Cynllun Cofrestru Dylanwad Tramor: canllawiau i'r cyfryngau
Yn darparu gwybodaeth i'r cyfryngau ar sut i gydymffurfio â'r Cynllun Cofrestru Dylanwad Tramor, gan gynnwys yr esemptiad ar gyfer 'cyhoeddwyr newyddion cydnabyddedig'.
Dogfennau
Manylion
Mae’r Cynllun Cofrestru Dylanwad Tramor (FIRS) yn amddiffyn diogelwch a buddiannau’r DU drwy wella’r ddealltwriaeth o weithgarwch sy’n digwydd yn y DU ar gyfarwyddyd gwladwriaeth dramor neu rai sefydliadau a reolir gan wladwriaethau tramor. Mae wedi’i gynnwys yn rhan 4 o Ddeddf Diogelwch Cenedlaethol 2023.
Mae’r ddogfen hon yn darparu canllawiau ychwanegol sy’n benodol i’r sector ar y Cynllun Cofrestru Dylanwad Tramor ar gyfer y cyfryngau, gan gynnwys yr esemptiad ar gyfer ‘cyhoeddwyr newyddion cydnabyddedig’ a’u gweithwyr a newyddiadurwyr llawrydd.
Mae’r canllawiau hyn yn egluro prif ofynion cynllun FIRS. Fodd bynnag, os yw FIRS yn effeithio arnoch, eich cyfrifoldeb chi yw cydymffurfio â’r cynllun yn seiliedig ar eich amgylchiadau penodol eich hun.