Canllawiau i awdurdodau gwreiddiol
Diweddarwyd 30 Gorffennaf 2025
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
1. Cyflwyniad
Maer canllawiau hyn wedi eu hanelu at staff awdurdod gwreiddiol syn gwneud cais i Gofrestrfa Tir EF i gofrestru pridiannau tir lleol neu i amrywio neu ddileu cofrestriadau. Nod y canllawiau yw cefnogi anghenion awdurdodau gwreiddiol mewn gwasanaeth byw, eu cynorthwyo i ddeall eu cyfrifoldebau au helpu i ddarparu cysondeb yn y data syn cael ei gyflenwi i gofrestr Pridiannau Tir Lleol Cofrestrfa Tir EF.
Bydd y canllawiaun cael eu diweddaru o bryd iw gilydd yn 担l yr angen.
Nid ywr canllawiau wedi eu bwriadu i roi cyngor ar gyfraith pridiannau tir lleol nac i ddisodlir wybodaeth a geir yn Pridiannau Tir Lleol Garner neu yn rhywle arall.
Ni all Cofrestrfa Tir EF roi cyngor cyfreithiol ynghylch a yw pridiant yn bridiant tir lleol na phwy ywr awdurdod gwreiddiol mewn perthynas 但 phridiant arbennig.
Caiff Rheolwr Perthynas ei glustnodi i bob awdurdod gwreiddiol unwaith bydd yr awdurdod yn trosglwyddo i wasanaeth Pridiannau Tir Lleol Cofrestrfa Tir EF. Gweler Ymholiadau cwsmeriaid am y math o faterion y dylid eu cyfeirio at eich Rheolwr Perthynas.
2. Gwiriadau ansawdd a wneir gan Gofrestrfa Tir EF mewn gwasanaeth byw
Mae gan Gofrestrfa Tir EF d樽m ymroddedig o staff syn monitro ansawdd y data syn cael ei gofnodi ar y gofrestr yn gyson.
Ni ddylai awdurdodau gwreiddiol ddibynnu ar Gofrestrfa Tir EF yn nodi problemau gydau ceisiadau Pridiannau Tir Lleol, a dylent gael eu gweithdrefnau eu hunain ar waith i sicrhau bod ceisiadaun cael eu gwneud mewn modd amserol a bod y wybodaeth a ddarperir yn gywir ac yn gyflawn.
Ni all Cofrestrfa Tir EF sefydlu a ywr wybodaeth a ddarperir gan awdurdodau gwreiddiol yn gywir neun gyflawn ac ni allwn nodi chwaith pryd y dylai ceisiadau i gofrestru fod wedi cael eu gwneud ond nad ydynt wedi.
Mae Cofrestrfa Tir EF yn defnyddio rhai pwyntiau adolygu i helpu i fonitro nifer y cofrestriadau a wneir gan awdurdodau. Maer rhain yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
-
7 diwrnod o ddim gweithgaredd os na fydd awdurdod lleol yn ychwanegu, amrywio neu ddileu pridiant o fewn unrhyw gyfnod o 7 diwrnod, efallai byddwn yn cysylltu i wneud yn siwr bod popeth yn iawn. Dim ond i awdurdodau lleol y maer gwiriad hwn yn gymwys.
-
Gweithgarwch afreolaidd 14 diwrnod Er enghraifft, pe bai awdurdod lleol yn ychwanegu pridiant un wythnos ac yn ychwanegu 40 yr wythnos nesaf, efallai byddwn yn cysylltu i wneud yn siwr nad ywr awdurdod yn cael problemau. Bydd gwyriad o fwy na 50% o weithgarwch arferol awdurdod fel arfer yn arwain atom yn cysylltu. Dim ond i awdurdodau lleol maer gwiriad hwn yn gymwys.
-
Creu pridiant 28 diwrnod Os na fydd cais i gofrestru pridiant wedi ei wneud o fewn 28 diwrnod ir pridiant yn cael ei greu neun dod i fodolaeth, efallai byddwn yn cysylltu 但r awdurdod gwreiddiol i archwilior rhesymau dros yr oedi. Caiff yr awdurdod ei atgoffa y gallai canlyniadau chwiliad fod wedi eu cyhoeddi yn ystod y cyfnod hwn a allent fod wedi methu 但 datgelu pridiant tir lleol oedd yn bodoli ar yr adeg y gwnaed y chwiliad. Byddwn yn ystyried a oes angen cysylltu 但 chwsmeriaid sydd wedi cael canlyniadaur chwiliadau hyn. Maer gwiriad hwn yn gymwys i bob awdurdod gwreiddiol.
