Ffioedd yswiriant a ganiateir ar gyfer landlordiaid, rhydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo: ymgynghoriad
Diweddarwyd 11 Gorffennaf 2025
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Cwmpas yr ymgynghoriad
Pwnc yr ymgynghoriad hwn
Mae Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024 wedi cyflwyno amrywiaeth o fesurau i roi mwy o bwerau ac amddiffyniadau i berchnogion tai a lesddeiliaid. Sefydlodd bwerau i ail-gydbwysor drefn costau cyfreithiol a chael gwared ar rwystrau a allai atal lesddeiliaid rhag herio eu landlord. Mae hefyd wedi cyflwyno pwerau i wella tryloywder taliadau gwasanaeth, gan ganiat叩u i lesddeiliaid graffu ar gostau a herio costau annheg yn well. Bydd ar y pwerau hyn angen is-ddeddfwriaeth er mwyn gweithredur Ddeddf yn llawn.
Maer Ddeddf hefyd wedi creu pwerau i fynd ir afael 但 phryderon hirsefydlog bod rhai lesddeiliaid yn gorfod talu costau iw landlordiaid, rhydd-ddeiliaid neu asiantiaid rheoli eiddo am drefnu a rheoli yswiriant adeiladau, er na allant gyfiawnhau na rhoi cyfrif llawn or gwaith a wnaed.
Y pryder in llywodraethau yw bod costau yswiriant sylweddol yn cael eu codi ar y lesddeiliaid hyn ac nad oes ganddynt fawr o ddylanwad neu allu i graffu ar y costau hyn, neu herior costau hynny os ydynt yn afresymol. Gallai hyn gynnwys cydnabyddiaeth ariannol anghymesur am wasanaethau wrth drefnu a rheoli yswiriant, neu hyd yn oed gomisiynau a manteision ariannol eraill yn cael eu rhoi i landlordiaid, rhydd-ddeiliaid neu asiantiaid rheoli eiddo nad ydynt yn gysylltiedig 但r gwasanaethau a ddarperir.
Bwriad yr ymgynghoriad hwn yw cyflwyno cynigion i fynd ir afael 但r materion uchod. Ein nod yw sicrhau bod unrhyw gostau mewn perthynas 但 rheoli a threfnu yswiriant a godir ar lesddeiliaid gan landlordiaid, rhydd-ddeiliaid neu asiantiaid rheoli eiddo yn deg ac yn dryloyw.
Mae Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024 yn caniat叩u disodlir arfer presennol o dalu landlordiaid, rhydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo am drefnu a rheoli yswiriant, syn digwydd fwyaf cyffredin ar hyn o bryd trwy frocer yswiriant syn rhannu cyfran ou comisiwn.
Yn hytrach, mae Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024 yn caniat叩u ffi newydd lle byddai landlordiaid, rhydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo yn codi t但l ar lesddeiliaid ar wah但n ir premiwm yswiriant. Byddair ffi hon yn deg, yn dryloyw ac yn adlewyrchur gwaith a gyfrannwyd. Gyda chymorth ymatebion ir ymgynghoriad hwn, rydym am ddeall pa daliadau a fydd yn cael eu caniat叩u o fewn y ffi hon er mwyn llywio is-ddeddfwriaeth.
Trwy weddill y ddogfen ymgynghori, byddwn yn defnyddior term rhydd-ddeiliaid fel llaw-fer ar gyfer rhydd-ddeiliaid a landlordiaid. Mae hyn er mwyn adlewyrchur ffaith na fydd y landlord ar gyfer lesddeiliad yn rhydd-ddeiliad ar eu cyfer mewn rhai achosion, er enghraifft pan for landlord yn brif lesddeiliad.
Cwmpas daearyddol
Maer cynigion hyn yn ymwneud 但 Chymru a Lloegr. Bydd yr ymgynghoriad yn hysbysu llywodraethaur DU a Chymru a fydd yn cyflwyno is-ddeddfwriaeth ar wah但n.
Maer ddogfen yma hefyd ar gael yn Saesneg / This document is also available in English
Asesiad effaith
Cyhoeddwyd Asesiad Effaith yn flaenorol fel rhan o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024 a oedd yn cwmpasur mesurau cyffredinol perthnasol. Bydd unrhyw reoliadau a gyflwynir o ganlyniad ir ymgynghoriad yn destun asesiad priodol.
Mae ein llywodraethau yn ymwybodol ou cyfrifoldebau o dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus i roi sylw dyledus i effaith bosibl eu cynigion ar bobl 但 nodweddion gwarchodedig, au cyfrifoldebau i ystyried egwyddorion amgylcheddol mewn unrhyw gynigion fel y nodir yn Neddf yr Amgylchedd 2021.
Roedd ystyried y dyletswyddau hyn yn sail i hynt Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024, ac rydym yn croesawu tystiolaeth a barn ar effaith y polisi hwn fel rhan or ymgynghoriad hwn. Bydd unrhyw reoliadau a gyflwynir yn dilyn yr ymgynghoriad yn destun asesiad priodol.
Gwybodaeth Sylfaenol
Corff/cyrff syn gyfrifol am yr ymgynghoriad
Y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol a Llywodraeth Cymru.
Hyd
Bydd yr ymgynghoriad hwn yn para 12 wythnos o 2 December 2024 i 24 Chwefror 2025.
Ymholiadau
Am unrhyw ymholiadau am yr ymgynghoriad, cysylltwch 但: commissionsconsultation@communities.gov.uk
Sut i ymateb
Gallwch ymateb drwy gwblhau ar Citizen Space.
Fel arall, gallwch e-bostio eich ymateb ir cwestiynau yn yr ymgynghoriad hwn i commissionsconsultation@communities.gov.uk.
Cwestiynau demograffig
A ydych chin byw yng Nghymru neu Loegr?
- Lloegr
- Cymru
- Arall
Os ydych chin byw mewn gwlad arall, nodwch pa wlad [Agored]
Enw: [Agored]
Ebost: [Agored]
A ydych chin ymateb ar ran sefydliad?
- Ydw
- Nac ydw
Os Ydw, beth yw enwr sefydliad?
Os ydych chin ymateb ar ran sefydliad, pa un or datganiadau canlynol syn eich disgrifio orau?
- Rwyn ymateb fel sefydliad syn cynrychioli lesddeiliaid
- Rwyn ymateb fel sefydliad asiantiaid rheoli eiddo (preifat)
- Rwyn ymateb fel sefydliad asiantiaid rheoli eiddo (cymdeithas dai / awdurdod lleol)
- Rwyn ymateb fel sefydliad rhydd-ddeiliaid (preifat)
- Rwyn ymateb fel sefydliad rhydd-ddeiliaid (cymdeithas dai / awdurdod lleol)
- Rwyn ymateb fel sefydliad broceriaid yswiriant
- Rwyn ymateb fel sefydliad yswirwyr
- Arall
[Os Arall] Os Arall, manylwch [Agored]
Cefndir
Amlinelliad o arferion cydnabyddiaeth ariannol cyffredin mewn perthynas ag yswiriant ar gyfer adeiladau amlfeddiannaeth
1. Mae rhydd-ddeiliaid adeiladau preswyl amlfeddiannaeth fel arfer yn ymgymryd 但r dasg o yswirior eiddo a byddant yn adennill y costau trwy rent yswiriant ar wah但n neu d但l gwasanaeth a godir ar lesddeiliaid.
