a pha drefniadau trosiannol y gallai fod eu hangen.
3.2 Diwygior broses ymgynghori ar waith mawr
Maer rheolau presennol o dan Adran 20 Deddf Landlord a Thenant 1985 yn ei gwneud yn ofynnol ar hyn o bryd i landlordiaid ymgynghori 但 lesddeiliaid ar Waith Cymwys (gwaith mawr), a Chytundebau Hirdymor Cymwys (contractau am dymor mwy na deuddeg mis), lle maer gwaith neur cytundebau hynnyn fwy na throthwy ariannol penodol.
Pwrpas y broses ymgynghori yw darparu tryloywder i lesddeiliaid ynghylch y gwaith mawr ar contractau hyn; a rhoi cyfle i lesddeiliaid ddylanwadu ar benderfyniadau ar ddewis contractwr, y gwaith sydd iw wneud, neur contract arfaethedig.
Mae tensiwn wedi bod ers amser maith rhwng lesddeiliaid syn teimlo nad yw proses Adran 20 yn caniat叩u i rywrai ymgynghori 但 nhw yn ystyrlon neu iddynt weld costau yn y dyfodol, a landlordiaid neu asiantiaid rheoli, a all deimlon anfodlon 但r beichiau gweinyddol ac ariannol syn gysylltiedig ag ymgynghori, yn enwedig pan mai ychydig o lesddeiliaid aml yn ymgysylltu 但 nhw yn aml iawn ar hyn o bryd.
Rydym yn ceisio barn ar welliannau i broses Adran 20 yn adran ymgynghori 3.2. Mae hyn yn cynnwys adolygu cwmpas yr hyn y dylid ei gynnwys mewn ymgynghoriad. Er enghraifft, nid ywr trothwy ariannol syn pennu pryd y maen rhaid cynnal ymgynghoriad wedii ddiweddaru ers dros 20 mlynedd ac o ystyried treigl amser, gall bellach gynnwys gwaith cymharol fach, gan ychwanegu costau ac achosi oedi diangen ir gwaith. Rydym hefyd eisiau barn ar y mathau o waith neu gontractau y dylair broses ymgynghori fod yn berthnasol iddynt. Er enghraifft, mewn marchnadoedd mwy deinamig lle gall prisiau newid yn gyflym (megis ym maes tariffau ynni), gall yr amser a gymerir i ymgynghori o bosibl weithio yn erbyn buddiannau lesddeiliaid trwy eu hatal rhag sicrhaur fargen orau sydd ar gael.
Weithiau mae lesddeiliaid yn methu ag ymgysylltu ag ymgynghoriadau Adran 20 gan nad ydynt yn deall beth maen nhwn edrych arno, neu nad yw goblygiadaur gwaith yn glir iddynt nes ei bod yn rhy hwyr (e.e. faint y gallair gwaith ei gostio iddynt, neu a allair costau gael eu talun llawn neun rhannol gan gronfa wrth gefn, neu ddim o gwbl). Trwyr ymgynghoriad hwn rydym hefyd yn archwilior hyn y gellir ei wneud i wella dealltwriaeth lesddeiliaid, gan gynnwys defnyddio ffurflenni a hysbysiadau safonedig gyda gwybodaeth benodol wedii chynnwys. Rydym hefyd yn ceisio barn ar sut y gellid cyflymur broses ymgynghori yn ddiogel, gan gydbwyso anghenion lesddeiliaid o ran cael eu hysbysu ac ymgynghori 但 nhw, gydag anghenion landlordiaid ac asiantiaid rheoli o ran gwneud gwaith, yn ogystal 但 lesddeiliaid eu hunain a fydd yn elwa o waith wedii gyflawnin brydlon.
3.3 Diogelu arian lesddeiliaid
Gall symiau mawr o arian lesddeiliaid gael eu dal gan landlordiaid neu asiantiaid rheoli syn gweithredu ar eu rhan mewn cyfrifon t但l gwasanaeth cyffredinol ac mewn cronfeydd wrth gefn. Mae deddfwriaeth bresennol yn ei gwneud yn ofynnol i arian lesddeiliaid gael ei ddal mewn ymddiriedolaeth ac mewn sefydliad ariannol awdurdodedig, ac y gellir ei ddefnyddio at y dibenion y cafodd ei gasglu ar eu cyfer yn unig.
