Ein llywodraethiant

Dyma’r prif gyrff gwneud penderfyniadau, gweithredol, rheoli a chynghori yng Nghyllid a Thollau EF (CThEF).


Sefydlwyd CThEF gan Ddeddf Comisiynwyr Cyllid a Thollau (CRCA) 2005, sy’n rhoi pwerau a chyfrifoldebau cyfreithiol yr adran i Gomisiynwyr a benodir gan y Goron.

Bwriad statws CThEF fel adran anweinidogol yw sicrhau bod y system dreth yn cael ei gweinyddu’n deg ac yn ddiduedd.

John-Paul Marks yw’r Prif Ysgrifennydd Parhaol a’r Prif Weithredwr, sy’n gyfrifol am berfformiad y sefydliad a chyflwyno’r strategaeth adrannol.

Angela MacDonald yw’r Ail Ysgrifennydd Parhaol a’r Dirprwy Brif Weithredwr, sy’n gyfrifol am wasanaeth cwsmeriaid a gweithgarwch gorfodi a chydymffurfio ar draws yr holl drethi.

Ynghyd â’r Pwyllgor Gweithredol, maen nhw’n gyfrifol am redeg CThEF.

Mae gennym Arweinydd Anweithredol, Y Fonesig Jayne-Anne Gadhia sydd, ynghyd â’r Bwrdd, yn darparu her a chyngor i’r Ysgrifenyddion Parhaol a’r Pwyllgor Gweithredol ar ddylunio strategaeth CThEF ac ar ei gweithredu, gan gynnwys adolygu a herio perfformiad yn erbyn cynllun busnes yr adran.

Mae rhagor o wybodaeth am ein strwythur i’w gweld yn ein siart sefydliadol, ac yn Natganiad Llywodraethiant ein Hadroddiad a Chyfrifon Blynyddol (gweler tudalen 84).

Comisiynwyr CThEF

Mae ein Comisiynwyr yn gyfrifol am gasglu a rheoli refeniw, gorfodi gwaharddiadau a chyfyngiadau, a swyddogaethau eraill, megis talu credydau treth. Maen nhw’n arfer y swyddogaethau hyn yn enw’r Goron.

Mae gan y Comisiynwyr hawl hefyd i benodi swyddogion Cyllid a Thollau sy’n gorfod cydymffurfio â’u cyfarwyddiadau. Mae’r ffordd y mae’r Comisiynwyr yn cynnal eu busnes yn cael ei llywodraethu gan Ddeddf Comisiynwyr Cyllid a Thollau. Tri Chomisiynydd sy’n gwneud penderfyniadau ynghylch ein hachosion mwyaf a’n hachosion mwyaf sensitif, a hynny o dan gadeiryddiaeth y Comisiynydd Sicrwydd Treth.

Ar hyn o bryd, mae gan CThEF chwech Comisiynydd:

Bwrdd CThEF

Mae Bwrdd CThEF yn gynghorol. Mae’n darparu her a chyngor ar berfformiad, cyflawni, strategaethau, gallu a risgiau CThEF.

Nid yw’n cynghori ar ddatblygu polisi na materion trethdalwyr unigol.

Cadeirydd y bwrdd yw Ysgrifennydd y Siecr i’r Trysorlys.

Aelodau’r Bwrdd

Mae’r Bwrdd yn cynnwys aelodau o Bwyllgor Gweithredol a Chyfarwyddwyr Anweithredol CThEF.

Cadeirydd: James Murray AS, Ysgrifennydd y Siecr i’r Trysorlys

Aelodau:

Adroddiadau

Mae’r adran yn adrodd ar y ffordd y mae’r Bwrdd yn gweithredu yn y Datganiad Llywodraethiant Corfforaethol yn yr adroddiad a chyfrifon blynyddol. Mae hyn yn cynnwys cofnod o bwy sy’n bresennol yng nghyfarfodydd y Bwrdd.

Cyfarfodydd Bwrdd CThEF

Mae’r Bwrdd yn cwrdd yn fisol. Gallwch ddarllen crynodeb o gyfarfodydd Bwrdd CThEF:

  • (ODT, 15.5 KB)

  • (ODT, 11.8 KB)

Mae crynodebau cyfarfod Bwrdd CThEF blynyddoedd blaenorol ar gael ar wefan yr Archifau Gwladol:

Aelodau anweithredol y Bwrdd

Mae gan aelodau anweithredol y Bwrdd doreth o brofiadau o ystod o gefndiroedd, gan gynnwys dadansoddi data, adnoddau dynol, TG, cyfrifeg a’r proffesiwn treth. Mae eu sgiliau a’u cefndiroedd proffesiynol yn ychwanegu safbwynt allanol i’r cyngor y mae’r Bwrdd yn ei gynnig i helpu llunio strategaeth a herio perfformiad.

