Rhifyn mis Rhagfyr 2024 o Fwletin y Cyflogwr
Cyhoeddwyd 4 Rhagfyr 2024
Rhagarweiniad
Yn rhifyn y mis hwn o Fwletin y Cyflogwr, mae diweddariadau a gwybodaeth bwysig am y canlynol:
TWE
-
dyletswyddau o ran Cofrestru Awtomatig ar gyfer gweithwyr tymor yr 典yl
-
dyddiad cau ar gyfer talu drwy ddull electronig yn syrthio ar benwythnos
-
cymorth os ywch cyflogeion wedi talu gormod o dreth hawlio ad-daliad treth
-
trothwyon a chyfraddau benthyciadau myfyrwyr a benthyciadau 担l-raddedig ar gyfer 2025 i 2026
Diweddariadau treth a newidiadau ir arweiniad
-
helpuch cyflogeion i gael gafael ar y cymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddo
-
arweiniad Rhyddhad rhag Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Cyflogwyr Parth Buddsoddi
Gwybodaeth gyffredinol a chymorth i gwsmeriaid
-
helpuch cyflogeion i ychwanegu at eu Pensiynau y Wladwriaeth
-
Spotlight 65 Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data a ddefnyddir i leihau rhwymedigaeth treth
-
pecyn cymorth seiberddiogelwch yn rhad ac am ddim i fusnesau bach
Cymorth CThEF i gwsmeriaid y mae angen mwy o help arnynt
珂温艶油egwyddorion cymorth CThEF i gwsmeriaid y mae angen mwy o help arnyntyn amlinellu ein hymrwymiad i helpu cwsmeriaid yn 担l eu hanghenion, ac maent yn tanategu Siarter CThEF.
Dysgwch sut i gael help, ac am y cymorth ychwanegol sydd ar gael.
TWE
Newidiadau ir cyfraniadau Yswiriant Gwladol i gyflogwyr a Lwfans Cyflogaeth wediu cyhoeddi yng Nghyllideb yr Hydref 2024
Yng Nghyllideb yr Hydref 2024, cyhoeddodd y llywodraeth newidiadau i gyfraniadau Yswiriant Gwladol i gyflogwyr (CYGau). Y newidiadau a fydd yn dod i rym o 6 Ebrill 2025 ymlaen yw:
-
gostyngiad yn y trothwy eilaidd CYG
-
cynnydd i gyfradd CYG Dosbarth 1 eilaidd
-
cynnydd yn y Lwfans Cyflogaeth
-
dileur trothwy cymhwystra Lwfans Cyflogaeth o 贈100,000
Y trothwy eilaidd ywr pwynt lle mae cyflogwyr yn dechrau talu CYG ar enillion cyflogai. Bydd y trothwy eilaidd yn gostwng o 贈9,100 y flwyddyn i 贈5,000 y flwyddyn o 6 Ebrill 2025 tan 5 Ebrill 2028, ac ynan cynyddu yn 担l chwyddiant prisiau defnyddwyr wedi hynny. Nid yw hyn yn effeithio ar y trothwyon eilaidd uchaf i gyflogwr amrywiol syn bodoli ar gyfer gwahanol ryddhadau CYG i gyflogwr.
Bydd cyfradd CYG y cyflogwr yn cynyddu 1.2 pwynt canran o 13.8% i 15%. Bydd y gyfradd hon hefyd yn berthnasol i Ddosbarth 1A a Dosbarth 1B sef treuliau a buddiannau y mae cyflogwyr yn eu rhoi iw cyflogeion.
Ar yr un pryd, maer Llywodraeth yn gwneud y canlynol:
-
cynyddur Lwfans Cyflogaeth o 贈5,000 i 贈10,500
-
dileur trothwy o 贈100,000 i ehangu i gyflogwyr o bob maint
Mae hyn yn golygu y bydd pob busnes ac elusen gymwys yn gallu hawlio mwy o ostyngiad ar eu rhwymedigaeth CYG Dosbarth 1 eilaidd, ni waeth beth oedd eu rhwymedigaethau Yswiriant Gwladol yn y flwyddyn dreth flaenorol.
Ni fydd angen ir rhan fwyaf o gyflogwyr gymryd camau ychwanegol o ganlyniad i newidiadau ir CYG gan y byddant yn cael eu hadlewyrchun awtomatig mewn diweddariadau ir feddalwedd gyflogres. Rydym yn gweithio gyda datblygwyr meddalwedd ar y newidiadau yn y gyllideb.
Ni fydd rhai busnesau micro a bach yn gweld unrhyw newid mewn rhwymedigaeth CYG.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yng Nghyllideb yr Hydref 2024 trosolwg o ddeddfwriaeth dreth a chyfraddau (OOTLAR) (yn agor tudalen Saesneg).
Mae dogfennau syn gysylltiedig 但 threth, syn cynnwys gwybodaeth am dreth a nodiadau effaith, iw gweld yng Nghyllideb yr Hydref 2024 dogfennau cysylltiedig 但 threth (yn agor tudalen Saesneg).
Gallwch hefyd ddarllen mwy am dalu CYG yn Rhedeg y gyflogres didyniadau (yn agor tudalen Saesneg).