Rydym yn ceisio barn drwy adran ymgynghori 3.3, ynghylch a ywr amddiffyniadau presennol hyn yn parhau i fod yn ddigonol, neu a oes tystiolaeth bod angen diwygio neu gyflwyno amddiffyniadau newydd. Rydym hefyd yn ymwybodol o ddatblygiadau mewn technoleg bancio ac yn awyddus i archwilio a allai mwy o ddefnydd o TG a chyfathrebu electronig gynnig manteision o ran cadw arian yn ddiogel a rhoi gwell gwybodaeth i lesddeiliaid am ba arian syn cael ei ddal ar eu rhan.
3.4 Amddiffyniadau ar gyfer lesddeiliaid syn talu taliadau gwasanaeth sefydlog
Maer rhan fwyaf o lesddeiliaid yn talu taliadau gwasanaeth amrywiadwy syn amrywio yn dibynnu ar y costau gwirioneddol a dynnir wrth ddarparu gwasanaethau rheoli, cynnal a chadw ac yswirior adeilad. Fodd bynnag, mae rhai lesddeiliaid yn talu taliadau gwasanaeth sefydlog.
Maer rhain fel arfer iw cael mewn lleoliadau fel tai ymddeol lesddaliad, lle gall fod buddion i lesddeiliaid, yn enwedig y rhai ar incwm sefydlog, o wybod ymlaen llaw beth fydd eu costau t但l gwasanaeth au bod yn aros i raddau helaeth yn gyson dros amser (e.e. ac eithrio cynnydd mewn chwyddiant, neu hyd nes y cyfnodau adolygu penodol).
Gyda ffioedd gwasanaeth sefydlog mae rhywfaint o hyblygrwydd angenrheidiol ac annatod. Os bydd y costau gwirioneddol yn is nar disgwyl, ni fydd unrhyw swm dros ben fel arfer yn cael ei ddychwelyd ir lesddeiliad. Os bydd y costau gwirioneddol yn uwch nar disgwyl, dylair landlord amsugno unrhyw swm dros ben a pheidio 但 throsglwyddor costau ir lesddeiliad. Felly, gall yr hawliau ar amddiffyniadau ar gyfer lesddeiliaid syn talu taliadau gwasanaeth amrywiadwy a sefydlog fod yn wahanol.
Gall mesurau yn Neddf 2024 syn ymwneud 但r adroddiad blynyddol newydd (adran 2.1 y ddogfen ymgynghori), yr hysbysiad galw am d但l gwasanaeth (adran 2.2) ar hawl i gael gwybodaeth ar gais (adran 2.4) hefyd ymestyn ir rhai syn talu taliadau gwasanaeth sefydlog. Credwn ei bod yn iawn y dylair rhai syn talu taliadau gwasanaeth sefydlog o leiaf gael mwy o dryloywder ynghylch y taliadau maen nhwn eu talu ac elwa o weithredur diwygiadau tryloywder.
Yn adran ymgynghori 3.4, rydym hefyd yn ceisio barn ynghylch a ddylair rhai syn talu taliadau gwasanaeth sefydlog gael amddiffyniadau pellach. Er enghraifft, rhoi yr un hawl iddynt 但r rhai syn talu taliadau gwasanaeth amrywiadwy. Gallai hyn ddigwydd, er enghraifft, pe bai eu taliadaun parhau i fod yr un fath ond bod dirywiad yn ansawdd neu nifer y gwasanaethau a ddarperir iddynt.
3.5 Pwerau i benodi rheolwr neu newid asiant rheoli
Ceir amddiffyniadau yn bresennol ar gyfer lesddeiliaid mewn achosion o fethiant rheoli difrifol gan landlord neu asiant rheoli. Mae lesddeiliaid yn gallu gwneud cais ir tribiwnlys perthnasol i ofyn iddo benodi asiant rheoli i gymryd drosodd holl swyddogaethau rheolir landlord neur asiant rheoli presennol. Cyfeirir at hyn yn aml fel p典er Adran 24, gan gyfeirio at ei ddarpariaethau yn Neddf Landlord a Thenant 1987.