2. Yn y rhan fwyaf o achosion, dawr unig gyfyngiad ar gostau yswiriant or rheolaeth statudol a nodir yn adrannau 19 a 27A Deddf Landlordiaid a Thenantiaid 1985. Maer Ddeddf Landlordiaid a Thenantiaid yn gosod haen o amddiffyniad statudol, ar ffurf prawf rhesymoldeb. Mae hyn yn golygu mai dim ond ir graddau yr ysgwyddwyd y costau yn rhesymol a bod y gwaith 稼艶顎r gwasanaethau y maent yn ymwneud 但 nhw wedi cael eu cyflawni i safon resymol y gall y landlord gynnwys costau mewn t但l gwasanaeth amrywiadwy. Mewn rhai achosion, gall prydles gyfyngu ar y swm y gellir ei adennill mewn perthynas 但 chost yswiriant yn uniongyrchol. Gall lesddeiliad syn talu t但l gwasanaeth amrywiadwy herio rhesymoldeb y t但l hwnnw drwy wneud cais i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf yn Lloegr, 稼艶顎r Tribiwnlys Prisio Lesddaliadau yng Nghymru.
3. Mae rhydd-ddeiliaid yn aml yn cyflogi asiant rheoli eiddo i drefnu yswiriant adeiladau (ochr yn ochr 但 dyletswyddau eraill nad ydynt yn berthnasol ir ymgynghoriad hwn). Pun a yw rhydd-ddeiliad yn defnyddio asiant rheoli eiddo ai peidio, fel arfer mae angen gwasanaethau brocer yswiriant. Mae broceriaid yn gweithio ar sail comisiwn a drafodir fel arfer rhwng yswirwyr a broceriaid.
4. Gall part誰on syn ymwneud 但 threfnu neu reoli yswiriant - fel arfer rhydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo - dderbyn taliadau mewn sawl ffordd gan gynnwys cymryd ffioedd atgyfeirio, comisiynau, ffioedd trosglwyddo gwaith a ffioedd gweinyddu ar leoliadau yswiriant adeiladau. Mae rhydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo yn cael cydnabyddiaeth ariannol fel arfer gan froceriaid syn rhannur comisiwn. Y rhesymeg dros y taliadau hyn yw eu bod yn digolledu rhydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo am eu gwaith yn trefnu a rheoli lleoliadau yswiriant.
5. Bydd lesddeiliaid yn aml yn talu, trwy eu t但l gwasanaeth, am y premiwm yswiriant gan gynnwys cydnabyddiaeth ariannol am weithgareddau gan rydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo wrth iddynt drefnu a rheoli yswiriant.
Problemau gyda chydnabyddiaeth ariannol a chomisiynau yswiriant
6. Maer gadwyn gyflenwi yswiriant a ddisgrifir uchod yn cymell rhydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo i ddewis broceriaid yswiriant syn sicrhau cynnyrch nad yw o reidrwydd yr opsiwn gwerth gorau ir lesddeiliad ond syn cynnig y comisiwn uchaf ir rhydd-ddeiliad 稼艶顎r asiant rheoli. Mae lesddeiliaid fel arfer yn talu am y premiymau hyn yn eu cyfanrwydd, gan gynnwys unrhyw gomisiynau a rennir rhwng broceriaid ac asiantiaid rheoli eiddo neu rydd-ddeiliaid.
7. Maer diffyg tryloywder i lesddeiliaid o ran cydnabyddiaeth ariannol am yswiriant yn rhwystr sylweddol i lesddeiliaid allu gwybod a ydynt yn talu premiymau chwyddedig neun talu am gydnabyddiaeth ariannol ormodol i asiantiaid rheoli eiddo neu rydd-ddeiliaid. Mae hyn yn rhwystr i ymdrechion i wneud iawn oherwydd, heb yr wybodaeth berthnasol, nid yw lesddeiliaid mewn sefyllfa dda i ddeall yr hyn y maent yn talu amdano ac, os oes angen, a ddylent herio rhesymoldeb y costau hyn.
Adolygiadaur Awdurdod Ymddygiad Ariannol a diwygio rheoleiddio
8. Yn dilyn trychineb t典r Grenfell yn 2017, gwelwyd cost yswiriant adeiladau i lesddeiliaid preswyl a pherchnogion eiddo eraill adeiladau amlfeddiannaeth yn cynyddu 125% rhwng 2016 a 2021. Yn sgil y cynnydd hwn mewn premiwm - a chomisiynau cysylltiedig syn seiliedig ar ganrannau - daeth edrych ar dryloywder a gwerth am arian mewn perthynas ag yswiriant adeiladau i lesddeiliaid yn fater o bwys.
9. Mewn ymateb ir premiymau cynyddol hyn, yn 2022 gofynnodd yr Ysgrifennydd Gwladol ir Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) adolygur cynnydd ym mhrisiau yswiriant adeiladau ac achosion cyfyngiadau yn yr hyn a gwmpesir ar gyfer adeiladau amlfeddiannaeth. Yn ddiweddarach y flwyddyn honno, cyhoeddodd yr FCA . Cadarnhaodd fod rhannu cydnabyddiaeth ariannol - fel arfer ar ffurf comisiwn - rhwng broceriaid a rhydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo yn gyffredin (68% or amser).
10. Dangoswyd bod cyfrannaur gydnabyddiaeth ariannol o ran canrannau yn sylweddol: mewn 39% or achosion yr arsylwyd arnynt, trosglwyddodd broceriaid fwy na hanner eu cydnabyddiaeth ariannol ir rhydd-ddeiliad 稼艶顎r asiant rheoli eiddo. Roedd broceriaid a gyfrannodd at yr adroddiad yn cyfiawnhau hyn ar y sail mai taliad oedd hyn am wasanaethau a roddwyd mewn meysydd fel gwasanaethau caffael ac 担l-werthu a ddarperir. Fodd bynnag, cynyddodd cyfanswm y comisiwn cyfartalog a enillwyd gan rydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo o 贈880 yn 2016 i 贈1,140 yn 2021 - cynnydd o 30%. Ni chanfur adroddiad unrhyw gyfiawnhad clir dros y cynnydd hwn.
11. Yn 2023 ar gydnabyddiaeth ariannol i froceriaid mewn perthynas ag yswiriant adeiladau amlfeddiannaeth. Roedd yr adroddiad hwn yn cadarnhau canfyddiadaur adroddiad blaenorol, bod lefelau cydnabyddiaeth ariannol absoliwt (gan gynnwys comisiynau) wedi codi bron i 40% rhwng 2019 a 2022, a hynny wedii yrrun rhannol gan gynnydd mewn premiymau yn cael ei adlewyrchu mewn comisiynau syn seiliedig ar ganrannau. Yn aml nid oedd broceriaid yn gallu mynegi pa wasanaethau neu fuddion o werth yn gysylltiedig ag yswiriant oedd yn cael eu darparu gan y part誰on yr oeddent yn rhannu comisiwn 但 nhw - gan gynnwys rhydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo.