Nodyn atgoffa: pwynt adolygu Cofrestrfa Tir EF yn unig ywr gwiriad 28 diwrnod ni fydd sicrhau bod y cais yn cael ei wneud o fewn y cyfnod hwn yn effeithio nac yn ein hatal rhag adennill iawndal gan awdurdod gwreiddiol o dan adran 10 o Ddeddf Pridiannau Tir Lleol 1975 (fel y diwygiwyd gan Ddeddf Seilwaith 2015).
- Math o bridiant gwahanol misol rydym yn monitro pob cofrestriad i sicrhau bod pob categori o bridiant, megis tai, cynllunio ac ariannol, yn cael ei gofrestru bob mis. Os nad yw hyn yn wir, efallai byddwn yn cysylltu ag awdurdod i wneud yn siwr bod popeth yn iawn.
Dim ond i awdurdodau lleol y maer gwiriad hwn yn gymwys.
Anogir awdurdodau i gysylltu 但u Rheolwr Perthynas ar 担l iddynt ddod yn ymwybodol o amgylchiadau o fewn eu sefydliad a allai arwain at dorri un neu ragor or pwyntiau adolygu hyn. Yn ogystal, ni fydd pob achos o dorrir pwyntiau adolygu uchod yn arwain at glywed gennym ni, yn enwedig ller ydym eisoes yn ymwybodol or rhesymau tu 担l ir toriad.
2.1 Defnyddwyr Rhyngwyneb Rhaglen Ceisiadau
Bydd awdurdodau lleol syn defnyddio Rhyngwyneb Rhaglen Ceisiadau Cofrestrfa Tir EF i gofrestru, amrywio a dileu pridiannau yn cael adroddiad dyddiol gan eu darparwr gwasanaeth (Idox, NEC ac yn y blaen). Bydd yr adroddiad hwn yn manylu ar yr holl weithgarwch pridiant ar gyfer y diwrnod blaenorol. Yn bwysig, bydd yn dynodi unrhyw bridiannau nad ydynt wedi eu prosesun llwyddiannus trwyr Rhyngwyneb Rhaglen Ceisiadau ac o ganlyniad ddim wedi cael eu derbyn gan Gofrestrfa Tir EF.
Dylair awdurdod ymchwilio ir pridiannau hyn fel mater o frys a chymryd camau unioni priodol i sicrhau bod y pridiant yn cael ei gofrestru.
Os nad yw eich t樽m Pridiannau Tir Lleol yn cael yr adroddiadau hyn ar hyn o bryd, cysylltwch 但ch adran TG yn y lle cyntaf.
Gweler yr Atodiad am enghraifft o log gwallau.
2.2 Sut mae ansawdd data yn cael ei asesu?
Yn ogystal 但 gwirio nifer y pridiannau a gofrestrir gan awdurdodau gwreiddiol, rydym yn cynnal cyfres o wiriadau ansawdd data ar yr holl bridiannau newydd a ychwanegir at y gofrestr gan gynnwys pridiannau sydd wedi eu golygu (eu hamrywio). Maer gwiriadau hyn yn barhad or safonau ansawdd data syn gymwys mewn mudo ac maent i sicrhau bod yr un safonaun cael eu cynnal mewn gwasanaeth byw.
Gwybodaeth destunol a yw pob dyddiad mewn trefn resymegol (dyddiad cofrestru ar 担l y dyddiad creu)?
-
a ywr cod post yn ddilys?
-
a oes cyfeiriad dilys (ac a yw wedi ei strwythuron gywir)?
-
a oes unrhyw nodau annilys o fewn y pridiant?
Gwybodaeth ofodol a ywr polygon yn geo-ofodol ddilys (a ywn cynnwys hunan groestoriadau ac yn y blaen)?
-
a ywr polygon yn disgyn ir ardal cod post a ddyfynnir?
-
a ddefnyddiwyd pwynt/llinell yn lle polygon?
-
a ywr polygon yn y lle cywir?
-
a ywr polygon yn rhy fawr/rhy fach ir pridiant?
Pan fydd elfennau o bridiant yn methur gwiriadau uchod, efallai byddwn yn tynnu sylwr awdurdod gwreiddiol at y rhain er mwyn gweithredu ar unwaith.
2.3 Pan fydd problem gyda gwasanaeth byw yn dod ir amlwg
Gellir diffinio problem gyda gwasanaeth byw fel unrhyw senario a allai arwain at beidio 但 datgelu pridiant trwy chwiliad neu fod y wybodaeth a ddatgelir gan chwiliad yn anghywir.
Mae gan Gofrestrfa Tir EF ac awdurdodau gwreiddiol r担l iw chwarae i sicrhau bod y wybodaeth a gedwir ar y gofrestr Pridiannau Tir Lleol yn gywir ac yn gyflawn.