Mae rhagor o wybodaeth am Lwfans Cyflogaeth (yn agor tudalen Saesneg) ar gael a bydd yn cael ei diweddaru i ddangos newidiadaur gyllideb ar 6 Ebrill 2025.
Dyletswyddau o ran cofrestru awtomatig ar gyfer gweithwyr tymor yr 典yl
Os ydych yn cyflogi staff tymor byr ar gyfer tymor yr 典yl nad ydynt ar oriau nac incwm rheolaidd ac yn cael eu talu drwy system gyflogres, maen bosibl y bydd dyletswyddau cyfreithiol o ran cofrestru awtomatig yn berthnasol i chi. Mae hyn yn cynnwys staff syn gweithio am ychydig ddyddiau, wythnosau neu fisoedd.
Maen rhaid i chi weithio mas pwy iw roi ar gynllun pensiwn drwy asesu staff yn unigol, bob tro y byddwch yn eu talu, gan ystyried beth yw eu hoedran a faint maen nhwn ei ennill.
Maen rhaid i unrhyw staff syn 22 oed i oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac syn ennill dros 贈192 yr wythnos neu 贈833 y mis, gael eu rhoi mewn cynllun pensiwn y maen rhaid i chi gyfrannu tuag ato. Mae gwybodaeth bellach am ar gael ar wefan y Rheolydd Pensiwn.
Angen tystiolaeth i hawlio treuliau cyflogaeth TWE
Ar 14 Hydref 2024, cyflwynodd CThEF ofynion tystiolaeth newydd ar gyfer cwsmeriaid syn hawlio treuliau cyflogaeth TWE (Talu Wrth Ennill) (P87). Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y Briff gwybodaeth CThEF Angen tystiolaeth i hawlio treuliau cyflogaeth TWE (P87) (yn agor tudalen Saesneg).
Rydym am sicrhau bod cwsmeriaid yn cael y rhyddhad treth y mae ganddynt hawl iddo. Fodd bynnag, mae angen i ni hefyd sicrhau ein bod yn nodi lle nad yw cwsmeriaid yn gymwys au hatal rhag cael taliadau nad oes ganddynt hawl iddynt.
Pan fydd cwsmeriaid yn anfon tystiolaeth i ni am hawliadau treuliau cyflogaeth TWE, bydd CThEF yn gwirior holl dystiolaeth a bydd yn cadarnhau gyda chwsmeriaid a oes ganddynt hawl i ryddhad treth.
Gall cyflogwyr helpu eu cyflogeion i ddeall yr hyn y gallant ac na allant hawlio amdano trwy rannur gysylltiad in .
Mae croeso i gyflogwyr hefyd ddefnyddio ein rhyddhad treth ar dreuliau gwaith adnoddau cyfathrebu (yn agor tudalen Saesneg), sydd 但 deunydd wedii baratoi i helpu i hwylusor sgyrsiau hyn gyda chyflogeion.
Dyddiad cau ar gyfer talu drwy ddull electronig yn syrthio ar benwythnos
Ym mis Rhagfyr 2024, maer dyddiad cau ar gyfer talu drwy ddull electronig yn syrthio ar 22 Rhagfyr 2024. Er mwyn sicrhau bod eich taliad ar gyfer y mis yn ein cyrraedd mewn pryd, bydd angen bod gennych arian wedii glirio yng nghyfrif banc CThEF erbyn 20 Rhagfyr 2024, oni bai eich bod yn gallu trefnu talu gan ddefnyddior gwasanaeth Taliadau Cyflymach.
Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod eich taliadaun cael eu gwneud mewn pryd ac, os ywch taliad yn hwyr, maen bosibl y codir cosb arnoch.
Cyn gwneud eich taliad, gwiriwch derfynau gwerth eich trafodion dyddiol unigol a therfynau amser eich banc neuch cymdeithas adeiladu. Gwnewch yn si典r eich bod yn gwybod pryd i gychwyn eich taliad, fel ei fod yn cyrraedd CThEF mewn pryd.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn talu TWE cyflogwr.
Canllaw ar gyfer Cydymffurfio Help gydar Ardoll Brentisiaethau ar Lwfans Cyflogaeth endidau cysylltiedig
Yn ddiweddar, mae CThEF wedi cyhoeddi Canllawiau ar gyfer Cydymffurfio newydd Help gydar Ardoll Prentisiaethau ar Lwfans Cyflogaeth endidau cysylltiedig (yn agor tudalen Saesneg).
Maer canllawiau hyn yn egluror rheolau endidau cysylltiedig i helpu cyflogwyr i roi gwybod am yr Ardoll Brentisiaethau yn gywir a hawlio Lwfans Cyflogaeth. Maer term endid yn cynnwys cwmn誰au, elusennau a chyrff cyhoeddus (au sefydliadau cysylltiedig).
Maer canllawiau hyn yn gwneud y canlynol:
-
esbonio sut maer rheolau endidau cysylltiedig yn effeithio ar yr Ardoll Brentisiaethau ar Lwfans Cyflogaeth
-
amlygur camgymeriadau cyffredin y mae cyflogwyr yn eu gwneud
-
rhoi cyngor ymarferol ar sut i adnabod endidau cysylltiedig
-
rhoi help ar y senarios unigryw ym mhoblogaeth y corff cyhoeddus
-
nodi sut y gall cyflogwyr gywiro unrhyw wallau a wneir
Maer canllawiaun gynnyrch ymarferol i gwsmeriaid gyfeirio ato a dylid eu darllen ochr yn ochr 但 chanllawiau presennol CThEF. Byddant yn cael eu diweddaru yn 担l yr angen i gynnal eu perthnasedd au defnyddioldeb i gwsmeriaid.
