Canlyniad yr ymgynghoriad

Ymgynghoriad ar gyflwyno ffioedd yswiriant a ganiateir ar gyfer landlordiaid, rhydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Mae'r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben

Llwytho'r canlyniad llawn i lawr

Manylion am y canlyniad

Rhwng Rhagfyr 2024 a Chwefror 2025, ymgynghorodd llywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru ar fesurau i fynd i’r afael â phryderon bod landlordiaid, rhydd-ddeiliaid, neu asiantiaid rheoli eiddo yn codi gormod o dâl am yswiriant adeiladau ar rai lesddeiliaid mewn adeiladau amlfeddiannaeth trwy gomisiynau gormodol ac anhryloyw. 

​Roedd yr ymgynghoriad yn gofyn am adborth ar arferion cydnabyddiaeth ariannol ar hyn o bryd, y polisi arfaethedig, cwestiynau dylunio, ac ystyriaethau cyflwyno. Bydd y canlyniadau yn helpu i sicrhau y codir tâl teg a thryloyw ar lesddeiliaid am reoli a threfnu yswiriant adeiladau. 

​Dyma grynodeb o’r ymatebion a gafwyd, ac ymateb llywodraethau’r DU a Chymru.


Ymgynghoriad gwreiddiol

Crynodeb

Rydym yn ceisio barn ar gynigion i atal rhydd-ddeiliaid, asiantiaid rheoli eiddo a landlordiaid rhag codi taliadau amwys a gormodol ar lesddeiliaid sy'n gysylltiedig ag yswiriant adeiladau, yn aml ar ffurf comisiynau. Yn hytrach, dim ond ffi a ganiateir ar gyfer trafod yswiriant, un deg a thryloyw, y byddent yn gallu ei chodi ar lesddeiliaid. Bydd is-ddeddfwriaeth yn amlinellu'r hyn a ganiateir.

Roedd yr ymgynghoriad hwn yn rhedeg o
to

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Mae Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024 wedi cyflwyno amrywiaeth o fesurau i roi mwy o bwerau ac amddiffyniadau i berchnogion tai a lesddeiliaid. Fel rhan o hyn, mae’r Ddeddf wedi creu pwerau i fynd i’r afael â phryderon hirsefydlog bod rhai lesddeiliaid yn gorfod talu i’w landlordiaid, rhydd-ddeiliaid neu asiantiaid rheoli eiddo am drefnu a rheoli yswiriant adeiladau drwy ddulliau amwys o roi cydnabyddiaeth ariannol, nad oes modd eu cyfiawnhau ar sail y gwaith a wneir.

Ar hyn o bryd, mae landlordiaid, rhydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo yn cael eu talu fel rheol am drefnu a rheoli yswiriant adeiladau trwy frocer yswiriant yn rhannu cyfran o’u comisiwn.  

Yn hytrach na hyn, mae’r Ddeddf yn caniatáu ffi newydd ar gyfer trin yswiriant lle byddai landlordiaid, rhydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo yn codi tâl ar lesddeiliaid, ar wahân i’r premiwm yswiriant. Byddai’r ffi hon yn deg, yn dryloyw ac yn adlewyrchu’r gwaith a wneir. Bydd ymatebion i’r ymgynghoriad hwn yn ein helpu i ddeall pa daliadau y dylid eu caniatáu o fewn y ffi hon ac yn llywio’r gwaith o ysgrifennu is-ddeddfwriaeth.

Dogfennau

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 2 Rhagfyr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 11 Gorffennaf 2025 show all updates
  1. Ychwanegwyd ymateb y llywodraeth i'r ymgynghoriad a chrynodeb o'r ymatebion.

  2. First published.

Argraffu'r dudalen hon