Canllawiau

Proffiliau Llwyddiant: Technegol

Diweddarwyd 29 Ionawr 2025

Maer Gwasanaeth Sifil yn recriwtio trwy ddefnyddio Proffilau Llwyddiant. Maent yn ein helpu i roir cyfle gorau posibl i ddod o hyd ir person gorau ar gyfer y swydd. Ar gyfer pob r担l rydym yn eu hysbysebu, rydym yn ystyried beth fyddwch angen dangos i fod yn llwyddiannus.

Mae ein Proffilau Llwyddiant yn cynnwys pum elfen:

  1. Gallu y dawn neur potensial i berfformio ir safon gofynnol
  2. Technegol yr arddangosiad o sgiliau proffesiynol penodol, gwybodaeth neu gymwysterau
  3. Ymddygiadau - y gweithredoedd a gweithgareddau y mae pobl yn eu gwneud syn arwain at berfformiad effeithiol mewn swydd
  4. Cryfderau y pethau rydym yn eu gwneud yn rheolaidd, yn eu gwneud yn dda ac syn ein hysgogi
  5. Profiad y wybodaeth neur feistrolaeth o weithgaredd neu bwnc ag enillir trwy ymglymiad neu amlygiad iddo

Nid yw pob elfen yn berthnasol i bob r担l. Dylai cynnwys y Proffil Llwyddiant fod yn wahanol ar gyfer gwahanol mathau o swyddi. Mae hyn yn helpu i wellar cyfle o gael y person gorau ar gyfer y r担l.

Pam rydym yn asesu sgiliau technegol, gwybodaeth a chymwysterau

Mae mwy nag 20 proffesiwn yn y Gwasanaeth Sifil. Maer proffesiynau yn cynnig ystod eang o rolau, gan gynnwys rhai arbenigol.

Bydd pob pennaeth Proffesiwn yn diffinior sgiliau, y wybodaeth ar cymwysterau penodol efallai y byddwn yn gofyn i chi ddangos i fod yn llwyddiannus ar gyfer y rolau hyn.

Er enghraifft, efallai y bydd angen i ymgeiswyr ar gyfer r担l arbenigol yn Cyllid y Llywodraeth feddu ar:

  • gymwysterau cyfrifeg
  • gwybodaeth or ffordd rydym yn rheoli cyllid o fewn y llywodraeth

Sut rydym yn asesu sgiliau technegol, gwybodaeth a chymwysterau

Mae gan nifer or proffesiynau fframwaith proffesiynol. Maer fframweithiau wediu cynllunio i asesur sgiliau, y cymwysterau ar wybodaeth benodol sydd eu hangen ar gyfer rolau yn y proffesiwn.

Bydd y disgrifiad swydd yn rhestru unrhyw ofynion technegol efallai y byddwch eu hangen ar gyfer y r担l. Bydd hefyd yn esbonio pa ddulliau asesu byddwn yn eu defnyddio. Gall rhai or dulliau asesu syn asesu eich sgiliau technegol gynnwys:

  • ffurflen gais
  • CV
  • cyfweliad
  • cyflwyniadau ac ymarferion technegol
  • prawf(profion) technegol
  • cyflwyniad
  • sampl(au) gwaith
  • ymarfer in-tray
  • efelychiad syn gysylltiedig 但 swydd
  • ymarfer briffio ar lafar
  • dadansoddiad/ymarfer ysgrifenedig
  • canolfan asesu.

Os oes gofyniad am:

  • gymhwyster penodol
  • aelodaeth o gorff proffesiynol

efallai y gofynnir i chi ddarparu tystiolaeth och cymhwyster(au) neuch aelodaeth.

Efallai y byddwn yn asesu eich sgiliau technegol/proffesiynol ochr yn ochr ag elfennau eraill or Proffil Llwyddiant. Bydd hyn yn ein helpu i gael darlun mwy cyflawn och addasrwydd ar gyfer y r担l.

Addasiadau rhesymol

Maer Gwasanaeth Sifil yn weithle amrywiol a chynhwysol. Rydym eisiau eich helpu i ddangos eich potensial llawn pa bynnag fath o asesiad syn cael ei ddefnyddio.

Gall enghreifftiau o addasiadau gynnwys:

  • darparu dogfennau mewn print bras neu braille
  • caniat叩u mwy o amser ar gyfer prawf neu gyfweliad
  • darparu cymorth mewn canolfan asesu

Os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol dywedwch wrthym pan fyddwch yn cyflwyno eich cais bod angen addasiad a sut y bydd yn helpu.