Mae rhwymedigaeth statudol ar awdurdodau gwreiddiol i wneud cais i gofrestru pridiant pan ddaw i fodolaeth, neu i wneud cais i amrywio neu ddileu cofrestriad, pan fon briodol.
Mae gennym gyfrifoldeb i gofrestru, amrywio neu ddileu pridiant pan wneir cais yn unol 但 Rheolau Pridiannau Tir Lleol 2018.
2.4 Datrys problemau gyda gwasanaeth byw
Disgwylir i staff yr awdurdod gwreiddiol weithio ar y cyd 但 ni i ddatrys unrhyw faterion or fath cyn gynted 但 phosibl. Gallai methu 但 gwneud hynny arwain at hawliad am iawndal ac at iawndal yn adenilladwy gan yr awdurdod gwreiddiol.
Lle bo angen, byddwn yn cysylltu 但r awdurdod lleol yr effeithir arno ac yn dilyn proses pedwar cam i geisio datrysiad ir materion hyn.
-
Cam 1 Rheolwr Perthynas Cofrestrfa Tir EF ar gyfer yr awdurdod gwreiddiol o dan sylw i ysgrifennu at y Swyddog Pridiannau Tir Lleol perthnasol neu swyddog cyfatebol yn gofyn i gamau gael eu cymryd i unionir mater. Y camau iw gweithredu o fewn 2 wythnos ir ebost.
-
Cam 2 Os na fydd y mater wedi cael ei ddatrys o hyd, Rheolwr Perthynas i ailadrodd y cais am weithredu ir cyswllt a enwir yn yr awdurdod gwreiddiol (bydd hwn yn gyswllt gwahanol ir Swyddog Pridiannau Tir Lleol ). Y tro hwn, bydd yn cop誰or cais i Uwch Reolwr Perthynas Cofrestrfa Tir EF. Y camau iw gweithredu o fewn 2 wythnos ir ebost.
-
Cam 3 Os na fydd y mater wedi cael ei ddatrys o hyd, Uwch Reolwr Perthynas yn ailadrodd y cais am gamau gweithredu ac yn uwchgyfeirior mater at enw cyswllt cam 3 yn yr awdurdod gwreiddiol. Y camau iw gweithredu o fewn 2 wythnos ir ebost.
-
Cam 4 Os na fydd y mater wedi cael ei ddatrys o hyd, Uwch Reolwr Perthynas i ailadrodd y cais am ddatrysiad ar unwaith i Brif Swyddog Gweithredol yr awdurdod gwreiddiol a chyswllt Cymdeithas Llywodraeth Leol (lle bon briodol).
Byddwn yn cyflymur broses hon os bydd awdurdod gwreiddiol yn methu 但 chydymffurfio wrth fynd ir afael 但 materion effaith uchel neu hollbwysig syn effeithio ar gofrestr Pridiannau Tir Lleol.
2.5 Ymholiadau cwsmeriaid
Dylai awdurdodau lleol ymdrin 但r ymholiadau canlynol.
-
Egluro canlyniad chwiliad erenghraifft, osyw canlyniad yn aneglurneu os oesgwybodaethpridiant ynanghyflawn
-
Pob cais arall am ddogfen yn ymwneud 但 chwiliad
-
Gwallau untro yng nghanlyniadau chwiliad llemaeangen irawdurdod lleolnewidneugywiro cofnod pridiant
-
Ymholiadau CON29
-
Gwybodaeth bellach yn ymwneud 但 phridiannau penodol hynny yw,arwystl ariannol
-
Costau coll penodol
Dylid cyfeirior mathau canlynol o ymholiadau at Gofrestrfa Tir EF.
-
Problemau technoleg neu fynediad neu negeseuon gwall ar51画鋼/y porthol a/neu Business Gateway
-
Ceisiadau dogfennau Hysbysiadau Rhwystro Golau
-
Cofrestru Hysbysiadau Rhwystro Golau
-
Ymholiadau ff誰oedd gan gynnwys ad-daliadau ff誰oedd
-
Ceisiadau Chwiliad Digidol 但 Chymorth
-
Ceisiadau Chwiliad Rheoliad Gwybodaeth Amgylcheddol (EIR) 2004
-
Chwiliadau yn datgelu mwy na 250 o bridiannau
Ymholiadau cydweithredol lle bydd Cofrestrfa Tir EF ar awdurdod lleol yn cydweithio i ddatrys y mater.
- Datblygu them但u, er enghraifft pridiannau coll, pridiannau dyblyg, pridiannau anghyflawn.
3. Amseroldeb cofrestru
Mae rhwymedigaeth statudol ar awdurdodau gwreiddiol i gofrestru pridiannau tir lleol. Lle mae rhannau 1 a 3 o Atodlen 5 i Ddeddf Seilwaith 2015 wedi dod i rym, rhaid ir awdurdod gwreiddiol wneud cais i Gofrestrfa Tir EF i gofrestrur pridiant.