12. Cydnabur FCA hefyd y potensial i froceriaid, rhydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo gael eu cymell i ddewis cynhyrchion yswiriant syn rhoir gydnabyddiaeth ariannol uchaf iddyn nhw eu hunain yn hytrach na pha gynhyrchion syn cynnig y gwerth gorau i lesddeiliaid.
13. Maer pryderon a fynegir gan grwpiau lesddeiliaid, achosion gohebiaeth ar draws ein llywodraethau ar data o adroddiadaur FCA yn gyson o ran tynnu sylw at bryderon sylweddol am degwch a thryloywder cydnabyddiaeth ariannol a chomisiynau, yn enwedig gan eu bod wedi gwaethygu yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn sgil codiadau mewn premiymau. Er mai nhw syn talu am y premiwm yswiriant cyffredinol yn y pen draw - gan gynnwys cydnabyddiaeth ariannol i gyfryngwyr fel broceriaid, rhydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo - yn aml nid yw lesddeiliaid yn ymwybodol o fanylion eu costau yswiriant. Yn aml nid ydynt yn ymwybodol o lefel neu hyd yn oed fodolaeth comisiynau, ac mae hynnyn cyfyngu ar eu gallu i graffu ar gostau au herio.
14. Mewn ymateb ir pryderon ar canfyddiadau hyn, ym mis Ionawr 2024 fe wnaeth yr FCA i gryfhau amddiffyniadau a thryloywder i lesddeiliaid. Roedd y diweddariad yn sicrhau y bydd cwmn誰au yswiriant yn cael eu gorfodi i weithredu er budd goraur lesddeiliaid, trin lesddeiliaid fel cwsmeriaid wrth ddylunio cynhyrchion ac y byddant yn cael eu gwahardd rhag argymell polisi yswiriant yn seiliedig ar lefelau comisiwn neu gydnabyddiaeth ariannol. Maen ofynnol i gwmn誰au ddatgelu gwybodaeth am y polisi iw cwsmer (fel arfer y rhydd-ddeiliad 稼艶顎r asiant rheoli eiddo) a rhaid iddynt ofyn ir cwsmer drosglwyddor wybodaeth hon i lesddeiliaid. Mae gan lesddeiliaid yr hawl i ofyn yn uniongyrchol i gwmn誰au am wybodaeth am eu polisi os nad yw hyn yn digwydd.
15. Rhaid i gwmn誰au hefyd sicrhau bod eu polis誰au yswiriant yn darparu gwerth teg, ac mae unrhyw gomisiwn syn cael ei rannu gyda thrydydd part誰on - fel rhydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo - bellach yn gofyn am gyfiawnhad a thystiolaeth yn unol 但 rheolau gwerth teg.
Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024
16. Croesewir y diwygiadau hyn a wnaed gan yr FCA ac maent yn gwella prosesau rheoleiddio yswirwyr a broceriaid a reoleiddir gan yr FCA yn sylweddol. Fodd bynnag, erys problemau:
a. Mae asiantiaid rheoli eiddo a rhydd-ddeiliaid yn amrywio o ran y graddau y mae eu gweithgareddaun cael eu hystyried yn weithgareddau a reoleiddir ac felly angen eu rheoleiddio gan yr FCA neu gan gynllun cyfatebol Corff Proffesiynol Dynodedig Sefydliad BrenhinolySyrfewyr Siartredig. Mae hyn yn golygu, er enghraifft, efallai na fydd yn ofynnol i asiantiaid rheoli eiddo neu rydd-ddeiliaid ddangos ystyriaethau gwerth teg ar gyfer eu gwasanaethau.
b. Er bod rheolaur FCA yn gwella prosesau datgelu gwybodaeth am yswiriant gan froceriaid ac yswirwyr, nid ywn ofynnol i asiantiaid rheoli eiddo a rhydd-ddeiliaid - nad yw llawer ohonynt yn cael eu rheoleiddio gan yr FCA - ddarparu gwybodaeth am bolisi yswiriant i lesddeiliaid ir un lefel o fanylder.
c. Mae rheolaur FCA yn ei gwneud yn ofynnol i froceriaid ac yswirwyr ddarparu gwybodaeth ychwanegol am bolisi yswiriant, ond nid ydynt yn ymestyn i bob asiant rheoli eiddo a rhydd-ddeiliad.
17. Er mwyn mynd ir afael 但r materion hyn syn weddill a phryderon lesddeiliaid yn ehangach - cyflwynodd Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024 becyn eang o fesurau a roddodd bwerau i gynyddu tegwch a thryloywder mewn perthynas 但 chostau i lesddeiliaid. Mae hyn yn cynnwys gwell tryloywder ar daliadau gwasanaeth a mynd ir afael 但 chostau cyfreithiol fel rhwystr i wneud iawn.
18. Ar gyfer yswiriant yn benodol, mae Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024 yn cynnwys mesurau i wahardd codi t但l llawn ar lesddeiliaid am y taliadau a wneir i rydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo - fel arfer ar ffurf comisiynau. Yn hytrach, dim ond ffi deg a thryloyw y byddent yn gallu ei chodin uniongyrchol ar lesddeiliad, a byddai hynnyn cael ei nodi mewn is-ddeddfwriaeth fel ffi yswiriant a ganiateir. Byddai hyn yn sicrhau na fyddai cydnabyddiaeth ariannol yn uniongyrchol gysylltiedig 但 phremiymau, ac na fyddai rhydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo bellach yn cael eu cymell i ddewis broceriaid yswiriant ar sail trefniadau comisiwn. Byddai hefyd yn gwella tryloywder, wrth i gostau gael eu mynegi fel ffi a ganiateir ar wah但n yn uniongyrchol ir lesddeiliad i adlewyrchu gwasanaethau gwirioneddol syn cael eu darparu. Yn olaf, bydd y Ddeddf hefyd yn sicrhau bod rhydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo yn mynd atin rhagweithiol i ddarparu gwybodaeth fanylach am bolisi yswiriant i lesddeiliaid.
19. Maer ymgynghoriad hwn yn canolbwyntio ar y mesurau yn Adran 59 Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024 a fydd yn eithrio ystod o gostau yswiriant ar gyfer rheoli a threfnu yswiriant, gan gynnwys cydnabyddiaeth ariannol am waith a wneir mewn perthynas 但 chontract yswiriant ac yswiriant yn gyffredinol. Yn hytrach, bydd is-ddeddfwriaeth yn nodin glir pa gostau a ganiateir drwy ffi yswiriant a ganiateir.
20. Rydym am glywed gan yr holl randdeiliaid 但 diddordeb am y ffi yswiriant yma a ganiateir. Bwriad yr ymgynghoriad hwn yw meithrin gwell dealltwriaeth o arferion ar hyn o bryd a safbwyntiau ar ba fath o weithgareddau y dylid eu caniat叩u fel rhan o ffi yswiriant a ganiateir. Byddem yn croesawun arbennig farn lesddeiliaid, rhydd-ddeiliaid, asiantiaid rheoli eiddo a phart誰on syn rhan o hyn yn y gadwyn cyflenwi yswiriant drwyddi draw, fel broceriaid a chwmn誰au yswiriant.