Mae hon yn hawl ers tro byd ac mae galwadau wedi bod i adolygu ei effeithiolrwydd yn ogystal 但r broses y maen rhaid i lesddeiliaid fynd drwyddi i ganfod tystiolaeth a chyflwyno cais. Rydym yn ceisio barn yn adran ymgynghori 3.5 ynghylch sut y gellid gwella p典er Adran 24.油
Rydym hefyd eisiau archwilio beth mwy y gellid ei wneud y tu hwnt i Adran 24, syn delio 但 methiannau rheoli difrifol iawn yn unig, i roi mwy o lais i lesddeiliaid dros benodi asiant rheoli yn fwy cyffredinol. Er enghraifft, a allai lesddeiliaid gael hawliau newydd i roi feto ar benodi asiant rheoli penodol neu ddadlau eu hachos dros ddisodli asiant rheoli presennol yr oeddent yn anfodlon ag ef. Mae hyn yn dilyn argymhellion a wnaed gan adroddiad Gweithgor Rheoleiddio Asiantiaid Eiddo yr Arglwydd Best i ystyried adolygu pa mor effeithiol ywr broses Adran 24 bresennol, yn ogystal ag ymgynghori ar opsiynau i gefnogi rhoi feto neu newid (yn ystod contract presennol) asiant rheoli. Byddai hyn yn ceisio grymuso preswylwyr a symleiddior broses ar gyfer cael gwared ar asiant syn tanberfformio, yn amodol ar set o feini prawf cytunedig ar gyfer unrhyw feto neu newid.
3.6 Darparu gwybodaeth a gwasanaethau yn ddigidol
Cafodd rhan fawr or fframwaith cyfreithiol presennol ynghylch ffioedd a thaliadau lesddeiliaid ei osod yn y 1980au ac maen defnyddio dull gweithredu syn seiliedig ar bapur yn bennaf.油
Gall digideiddio gwasanaethau a darparu gwybodaeth trwy gyfathrebu electronig, fel e-bost, a mwy o ddefnydd o lwyfannau eraill, fel apiau a thudalennau gwe, gynnig manteision i lesddeiliaid o ran rhoi mwy o ddewis iddynt gael mynediad at wybodaeth a gallai hefyd ddarparu arbedion effeithlonrwydd sydd o fudd i landlordiaid a lleihau costau gweinyddu i lesddeiliaid.
Fodd bynnag, maen bwysig y gall pob lesddeiliaid gael mynediad ir wybodaeth, a lle bo angen, bod trywydd archwilio clir i ddangos fod gwybodaeth wedii darparu. Rydym yn ceisio barn yn adran ymgynghori 3.6 am y cyfleoedd ar gyfer mwy o ddarparu gwybodaeth a gwasanaethau cysylltiedig eraill yn ddigidol, yn ogystal 但 darparu mesurau diogelu fel y gall pob lesddeiliaid gael mynediad ir wybodaeth sydd ei hangen arnynt.
4.0 Rheoleiddio asiantiaid rheoli
Mae asiantiaid rheoli yn chwarae rhan hanfodol yn y farchnad dai. Feu penodir gan y landlord mewn eiddo lesddaliad, neu gwmn誰au rheoli ystadau yn achos ystadau rhydd-ddaliad, i reoli a chynnal adeiladau aml-feddiannaeth (neu ystadau) ar eu rhan. Bydd ganddynt hefyd ran bwysig iw chwarae yn y gwaith o gynorthwyo i reoli adeiladau a berchnogir ar sail cyfunddaliad. Mae asiantiaid rheoli yn cyflawni nifer o swyddogaethau ar ran eu cleient, gan gynnwys cyfrifoldebau ariannol sylweddol, cyswllt 但 phreswylwyr, rheoli anghydfodau, trefnu a rheoli contractau a sicrhau cydymffurfiaeth 但 rhwymedigaethau statudol. Maer cynigion yn y rhan yma or ymgynghoriad yn ymwneud yn benodol ag asiantiaid rheoli eiddo lesddaliad, cyfunddaliad a chyfran o rydd-ddaliadau a rheolwyr ystadau rhydd-ddaliad, ac nid ydynt yn ymwneud 但 gwerthwyr tai nac asiantiaid gosod tai.