Yr awdurdod gwreiddiol yn unig syn parhau i fod yn gyfrifol am amseroldeb cofrestru. Monitro hyn yn unig fyddwn ni gweler Gwiriadau ansawdd a gynhelir gan Gofrestrfa Tir EF mewn gwasanaeth byw.
Dylid gwneud cais i gofrestru pridiant cyn gynted 但 phosibl ar 担l i bridiant gael ei greu neu ddod i fodolaeth. Ceir risg ir awdurdod gwreiddiol a defnyddwyr y chwiliad os ceir unrhyw oedi rhwng creu pridiant neur adeg y daw i fodolaeth a gwneud cais i gofrestrur pridiant.
3.1 Hawliadau iawndal
Rydym wedi ar sut i hawlio ar gyfer iawndal o dan adran 10 o Ddeddf Pridiannau Tir Lleol 1975 (fel yi diwygiwyd gan Ddeddf Seilwaith 2015), lle gall Cofrestrfa Tir EF geisio adennill iawndal a dalwyd gan yr awdurdod gwreiddiol perthnasol.
Gall y materion canlynol arwain at hawliad am iawndal ac at iawndal y gellir ei adennill oddi wrth yr awdurdod gwreiddiol.
-
Methu 但 gwneud cais i gofrestru pridiant
-
Methu 但 gwneud cais i gofrestru pridiant mewn pryd iddo fod yn ymarferol i Gofrestrfa Tir EF osgoi mynd i atebolrwydd
-
Gwall a wnaed gan yr awdurdod gwreiddiol wrth wneud cais i gofrestru pridiant
-
Gwall a wnaed gan yr awdurdod gwreiddiol wrth wneud cais i amrywio neu ddileur cofrestriad
Cytunwyd ar y protocol hwn rhwng Cofrestrfa Tir EF, y Gymdeithas Llywodraeth Leol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
3.2 Canllawiau ar gofrestru pridiannau awdurdod gwreiddiol arall coll
Mae gan y termau a restrir isod yr ystyron canlynol:
-
Awdurdod Gwreiddiol Arall corff (ac eithrio awdurdod lleol) sydd wedi creu pridiant tir lleol neu sydd 但 hawl i orfodir pridiant tir lleol hwnnw. Maer Awdurdod Gwreiddiol Arall yn gyfrifol am gofrestrur pridiant tir lleol hwnnw yn y gofrestr pridiannau tir lleol
-
pridiant Awdurdod Gwreiddiol Arall coll pridiant tir lleol (y mae Awdurdod Gwreiddiol Arall wedi ei greu neu y mae ganddo hawl iw orfodi) nad yw wedi ei gofrestru yng nghofrestr pridiannau tir lleol yr awdurdod lleol
-
mudo y broses o drosglwyddor data pridiannau tir lleol ar gofrestr yr awdurdod lleol ir gofrestr a gedwir gan Gofrestrfa Tir EF
-
mynd yn fyw y diwrnod y dawr Prif Gofrestrydd Tir yn awdurdod cofrestru ar gyfer ardal yr awdurdod lleol h.y. yn gyfrifol am weithredur gofrestr pridiannau tir lleol honno
Yn y broses fudo, cafwyd achosion o bridiannau Awdurdod Gwreiddiol Arall coll. Mae hyn fel arfer pan fydd Awdurdod Gwreiddiol Arall wedi darparu set ddata oi bridiannau i Gofrestrfa Tir EF ac mae Cofrestrfa Tir EF wedi nodi nad yw rhai or pridiannau hyn wedi eu cynnwys yn natar gofrestr a ddarparwyd gan yr awdurdod lleol. Maer canllawiau hyn yn nodi polisi Cofrestrfa Tir EF ar gofrestru pridiannau or fath.
Lle mae Awdurdod Gwreiddiol Arall wedi darparu set ddata oi bridiannau tir lleol i Gofrestrfa Tir EF, mae Cofrestrfa Tir EF wedi ystyried hyn, a bydd yn parhau i ystyried hyn, fel cais gan yr Awdurdod Gwreiddiol Arall i gofrestru unrhyw bridiannau Awdurdod Gwreiddiol Arall coll yn y gofrestr pridiannau tir lleol i fod yn rhai a gedwir gan Gofrestrfa Tir EF.