Rhan 1: Arferion ar Hyn o Bryd
21. Rydym yn awyddus i ddeall profiadau gan y rhai y maer trefniadau cydnabyddiaeth ariannol presennol ar gyfer asiantiaid rheoli eiddo a rhydd-ddeiliaid yn effeithio arnynt. Mae hynnyn cynnwys part誰on ar draws y gadwyn gyflenwi fel rhydd-ddeiliaid, asiantiaid rheoli eiddo, broceriaid ac yswirwyr yn ogystal 但 lesddeiliaid eu hunain.
22. Gall taliadau am weithgareddau syn ymwneud 但 threfnu a rheoli yswiriant adeiladau mewn adeiladau amlfeddiannaeth fod ar sawl ffurf, gan amlaf gan froceriaid yswiriant i rydd-ddeiliaid neu asiantiaid rheoli eiddo.
23. Gallai taliadau yn y cyd-destun hwn gynnwys:
a. Taliadau a wneir i ddarparu cymhelliant i ymrwymo i gontractau yswiriant; a
b. Taliadau fel cydnabyddiaeth ariannol am waith a wneir mewn perthynas ag yswiriant, naill ai fel rhan o gontract yswiriant penodol neun ehangach. Mae hyn yn aml ar ffurf comisiynau syn cael eu rhannu gan froceriaid yswiriant.
24. Yn ehangach, gellid gwneud taliadau ar ystyr ehangach hefyd trwy beidio 但 throsglwyddo buddion neu ostyngiadau. Er enghraifft, gallai rhydd-ddeiliad gadwr arian o ostyngiad teyrngarwch nad ydynt yn ei drosglwyddo i lesddeiliaid.
25. Rydym yn awyddus i ddeall fel rhan or ymgynghoriad hwn pa enghreifftiau o daliadau i rydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo syn digwydd ar hyn o bryd.
Cwestiwn 1
I ba raddau ydych chin adnabod y disgrifiad uchod o sut mae rhydd-ddeiliaid, asiantiaid rheoli eiddo, broceriaid ac yswirwyr yn rheoli ac yn trefnu yswiriant a sut maen nhwn cael eu cydnabod yn ariannol amdano? Er enghraifft pa gyfryngwyr eraill syn rhan o gadwyn gyflenwi yswiriant adeiladau ar gyfer adeiladau amlfeddiannaeth, sut maen nhwn cael cydnabyddiaeth ariannol ac am beth? [Agored]
Cwestiwn 2
Naill ai och profiad personol, neu wybodaeth am arferion yn ehangach, i ba raddau ydych chin credu bod y system bresennol o gydnabyddiaeth ariannol i asiantiaid rheoli eiddo a rhydd-ddeiliaid am eu gweithgareddau rheoli a threfnu yswiriant yn rhoi canlyniadau teg i lesddeiliaid ar rhai syn cyflenwir gwasanaethau hyn? Oes gennych chi enghreifftiau neu astudiaethau achos i ddangos hyn? [Agored]
Cwestiwn 3
Os ydych chin lesddeiliad, a ydych chin ymwybodol o ba daliadau - os oes unrhyw rai y mae eich rhydd-ddeiliad neu asiant rheoli eiddo yn eu cael am drefnu neu reoli yswiriant? Gallair taliadau fod ar ffurf cydnabyddiaeth ariannol uniongyrchol - fel rhannu comisiwn - neu fod yn fwy anuniongyrchol megis drwy gadw arian o ostyngiadau neu daliadau nad ydynt yn ariannol. [Ydw / Nac Ydw]
[Os ydw] Rhowch fwy o fanylion os gwelwch yn dda. Er enghraifft a ywr taliadau hyn ar gyfer gwasanaethau penodol mewn perthynas 但 rheoli a threfnu yswiriant? Os felly, pa weithgareddau? A ydych chin gwybod pa ganran och costau yswiriant ywr taliadau hyn? [Agored]
Cwestiwn 4
Os ydych chin lesddeiliad, a ydych chi wedi ceisio herio taliad eich rhydd-ddeiliad neu asiant rheoli eiddo am drefnu neu reoli yswiriant? [Ydw / Nac Ydw]
[Os ydw] Sut wnaethoch chi herio hyn? Pa wybodaeth a gawsoch i gefnogich her, a sut wnaethoch chi gael gafael ar yr wybodaeth? Beth oedd y canlyniad? [Agored]
Cwestiwn 5
Os ydych chin asiant rheoli eiddo neun rhydd-ddeiliad, pa fath o daliadau - os oes unrhyw rai - ydych chi wediu cael am drefnu a rheoli yswiriant? Gallair taliadau fod ar ffurf cydnabyddiaeth ariannol uniongyrchol - fel rhannu comisiwn - neu fod yn fwy anuniongyrchol megis drwy gadw arian o ostyngiadau neu daliadau nad ydynt yn ariannol. [Agored]
Cwestiwn 6
Os ydych chin asiant rheoli eiddo neun rhydd-ddeiliad, pa weithgareddau rydych chi wedi cael cydnabyddiaeth ariannol amdanynt ar ffurf taliadau - fel comisiwn gan y brocer? [Agored]
Or rhain, pa rai or rhain syn weithgareddau a reoleiddir fel yu diffinnir yn y Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol, megis drwyr FCA neu gynllun Corff Proffesiynol Dynodedig RICS, a pha rai sydd ddim? [Agored]
Rhan 2: Cynigion ar gyfer Ffioedd Yswiriant a Ganiateir
26. Bydd Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024 yn atal yr holl gostau yswiriant sydd wediu heithrio syn ymwneud 但 threfnu a rheoli yswiriant rhag cael eu codi ar lesddeiliaid trwy d但l gwasanaeth amrywiadwy, ac eithrior hyn a ddiffinnir fel ffi yswiriant a ganiateir.
27. Diffinnir costau yswiriant sydd wediu heithrio yn Neddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024 fel unrhyw gostau a briodolir i daliadau a wneir i drefnu neu reoli yswiriant, gan gynnwys cydnabyddiaeth ariannol am unrhyw waith a wneir mewn perthynas 但 chontract yswiriant cyn neu ar 担l iddo gael ei drefnu neu mewn perthynas ag yswiriant yn gyffredinol.
28. Mae Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024 yn nodi y gellir defnyddio is-ddeddfwriaeth i ddiffinio pa daliadau y gellid eu codi, ar ffurf ffi yswiriant a ganiateir. Rydym yn cynnig y gellid defnyddior is-ddeddfwriaeth hon i sicrhau mair unig beth y gallai asiantiaid rheoli eiddo a rhydd-ddeiliaid ei wneud fyddai codi ffi ar wah但n am eu gwasanaethau yn uniongyrchol i lesddeiliaid, yn hytrach nar arfer presennol o rannu comisiwn gan froceriaid. Byddai hyn yn gwella tryloywder, gan fod taliadau or fath ar hyn o bryd yn aml yn rhan gudd o gostau yswiriant ehangach.