O dan y gyfraith bresennol, gall unrhyw un ddod yn asiant rheoli. Nid oes gofyniad cyfreithiol i asiantiaid ddangos eu bod yn meddu ar yr wybodaeth ar sgiliau angenrheidiol i gyflawnir swyddogaethau gofynnol. Mae hyn yn bwysig o ystyried cymhlethdod cynyddol y gwaith o reoli adeiladau (yn enwedig adeiladau dros 18 metr o uchder), y cyfrifoldebau ariannol, y r担l hanfodol y bydd asiantiaid rheoli yn ei chwarae pan fydd mesuraun cael eu cyflwyno i wneud cyfunddaliad yn ddaliadaeth ddiofyn ar gyfer fflatiau newydd, yn ogystal 但 heriau hysbys wrth reoli ardaloedd cyffredin ar ystadau rhydd-ddaliad.
Mae llawer o asiantiaid rheoli yn darparu gwasanaeth da a theg i lesddeiliaid. Fodd bynnag, yn rhy aml, mae lesddeiliaid yn gorfod dioddef amodau byw annerbyniol, nid ydynt yn cael eu trin 但 chwrteisi na pharch ac mae pryderon dilys yn cael eu hanwybyddu gan eu hasiant rheoli. Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i amddiffyn lesddeiliaid yn Lloegr rhag camdriniaeth a gwasanaeth gwael dan law asiantiaid rheoli diegwyddor. Yn 2018 ymrwymodd Llywodraeth flaenorol y DU i reoleiddior sector asiantiaid rheoli cyfan (syn cwmpasu asiantiaid gwerth, gosod a rheoli tai) a chomisiynodd weithgor dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Best i gynghori sut i wneud hynny, er na chafodd y cynigion eu symud ymlaen. Mae Llywodraeth y DU yn ystyried y cynigion yn adroddiad yr Arglwydd Best ac rydym yn glir nad yr ymgynghoriad hwn ywr cam olaf o ran rheoleiddio asiantiaid rheoli. Fodd bynnag, credwn fod dadl ddiymwad dros fwrw ymlaen ag un o argymhellion allweddol yr Arglwydd Best nawr a chyflwyno cymwysterau proffesiynol gorfodol ar gyfer asiantiaid rheoli yn Lloegr.
4.1 Cymwysterau gorfodol ar gyfer asiantiaid rheoli
Bydd cymwysterau gofynnol yn sicrhau bod gan asiantiaid rheoli a rheolwyr ystadau ar ystadau rhydd-ddaliadol y sgiliau sydd eu hangen arnynt i gyflawni eu r担l i safon uchel, yn proffesiynoleiddio gwaith pwysig y sector, ac yn cefnogir diwydiant i ddenu a chadw talent. Rydym yn cydnabod bod llawer o asiantiaid eisoes yn meddu ar gymwysterau, ond o ystyried pwysigrwydd a chymhlethdod y r担l, credwn nad yw dull gwirfoddol yn ddigon. O ystyried hyn, mae adran ymgynghori 4.1 yn cynnig llwybr i gyflwyno cymwysterau gofynnol ar gyfer asiantiaid rheoli yn Lloegr.
Rydym yn credu y dylai asiantiaid rheoli unigol fod yn gyfrifol am gyflawni cymwysterau, gan ddilyn yr egwyddor o atebolrwydd unigol a welir mewn proffesiynau eraill. Rydym yn credu y dylai cwmn誰au syn cyflogi asiantiaid rheoli fod 但 chyfrifoldebau am sicrhau bod eu gweithwyr yn cyflawni cymwysterau. Rydym hefyd yn cynnig y dylai rheolwyr ystadau ar ystadau rhydd-ddaliad, mewn egwyddor, wynebur un gofynion 但r rhai syn rheoli blociau lesddaliad neu gyfunddaliad.