Mae Canllawiau ar gyfer Cydymffurfio yn rhan o ymrwymiad parhaus CThEF i gyhoeddi cymorth ymarferol i gwsmeriaid. Maent yn rhoi barn CThEF ar risgiau ar draws cyfundrefnau treth, ac syn gymhleth, yn anghyffredin , neu syn cael eu camddeall yn eang.
Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys ein cyhoeddiadau eraill, ar gael ar Canllawiau ar gyfer Cydymffurfio (yn agor tudalen Saesneg).
Cymorth os ywch cyflogeion wedi talu gormod o dreth hawlio ad-daliad treth
Mae CThEF wedi newid y ffordd y maen ad-dalur rhan fwyaf o gwsmeriaid TWE (Talu Wrth Ennill) syn gymwys i gael ad-daliadau Bacs (System Glirio Awtomataidd y Bancwyr) ac syn gallu hawlio eu had-daliad ar-lein.
Yn flaenorol, byddai unrhyw gyflogeion a gafodd lythyr cyfrifiad treth P800 ac nad oedd yn hawlior ad-daliad ar-lein yn cael siec yn awtomatig ar 担l 21 diwrnod. O 31 Mai 2024 ymlaen, nid oedd sieciaun cael eu hanfon yn awtomatig mwyach. Bydd angen i gwsmeriaid gymryd camau i gael eu had-daliad.
Os ydych chi neuch cyflogeion wedi talu gormod o dreth, y ffordd gyflymaf a hawsaf o wneud cais am ad-daliad yw drwy ap CThEF. Byddwn yn talur ad-daliad yn syth ich cyfrif banc cyn pen 1 wythnos ich hawliad.
I hawlioch ad-daliad treth, dewiswch yr adran Pay As You Earn (PAYE) yn yr ap CThEF. Os oes arnoch arian yn 担l gennym, fe welwch fotwm gwyrdd ar y dudalen i hawlioch ad-daliad ar swm syn ddyledus i chi. Dewiswch y botwm hwn i ddechrauch hawliad.
Os nad ydych wedi cofrestru ar gyfer ein gwasanaethau ar-lein hyd yma, gallwch hawlioch ad-daliad ar-lein o hyd drwy chwilio am P800 refund. Bydd angen eich cyfeirnod P800 arnoch (gallwch gael hwn och llythyr Cyfrifiad Treth P800) ach rhif Yswiriant Gwladol. Gall dod o hyd i ragor o wybodaeth yn gordaliadau a thandaliadau treth.
Ad-daliadau TWE y cyflogwyr a Chynllun y Diwydiant Adeiladu
Gwnaethom nodi bod CThEF yn cyflwyno gwelliannau i gefnogi hawliadau ar-lein am ad-daliad yn rhifyn Hydref 2024 or Bwletin Cyflogwyr.
Mae CThEF bellach wedi cyhoeddi fersiwn well or ffurflen hawlio ad-daliadau ar-lein yn hawlio ad-daliad o ddidyniadau Cynllun y Diwydiant Adeiladu os ydych yn gwmni cyfyngedig neun asiant (yn agor tudalen Saesneg).
Bydd y ffurflen hawlio ar-lein hon yn eich galluogi i uwchlwytho tystiolaeth, gan gynnwys datganiadau talu a didyniadau a datganiadau banc pan fydd CThEF yn gofyn amdano. Bydd y ffurflen hefyd yn cysylltu 但 chanllawiau i wirio pryd y gallwch ddisgwyl ymateb gan CThEF.
Byddwn yn darparu diweddariad pellach ynghylch y ffurflen hawlio ar-lein newydd ar gyfer ad-daliadau TWE pan fydd hyn yn cael ei gyhoeddi.