29. Rydym yn cynnig y dylid targedu gwahardd codi t但l ar lesddeiliaid am daliadau yswiriant - ac eithrior ffi a ganiateir - at rydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo. Fel y nodir yn y cefndir uchod, mae gan rydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo yn aml gymhellion syn gwrthdaro 但u lesddeiliaid a all ddylanwadu arnynt wrth ddewis cynnyrch a brocer. Er bod amrywiaeth o gyfryngwyr yswiriant eraill yn y gadwyn cyflenwi yswiriant syn cael cydnabyddiaeth ariannol am eu gwasanaethau, fel broceriaid yswiriant ac ailyswirwyr, nid oes ganddynt y r担l unigryw hon o gaffael ar ran lesddeiliaid. Ar ben hynny, mae cyfryngwyr eraill yng nghadwyn gyflenwi yswiriant adeiladau yn ddarostyngedig i brosesau rheoleiddio gan yr FCA, ac nid yw hynnyn wir am bob asiant rheoli eiddo neu rydd-ddeiliad.
30. Bydd y ffi yswiriant a ganiateir yn rhan or t但l gwasanaeth amrywiadwy, syn golygu y gall lesddeiliaid herio ei rhesymoldeb o dan ddarpariaethau Deddf Landlordiaid a Thenantiaid 1985.
31. Maer ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar beth ddylair paramedrau fod mewn perthynas 但r ffi yswiriant hon a ganiateir ac a godir gan rydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo ar lesddeiliaid. Bydd meini prawf y ffi yswiriant hon a ganiateir yn cael eu nodi mewn is-ddeddfwriaeth.
Cwestiwn 7
Byddai ffi yswiriant a ganiateir yn cael ei diffinio fel mai dim ond ar gyfer gweithgareddau penodol y caniateir cydnabyddiaeth ariannol i rydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo, ac i atal codi t但l ar lesddeiliaid am unrhyw daliadau eraill i rydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo syn ymwneud 但 rheoli a threfnu yswiriant. A ydych chin cytuno 但r dull hwn? [Ydw / Nac Ydw]
[Os ydw neu nac Ydw] Esboniwch eich ateb [Agored]
Cwestiwn 8
Pa weithgareddau penodol syn ymwneud 但 rheoli a threfnu yswiriant y mae rhydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo yn eu cyflawni ac yn cael cydnabyddiaeth ariannol amdanynt ar hyn o bryd? Diffiniwch y gweithgareddau hyn mor llawn 但 phosibl. [Agored]
Cwestiwn 9
Pa weithgareddau penodol syn ymwneud 但 rheoli a threfnu yswiriant y dylid caniat叩u i rydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo eu cyflawni a chael cydnabyddiaeth ariannol amdanynt drwy d但l gwasanaeth i lesddeiliad? [Agored]
Cwestiwn 10
A oes unrhyw weithgareddau penodol syn ymwneud 但 rheoli a threfnu yswiriant na ddylid caniat叩u i rydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo eu cyflawni a chael cydnabyddiaeth ariannol amdanynt drwy d但l gwasanaeth i lesddeiliad? [Agored]
Cwestiwn 11
A ydych yn credu y dylid cyfrifor ffi a ganiateir mewn ffyrdd rhagnodedig megis canrannau penodol, uchafswm ffioedd a / neu ffioedd sefydlog ar gyfer trefnu a rheoli yswiriant neu weithgareddau syn rhan o hynny neu a fyddai ffi dryloyw yn ddarostyngedig ir mesurau rhesymoldeb yn Neddf Landlordiaid a Thenantiaid 1985 yn ddigonol? [Agored]
Cwestiwn 12
A oes unrhyw achosion neu amgylchiadau eithriadol y byddech yn awgrymu eu bod yn haeddu cael eu trin yn wahanol o ran yr hyn a ganiateir neu na chaniateir? [Agored]
Rhan 3: Meini Prawf Ychwanegol ar gyfer Ffioedd Yswiriant a Ganiateir
32. Byddai pa bynnag daliadau y caniateir iddynt gael eu codi ar lesddeiliaid am weithgareddau syn ymwneud 但 rheoli neu drefnu yswiriant gan rydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo - fel holl gydrannau t但l gwasanaeth amrywiadwy - yn ddarostyngedig i adrannau 19 a 27A o Ddeddf Landlordiaid a Thenantiaid 1985.
33. Mae Deddf Landlordiaid a Thenantiaid 1985 yn cymhwyso amddiffyniadau statudol ar ffurf prawf rhesymoldeb syn golygu bod yn rhaid bod costau yn y t但l gwasanaeth yn rhai a gafwyd yn rhesymol a bod y gwaith 稼艶顎r gwasanaethau y maent yn ymwneud 但 hwy yn cael eu gwneud i safon resymol.
34. Mae lesddeiliaid wedi defnyddior prawf hwn i herio costau yswiriant - gan gynnwys cydnabyddiaeth ariannol a chomisiwn - drwy Dribiwnlysoedd yr Haen Gyntaf yn Lloegr ar Tribiwnlys Prisio Lesddaliadau yng Nghymru.
35. Mae rheolaur FCA yn ei gwneud yn ofynnol i gwmn誰au asesu eu cynhyrchion a sicrhau eu bod yn darparu gwerth teg i gwsmeriaid (gan gynnwys lesddeiliaid). Rhaid bod perthynas resymol rhwng pris y cynnyrch ar buddion a ddarperir, gan ystyried y costau yr eir iddynt wrth ei ddarparu. Maer rheolau hyn yn berthnasol i gwmn誰au syn cynhyrchu cynhyrchion yswiriant, syn cynnwys yr holl yswirwyr a hefyd rhai broceriaid syn gyfrifol am ddylunio cynhyrchion.
36. Os yw broceriaid yn gyfrifol am ddosbarthu cynhyrchion, rhaid iddynt sicrhau bod y comisiwn a thaliadau eraill y maent yn eu cael yn rhoi gwerth teg i gwsmeriaid (h.y. mae perthynas resymol rhwng y taliadau y maent yn eu cael ar buddion y maent yn eu rhoi i gwsmeriaid).
37. Ar hyn o bryd mae hyn yn berthnasol i froceriaid yn y DU, ond nid ir holl rydd-ddeiliaid neu asiantiaid rheoli eiddo, ac nid ir holl weithgareddau syn gysylltiedig ag yswiriant y bydd rhydd-ddeiliaid neu asiantiaid rheoli eiddo yn cael cydnabyddiaeth ariannol amdanynt.
38. Maer cwestiynau isod yn gofyn am farn ynghylch a ddylair diffiniad o ffioedd yswiriant a ganiateir a nodir mewn is-ddeddfwriaeth gynnwys meini prawf syn ymwneud 但 gwerth teg.
