Ffurflen

Gwneud cais i wneud penderfyniadau lles personol ar ran rhywun: Ffurflen COP1B

Defnyddiwch y ffurflen hon i ddisgrifio’r penderfyniadau lles personol y mae angen i chi eu gwneud ar ran rhywun pan fyddwch chi’n gwneud cais am orchymyn Llys Gwarchod.

Dogfennau

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch hmctsforms@justice.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Darllenwch y nodiadau canllaw yn y ffurflen cyn i chi ei llenwi.

Mae angen i chi hefyd lenwi ffurflen COP1.

Yn dibynnu ar y math o gais rydych chi’n ei wneud, efallai y bydd angen i chi hefyd lenwi ffurflen COP3Աffurflen COP4. Mae’r ffurflen yn esbonio pa ffurflen y mae angen i chi ei llenwi.

Darllenwch fwy am wneud penderfyniadau ar ran rhywun, gan gynnwys y ffurflenni sydd angen i chi eu llenwi pan fyddwch yn gwneud cais i fod yn ddirprwy.

Darllenwch fwy am y Llys Gwarchod.

Agor dogfen

Gallwch lawrlwytho ac agor dogfennau PDF ar eich dyfais. Mae lawrlwytho yn galluogi defnyddio mwy o nodweddion, fel argraffu.

Mae Adobe Reader yn raglen gweld ffeiliau PDF sydd yn rhad ac am ddim i’w lawrlwytho. Gallwch ddefnyddio hwn i weld, llenwi ac argraffu dogfennau PDF. Nid oes angen i chi gofrestru ar gyfer treial am ddim.

Dilynwch y camau hyn:

  1.  am ddim.
  2. Cliciwch gydag ochr dde y llygoden ar y ddolen a dewiswch ‘Save link as’ neu ‘Download linked file’.
  3. Cadw’r ffurflen (yn eich ffolder ‘documents’, er enghraifft).
  4. Agorwch Adobe Reader ac yna dewiswch y ffurflen yr ydych wedi’i chadw.

Os nad yw’r ffurflen yn agor o hyd, cysylltwch â hmctsforms@justice.gov.uk.

Dewch o hyd i ragor o ffurflenni llys a thribiwnlys fesul categori.

Dewch o hyd i sut mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM yn defnyddio’r wybodaeth bersonol yr ydych yn ei rhoi wrth lenwi ffurflen.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 1 Rhagfyr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf ar 28 Mai 2025 show all updates
  1. Added a Welsh landing page.

  2. Added a large print version of the form.

  3. First published.

Argraffu'r dudalen hon