Cadarnhau cynlluniau i fandadur broses o adrodd ar fuddiannau drwy feddalwedd gyflogres o fis Ebrill 2026 ymlaen
Yng Nghyllideb yr Hydref, cyhoeddodd y llywodraeth rai diweddariadau i gynigion Ionawr 2024 i fandadur broses o adrodd ar fuddiannau drwy feddalwedd gyflogres o fis Ebrill 2026 ymlaen. Y prif addasiadau rydym wediu gwneud yw:
-
bydd adrodd gorfodol am fuddiannau mewn amser real, trwy feddalwedd gyflogres, yn cael ei gyflwyno fesul cam o fis Ebrill 2026 ymlaen bydd yn ofynnol i gyflogwyr talur rhan fwyaf o fuddiannau trwyr gyflogres o fis Ebrill 2026 ymlaen, ond ni fydd yn ofynnol iddynt dalu benthyciadau a llety trwyr gyflogres pryd hynny
-
bydd cyflogwyr yn gallu adrodd ar fenthyciadau a llety syn gysylltiedig 但 chyflogaeth drwy feddalwedd gyflogres o fis Ebrill 2026 ymlaen bydd P11D a P11D(b) wedii addasu ar gael i adrodd ar fenthyciadau a llety yn unig os nad yw cyflogwyr yn dymuno talur rhain drwyr gyflogres
-
ni wnaed unrhyw benderfyniad ynghylch pryd y byddwn yn mandadu adrodd ar fenthyciadau a llety drwy feddalwedd gyflogres byddwn yn rhoi ystyriaeth ofalus i sicrhau y rhoddir digon o rybudd o unrhyw newid
-
cyflwynir proses diwedd blwyddyn i ddiwygio gwerthoedd trethadwy unrhyw fuddiannau na ellir eu pennu yn ystod y flwyddyn dreth, fodd bynnag, rydym yn disgwyl i werthoedd trethadwyr rhan fwyaf o fuddiannau gael eu hadrodd mor gywir 但 phosibl yn ystod y flwyddyn dreth
-
bydd y gofyniad i gyflwyno ffurflenni P46 (Car) yn cael ei ddileu gan y darperir ymarferoldeb i adrodd ar y data syn ofynnol trwy feddalwedd gyflogres mewn amser real
Byddwn yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod yr adroddiadau gorfodol am fuddiannau drwy feddalwedd gyflogres yn gweithio i CThEF a threthdalwyr. Byddwn yn rhoir wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i gyhoeddi deddfwriaeth ddrafft a manylebau technegol.
Trothwyon a chyfraddau benthyciadau myfyrwyr a benthyciadau 担l-raddedig ar gyfer 2025 i 2026
Cyhoeddodd yr Adran Addysg y math newydd o gynllun benthyciadau myfyrwyr a throthwyon a chyfraddau benthyciadau 担l-raddedig o 6 Ebrill 2025 ymlaen:
-
cynllun 1: 贈26,065
-
cynllun 2: 贈28,470
-
cynllun 4: 贈32,745
-
benthyciad 担l-raddedig: 贈21,000
Maer didyniadau ar gyfer:
-
cynlluniau 1, 2 a 4 yn aros ar 9% ar gyfer unrhyw enillion syn uwch nar trothwyon perthnasol
-
mae benthyciadau 担l-raddedig yn aros ar 6% ar gyfer unrhyw enillion syn uwch nar trothwy perthnasol
Bydd arweiniad ar drothwyon benthyciadau myfyrwyr ac 担l-raddedig newydd (yn agor tudalen Saesneg) yn cael eu diweddaru ar 6 Ebrill 2025.
Ewch yn ddi-bapur gyda TWE Ar-lein
Gallwch ddewis cael cod treth a hysbysiadau benthyciad myfyrwyr ar gyfer eich cyflogeion yn ddigidol yn hytrach na thrwy bapur.
Mae hyn yn golygu y gallwch eu cael yn gyflymach ac yn rhyddhau mannau storio yn eich swyddfa oherwydd unwaith y byddwch wedi dewis di-bapur gallwch weld holl hysbysiadau eich cyflogeion ar-lein.
Os ywch busnes yn rhedeg eich cyflogres eich hun, trosglwyddwch y neges hon ir person cywir yn y gyflogres neu Adnoddau Dynol.
I optio i mewn i ddi-bapur:
- Mewngofnodwch ich cyfrif TWE Ar-lein.
- Dewiswch Negeseuon.
- Dewiswch Negeseuon TWE i gyflogwyr.
- Dewiswch Newid sut rydych yn cael hysbysiadau cod treth a benthyciad myfyriwr.
- Dewiswch yr hysbysiadau yr hoffech eu cael yn ddigidol.
Ar 担l i chi gwblhaur camau hyn, gallwch ddewis cael e-bost pan fydd hysbysiad newydd yn eich cyfrif. Ewch i E-bost hysbysiadau a nodwch eich cyfeiriad e-bost.
Os ywch asiant treth yn rhedeg eich cyflogres, gofynnwch iddo ddewis cael hysbysiadau yn ddigidol yn TWE Ar-lein bydd yn eu cael yn llawer cyflymach, ac ni fydd angen i chi anfon eich cop誰au papur ato.
Diweddariadau treth a newidiadau ir arweiniad
Diwygior cyfnod sail adrodd ar sail blwyddyn dreth
O fis Ebrill 2024 ymlaen, os ydych yn hunangyflogedig neu mewn partneriaeth masnachu, bydd yn rhaid i chi roi gwybod am eich elw ar sail blwyddyn dreth.
Os nad ydych eisoes yn gwneud hynny, bydd angen i chi ddatgan eich elw o ddiwedd y cyfnod cyfrifyddu blaenorol yn 2022 i 2023 hyd at 5 Ebrill 2024. Bydd unrhyw elw ychwanegol, ar 担l rhyddhad gorgyffwrdd yn elw trosiannol. Yn ddiofyn, maer elw trosiannol hwn yn cael ei ledaenun gyfartal dros y 5 mlynedd nesaf gan gynnwys 2023 i 2024. Bydd cyfnodau cyfrifyddu syn dod i ben ar 31 Mawrth bellach yn cael eu trin fel rhai syn cyfateb ir rhai syn dod i ben ar 5 Ebrill.