Cwestiwn 13
A ydych chin ystyried bod y fframwaith presennol ar gyfer herio taliadau gwasanaeth afresymol - fel Deddf Landlordiaid a Thenantiaid 1985 - yn ddigonol i sicrhau, os yw rhydd-ddeiliaid neu asiantiaid rheoli eiddo yn codi costau yswiriant sydd wediu heithrio ar lesddeiliaid, y gellid eu herio ac y byddai unrhyw ffioedd yswiriant a ganiateir yn gymesur? [Ydw / Nac Ydw]
Rhowch eich rhesymau os gwelwch yn dda [Agored]
Cwestiwn 14
A ydych chin credu y dylai ffi yswiriant a ganiateir - sut bynnag yi cyfrifir - fod yn destun meini prawf ychwanegol i sicrhau ei bod yn gymesur ac yn deg, ynteu a fyddair prawf rhesymoldeb a nodir yn Neddf Landlordiaid a Thenantiaid 1985 yn ddigonol? [Ydw / Nac Ydw]
Cwestiwn 15
Pe byddai meini prawf ychwanegol yn cael eu cynnwys yn y diffiniad o ffioedd a ganiateir i sicrhau cydnabyddiaeth ariannol deg a chymesur ar gyfer gweithgareddau gan rydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo, pa feini prawf ydych chin meddwl fyddain fwyaf effeithiol a sut y gellid eu cyfrifo?
- Dylai pris ffioedd a ganiateir am wasanaethau a delir gan y lesddeiliad roi gwerth teg i lesddeiliaid [Agored]
- Dylai pris ffioedd a ganiateir am wasanaethau a delir gan y lesddeiliad fod 但 pherthynas resymol 但r buddion a ddarperir, gan ystyried y costau yr eir iddynt wrth eu darparu [Agored]
- Gellir dangos bod unrhyw wrthdaro buddiannau gyda phart誰on cysylltiedig yn y gadwyn cyflenwi yswiriant, megis y brocer, wedi cael ei ystyried [Agored]
- Arall: nodwch feini prawf amgen / ychwanegol [Agored]
Cwestiwn 16
Pe byddair meini prawf ychwanegol y cyfeiriwyd atynt uchod yn cael eu gosod ar ffioedd a ganiateir i sicrhau cydnabyddiaeth ariannol deg a chymesur ar gyfer gweithgareddau gan rydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo, pa dystiolaeth ddylai fod ei hangen i brofi hyn? Pa gostau neu heriau fyddain codi wrth gasglu a darparur dystiolaeth honno? Pa rai syn gostau gweithredu unigol a pha rai fyddain codi dro ar 担l tro? [Agored]
Rhan 4: Ystyriaethau Gweithredu
Effaith y pontio
39. Byddai ffi yswiriant a ganiateir, waeth sut y caiff ei diffinio, yn cynrychioli newid sylweddol yn y ffordd y mae rhydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo yn cael eu talu am eu gwasanaethau wrth reoli a threfnu yswiriant. Byddain golygu codi ffi benodol yn uniongyrchol ar lesddeiliaid.
Cwestiwn 17
Pa newidiadau, heriau a/neu gostau gweithredu ydych chin rhagweld y bydd landlordiaid, rhydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo yn eu hwynebu wrth symud or arferion presennol o ran cael cydnabyddiaeth ariannol ar gyfer rheoli a threfnu yswiriant fel rhannu comisiwn i strwythur newydd o ffioedd a ganiateir ac a godir yn uniongyrchol ar lesddeiliaid? [Agored]
Effaith ar bremiymau a chostau yswiriant
40. Fel arfer, codir Treth Premiwm Yswiriant o 12% ar gomisiynau syn deillio o gaffael (h.y. trefnu a rheoli) yswiriant ar ran parti arall. Cynigir y byddain ofynnol i reolwyr eiddo a rhydd-ddeiliaid gynnwys y gwasanaeth o drefnu a rheoli yswiriant fel rhan o gyflenwi eu gwasanaethau rheoli yn hytrach na chael comisiwn ar gyfer y gwasanaeth hwn. Os ydynt wediu cofrestru at ddibenion TAW, gallair gwaith hwn o gyflenwi gwasanaethau rheoli fod yn ddarostyngedig ir gyfradd TAW safonol (ar 20%), yn amodol ar reolau arferol.
41. Mae lesddeiliaid wedi mynegi pryderon am ddulliau eraill a ddefnyddir gan rydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo i gipio elw mewn cadwyni cyflenwi yswiriant. Er enghraifft, trwy ddefnyddio cwmn誰au yswiriant a chwmn誰au ailyswirio caeth.
Cwestiwn 18
A ydych yn rhagweld y bydd ffi yswiriant a ganiateir i dalu cydnabyddiaeth ariannol i asiantiaid rheoli eiddo a rhydd-ddeiliaid yn arwain at gostau yswiriant uwch neu is i lesddeiliaid? [Agored]
Cwestiwn 19
Pa effaith y bydd dileur gallu i rannu comisiwn gyda rhydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo yn ei chael ar y comisiynau cyffredinol y mae broceriaid yn eu cael? [Agored]
Cwestiwn 20
Pa effaith y bydd dileu rhannu comisiwn yn ei chael ar bremiymau yswiriant yn ehangach? [Agored]
Cwestiwn 21
Os ydych chin rhydd-ddeiliad neun asiant rheoli eiddo, sut ydych chi ar hyn o bryd yn strwythuro eich gwasanaethau syn ymwneud 但 threfnu a rheoli yswiriant? [Agored]
Cwestiwn 22
A ydych yn rhagweld y gallai rhoir gorau i gomisiynau ar sail canrannau fel cydnabyddiaeth ariannol arwain at ffyrdd amgen o sicrhau elw mewn perthynas 但 threfnu a rheoli yswiriant? [Ydw / Nac Ydw]
Os ydych beth ydyn nhw? [Agored]
Effaith ar yr amgylchedd a nodweddion gwarchodedig
42. Yn ogystal 但r cwestiynau dylunio polisi mwy penodol uchod, rydym yn awyddus i ddeall yr effaith ganfyddedig mewn amrywiaeth o feysydd.
43. Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, a amlinellir yn Neddf Cydraddoldeb 2010, yn ei gwneud yn ofynnol i ni roi sylw dyladwy ir angen i ddileu gwahaniaethu, hyrwyddo cyfle cyfartal a meithrin cysylltiadau da rhwng gwahanol grwpiau. Maer cwestiynau canlynol yn gofyn am farn ynghylch effeithiau posibl ar y grwpiau hynny.
Cwestiwn 23
A ydych yn credu y gallai unrhyw un or cynigion a gyflwynwyd effeithion negyddol neun gadarnhaol ar unigolion sydd 但 nodwedd warchodedig? Esboniwch eich rhesymeg, a rhowch dystiolaeth och safbwynt lle bo hynnyn bosibl.