Cafodd aelodau anweithredol o’r Bwrdd eu penodi yn dilyn ymarferion recriwtio a gynhaliwyd yn unol ag arweiniad Swyddfa’r Cabinet.

Is-bwyllgorau’r Bwrdd

Mae strwythur pwyllgor y bwrdd yn cynnwys:

  • y Pwyllgor Archwilio a Risg

  • y Pwyllgor Enwebu

Dirprwyir gwaith i bwyllgorau’r Bwrdd, lle y gall grwpiau bach o aelodau anweithredol ac aelodau’r Pwyllgor Gweithredol archwilio i faterion yn fynylach a chyflwyno eu canfyddiadau i’r Bwrdd i’w trafod ac i benderfynu arnynt.

Y Pwyllgor Archwilio a Risg

Mae’r Pwyllgor Archwilio a Risg yn rhoi sicrwydd i’r Bwrdd a’r Prif Swyddog Cyfrifyddu ar fanwl gywirdeb datganiadau ariannol a chryfder prosesau rheoli risg ar draws CThEF.

Mae ei gwmpas yn cwmpasu pob agwedd ar fusnes CThEF, gan gynnwys goruchwyliaeth briodol o Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA).

Mae’r pwyllgor yn cynghori’r Bwrdd a’r Prif Swyddog Cyfrifyddu ar y canlynol:

  • prosesau a chamau sicrwydd mewn perthynas â rheoli risgiau yng nghyd-destun CThEF

  • y broses strategol ar gyfer risg, rheoli a llywodraethiant y polisïau cyfrifyddu, y cyfrifon, adroddiad blynyddol y Comisiynydd Sicrwydd Treth ac adroddiad blynyddol y sefydliad, gan gynnwys Cyfrifon Adnoddau, Datganiad Ymddiriedolaeth a’r Cyfrifon Cronfa Yswiriant Gwladol

  • argymell y camau i’w cymryd er mwyn ymateb i adolygiadau o’r prosesau a ddefnyddir mewn achosion treth sydd wedi’u setlo.

  • y gweithgarwch sydd wedi’i drefnu a chanlyniadau archwiliadau mewnol ac allanol

  • i ba raddau y mae’r ymatebion a roddir gan reolwyr o ran materion a nodwyd gan weithgarwch archwilio yn ymatebion digonol

  • cynigion o ran tendro gwasanaethau archwilio gan gontractwyr sy’n darparu gwasanaethau archwilio i’r adran, pan fo angen

  • polisïau gwrth-dwyll, chwythu’r chwiban

  • prosesau a threfniadau ar gyfer ymchwiliadau arbennig

Aelodaeth

Cadeirydd: Michael Hearty, Cyfarwyddwr Anweithredol

Aelodau:

Gwahoddir y Prif Ysgrifennydd Parhaol a’r Prif Weithredwr i bob cyfarfod, a dylent fynychu o bryd i’w gilydd. Disgwylir i’r Prif Swyddog Cyllid fynychu pob cyfarfod llawn, ynghyd â’r Pennaeth Archwilio Mewnol, Pennaeth Risg, a chynrychiolydd o’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol. Mae aelodau gweithredol eraill yn mynychu yn ôl galw’r agenda.

y Pwyllgor Enwebu

Mae’r Pwyllgor Enwebu’n craffu ac yn cynghori ar y canlynol:

  • cynllunio ar gyfer olyniaeth ExCom, y Bwrdd ac uwch reolwyr a thalent, perfformiad a gwobrau ar lefel uwch

  • systemau ar gyfer nodi a datblygu arweinyddiaeth, talent a photensial uchel

  • cymhellion a gwobrau i uwch swyddogion, a chynghori ar effeitholrwydd y gwobrau hyn o ran gwella perfformiad

Aelodaeth

Cadeirydd:ÌýJayne Anne Gadhia, Prif Gyfarwyddwr Anweithredol

Aelodau:

  • Patricia Gallan, Cyfarwyddwr Anweithredol a chadeirydd y Pwyllgor Pobl

  • John-Paul Marks, Prif Ysgrifennydd Parhaol a Phrif Weithredwr CThEF

Y Pwyllgor Gweithredol

Y Pwyllgor Gweithredol (Excom) yw prif fforwm gweithredol yr adran a’r prif le y mae Comisiynwyr yn gwneud eu penderfyniadau. Mae portffolios o gyfrifoldeb gan unigolion ar y pwyllgor. Mae’r portffolios hyn yn cwmpasu pob maes busnes CThEF a swyddogaeth y gwasanaeth corfforaethol.