Er mwyn eich helpu i gyfrifoch rhyddhad gorgyffwrdd ach elw trosiannol, yn ddiweddar cyhoeddodd CThEF fideo YouTube ar ddiwygior cyfnod sail.
.
Yn ddiweddar, rydym wedi gweld cynnydd mawr mewn ceisiadau i ddarparu ffigurau rhyddhad gorgyffwrdd. Er mwyn ein helpu i ddelio 但r galw am y gwasanaeth hwn wrth i ni nes叩u at y dyddiad cau ar 31 Ionawr 2025, gofynnwn i chi wneud eich ceisiadau erbyn 31 Rhagfyr 2024. Gallwch hefyd ffeilior ffurflen gan ddefnyddio ffigurau dros dro ai diwygio pan dderbynnir y ffigur cywir. Defnyddiwch y gwasanaeth hwn dim ond os oes angen, gan na fwriedir iddi gael ei defnyddio i wirio ffigur sydd gennych eisoes, ac nid oes angen defnyddior gwasanaeth cyn cyflwyno Ffurflen Dreth.
Defnyddiwch y ffurflen ar-lein i wirio pryd y gallwch ddisgwyl ateb gan CThEF.
Rydym hefyd wedi lansio pecyn llawn o arweiniad ar-lein i gyfrifoch elw trosiannol diwygior cyfnod sail (yn agor tudalen Saesneg). Nid yw unrhyw ffigurau a gofnodir yn yr arweiniad rhyngweithiol yn rhan or ffurflen ei hun, mae yno i arwain cwblhaur blychau ar y Ffurflen Dreth.
Gellir lleihaur elw a dynnir yn ystod blwyddyn dreth 2023 i 2024 gan unrhyw ryddhad gorgyffwrdd syn cael ei roi ar Ffurflen Dreth Hunanasesiad 2023 i 2024. Gallwch ddefnyddio ein gwasanaeth ar-lein i gael eich ffigur rhyddhad gorgyffwrdd.
Mae arweiniad pellach i gael help gyda diwygior cyfnod sail (yn agor tudalen Saesneg) ar gael.油
Helpuch cyflogeion i gael gafael ar y cymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddo
O 6 Ebrill 2024 ymlaen, cynyddodd y swm y gallwch ei ennill cyn i chi dalur T但l Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel i 贈60,000, gyda meinhau hyd at 贈80,000. Os oes gan eich cyflogeion, neu eu partneriaid, incwm rhwng 贈60,000 ac 贈80,000, maen bosibl y byddant nawr yn elwan ariannol o hawlio Budd-dal Plant.
Y t但l yw 1% ou Budd-dal Plant am bob 贈200 o incwm syn fwy na 贈60,000. Os yw incwm cyflogai, neu incwm ei bartner, dros 贈80,000, maer t但l yr un fath 但r taliad Budd-dal Plant. Fodd bynnag, os yw eu hincwm yn 贈70,000, byddair t但l yn cyfateb i 50% ou taliadau Budd-dal Plant.
Maen bosibl y bydd gan eich cyflogeion ddiddordeb nawr mewn hawlio Budd-dal Plant (yn agor tudalen Saesneg) neu ailddechrau eu taliadau (yn agor tudalen Saesneg) os ydynt wedi optio allan yn y gorffennol. Y ffordd hawsaf ich cyflogeion gael Budd-dal Plant yw trwy ap CThEF neu ar-lein.
Paratoi ar gyfer dyddiad cau ar 31 Ionawr 2025 ar gyfer Hunanasesiad
Atgoffwch eich cyflogeion, os oedden nhw neu eu partner yn hawlio Budd-dal Plant cyn 6 Ebrill ac roedd gan yr enillydd uwch incwm unigol o dros 贈50,000, maen bosibl y bydd yn rhaid iddynt dalur t但l treth ar gyfer 2023 i 2024. Gallant wirior gyfrifiannell treth Budd-dal Plant (yn agor tudalen Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth. Os oes angen iddynt dalur t但l, maen rhaid iddynt gofrestru ar gyfer Hunanasesiad.
Y gyfradd llog swyddogol o 6 Ebrill 2025 ymlaen
Defnyddir y gyfradd llog swyddogol (ORI) i gyfrifor t但l Treth Incwm ar fuddiant benthyciadau syn gysylltiedig 但 chyflogaeth ac ar fuddiant trethadwy rhai llety byw syn gysylltiedig 但 chyflogaeth. Cyhoeddodd y llywodraeth yn y gyllideb na fydd yr ymrwymiad cyhoeddus blaenorol a wnaed ym mis Ionawr 2000 i beidio 但 chynyddur gyfradd yn ystod y flwyddyn dreth bellach yn berthnasol. O 6 Ebrill 2025 ymlaen, gall yr ORI gynyddu, gostwng neu gael ei gadw yr un fath trwy gydol y flwyddyn.
Bydd y gyfradd yn parhau i gael ei hadolygu bob chwarter. Bydd unrhyw newidiadau yn y gyfradd yn digwydd yn dilyn adolygiad chwarterol, lle bo hynnyn briodol. Os oes unrhyw newidiadau yn ystod y flwyddyn ir gyfradd, bydd y rhain yn dod i rym ar 6 Gorffennaf, 6 Hydref a 6 Ionawr. Bydd unrhyw newidiadau ir gyfradd yn y dyfodol yn cael eu cyhoeddi ar-lein ar drefniadau benthyciadau buddiannol cyfraddau swyddogol CThEF (yn agor tudalen Saesneg).