[Ydw/Nac ydw] Oed
[Os Ydw] Esboniwch eich rhesymeg
[Ydw / Nac Ydw] Anabledd
[Os Ydw] Esboniwch eich rhesymeg
[Ydw / Nac Ydw] Rhyw
[Os Ydw] Esboniwch eich rhesymeg
[Ydw / Nac Ydw] Ailbennu rhywedd
[Os Ydw] Esboniwch eich rhesymeg
[Ydw / Nac Ydw] Priodas neu bartneriaeth sifil
[Os Ydw] Esboniwch eich rhesymeg
[Ydw / Nac Ydw] Beichiogrwydd a mamolaeth
[Os Ydw] Esboniwch eich rhesymeg
[Ydw / Nac Ydw] Hil (lliw, cenedligrwydd, tarddiad ethnig neu genedlaethol)
[Os Ydw] Esboniwch eich rhesymeg
[Ydw / Nac Ydw] Crefydd neu Gred
[Os Ydw] Esboniwch eich rhesymeg
[Ydw / Nac Ydw] Cyfeiriadedd rhywiol
[Os Ydw] Esboniwch eich rhesymeg
44. Sefydlodd Deddf yr Amgylchedd 2021 ddyletswydd gyfreithiol i roi sylw dyledus hefyd i bum Egwyddor Amgylcheddol. Eu pwrpas yw atal difrod amgylcheddol a gwellar amgylchedd. Rydym yn awyddus i glywed barn am unrhyw effeithiau amgylcheddol canfyddedig yn sgil y polisi hwn.
Cwestiwn 24
A ydych yn rhagweld unrhyw effeithiau amgylcheddol yn sgil y polisi hwn, naill ain gadarnhaol neun negyddol? [Ydw / Nac Ydw]
[Os ydw] Ymhelaethwch, os gwelwch yn dda. Sut y gellid manteisio ir eithaf ar effeithiau cadarnhaol neu liniaru neu leihau effeithiau negyddol?
45. Rydym yn awyddus i ddeall unrhyw effeithiau disgwyliedig ar y system gyfiawnder o ganlyniad ir polisi hwn. Maen bwysig ystyried yr effeithiau hyn er mwyn sicrhau na cheir effaith negyddol ar ddarpariaeth gwasanaeth o fewn y system gyfiawnder.
Cwestiwn 25
A ydych yn rhagweld y byddair polisi hwn yn debygol o effeithio ar y system farnwrol? Gallair enghreifftiau gynnwys cynnydd neu ostyngiad mewn ceisiadau ir llysoedd neu dribiwnlysoedd, cynyddu hyd neu gymhlethdod achosion, a gofynion newydd ar recriwtio neu hyfforddi barnwrol. [Ydw / Nac Ydw]
[Os Ydw] Ymhelaethwch, os gwelwch yn dda
Cwestiwn 26
A ydych yn rhagweld y byddair polisi hwn yn effeithion anghymesur ar awdurdodau lleol? [Ydw / Nac Ydw]
[Os felly] Ymhelaethwch, os gwelwch yn dda.
Gwahaniaethau rhwng Cymru a Lloegr
46. Maer pwerau i wneud is-ddeddfwriaeth yn yr ymgynghoriad hwn yn cael eu harfer gan yr Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas 但 Lloegr a chan Weinidogion Cymru mewn perthynas 但 Chymru. Mae gan ein llywodraethau ddiddordeb mewn deall a oes gwahaniaethau rhwng Cymru a Lloegr a allai olygu bod gwerth mewn cael dull gwahanol o wneud rheolau newydd ynghylch y ffioedd yswiriant a ganiateir ym mhob gwlad. Bydd yr atebion ir cwestiynau hyn yn ein cynorthwyo i ddeall pa arferion a allai fod yn wahanol ym mhob gwlad, ac felly a oes angen dull gweithredu gwahanol.
Cwestiwn 27
Os ydych chin lesddeiliad, lle mae eich eiddo wedii leoli? [Cymru / Lloegr / Rwyn berchen ar eiddo yn y ddwy wlad]
Cwestiwn 28
Os ydych chin asiant rheoli eiddo, rhydd-ddeiliad, brocer, yswiriwr neu barti arall 但 diddordeb, ble maer eiddo rydych chin delio ag ef wedii leoli? [Cymru / Lloegr / Y ddwy wlad]
Cwestiwn 29
A ydych chin ymwybodol o unrhyw wahaniaethau rhwng Cymru a Lloegr o ran gweithrediad yswiriant adeiladau ar gyfer adeiladau preswyl amlfeddiannaeth? [Ydw / Nac Ydw]
[Os Ydw] Ymhelaethwch, os gwelwch yn dda [Agored]
Cwestiwn 30
Beth, yn eich barn chi, fyddai effeithiau tebygol y cynigion hyn ar y Gymraeg? Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddior Gymraeg ac ar beidio 但 thrin y Gymraeg yn llai ffafriol nar Saesneg. [Agored]
A ydych chin credu bod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol? [Agored]
A ydych chin credu bod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau andwyol? [Agored]
Cwestiwn 31
Yn eich barn chi, a oes modd llunior cynigion hyn neu eu newid er mwyn cael effeithiau cadarnhaol neu ragor o effeithiau cadarnhaol ar ddefnyddior Gymraeg ac ar beidio 但 thrin y Gymraeg yn llai ffafriol nar Saesneg? [Oes / Nac oes]
[Os Oes] Ymhelaethwch os gwelwch yn dda [Agored]
Cwestiwn 32
Yn eich barn chi, a oes modd llunior cynigion hyn neu eu newid er mwyn lliniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddior Gymraeg ac ar beidio 但 thrin y Gymraeg yn llai ffafriol nar Saesneg? [Oes / Nac oes]
[Os Oes] Ymhelaethwch, os gwelwch yn dda [Agored]
Yngl天n 但r ymgynghoriad hwn
Cynlluniwyd y ddogfen ymgynghori ar broses ymgynghori hon i gadw at yr Egwyddorion Ymgynghori a gyhoeddwyd gan Swyddfar Cabinet.
Gofynnir i grwpiau cynrychioliadol roi crynodeb or bobl ar sefydliadau y maent yn eu cynrychioli a, lle bon berthnasol, pwy arall y maent wedi ymgynghori 但 nhw wrth ddod iw casgliadau pan fyddant yn ymateb.
Gall gwybodaeth a ddarperir mewn ymateb ir ymgynghoriad hwn gael ei chyhoeddi neu ei datgelu yn unol 但r cyfundrefnau mynediad at wybodaeth (sef, yn bennaf, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (FOIA), Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 a deddfwriaeth diogelu datar DU). Mewn rhai amgylchiadau, gall hyn felly gynnwys data personol, lle bo hynnyn ofynnol yn 担l y gyfraith.
Os ydych chi am ir wybodaeth rydych chin ei darparu gael ei thrin yn gyfrinachol, byddwch yn ymwybodol fod yr Adran, fel awdurdod cyhoeddus, wedii rhwymo gan y cyfundrefnau mynediad at wybodaeth ac felly efallai y bydd yn ofynnol iddi ddatgelur holl wybodaeth neu rywfaint or wybodaeth a roddwch. O ystyried hyn, byddain ddefnyddiol pe gallech esbonio wrthym pam eich bod yn ystyried bod yr wybodaeth a ddarparwyd gennych yn gyfrinachol. Os byddwn yn cael cais i ddatgelur wybodaeth, byddwn yn ystyried eich esboniad yn llawn, ond ni allwn roi sicrwydd y gellir cynnal cyfrinachedd o dan bob amgylchiad. Ni fydd ymwadiad cyfrinachedd awtomatig a gynhyrchir gan eich system TG, ynddoi hun, yn cael ei ystyried yn rhwymol ar yr Adran.