Mae hyn yn amodol ar:
-
set ddatar Awdurdod Gwreiddiol Arall yn cynnwys yr holl wybodaeth ar gyfer y pridiant Awdurdod Gwreiddiol Arall coll y byddai ei hangen iw gofrestru o dan
-
y cais ar cofrestriad yn dod i rym wrth fynd yn fyw, gan nad ywr gofrestr a gedwir gan y Prif Gofrestrydd Tir yn weithredol tan hynny
Maer cyfrifoldeb am gofrestru pridiannau Awdurdod Gwreiddiol Arall coll yn aros gydar Awdurdod Gwreiddiol Arall. Dylai Awdurdodau Gwreiddiol Eraill fod yn ymwybodol, gan y bydd cais a chofrestriad pridiannau Awdurdod Gwreiddiol Arall coll yn dod i rym wrth fynd yn fyw, na fyddant yn cael eu hystyried yn gofrestredig tan hynny. Felly, lle nad ywr pridiant Awdurdod Gwreiddiol Arall coll yn cael ei ddatgelu mewn chwiliad o gofrestr pridiannau tir lleol yr awdurdod lleol, gallai iawndal ddod yn daladwy o dan adran . Efallai bydd gan yr awdurdod lleol neur Prif Gofrestrydd Tir hawl i adennill iawndal or fath or Awdurdod Gwreiddiol Arall (gweler a . Lle nad yw mudo wedi ei gwblhau eto, mater ir Awdurdod Gwreiddiol Arall yw ystyried a ddylair pridiant Awdurdod Gwreiddiol Arall coll gael ei gofrestru yng nghofrestr yr awdurdod lleol perthnasol yn y cyfamser.
4. Enghreifftiau o arfer da
4.1 Cyfraith (darpariaeth statudol)
Ni all Cofrestrfa Tir EF roi cyngor cyfreithiol ynghylch a yw pridiant yn bridiant tir lleol neu a ddylid defnyddio darpariaeth statudol benodol fel rhan or cofrestriad.
Wrth ddewis pa ddarpariaeth statudol iw nodi yng ngwasanaeth byw Cofrestrfa Tir EF, dylai defnyddwyr bob amser geisio nodi ffurf lawnaf y ddarpariaeth 但 phosibl, gan gynnwys unrhyw adrannau, atodlenni neu rannau perthnasol or Ddeddf a ddewiswyd.
Enghreifftiau:-
-
Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 adran 106
-
Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 atodlen 9 paragraff 28(9)
Gallwch edrych ar y i weld pa rai sydd ar gael neu a yw un syn bodoli eisoes wedi newid. Gallwch wneud cais i gael darpariaeth statudol wedi ei hychwanegu at y rhestr hon trwy ddefnyddio ein Ffurflen Adborth. Fodd bynnag gall fod rhesymau pam na all Cofrestrfa Tir EF ganiat叩u eich cais.
4.2 Dyddiad creu
Y dyddiad y cr谷wyd y pridiant tir lleol yw hwn, nid y dyddiad y cyrhaeddodd y pridiant d樽m Pridiannau Tir Lleol yr awdurdod neur dyddiad y cafodd ei gofrestru gyda Chofrestrfa Tir EF.
Mae darparur dyddiad pan ddaeth y pridiant i fodolaeth yn orfodol o dan reol 2(1)(b) o Reolau Pridiannau Tir Lleol 2018 pan fon amlwg or offeryn neur ddogfen syn cynnwys y pridiant.
4.2.1 Defnyddwyr Cynnal
Ar gyfer awdurdodau syn defnyddio system Cynnal Cofrestrfa Tir EF, mae maes dyddiad creu ar gael iw ddefnyddio. Y dyddiad penderfynu neur dyddiad y llofnodwyd y ddogfen/gorchymyn ddylai fod yn ddyddiad creu. Mae Cofrestrfa Tir EF yn cydnabod na fydd y dyddiad hwn ar gael mewn achosion prin felly maer maes hwn yn ddewisol. Fodd bynnag, lle maer dyddiad ar gael, dylid ei nodi.
4.2.2 Systemau meddalwedd yn defnyddio Rhyngwyneb Rhaglen Ceisiadau Cofrestrfa Tir EF
Mae darparu arweiniad cyson yn fwy cymhleth yma gan nad oes gan y systemau meddalwedd hyn faes i ddefnyddwyr nodi dyddiad creu dilys. Ymhellach, maer gwahanol gyflenwyr meddalwedd wedi dehongli hyn mewn gwahanol ffyrdd naill ai trwy (i) darparur dyddiad yr ychwanegir y cofnod at y system, (ii) gwneud y dyddiad creu yn gyson 但r dyddiad cofrestru (NEC, DEF) neu (iii) peidio 但 darparu unrhyw beth (Arcus, Agile).
Gweler isod am ragor o fanylion.