Mae’r Pwyllgor Gweithredol yn goruchwylio ac yn sicrhau ansawdd holl waith CThEF ac yn gyfrifol am osod a chyflwyno strategaeth. Mae’r Pwyllgor hefyd yn goruchwylio perfformiad yr adran, yng nghyd-destun amcanion y presennol a’r dyfodol.

O fewn hwb perfformiad pwrpasol, gan arddangos dangosyddion perfformiad y cytunwyd arnynt gan y pwyllgor, mae’n dadansoddi perfformiad CThEF yn erbyn targedau, ac yn ystyried sut i wella perfformiad ym mhob maes. Mae hyn yn cynnwys gwella’r gwasanaeth i gwsmeriaid a gwerth am arian.

Cyfarfodydd y Pwyllgor Gweithredol (Excom)

Gallwch ddarllen crynodeb o gyfarfodydd Excom:

  • (ODT, 24.1 KB)

  • (ODT, 21.8 KB)

  • (ODT, 22.7 KB)

Mae crynodebau cyfarfodydd y blynyddoedd blaenorol ar gael ar wefan yr Archifau Cenedlaethol:

  • Crynodebau cyfarfodydd Excom:

Is-bwyllgorau’r Pwyllgor Gweithredol

Mae’r Pwyllgor Gweithredol yn cael cefnogaeth ychwanegol gan bedwar is-bwyllgor:

  • y Pwyllgor Strategaeth
  • y Pwyllgor Newid, Buddsoddi a Dylunio
  • y Pwyllgor Gweithredol sy’n goruchwylio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol
  • y Pwyllgor Safonau Proffesiynol

Y Pwyllgor Strategaeth

Mae’r Pwyllgor Strategaeth yn goruchwylio strategaeth CThEF ar lefel uchel a sut y caiff y strategaeth honno ei gweithredu ar draws yr adran.

Y Pwyllgor Newid, Buddsoddi a Dylunio

Mae’r Pwyllgor Newid, Buddsoddi a Dylunio yn sicrhau bod unrhyw newidiadau yn symud CThEF tuag at gyflawni ein hamcanion strategol a chymeradwyo’r pwyntiau dylunio, buddsoddi a chyflawni allweddol yng nghylch bywyd y rhaglen.

Y Pwyllgor Gweithredol sy’n goruchwylio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol

Mae’r Pwyllgor Gweithredol sy’n goruchwylio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol yn darparu trosolwg cyfunol o gynnydd Troi Treth yn Ddigidol yn erbyn atebolrwydd unigol a chyfunol ExCom y cytunwyd arnynt. Mae’n darparu llwybr uwchgyfeirio y tu hwnt i Fwrdd y Rhaglen lle bo’n briodol.

Y Pwyllgor Safonau Proffesiynol

Mae’r Pwyllgor Safonau Proffesiynol yn goruchwylio’r ffordd y mae CThEF yn gweinyddu’r system dreth ac yn gweithredu polisïau yn unol â’i werthoedd. Mae’r pwyllgor yn ystyried sut y gallai gweithredoedd CThEF effeithio ar ffydd yn y system dreth a’r argraff mae’r cyhoedd yn ei chael o degwch. Mae’n cynnig her hollbwysig i’r ffordd y mae CThEF yn arfer ei bwerau, yn cefnogi arfer da yn y defnydd o’i bwerau a’i fesurau diogelu.

Ceir manylion pellach ynghylch cylch gorchwyl llawn y pwyllgor yn:Ìý (ODT, 15 KB)

Gallwch ddarllen crynodebau o gyfarfodydd diweddaraf y pwyllgor:

  • (ODT, 13.6 KB)

  • (ODT, 10.8 KB)

  • (ODT, 9.85 KB)

  • (ODT, 10.4 KB)

Mae crynodebau cyfarfodydd o flynyddoedd blaenorol ar gael gan yr Archifau Cenedlaethol:

Gallwch ddarllen crynodebau blynyddol o waith y pwyllgor:

-Ìý (ODT, 15 KB)

  • (ODT, 13.9 KB)

Aelodaeth

Mae’r Pwyllgor Safonau Proffesiynol yn cynnwys y Pwyllgor Gweithredol a dau Gyfarwyddwr Anweithredol. Mae hwn yn cael ei gefnogi gan bedwar ymgynghorydd annibynnol.

Cyfarwyddwyr Anweithredol Ymgynghorwyr Annibynnol
Patricia Gallan QPMÌý Katerina Hadjimatheou
Paul Morton Emma Borg
Ìý Kirsty Britz
Ìý Glyn Fullelove