Bydd y newid hwn yn cynyddu tegwch ar draws y system dreth drwy alluogir ORI i gynyddu yn ystod y flwyddyn lle bo hynnyn briodol, gan sicrhau bod benthyciadau buddiannol syn gysylltiedig 但 chyflogaeth a llety byw yn cael eu prision gywir.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yng Nghyllideb yr Hydref 2024 trosolwg o ddeddfwriaeth dreth a chyfraddau (OOTLAR) (yn agor tudalen Saesneg).
Sut bydd hyn yn effeithio ar gyflogwyr
Os ydych yn darparu benthyciadau syn gysylltiedig 但 chyflogaeth neu lety byw ich cyflogeion, bydd angen i chi fod yn ymwybodol o unrhyw newidiadau yn y gyfradd yn y dyfodol. O 6 Ebrill 2025 ymlaen, gallair gyfradd gynyddu yn ystod y flwyddyn a fydd yn effeithio ar werth trethadwyr buddiannau a roddwch.
Arweiniad Rhyddhad rhag Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Cyflogwyr Parth Buddsoddi
Mae Parthau Buddsoddi wediu cynllunio fel ymyrraeth dan arweiniad lleol i yrru cenhadaeth twf y llywodraeth trwy hyrwyddo buddsoddiad newydd mewn sectorau syn hanfodol ir Strategaeth Ddiwydiannol genedlaethol, gan greu swyddi medrus iawn mewn meysydd sydd wedi tanberfformion economaidd yn y gorffennol. Gall Parthau Buddsoddi ym Mhrydain Fawr elwa ar fynediad at ymyriadau o 贈160 miliwn dros 10 mlynedd y gellir eu defnyddion hyblyg rhwng gwariant a gostyngiadau treth. Maer llywodraeth hefyd wedi ymrwymo i ddarparu 贈150m ar gyfer Parth Buddsoddi Uwch yng Ngogledd Iwerddon.
Fel rhan or cynnig hwn, bydd rhai Parthau Buddsoddi yn cynnwys safleoedd treth arbennig dynodedig (yn agor tudalen Saesneg). Maer rhain yn ardaloedd diffiniedig lle gall busnesau fanteisio ar ystod o ryddhad treth. Ar gyfer Parthau Buddsoddi, gellir hawlior gostyngiadau treth hyn ar gael or dyddiad y dynodir y safle treth arbennig, hyd at 30 Medi 2034.
Gall cyflogwyr sydd 但 safle busnes mewn safle treth arbennig Parth Buddsoddi ddynodedig gymhwyso cyfradd sero o gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 eilaidd ar enillion cyflogeion newydd cymwys y disgwylir iddynt dreulio 60% neu fwy ou hamser gwaith ar y safle treth arbennig. Gellir cymhwysor gyfradd hon ar enillion yr holl gyflogeion newydd cymwys hyd at drothwy Eilaidd Uchaf ar gyfer Porthladdoedd Rhydd a Pharthau Buddsoddi o 贈25,000 y flwyddyn. Maer rhyddhad ar gael am 36 mis fesul cyflogai cymwys.
O 6 Ebrill 2025 ymlaen, bydd yn ofynnol i gyflogwr cymwys syn gweithredu mewn safle treth arbennig Parth Buddsoddi ddynodedig, ac syn dymuno hawlior rhyddhad, roir cod post yn y gweithle ar gyfer unrhyw gyflogeion cymwys o fewn Cyflwyniadau Talu Llawn RTI.
Rhagor o wybodaeth am:
Gwybodaeth gyffredinol a chymorth i gwsmeriaid
Helpuch cyflogeion i ychwanegu at eu Pensiynau y Wladwriaeth
Mae gan eich cyflogeion hyd at 5 Ebrill 2025 i lenwi bylchau yn eu cofnodion Yswiriant Gwladol yn 担l i 6 Ebrill 2006, a allai gynyddu eu Pensiwn y Wladwriaeth. Ar 担l 5 Ebrill 2025, dim ond am y chwe blynedd dreth flaenorol y byddant yn gallu llenwi bylchau.
Mae ap CThEF an gwasanaeth ar-lein yn galluogir rhan fwyaf o gwsmeriaid i wneud y canlynol yn gyflym ac yn hawdd:
- gwirio a oes bylchau yn eu cofnod Yswiriant Gwladol, dysgwch ragor am wirioch cofnodion am fylchau yn Yswiriant Gwladol gwirfoddol (yn agor tudalen Saesneg)
- dysgu a fyddai gwneud taliad yn cynyddu eu Pensiwn y Wladwriaeth ac ynan gwneud taliad os ywn bosibl
Mae dewis yr opsiwn talu trwy gyfrif banc yn golygu y bydd ond yn cymryd hyd at bum diwrnod gwaith iw taliad ddangos yn eu cofnod Yswiriant Gwladol.油
Dylech roi gwybod ich cyflogeion au hannog i weithredu nawr.