4.2.3 Defnyddwyr Idox TLC
Gall Cofrestrfa Tir EF (yn y rhan fwyaf o achosion) nodi meysydd dyddiad eraill yn system eco Idox y gellir eu defnyddio fel dyddiad creu. Ar 担l hynny, gallwn ysgrifennu rheol i lenwir dyddiad creu gydar dyddiad hwn ar gyfer mudo ar gwasanaeth byw. Mae set o reolau rhagosodedig Idox yn llenwir dyddiad creu gydar dyddiad y caiff y pridiant ei ychwanegu at TLC nad ywn bodloni ein diffiniad, felly byddwn yn dileur rheol ddiofyn hon ac yn ysgrifennu rheolau unigol i bob awdurdod dynnu dyddiad o rywle arall. Bydd rheolau or fath yn parhau ir gwasanaeth byw. Efallai bydd canran fach o fathau o bridiannau lle na fydd hyn yn bosibl.
4.2.4 Defnyddwyr NEC
Mae NEC wedi cadarnhau nad ywn bosibl tynnu dyddiadau o rannau eraill ou system. Mae NEC wedi cytuno i ychwanegu maes dyddiad penodol newydd i gofnodi pryd daeth y pridiant i fodolaeth.
Bydd hwn ar wah但n i ddyddiad creur system ac unrhyw ddyddiadau a ddiffinnir yn y maes testun rhydd naratif, a bydd ar gael yn fersiwn Assure newydd eu meddalwedd pridiannau tir.
4.2.5 Systemau meddalwedd eraill
Byddwn yn ychwanegu rhagor o wybodaeth am y rhain wrth inni ddeall rhagor am y systemau.
4.3 Creu meintiau gofodol cyngor cyffredinol i ddefnyddwyr Cynnal
Maen ofynnol darparu stent gofodol ar adeg cofrestru ar gyfer pob pridiant. Mae gan wasanaeth Cynnal Cofrestrfa Tir EF amrywiol offer a swyddogaethau i helpu i greu meintiau gofodol. Mae tudalennau Sut i ddefnyddior map ar gael o fewn Cynnal i egluro pob swyddogaeth.
Gellir creu ehangder gan ddefnyddio polygon, cylch, llinell sengl neu bwynt sengl neu unrhyw gyfuniad ohonynt. Fel arfer byddai pwyntiaun cael eu defnyddio ar gyfer ardaloedd bach lle nad ywn ymarferol llunio polygon neu gylch.
Ar gyfer graddau lle mae ffeil eisoes yn bodoli megis yn system gynllunio awdurdod, gellir defnyddior swyddogaeth Uwchlwytho ffeil. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer graddau mawr neu gymhleth.
Lle mae un pridiant, megis gorchymyn rheoli mwg, yn effeithio ar nifer o eiddo, a bod yr eiddo yr effeithir arnynt i gyd yn gyffiniol, byddem yn disgwyl un polygon ar gyfer yr ardal gyfan yn hytrach na chyfres o bolygonau llai ar gyfer pob eiddo unigol.
4.4 Gorchmynion cadw coed
Dylid cymryd gofal arbennig wrth greu meintiau gofodol ar gyfer pridiannau gorchymyn cadw coed, yn enwedig pan for goeden neur coed yn agos at ffiniau eiddo unigol. Dylid creur stent gofodol yn y fath fodd fel bod y pridiant gorchymyn cadw coed yn cael ei ddatgelu wrth chwilior eiddo cyfagos ond heb ddifetha unrhyw eiddo yn ddiangen. Mae hyn er mwyn sicrhau bod bargod y goeden yn cael ei gynrychioli, gan gofio y gall boncyff/gwaelod y goeden fod wedi ei leoli mewn un eiddo, ond y gallair bargod neur canopi effeithio ar fwy o eiddo.
Anogir awdurdodau felly, lle bon bosibl, i fapio pridiannau syn ymwneud 但 choeden unigol gan ddefnyddior swyddogaeth mapio cylch ac i fapio clystyrau o goed gan ddefnyddio polygon syn gorchuddior tir caeedig syn cynnwys y coed eu hunain.
4.5 Cytundebau adran 38
Maen ymddangos o Pridiannau Tir Lleol Garner (14eg argraffiad) nad ywr cytundebau hyn yn gofrestradwy oni bai bod y cytundeb yn cynnwys cyfamodau o dan adran 33 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 ac os felly maer cyfamodau yn gofrestradwy.
Unwaith bydd yr awdurdod wedi gwneud y penderfyniad i gofrestrur cytundeb fel pridiant tir lleol, rhaid iddo nodin ofalus y tir y maer cytundeb a38 yn berthnasol iddo ac a ddylai gael ei ddiffinion glir ar gynllun(iau) y cytundeb. Dylair tir hwn gael ei adlewyrchu yn y cofrestriad yn y gofrestr Pridiannau Tir Lleol. Dylid rhoi ystyriaeth ofalus wrth benderfynu ar stent y cofrestriad, gan gynnwys a ddylid cynnwys nid yn unig y ffyrdd ond hefyd eiddo cyfagos ac ardaloedd a gwmpesir gan y cytundeb.