Bydd y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol bob amser yn prosesu eich data personol yn unol 但 deddfwriaeth diogelu datar DU ac, yn y rhan fwyaf o amgylchiadau, bydd hyn yn golygu na fydd eich data personol yn cael ei ddatgelu i drydydd part誰on. Mae hysbysiad preifatrwydd llawn wedii gynnwys isod.
Ni fydd ymatebion unigol yn cael eu cydnabod oni bai y gofynnir am hynny yn benodol.
Mae eich barn yn werthfawr i ni. Diolch am gymryd yr amser i ddarllen y ddogfen hon ac ymateb.
A ydych chin fodlon bod yr ymgynghoriad hwn wedi dilyn yr Egwyddorion Ymgynghori? Os nad ydych yn fodlon, neu os oes gennych unrhyw sylwadau eraill am sut y gallwn wellar broses, cysylltwch 但 ni drwyr weithdrefn gwyno.
Data personol
Maer paragraffau canlynol yn egluroch hawliau ac yn rhoir wybodaeth y mae gennych hawl iddi o dan ddeddfwriaeth diogelu datar DU.
Noder bod yr adran hon yn cyfeirio at ddata personol yn unig (eich enw, manylion cyswllt ac unrhyw wybodaeth arall syn ymwneud yn bersonol 但 chi neu unigolyn arall a enwir neu syn adnabyddadwy), nid at gynnwys eich ymateb ir ymgynghoriad fel arall.
1. Manylion y rheolydd data a manylion cyswllt ein Swyddog Diogelu Data
Y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol ywr rheolydd data. Gellir cysylltu 但r Swyddog Diogelu Data yn dataprotection@communities.gov.uk neu drwy ysgrifennu ir cyfeiriad canlynol:
Data Protection Officer
Ministry of Housing, Communities and Local Government
Fry Building
2 Marsham Street
London
SW1P 4DF
2. Pam rydyn nin casglu eich data personol
Mae eich data personol yn cael ei gasglu fel rhan hanfodol or broses ymgynghori, fel y gallwn gysylltu 但 chi ynghylch eich ymateb ac at ddibenion ystadegol. Efallai y byddwn hefyd yn ei ddefnyddio i gysylltu 但 chi am faterion cysylltiedig.
Byddwn yn casglu eich cyfeiriad IP os byddwch yn cwblhau ymgynghoriad ar-lein. Efallai y byddwn yn defnyddio hwn i sicrhau mai dim ond unwaith y bydd pob person yn cwblhau arolwg. Ni fyddwn yn defnyddior data hwn at unrhyw ddiben arall.
Mathau sensitif o ddata personol
Peidiwch 但 rhannu data personol neu ddata troseddau os nad ydym wedi gofyn am hyn oni bai bod hynnyn gwbl angenrheidiol at ddibenion eich ymateb ir ymgynghoriad. Wrth gyfeirio at ddata personol categori arbennig rydym yn golygu gwybodaeth am:
- hil
- tarddiad ethnig
- barn wleidyddol
- credoau crefyddol neu athronyddol
- aelodaeth undeb llafur
- geneteg
- biometreg
- iechyd (gan gynnwys gwybodaeth yn ymwneud ag anabledd)
- bywyd rhywiol; neu
- gyfeiriadedd rhywiol
unigolyn byw.
Wrth gyfeirio at ddata troseddau rydym yn golygu gwybodaeth syn ymwneud ag euogfarnau neu droseddau unigolyn byw neu fesurau diogelwch cysylltiedig.
3. Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol
Mae casglu eich data personol yn gyfreithlon o dan erthygl 6(1)(e) o Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data gan ei fod yn angenrheidiol er mwyn i MHCLG gyflawni tasg er budd y cyhoedd/wrth arfer awdurdod swyddogol a freiniwyd yn y rheolydd data. Mae Adran 8(d) Deddf Diogelu Data 2018 yn datgan y bydd hyn yn cynnwys prosesu data personol syn angenrheidiol ar gyfer arfer swyddogaeth y Goron, Gweinidog y Goron neu un o adrannaur llywodraeth h.y. ymgynghoriad yn yr achos hwn.
4. Gyda phwy y byddwn yn rhannu eich data personol
Gall MHCLG benodi prosesydd data, yn gweithredu ar ran yr Adran ac o dan ein cyfarwyddyd, i helpu i ddadansoddir ymatebion ir ymgynghoriad hwn. Lle byddwn yn gwneud hynny, byddwn yn sicrhau bod y gwaith prosesu ar eich data personol yn parhau i fod yn gwbl unol 但 gofynion y ddeddfwriaeth diogelu data.
5. Am ba hyd y byddwn yn cadw eich data personol, 稼艶顎r meini prawf a ddefnyddir i benderfynu ar y cyfnod cadw
Caiff eich data personol ei gadw am ddwy flynedd ar 担l ir ymgynghoriad ddod i ben, oni bai ein bod yn canfod cyn hynny nad oes angen parhau iw gadw.
6. Eich hawliau, e.e. cyrchu, cywiro, cyfyngu, gwrthwynebu
Eich data personol ywr data rydym yn ei gasglu, ac mae gennych lais sylweddol o ran yr hyn syn digwydd iddo. Mae gennych yr hawliau canlynol:
a. gweld pa ddata sydd gennym amdanoch chi
b. gofyn i ni roir gorau i ddefnyddioch data, ond i gadw cofnod ohono
c. gofyn ich data gael ei gywiro os ywn anghywir neun anghyflawn
d. gwrthwynebu ein defnydd och data personol o dan rai amgylchiadau
e. cyflwyno cwyn ir Comisiynydd Gwybodaeth annibynnol (ICO) os ydych yn meddwl nad ydym yn trin eich data yn deg neun unol 但r gyfraith. Gallwch gysylltu 但r ICO trwy , neu trwy ffonio 0303 123 1113.
Cysylltwch 但 ni yn y cyfeiriad canlynol os hoffech arfer yr hawliau a restrir uchod, ac eithrior hawl i gyflwyno cwyn ir ICO: dataprotection@communities.gov.uk 稼艶顎r
Knowledge and Information Access Team
Ministry of Housing, Communities and Local Government
Fry Building
2 Marsham Street
London
SW1P 4DF
7. Ni fydd eich data personol yn cael ei anfon dramor
8. Ni fydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw benderfyniadau awtomataidd
9. Caiff eich data personol ei storio yn system TG ddiogel y llywodraeth
Rydym yn defnyddio prosesydd trydydd parti, Citizen Space, i gasglu ymatebion ir ymgynghoriad. Yn y lle cyntaf, bydd eich data personol yn cael ei storio ar eu gweinydd diogel yn y DU. Bydd eich data personol yn cael ei drosglwyddo i system TG ddiogel y llywodraeth cyn gynted 但 phosibl, a chaiff ei storio yno am ddwy flynedd cyn ei ddileu.