Trefniadau rhoi gwybod am gymhorthdal y DU ar gyfer cyfranogwyr cynllun newid hinsawdd ar gyfer blwyddyn galendr 2023
Maen ofynnol i CThEF gasglu data gan gyfranogwyr cynllun y cytundeb newid hinsawdd (CCA) y mae eu dyfarniad cymhorthdal treth blynyddol yn uwch na throthwy diffiniedig.
Maer trothwy ar gyfer rhoi gwybod am gymorthdaliadau dros 贈100,000.
Bydd angen i fusnesau sydd wediu cofrestru yng Ngogledd Iwerddon syn masnachu mewn nwyddau neur farchnad drydan gyfanwerthu roi gwybod am eu grant cymhorthdal CCA blynyddol os ywn fwy na 贈86,994. Dysgwch ragor o wybodaeth am gydymffurfio 但 rhwymedigaethau rhyngwladol y DU ar reolaeth cymorthdaliadau (yn agor tudalen Saesneg).油
Ym mis Hydref, lansiodd CThEF ymarfer casglu data ar gyfer y cyfnod adrodd rhwng 1 Ionawr a 31 Rhagfyr 2023. Bellach, maen ofynnol i fusnesaur DU roi gwybod am gymorthdaliadau CCA i CThEF drwy ffurflen ar-lein.
Cyhoeddir y data hwn yn dangos yr holl ddyfarniadau cymhorthdal uwchlawr trothwyon adrodd i hyrwyddo atebolrwydd a thryloywder.油
Maen rhaid i fusnesau syn cael grant cymhorthdal treth blynyddol syn fwy nar trothwyon adrodd ar gyfer blwyddyn galendr 2023, lenwir ffurflen ar-lein erbyn 31 Ionawr 2025.
Mae arweiniad pellach ar roi gwybod i CThEF am gymorthdaliadau Ardoll Newid Hinsawdd (yn agor tudalen Saesneg) ar gael, gan gynnwys cysylltiad ir ffurflen ar-lein.
Spotlight 65 Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data a ddefnyddir i leihau rhwymedigaeth treth
Mae CThEF yn ymwybodol o asiantau treth syn targedu busnesau i hawlio ad-daliadau Treth Gorfforaeth (CT) trwy ddarpariaethau anghywir, syn gysylltiedig 但 dirwyon posibl y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) neu hawliadau sifil.
Mae darpariaeth GDPR a ddefnyddir i leihau rhwymedigaeth treth Spotlight 65 (yn agor tudalen Saesneg) yn rhybuddio am hawliadau syn cynnwys darpariaethau GDPR a ddefnyddir i leihau rhwymedigaeth Treth Gorfforaeth yn anghywir neu hawlio ad-daliadau treth a dalwyd eisoes, neur ddau.
Maer hawliadau hyn wediu cynllunio i leihau elw busnes trwy gydnabod darpariaeth a chost gyfatebol. Mae hyn yn arwain at fusnesaun talu llai o Dreth Gorfforaeth nag y dylen nhw, neun hawlio ad-daliadau Treth Gorfforaeth nad oes ganddyn nhw hawl iw cael. Dylid cydnabod darpariaethau a threuliau cysylltiedig yn unol ag arfer cyfrifyddu a dderbynnir yn gyffredinol (GAAP) perthnasol yn unig.
Barn CThEF yw nad ywr hawliadau hyn a hawliadau tebyg yn unol 但r gyfraith. Bydd CThEF yn herio unrhyw un syn gwneud hawliadau or fath a/neu syn annog neun hwyluso busnesau i wneud hawliadau ffug syn lleihau rhwymedigaeth treth neun ceisio ad-daliad.
Dylaich busnes fod yn effro ir manylion sydd wediu cynnwys yn Spotlight 65 gan y gallai gwneud hawliadau yn y ffordd a amlinellir arwain at gamgymeriad ar ba dreth, llog a chosbau syn ddyledus, hyd yn oed os ywr elfen Ymchwil a Datblygu yn gywir.
Os oes gennych unrhyw bryderon neu os ydych yn poeni am wneud hawliad anghywir yna cyfeiriwch at arbed treth cael allan o gynllun arbed treth (yn agor tudalen Saesneg) am fanylion cyswllt.
Gallwch ddefnyddio ein ffurflen ar-lein i roi gwybod am drefniadau twyll treth ac arbed treth, ar person syn eu cynnig i CThEF.
Spotlight 66 Trefniadau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig a ddefnyddir i guddio incwm o gyflogaeth
Mae Trefniadau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig a ddefnyddir i guddio incwm o gyflogaeth Spotlight 66 (yn agor tudalen Saesneg) yn rhybuddio am gynllun arbed treth or enw Y Model Partneriaeth yn cael ei farchnata i osgoi talu treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol (CYG). Maer trefniadau wediu targedu at gwmn誰au sydd 但 chyflogeion ac sydd wediu cynllunio i osgoi talu Treth Gorfforaeth a didyniad TWE Treth Incwm a CYG gan eu cyflogeion.
Honnir bod y cynllun hwn yn gweithio fel a ganlyn. Mae cyflogai cwmni yn ymrwymo i gytundeb. O ganlyniad ir cytundeb hwn, gellid newid neu derfynu contract cyflogaeth y cyflogai fel cyfnewid am iawndaliad.