4.6 Adeiladau rhestredig a chwrtil
Mae pob cofnod adeilad rhestredig yn gofyn am gynrychioliad gofodol or gwrthrych byd go iawn fel yi rhestrir (gan gynnwys unrhyw wrthrych neu strwythur sydd wedi ei osod ar yr adeilad ac unrhyw wrthrych neu strwythur o fewn cwrtil[1] yr adeilad sydd, er nad ywn ynghlwm wrth yr adeilad, yn ffurfio rhan or tir ac wedi gwneud hynny ers cyn 1 Gorffennaf 1948 (adran 1(5) Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990).
Mae enghreifftiau yn cynnwys:
-
Os mai adeilad neu adeiladau gwirioneddol ywr rhestriad, rhaid darparu polygon yn dangos stent y tir neur eiddo y maer pridiant yn effeithio arno, gan gynnwys unrhyw wrthrych neu strwythur sydd wedi ei osod ar yr adeilad sydd wedi ei gynnwys yn y rhestriad.
-
Pan fo gwrthrych fel carreg filltir, marciwr terfyn neu garreg fedd yn cael ei restru, disgwylir data pwynt.
-
Os ywr rhestriad yn nodwedd linellol fel wal harbwr, disgwylir llinell.
-
Pan for rhestriad yn cynnwys unrhyw strwythur cwrtil (nad yw wedi ei gynnwys yn y stent a ddarperir ar gyfer y prif adeilad rhestredig), dylid dangos y strwythur hwnnw gan ddefnyddior dull mwyaf priodol or tri dull a nodir.
-
Er 2011 mae rhestrau Historic England yn cynnwys yn y rhan fwyaf o achosion y gynrychiolaeth ofodol yn unol 但r fanyleb uchod. (Fodd bynnag, cyn 2011, roedd Historic England yn aml yn darparur rhestriad fel data pwynt yn unig).
Er mwyn bodloni gofynion Cofrestrfa Tir EF, rhaid ir awdurdod lleol ddarparu stent gofodol pan fo ar gael, neu gynllun yn dangos y rhestriad, fel y disgrifir uchod. Rhaid ir stent gofodol neur cynllun gynnwys nid yn unig hyd a lled y prif adeilad rhestredig, ond hefyd unrhyw wrthrych neu strwythur sydd wedi ei osod ar yr adeilad, neu unrhyw wrthrych neu strwythur cwrtil sydd wedi ei gynnwys yn y rhestriad.
Lle na ellir nodin glir a yw gwrthrychau neu strwythurau o fewn cwrtil y prif adeilad rhestredig wedi eu cynnwys yn y rhestriad, dylair awdurdod ddarparu stent gofodol syn cynnwys pob gwrthrych neu strwythur cwrtil yr ystyrir yn rhesymol y gellir ei gynnwys yn y rhestriad, neu:
-
Yn ddigon mawr i leihaur risg o beidio ag adnabod tir a allai gael ei effeithio gan y pridiant, a allai arwain at faterion atebolrwydd.
-
Nid yw mor fawr fel ei fod yn cynnwys tir y maen amlwg nad ywn ddarostyngedig ir pridiant, a allai arwain at ymholiadau ychwanegol a diangen ir awdurdod lleol.
Yn yr achosion hyn, nid oes angen ychwanegu nodyn (fel y cyfeirir ato isod).
Mewn amgylchiadau eithriadol lle nad ywn bosibl nodir strwythurau cwrtil neur gwrthrychau y gellir eu cynnwys yn y rhestriad, dylair awdurdod lleol ddarparu i ba raddau y maen cynnwys yr hyn a ystyrir yn rhesymol fel cwrtil uchaf posibl y prif adeilad rhestredig, ac ychwanegur nodyn canlynol ir cofnod ar y gofrestr:
Cyfeiriwch at [enwr awdurdod lleol perthnasol] am fanylion yr adeiladau, gwrthrychau neu strwythurau penodol syn ffurfior adeilad rhestredig at ddibenion y pridiant hwn.
Lle ychwanegir y nodyn hwn oherwydd na ellir darparu union stent gofodol, maen debygol iawn y gwneir ymholiadau ychwanegol ir awdurdod lleol.
Bydd y nodyn hwn yn cael ei ddefnyddio mewn amgylchiadau eithriadol ac os ywn gwbl angenrheidiol.
[1] Diffinnir cwrtil yn gyfreithiol fel y gofod caeedig o dir ac adeiladau yn union o amgylch t天 annedd, neu y man agored sydd wedi ei leoli o fewn tir caeedig cyffredin syn perthyn i d天 annedd. Nid yw pob mae gan adeiladau gwrtil.