O ystyried cymhlethdod eu rolau au cyfrifoldebau, rydym yn cynnig, yn unol ag adroddiad yr Arglwydd Best, y dylair rhan fwyaf o asiantiaid rheoli gyflawni o leiaf cymhwyster Lefel 4 (cyfwerth 但 blwyddyn 1af gradd baglor). Rydym yn cydnabod y gallai fod asiantiaid rheoli gyda lefelau is neu uwch o gyfrifoldebau yn y swyddogaethau y maent yn eu cyflawni ac fellyn ceisio barn ynghylch a oes achos ir asiantiaid hynny feddu ar gymhwyster syn is neun uwch na Lefel 4. Rydym hefyd yn credu ei bod yn bwysig bod asiantiaid yn ymgymryd 但 datblygiad proffesiynol parhaus ac yn ceisio barn ar sut y gellid cyflawni hyn orau. Mae cymwysterau rheoli adeiladau eisoes yn cael eu cynnig gan y farchnad a chynigiwn fod Llywodraeth y DU yn gweithio gydar sector i ddatblygu rhestr graidd o bynciau allweddol y dylai cymwysterau eu cwmpasu.
Rydym or farn bod tri llwybr posibl ar gyfer gweithredu isafswm cymwysterau gorfodol. Ein dull a ffefrir yw creu gofynion statudol newydd syn nodi bod yn rhaid i bob asiant rheoli unigol a chwmn誰au asiantiaid rheoli ymuno 但 chorff proffesiynol dynodedig, a bod yn rhaid i bob asiant gyflawni neu fod yn gweithio tuag at gymhwyster gofynnol i ymuno 但r corff. Byddair corff neur cyrff proffesiynol dynodedig yn gyfrifol am sicrhau bod asiantiaid wedi cyflawni cymwysterau ac yn gallu gweithredu lle nad oeddent yn gallu gweithredun flaenorol. Yn y model hwn, rydym hefyd yn credu y gallai awdurdodau lleol chwarae r担l allweddol wrth fod yn gyfrifol am gamau gorfodi yn erbyn asiantiaid a chwmn誰au syn gweithredu heb gydymffurfio 但r gofyniad i ymuno 但 chorff proffesiynol dynodedig.
Rydym hefyd yn ceisio barn ar ddau opsiwn amgen. Yn gyntaf, ar roi r担l statudol i gynlluniau gwneud iawn a gymeradwywyd gan Lywodraeth y DU o ran gweithredu cymwysterau, gan weithio gydag awdurdodau lleol. Yn ail, rydym yn ceisio barn ar wneud awdurdodau lleol yn llwyr gyfrifol am orfodi.
Rydym hefyd yn gwneud cynigion ar gyfer cyfnod pontio i ganiat叩u amser i asiantiaid gyflawni cymwysterau, yn ogystal 但 chyflwyno cymal taid ar gyfer cymwysterau presennol er mwyn osgoi dyblygu diangen lle mae asiantiaid eisoes yn gymwys yn llawn neun rhannol.
Er bod ymrwymiadau penodol wediu gwneud gan Lywodraeth y DU mewn perthynas 但r mater hwn ar gyfer Lloegr, mae gan Weinidogion Cymru ddiddordeb hefyd mewn sicrhau ansawdd arferion rheoli eiddo yng Nghymru. Felly, maer ymgynghoriad hefyd yn cynnwys cwestiynau i benderfynu a ddylid defnyddio dull tebyg yng Nghymru.
Y tu hwnt ir ymgynghoriad hwn, mae Llywodraeth y DU yn edrych eto at Adroddiad yr Arglwydd Best ym mis Gorffennaf 2019, a wnaeth ystod o argymhellion ar draws y sector asiantiaid eiddo, a byddwn yn ymateb maes o law. Rydym yn glir nad yr ymgynghoriad hwn ywr cam olaf o ran rheoleiddio asiantiaid rheoli.
Ymateb ir ymgynghoriad
I weld rhagor o fanylion am y cynigion diwygio, gweler y ddogfen lawn ar: Cryfhau amddiffyniadau i lesddeiliaid dros taliadau a gwasanaethau: ymgynghoriad
Bydd yr ymgynghoriad ar agor o 4 Gorffennaf 2025 am 12 wythnos ac yn cau ar 26 Medi 2025.