Cynllun Cofrestru Dylanwad Tramor: canllawiau ar gyfer amddiffyn a diogelwch
Yn darparu gwybodaeth i'r sectorau amddiffyn a diogelwch ar sut i gydymffurfio â'r Cynllun Cofrestru Dylanwad Tramor.
Dogfennau
Manylion
Mae’r Cynllun Cofrestru Dylanwad Tramor (FIRS) yn amddiffyn diogelwch a buddiannau’r DU drwy wella’r ddealltwriaeth o weithgarwch sy’n digwydd yn y DU ar gyfarwyddyd gwladwriaeth dramor neu rai sefydliadau a reolir gan wladwriaethau tramor. Mae wedi’i gynnwys yn rhan 4 o Ddeddf Diogelwch Cenedlaethol 2023.
Mae’r ddogfen hon yn darparu canllawiau ychwanegol sy’n benodol i’r sector ar y Cynllun Cofrestru Dylanwad Tramor ar gyfer y sector amddiffyn a diogelwch, gan gynnwys:
-
cwmnïau amddiffyn sydd â chysylltiadau agos â phŵer tramor
-
yr esemptiad trefniant cyrff Coron y DU yng nghyd-destun amddiffyn
-
yr amgylchiadau lle gall eithriadau i gyhoeddi fod yn berthnasol am resymau diogelwch cenedlaethol
Mae’r canllawiau hyn yn egluro prif ofynion cynllun FIRS. Fodd bynnag, os yw FIRS yn effeithio arnoch, eich cyfrifoldeb chi yw cydymffurfio â’r cynllun yn seiliedig ar eich amgylchiadau penodol eich hun.