4.7 Cyfamodau cadwraeth
Mae Rhan 7 o Ddeddf yr Amgylchedd 2021 yn cynnwys darpariaeth ar gyfer creu cyfamodau cadwraeth, a daeth i rym ar 30 Medi 2022. Pridiant tir lleol yw cyfamod cadwraeth. Bydd cyfamodau or fath yn deillio o gytundebau gwirfoddol ond cyfreithiol rwymol rhwng corff cyfrifol a thirfeddiannwr, gydar bwriad o warchod nodweddion naturiol neu dreftadaeth y tir. Y corff cyfrifol fydd yr Ysgrifennydd Gwladol neu gorff a ddynodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol i fod yn gorff cyfrifol at ddibenion y Ddeddf, a rhaid ir corff cyfrifol wneud cais i gofrestrur arwystl yn y gofrestr pridiannau tir lleol. Gellir cael rhagor o fanylion am gyfamodau cadwraeth a chyrff cyfrifol o ganllawiau Defra.
4.8 Pridiannau Awdurdod Gwreiddiol eraill
Er mai awdurdodau lleol ywr awdurdod gwreiddiol ar gyfer y rhan fwyaf o bridiannau tir lleol, ceir llawer o gyrff a sefydliadau gwreiddiol eraill fel cynghorau sir a pharciau cenedlaethol. Gweler ein am fanylion pellach. Gall yr Awdurdodau Gwreiddiol Eraill hyn ddefnyddio gwasanaeth byw Cofrestrfa Tir EF hefyd (lle bon briodol).
Maen bwysig cofio mai dim ond i Gofrestrfa Tir EF y mae angen i Awdurdodau Gwreiddiol Eraill wneud cais i gofrestru, amrywio neu ganslo pridiannau ar gyfer ardaloedd a gwmpesir gan awdurdodau lleol sydd wedi trosglwyddo i gofrestr Pridiannau Tir Lleol Cofrestrfa Tir EF gweler y rhestr hon am y manylion diweddaraf.
5. Diogelu data
Rhaid ichi sicrhau bod eich casgliad, defnydd a datgeliad o unrhyw ddata personol mewn cysylltiad 但ch defnydd o gofrestr pridiannau tir lleol Cofrestrfa Tir EF (gan gynnwys eich defnydd or Rhyngwyneb Rhaglen Ceisiadau neu system Cynnal Cofrestrfa Tir EF) yn cydymffurfio 但r holl gyfreithiau diogelu data perthnasol.
6. Gofyn am ychwanegiadau neu newidiadau ir gwasanaeth byw
6.1 Ffurflen adborth
Bydd Cofrestrfa Tir EF, o bryd iw gilydd, yn gwellar gwasanaeth byw i ddefnyddwyr trwy ryddhau gwelliannau a nodweddion newydd. I ddefnyddwyr y gwasanaeth Cynnal, y ffordd hawsaf i ofyn am welliant ir gwasanaeth yw trwy ddefnyddior ffurflen Adborth o fewn y gwasanaeth ei hun.
Sylwer y gall fod rhesymau technegol neu resymau eraill pam na ellir ychwanegu ychwanegiad penodol at y gwasanaeth byw. Mae Cofrestrfa Tir EF yn cadwr hawl i wneud newidiadau ir gwasanaeth byw fel y gw棚l yn dda yn unig.
Ar gyfer defnyddwyr y Rhyngwyneb Rhaglen Ceisiadau, gallwch gysylltu 但ch cyflenwr system i ofyn am welliant neu ddefnyddior ffurflen adborth trwych dolen ir gwasanaeth Cynnal.
7. Cysylltu 但r t樽m Pridiannau Tir Lleol
Ebost: SPITeam@landregistry.gov.uk
Ar-lein:
Ff担n: 0300 006 0422 (8:00 17:00 Llun i Gwener)
Cyfeiriad post:
Local Land Charges
PO Box 7804
Bilston
WV1 9QP
Ar gyfer unrhyw faterion syn ymwneud 但 TG, cysylltwch 但ch gwasanaethau cymorth TG eich hun yn y lle cyntaf.
Gellir rhoi gwybod am unrhyw faterion syn ymwneud 但 gwasanaeth TG Cofrestrfa Tir EF in Desg Gwasanaeth TG:
Ff担n: 0300 006 0422 (rhwng 07:00 - 17:00 Llun - Gwener)
Ebost: isservicedesk@landregistry.gov.uk
Bydd y ddesg wasanaeth yn cofnodich digwyddiad gydar manylion angenrheidiol a bydd yn darparu amser cyflawni targed ac yn eich hysbysu am gynnydd.