Ar 担l ymrwymo ir cytundeb, cr谷ir Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig LLP) i dalu cyflogai. Mae hyn yn caniat叩u ir cwmni, drwy ddefnyddior LLP, guddio incwm cyflogaeth, gydar nod o leihau treth a rhwymedigaeth Yswiriant Gwladol y cwmni.
Dylaich busnes fod yn effro ir manylion a gynhwysir yn Spotlight 66 gan mai barn CThEF yw nad ywr cynllun hwn yn gweithio. Mae defnyddwyr y cynllun yn parhau i fod yn cyflogeion a dylid trin taliadau a wneir iddynt gan y cwmni fel incwm trethadwy o gyflogaeth.
Os ydych yn poeni am fod wedi defnyddior cynllun hwn, neu unrhyw gynllun arbed treth arall, dylech gyfeirio at arbed treth cael allan o gynllun arbed treth (yn agor tudalen Saesneg) am fanylion cyswllt.
Gallwch ddefnyddio ein ffurflen ar-lein i roi gwybod am drefniadau twyll treth ac arbed treth, ar person syn eu cynnig i CThEF.
Sut i gwyno
Hoffai CThEF sicrhau bod pob cwsmer yn hapus gydar gwasanaeth y maent yn ei gael.
Os oes angen i chi gwyno am y gwasanaeth a gawsoch fel cyflogwr, rydym yn eich annog i wneud hynny ar-lein, gan ddilyn yr arweiniad yn cwyno am CThEF. Gallwch gwyno ar-lein os ydych yn fusnes neu os ydych yn asiant lle mae gennych ganiat但d gan eich cleient i wneud hyn ar eu rhan. Bydd CThEF yn adolyguch cwyn yn llawn a chyn gynted 但 phosibl.
Bydd cwyno ar-lein, yn hytrach na dros y ff担n, yn helpu CThEF i ddefnyddio adnoddaun well ar gyfer cwsmeriaid sydd angen cymorth gydag ymholiadau cymhleth neu frys.
Mae CThEF yn recordio pob cwyn i ddeall y rhesymau dros wasanaeth gwael, felly bydd cwyno ar-lein hefyd yn eich galluogi i nodin glir beth ddigwyddodd, a fydd yn helpu CThEF i atal materion pellach a chyflawni gwelliannau.
Pecyn cymorth seiberddiogelwch yn rhad ac am ddim i fusnesau bach
Maer Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol wedi datblygu gwasanaeth llywodraeth rhad ac am ddim newydd gydar nod o helpu busnesau bach i amddiffyn eu hunain rhag seiberdroseddwyr.
gyda mewnbwn gan fusnesau ac maen cynnig arweiniad cam wrth gam syml wedii deilwra i fusnesau bach i helpu i gynyddu eu diogelwch seiber.
Maer Pecyn Cymorth yn dal i fod yng nghamau cynnar y datblygiad a gallwch gael mynediad cynnar ir gwasanaeth i roi cynnig arno a darparu adborth gwerthfawr a fydd yn helpu i lunior offeryn ar gyfer miliynau o fusnesau bach ledled y DU.
Fformat HTML Bwletin y Cyflogwr
Ers mis Medi 2020, maen rhaid i ddeunydd a gyhoeddir ar 51画鋼 neu ar wefannau eraill y sector cyhoeddus fodloni safonau hygyrchedd (yn agor tudalen Saesneg). Mae hyn er mwyn sicrhau y gall cynifer o bobl 但 phosibl eu defnyddio, gan gynnwys y sawl sydd 但:
-
nam ar eu golwg
-
anawsterau echddygol
-
anawsterau gwybyddol neu anableddau dysgu
-
trymder clyw neu nam ar eu clyw
Erbyn hyn mae tudalen gynnwys, gyda chysylltiadau, ac mae modd sgrolio drwyr dudalen yn llwyr. Maer erthyglau wediu rhoi mewn categor誰au o dan benawdau, a hynny yn y Rhagarweiniad, er mwyn ei gwneud yn haws dod o hyd ir diweddariadau ar wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddynt.
Maer fformat HTML yn caniat叩u i chi wneud y canlynol (yn dibynnu ar eich porwr gwe):
-
argraffur ddogfen pe baech yn dymuno cadw ffeil ar bapur:
- dewiswch y botwm Argraffur dudalen hon o dan y rhestr cynnwys a gallwch argraffur ddogfen ar eich argraffydd lleol
-
i gadwr ddogfen fel PDF:
-
dewiswch y botwm Argraffur dudalen hon a, chan ddefnyddior gwymplen ar yr argraffydd, dewis Argraffu i PDF syn caniat叩u i chi gadwr ddogfen fel PDF ai ffeilio ar ffurf electronig
-
ar ddyfais symudol, gallwch ddewis y botwm ar gyfer rhagor o opsiynau, yna dewiswch yr opsiynau i allu cadw fel PDF
-
Cael rhagor o wybodaeth ac anfon adborth
Gwnewch yn si典r eich bod yn cael y diweddaraf am newidiadau drwy .
Gallwch hefyd ein .
Anfonwch eich adborth am y Bwletin hwn, neu rhowch wybod am erthyglau yr hoffech eu gweld, drwy anfon e-bost at sean.connolly@hmrc.gov.uk.